Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 12fed Tachwedd 2008 i’w hateb ar 26ain Tachwedd 2008
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol
1. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A yw’r Cwnsler Cyffredinol yn bwriadu ymateb i’r ddogfen ymgynghori ar brofion modd Llys y Goron, a lansiwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Comisiynydd Gwasanaethau Cyfreithiol. OAQ(3)0111(CGE)
2. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael gyda Swyddfa Cymru parthed proses y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol. OAQ(3)0114(CGE) W TYNNWYD YN ÔL
3. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cynnal gyda Swyddogion Cyfraith mewn mannau eraill ynghylch sefydlu un weinyddiaeth gyfiawnder yng Nghymru. OAQ(3)0112(CGE)
4. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ei swyddogaeth fel uwch gynghorydd cyfreithiol i Lywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)0115(CGE)
5. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ymgynghoriadau ar lefel y DU y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ymateb iddynt ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)0113(CGE) W TYNNWYD YN ÔL
6. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu ei swyddogaeth yng nghyswllt drafftio Gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)0116(CGE)
7. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A yw’r Cwnsler Cyffredinol wedi cael unrhyw drafodaethau gyda swyddogion y gyfraith mewn mannau eraill ynghylch y ffactorau cyfreithiol y mae Senedd y DU yn eu hystyried wrth graffu ar Orchmynion cymhwysedd deddfwriaethol. OAQ(3)0117(CGE)
Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
1. Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am daliadau sy’n ddyledus i ffermwyr dan gynlluniau amaethyddol Cymru. OAQ(3)0526(RAF)
2. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau diweddar y mae’r Gweinidog wedi’u cael am reoli coedwigaeth Cymru’n gynaliadwy. OAQ(3)0512(RAF) W TYNNWYD YN ÔL
3. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i hybu datblygu ffermwyr ifanc yng Nghymru. OAQ(3)0524(RAF)
4. Michael German (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael yn ddiweddar ynghylch effaith 'archwiliad iechyd’ PAC ar Gymru. OAQ(3)0528(RAF)
5. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y goblygiadau i ffermwyr yng Nghymru yn sgil cynigion yr UE i gael gwared ar y rheolau sy’n diffinio maint a siapiau gofynnol y llysiau a ganiateir i’w gwerthu yn ein siopau a’n harchfarchnadoedd. OAQ(3)0492(RAF)
6. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth ar gyfer siopau mewn cymunedau gwledig. OAQ(3)0522(RAF)
7. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol ffermio’r bryniau yng Nghymru. OAQ(3)0521(RAF)
8. Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): Pa gamau y mae’r Gweinidog wedi’u cymryd i hybu prynu bwyd a chynhwysion lleol yn Ne Cymru. OAQ(3)0503(RAF) TYNNWYD YN ÔL
9. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer diogelwch bwyd. OAQ(3)0530(RAF)
10. Sandy Mewies (Delyn): Pa gynnydd y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o ran sicrhau bod safbwynt Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch adnabod defaid yn electronig yn cael ei gyfleu yn glir yn Ewrop. OAQ(3)0515(RAF)
11. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynhyrchu caws yng Nghymru. OAQ(3)0501(RAF)
12. Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer diogelwch bwyd. OAQ(3)0511(RAF)
13. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei chynlluniau i gefnogi ffermwyr mewn ardaloedd gwledig. OAQ(3)0497(RAF)
14. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda’r Gweinidog dros Lywodraeth Leol i sicrhau bod cyflenwyr bwyd a chynnyrch lleol yn cael eu cefnogi ym mhrosesau caffael cynghorau pryd bynnag y bydd hynny’n bosibl. OAQ(3)0486(RAF)
15. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fanteision prynu bwyd lleol. OAQ(3)0500(RAF) TYNNWYD YN ÔL
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf. OAQ(3)0592(ESH)
2. Lesley Griffiths (Wrecsam): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dai fforddiadwy yn Wrecsam. OAQ(3)0621(ESH)
3. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am lefelau ailgylchu ledled Cymru. OAQ(3)0617(ESH)
4. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): Pa werthusiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o debygolrwydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyrraedd ei tharged o 6,500 o gartrefi fforddiadwy newydd erbyn 2011. OAQ(3)0625(ESH)
5. Janice Gregory (Ogwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am waith Llywodraeth Cynulliad Cymru i hybu microgynhyrchu yng Nghymru. OAQ(3)0608(ESH) TYNNWYD YN ÔL
6. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am fentrau i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon yng Nghymru. OAQ(3)0619(ESH)
7. Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dlodi tanwydd yng Nghymru. OAQ(3)0632(ESH)
8. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa gefnogaeth y mae’r Gweinidog wedi’i rhoi i awdurdodau lleol i’w helpu i leihau allyriadau carbon. OAQ(3)0613(ESH)
9. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i hybu adeiladau di-garbon. OAQ(3)0610(ESH)
10. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn rhoi manylion pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n eu cymryd i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. OAQ(3)0593(ESH)
11. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau dan y portffolio cynllunio yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)0589(ESH) TYNNWYD YN ÔL
12. Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i wella ansawdd dyfroedd ymdrochi ar hyd arfordiroedd Cymru. OAQ(3)0622(ESH) TYNNWYD YN ÔL
13. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gamau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i fynd i’r afael ag effeithiau ysbwriel ar yr amgylchedd. OAQ(3)0598(ESH)
14. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i hybu hawliau tramwy gwell yng Nghwm Cynon. OAQ(3)0611(ESH) TYNNWYD YN ÔL
15. Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Safon Ansawdd Tai Cymru. OAQ(3)0596(ESH) TYNNWYD YN ÔL