18/01/2012 - Cyllid a Busnes

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 5 Ionawr 2012 i’w hateb ar 18 Ionawr 2012

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty

1. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae’n bwriadu defnyddio’r £8.9 miliwn ychwanegol a gafwyd gan Lywodraeth y DU i adlewyrchu’r gwariant ar Gemau Olympaidd Llundain. OAQ(4)0072(FIN)

2. Ken Skates (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd cynlluniau cyllideb Llywodraeth Cymru yn helpu De Clwyd dros y deuddeg mis nesaf. OAQ(4)0065(FIN)

3. David Melding (Canol De Cymru): Yn ystod y broses cynllunio’r gyllideb ddiweddar, a wnaeth y Gweinidog gyfarfod â Chynghrair Ffederasiwn Adeiladu Cymru i drafod sut i gyllido prosiectau seilwaith. OAQ(4)0064(FIN)

4. Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyraniad cyffredinol y gyllideb i’r portffolio Llywodraeth Leol a Chymunedau. OAQ(4)0075(FIN) W

5. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i wella’r broses o ddyrannu grantiau. OAQ(4)0070(FIN)

6. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y symiau ariannol canlyniadol i Gymru sy’n deillio o’r Gemau Olympaidd yn Llundain eleni. OAQ(4)0073(FIN)

7. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i’r polisi ffioedd myfyrwyr wrth ddyrannu cyllid i’r portffolio Addysg a Sgiliau. OAQ(4)0066(FIN) W

8. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu hybu cyfle cyfartal ledled Cymru yn 2012. OAQ(4)0067(FIN)

9. Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer Tor-faen yn 2012. OAQ(4)0076(FIN)

10. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf. OAQ(4)0068(FIN)

11. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gyllideb gyffredinol a ddyrannwyd i’r portffolio Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth. OAQ(4)0074(FIN) W

12. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau portffolio ar gyfer y chwe mis nesaf. OAQ(4)0069(FIN)

13. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch y cyllid a ddyrannwyd i’r portffolio Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy. OAQ(4)0071(FIN)

Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

1. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a allai helpu ffatrïoedd yng Nghymru i ennill contractau gydag awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru. OAQ(4)0082(BET)

2. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am greu swyddi yn y De Ddwyrain. OAQ(4)0076(BET)

3. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gydgysylltu cynlluniau i hybu twristiaeth. OAQ(4)0086(BET)

4. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu economi Dwyrain De Cymru. OAQ(4)0087(BET)

5. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y broses o sicrhau parth lefel uchaf i Gymru. OAQ(4)0074(BET)

6. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer y Gorllewin. OAQ(4)0072(BET)

7. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Ardaloedd Menter. OAQ(4)0070(BET) W

8. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn newydd. OAQ(4)0077(BET) W

9. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth ariannol ar gyfer busnesau yn y Gogledd Orllewin. OAQ(4)0085(BET)

10. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi busnesau yn y Gorllewin. OAQ(4)0073(BET)

11. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau diweddar am swyddogaeth Maes Awyr Caerdydd o fewn economi Cymru. OAQ(4)0081(BET)

12. Elin Jones (Ceredigion): Beth yw blaenoriaethau’r Gweinidog ar gyfer y chwe mis nesaf. OAQ(4)0080(BET) W

13. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth ariannol a roddwyd i Selonda UK gan Lywodraeth Cymru. OAQ(4)0084(BET)

14. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog creu swyddi drwy gefnogi busnesau bach a chanolig. OAQ(4)0075(BET)

15. Eluned Parrott (Canol De Cymru): Beth oedd yr amserlen ar gyfer penderfynu natur ardaloedd menter yng Nghymru. OAQ(4)0079(BET)