Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 26 Hydref 2010 i’w hateb ar 09 Tachwedd 2010
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Veronica German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd ymateb i argyfwng. OAQ(3)3195(FM)
2. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i sicrhau datblygu economaidd yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)3192(FM)
3. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi gwybod am y datblygiadau diweddaraf yng nghyswllt S4C. OAQ(3)3214(FM)
4. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad y Gwasanaeth Ambiwlans. OAQ(3)3200(FM)
5. Brian Gibbons (Aberafan): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i gefnogi'r Trydydd Sector yng Nghymru. OAQ(3)3205(FM)
6. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i gefnogi busnesau bach yng Ngogledd Cymru. OAQ(3)3202(FM)
7. Sandy Mewies (Delyn): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i gefnogi gweithwyr siopau sy'n cael eu cam-drin yn y gweithle. OAQ(3)3194(FM)
8. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yn Ne Ddwyrain Cymru. OAQ(3)3196(FM)
9. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y nyrsys teulu mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru. OAQ(3)3199(FM)
10. Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr effaith ar Gymru yn sgil torri 41% oddi ar gyllideb Cymru ar gyfer gwariant cyfalaf. OAQ(3)3215(FM)
11. Val Lloyd (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnyddio rhaglenni triniaethau cyffuriau i fynd i'r afael â bod yn gaeth i gyffuriau yng Nghymru. OAQ(3)3193(FM)
12. Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amddiffyn teithwyr rhag cael eu cam-drin wrth iddynt ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. OAQ(3)3198(FM) TYNNWYD YN ÔL
13. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant ar gyllideb Cymru. OAQ(3)3210(FM)
14. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i ddenu ymwelwyr i gyrchfannau i dwristiaid yng Ngorllewin Cymru. OAQ(3)3216(FM) TYNNWYD YN ÔL
15. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i wella lefelau iechyd y cyhoedd ledled Cymru. OAQ(3)3206(FM)