20/11/2012 - Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 6 Tachwedd 2012 i’w hateb ar 20 Tachwedd 2012

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae’r Rhaglen Lywodraethu yn gwella bywydau pobl yng Ngorllewin De Cymru. OAQ(4)0781(FM)

2. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi caffael cyhoeddus Llywodraeth Cymru yng ngogledd Cymru. OAQ(4)0776(FM)W

3. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu entrepreneuriaid yn Islwyn. OAQ(4)0782(FM)

4. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa ystyriaeth y mae’r Prif Weinidog wedi’i rhoi i adolygu TAN18. OAQ(4)0772(FM)W

5. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Sir Drefaldwyn.  OAQ(4)0783(FM)

6. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad y gwasanaeth ambiwlans yng Ngorllewin De Cymru. OAQ(4)0773(FM)

7. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i leihau tlodi plant yng Nghymru. OAQ(4)0778(FM)

8. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ym maes trafnidiaeth dros y 12 mis nesaf. OAQ(4)0774(FM)

9. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella bywydau trigolion Canol De Cymru. OAQ(4)0775(FM)

10. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr ymdrechion i wella diogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru. OAQ(4)0779(FM)

11. Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru. OAQ(4)0777(FM)

12. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth gofal plant yn y blynyddoedd cynnar yng Nghymru. OAQ(4)0770(FM)

13. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi mentrau cymdeithasol yng Nghymru. OAQ(4)0780(FM) TYNNWYD YN ÔL

14. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau’r achosion o droseddau casineb yn erbyn pobl yng Nghymru gydag anableddau corfforol. OAQ(4)0771(FM)