17/10/2012 - Amgylchedd a Tai

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 3 Hydref 2012
i’w hateb ar 17 Hydref 2012

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

1. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa gyngor y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i bwyllgorau cynllunio awdurdodau lleol ynghylch adeiladu anheddau ar orlifdir. OAQ(4)0170(ESD)

2. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru ar y cynnig i adeiladu morglawdd ar draws Aber Afon Hafren. OAQ(4)0169(ESD)

3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf. OAQ(4)0165(ESD)

4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i wella’r broses gynllunio yng Nghymru. OAQ(4)0166(ESD)

5. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran creu’r un corff amgylcheddol newydd ar gyfer Cymru. OAQ(4)0171(ESD)

6. Elin Jones (Ceredigion): Beth fydd blaenoriaethau’r Corff Adnoddau Naturiol Cymru newydd. OAQ(4)0163(ESD) W

7. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ansawdd aer yng Nghanol De Cymru. OAQ(4)0172(ESD)

8. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid. OAQ(4)0175(ESD)

9. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effeithiau polisi ynni adnewyddadwy Llywodraeth Cymru ar bobl canolbarth Cymru. OAQ(4)0173(ESD)

10. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer datblygu cynaliadwy dros y 12 mis nesaf. OAQ(4)0179(ESD)

11. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hybu microgynhyrchu yng Nghymru. OAQ(4)0164(ESD)

12. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Barthau Cadwraeth Morol. OAQ(4)0167(ESD)

13.  Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y trafodaethau y mae wedi’u cael gydag awdurdodau lleol yng Nghymru ynghylch effeithlonrwydd ynni a lleihau carbon. OAQ(4)0178(ESD) W

14. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn prisiau ynni domestig. OAQ(4)0168(ESD)

15. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynllunio ym maes ynni adnewyddadwy. OAQ(4)0180(ESD) W

Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

1. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer y sector tai yng Nghymru. OAQ(4)0164(HRH)

2. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raddio adeiladau’r ugeinfed ganrif. OAQ(4)0169(HRH)

3. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei gynlluniau ar gyfer gwaddol y Gemau Olympaidd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. OAQ(4)0177(HRH) W

4. Ieuan Wyn Jones (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynnydd Rhaglen Strategaeth Môn a Menai 2011-2014. OAQ(4)0175(HRH) W

5. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu datblygiad llenyddiaeth yng Nghymru. OAQ(4)0167(HRH)

6. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau’r farchnad o dai rhent canolradd yng Nghymru a gaiff eu diffinio fel tai fforddiadwy. OAQ(4)0179(HRH) W

7. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu unrhyw drafodaethau diweddar y mae wedi’u cael gyda Gweinidogion Cymru am bolisi tai. OAQ(4)0171(HRH)

8. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer tai fforddiadwy. OAQ(4)0176(HRH) W

9. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei gynlluniau ar gyfer gwaddol y Gemau Olympaidd yng Ngorllewin De Cymru. OAQ(4)0170(HRH) TYNNWYD YN ÔL

10. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu unrhyw drafodaethau diweddar y mae wedi’u cael gyda sefydliadau eraill am bolisi tai. OAQ(4)0172(HRH)

11. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion am ba ddiffiniadau a gaiff eu defnyddio wrth asesu targed Llywodraeth Cymru i adeiladu 7,500 o dai fforddiadwy yn nhymor y Cynulliad hwn. OAQ(4)0178(HRH) W

12. Elin Jones (Ceredigion): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi adfywio canol trefi. OAQ(4)0163(HRH) W

13. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd o ran cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru. OAQ(4)0166(HRH)

14. Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr effaith y mae buddsoddi mewn tai yn ei chael ar adfywio cymunedol. OAQ(4)0168(HRH)

15. Ken Skates (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer gogledd Cymru dros y chwe mis nesaf. OAQ(4)0173(HRH)