10/07/2013 - Cyfoeth Naturiol a Tai

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 3 Gorffennaf 2013 i'w hateb ar 10 Gorffennaf 2013

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

1. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fesurau sy'n cael eu cymryd i reoli lledaeniad TB mewn gwartheg yng Nghymru? OAQ(4)0034(NRF)

2. Mick Antoniw (Pontypridd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i gynorthwyo'r boblogaeth hebogiaid yng Nghymru? OAQ(4)0035(NRF)

3. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU i nodi'r dyddodion nwy siâl posibl yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)0038(NRF)

4. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am safbwynt Llywodraeth Cymru ar y defnydd o faglau? OAQ(4)0044(NRF) Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig

5. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drafodaethau diweddar ar bolisi ynni gyda Llywodraeth y DU? OAQ(4)0048(NRF)

6. Nick Ramsay (Mynwy): Beth y mae'r Gweinidog yn ei wneud i gynorthwyo ffermio organig yng Nghymru? OAQ(4)0039(NRF)

7. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei bolisïau i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru? OAQ(4)0041(NRF)

8. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa gyfarfodydd y mae'r Gweinidog wedi eu cynnal gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i drafod y ffordd y mae'n rheoli Phytophthora Ramorum? OAQ(4)0050(NRF)W

9. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddi yn y seilwaith dwr yng Nghymru? OAQ(4)0043(NRF)

10. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo ffermwyr o ran lleihau tâp coch? OAQ(4)0037(NRF)

11. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Sut y gall y Fframwaith Cyllid Ewropeaidd hyrwyddo proses well o ddatblygu bwyd yn gynaliadwy yng Nghymru? OAQ(4)0046(NRF)

12. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynhyrchu ynni yng Nghymru? OAQ(4)0045(NRF)

13. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gostau ariannol cyflawni Glastir, cynllun amaeth-amgylchedd Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0047(NRF)

14. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i wella bioamrywiaeth ledled Cymru? OAQ(4)0042(NRF)

15. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei bolisïau i fynd i'r afael â TB mewn gwartheg? OAQ(4)0040(NRF)

Gofyn i’r Gweinidog Tai ac Adfywio

1. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y trefniadau cyllido newydd ar gyfer tai awdurdod lleol? OAQ(4)0287(HR)

2. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn 2013 i gynyddu'r cyflenwad o dir sydd ar gael i'w ddatblygu yng Nghymru? OAQ(4)0277(HR)

3. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y stoc tai sydd ar gael yng Nghymru? OAQ(4)0288(HR)

4. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar ar Gymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai, beth fydd natur yr ymgynghoriad ag awdurdodau lleol? OAQ(4)0292(HR)W

5. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Gronfa Gymunedol Ardal Adfywio Arfordir Gogledd Cymru? OAQ(4)0285(HR)

6. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion adfywio yn Nyffryn Aman? OAQ(4)0280(HR)W

7. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r Grant Refeniw Tai Cymdeithasol? OAQ(4)0281(HR)

8. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn 2013 i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru? OAQ(4)0275(HR)

9. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adfywio ym Mharciau Cenedlaethol Cymru? OAQ(4)0283(HR)

10. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y papur gwyn ar Rentu Cartrefi? OAQ(4)0286(HR)

11. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael o ran cyflwyno Arolwg Tai Cymru cynhwysfawr? OAQ(4)0282(HR)

12. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i brosiectau adfywio ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)0290(HR)

13. Lynne Neagle (Torfaen): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith y cynllun peilot taliad uniongyrchol yn Nhorfaen? OAQ(4)0291(HR) TYNNWYD YN ÔL

14. Mick Antoniw (Pontypridd): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu argaeledd tai fforddiadwy yn Rhondda Cynon Taf? OAQ(4)0279(HR)

15. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu a fydd Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio yn ailddechrau? OAQ(4)0289(HR)W