Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 26 Medi 2007 i’w hateb ar 10 Hydref 2007
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i adolygu’r rheoliadau sy’n berthnasol i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. OAQ(3)0023(ESH)
2. Val Lloyd (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth y Cynulliad i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. OAQ(3)0054(ESH)
3. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drafodaethau gydag awdurdodau lleol ynghylch adolygu Nodiadau Cyngor Technegol. OAQ(3)0029(ESH)
4. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dai cymdeithasol yng Nghymru. OAQ(3)0048(ESH)
5. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud i wella mynediad i gefn gwlad. OAQ(3)0047(ESH)
6. Jeff Cuthbert (Caerffili): Beth mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud i helpu diwydiant trwm i leihau ei ollyngiadau. OAQ(3)0005(ESH)
7. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio technoleg glo glân. OAQ(3)0008(ESH)
8. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi sylwadau am gyllid ar gyfer cynyddu ailgylchu yng Nghymru. OAQ(3)0044(ESH)
9. Trish Law (Blaenau Gwent): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y broses apeliadau cynllunio. OAQ(3)0057(ESH)
10. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynigion i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. OAQ(3)0032(ESH)
11. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ei pholisïau ar gyfer gwarchod yr amgylchedd. OAQ(3)0051(ESH)
12. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwr Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)0058(ESH)
13. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drefi trawsnewid yng Nghymru. OAQ(3)0015(ESH)
14. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r arweiniad a roddwyd i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ynghylch codi taliadau gwasanaeth. OAQ(3)0052(ESH)
15. Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi eu cael ynghylch datganoli rheoliadau cynllunio ar gyfer cyfleusterau pŵer dros 50MW. OAQ(3)0006(ESH)
Gofyn i'r Gweinidog dros Dreftadaeth
1. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog sylw ar 5 prif nod Iaith Pawb. OAQ(3)0054(HER) W
2. Lesley Griffiths (Wrecsam): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog yn bwriadu eu cyflwyno i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynghylch cynlluniau gan ITV i gwtogi ei wasanaeth newyddion rhanbarthol. OAQ(3)0038(HER)
3. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am waith CADW yng Nghymru. OAQ(3)0030(HER)
4. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud i hyrwyddo twristiaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. OAQ(3)0024(HER)
5. Michael German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo hyfforddiant lleol ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. OAQ(3)0049(HER)
6. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo orielau ac amgueddfeydd yng Nghymru. OAQ(3)0022(HER)
7. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cynnal ynglŷn â statws y Gymraeg yn yr Undeb Ewropeaidd. OAQ(3)0006(HER)
8. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am swyddogaethau statudol Bwrdd yr Iaith Gymraeg. OAQ(3)0039(HER) W
9. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sefydlu prosiectau diwylliannol sydd wedi’u hanelu at blant a phobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig. OAQ(3)0012(HER)
10. Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnwys cymunedau lleol yn y gwaith o ddarparu cyfleusterau diwylliannol a chwaraeon. OAQ(3)0020(HER)
11. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud i hybu twristiaeth yn ystod y misoedd tawelach. OAQ(3)0016(HER)
12. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau ar gyfer theatr Saesneg ei hiaith yng Nghymru. OAQ(3)0004(HER)
13. Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei gynlluniau ar gyfer gwarchod treftadaeth cymunedau gwledig. OAQ(3)0028(HER)
14. Helen Mary Jones (Llanelli): A oes gan Lywodraeth y Cynulliad unrhyw gynigion i gyflwyno Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Iaith Gymraeg. OAQ(3)0001(HER)
15. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei strategaeth ar gyfer llyfrgelloedd yng Nghymru. OAQ(3)0042(HER)
Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
1. Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad i bobl anabl yng Nghymru. OAQ(3)0051(SJL)
2. Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllido llywodraeth leol yng Nghymru. OAQ(3)0032(SJL)
3. Peter Black (Gorllewin De Cymru): Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud i werthuso llwyddiant Cymunedau yn Gyntaf. OAQ(3)0049(SJL)
4. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am roi’r pŵer i awdurdodau lleol atal y cynllun Hawl-i-Brynu. OAQ(3)0050(SJL) Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig gan i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai5. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynigion Llywodraeth y Cynulliad i fynd i’r afael â thlodi oherwydd dyled. OAQ(3)0037(SJL) 6. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyrannu adnoddau i’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn Nwyrain De Cymru. OAQ(3)0009(SJL) 7. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am fynd i'r a fael a chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol yng Nghymru. OAQ(3)0011(SJL) 8. Peter Black (Gorllewin De Cymru): Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud i frwydro yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol. OAQ(3)0048(SJL) 9. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud i fynd i’r afael â thlodi yng Nghymru. OAQ(3)0040(SJL) 10. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dlodi plant difrifol yng Nghymru. OAQ(3)0047(SJL) 11. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu dangosyddion perfformiad cymharol ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru. OAQ(3)0003(SJL) 12. Trish Law (Blaenau Gwent): Pa gamau sy’n cael eu cymryd i sicrhau bod teuluoedd ar incwm isel yn cael eu gwarchod rhag cynnydd yn y dreth gyngor sy’n uwch na chyfradd chwyddiant. OAQ(3)0033(SJL) 13. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gydlynu polisïau Llywodraeth y Cynulliad sy’n cyfrannu at hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol. OAQ(3)0001(SJL) 14. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berthynas Llywodraeth y Cynulliad ag awdurdodau lleol. OAQ(3)0053(SJL) 15. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa gamau y mae Llywodraeth y Cynulliad yn eu cymryd i wella’r amser a gymerir i brosesu Gorchmynion Prynu Gorfodol. OAQ(3)0046(SJL)
Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig gan i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai