22/06/2011 - Cyllid a Busnes

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 08 Mehefin 2011 i’w hateb ar 22 Mehefin 2011

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty

1. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer gwella effeithlonrwydd gwariant Llywodraeth Cymru yng Ngogledd Cymru. OAQ(4)0004(FIN)

2. Keith Davies (Llanelli): Beth y mae’r Gweinidog yn ei wneud i sicrhau bod cymaint o fuddsoddiad cyfalaf yng Nghymru ag sy’n bosibl. OAQ(4)0017(FIN) W

3. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda chyd-aelodau yn y Cabinet ynghylch dyraniadau cyffredinol i’w hadrannau. OAQ(4)0003(FIN)

4. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddangos y cynnydd canrannol yng nghyllideb portffolio Llywodraeth Leol a Chymunedau er 2004. OAQ(4)0008(FIN)

5. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth yw blaenoriaethau’r Gweinidog ar gyfer y tymor hwn yn y Cynulliad. OAQ(4)0013(FIN)

6. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau sydd wedi’u cynnal rhwng y Gweinidog a Thrysorlys y DU er 6 Mai 2011 ynghylch ariannu Cymru. OAQ(4)0018(FIN) W

7. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw amcangyfrif y Gweinidog o’r effaith ar gyllideb gyffredinol Llywodraeth Cymru os gosodir ffioedd dysgu ar gyfartaledd uwch na £7,000. OAQ(4)0016(FIN)

8. Ken Skates (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad. OAQ(4)0011(FIN)

9. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weithredu Cyfrifiad 2011. OAQ(4)0007(FIN)

10. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cydraddoldeb crefyddol yng Nghymru. OAQ(4)0010(FIN)

11. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r Gweinidog yn bwriadu cynnal adolygiad cyllideb ar ôl yr etholiad ac ar ôl sefydlu’r Pedwerydd Cynulliad. OAQ(4)0005(FIN)

12. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad. OAQ(4)0001(FIN)

13. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Thrysorlys y DU ynghylch pwerau benthyca eraill ar gyfer buddsoddi cyfalaf mewn seilwaith yng Nghymru. OAQ(4)0009(FIN)

14. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o’r goblygiadau i gyllideb Llywodraeth Cymru yn dilyn cyfarfod Cyngor y Gweinidogion ar 8fed Mehefin 2011. OAQ(4)0015(FIN)

15. Nick Ramsay (Sir Fynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer Pedwerydd tymor y Cynulliad. OAQ(4)0002(FIN)

Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

1. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa asesiad sydd wedi’i wneud gan y Gweinidog o ba mor gystadleuol yw economi Cymru. OAQ(4)0012(BET)

2. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer hyrwyddo mentergarwch yng Ngogledd Cymru. OAQ(4)0002(BET)

3. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei chynlluniau er mwyn sicrhau bod gan y sector cymunedol fwy o ran yn adferiad economaidd Cymru.  OAQ(4)0019(BET)

4. David Rees (Aberafan): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hybu cysylltiadau rhwng ymchwil a datblygiad a’r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru. OAQ(4)0015(BET)

5. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo’r diwydiant opto-electronig yn Nyffryn Clwyd. OAQ(4)0013(BET)

6. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei chynlluniau ar gyfer mentrau bach a chanolig eu maint yng Nghymru. OAQ(4)0014(BET)

7. Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): Pa asesiad sydd wedi’i wneud gan y Gweinidog o’r hyn sy’n achosi cynnydd mewn diweithdra ymysg pobl ifanc yng Nghymru. OAQ(4)0008(BET) Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau

8. Gwyn Price (Islwyn): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cyfleoedd cyflogaeth yn Ne Ddwyrain Cymru. OAQ(4)0004(BET)

9. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch sut y mae’r Llywodraeth yn hybu twristiaeth yng Nghanolbarth Cymru. OAQ(4)0018(BET)

10. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella economi Cymru yn ystod y Pedwerydd Cynulliad. OAQ(4)0017(BET)

11. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Beth oedd cyfanswm y buddsoddiad mewn busnesau twristiaeth yn Nwyfor Meirionnydd gan Weinidogion Cymru er 2007. OAQ(4)0016(BET) W

12. Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): Beth y mae’r Gweinidog yn ei wneud i hyrwyddo lles economaidd cymunedau gwledig. OAQ(4)0007(BET) W

13. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i hybu twf economaidd yng Nghymru. OAQ(4)0010(BET)

14. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei pholisïau ar gyfer mentrau bach a chanolig eu maint. OAQ(4)0005(BET)

15. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer Torfaen dros y pum mlynedd nesaf. OAQ(4)0003(BET)