Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 13 Mehefin 2012
i’w hateb ar 27 Mehefin 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
1. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad y GIG yn ne-ddwyrain Cymru. OAQ(4)0136(HSS)
2. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y bobl yng Nghymru sydd wedi cael diagnosis eu bod yn dioddef o Glefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint. OAQ(4)0146(HSS)
3. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau iechyd yng Ngorllewin De Cymru. OAQ(4)0148(HSS)
4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella canlyniadau iechyd i bobl Cymru. OAQ(4)0138(HSS)
5. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sydd wedi cael eu cymryd yn dilyn adroddiad Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru am drefniadau diogelu yn Sir Benfro. OAQ(4)0153(HSS)
6. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am swyddogaeth nyrsys arbenigol yng Ngogledd Cymru. OAQ(4)0147(HSS)
7. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu lefelau sgrinio serfigol. OAQ(4)0137(HSS)
8. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau i gleifion canser yng Nghymru. OAQ(4)0141(HSS)
9. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch gweithredu’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig. OAQ(4)0149(HSS) W
10. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu IVF yn y GIG yng Nghymru. OAQ(4)0140(HSS)
11. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau pellach sydd gan y Gweinidog i annog pobl i roi’r gorau i ysmygu. OAQ(4)0145(HSS)
12. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella bywydau plant yng Nghymru. OAQ(4)0143(HSS)
13. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer cyflenwi gwasanaethau iechyd o ansawdd i bobl Aberafan. OAQ(4)0151(HSS)
14. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gydag Ysgrifennydd Gwladol Iechyd y DU ynglyn ag argaeledd meddyginiaethau homeopathi. OAQ(4)0154(HSS) W
15. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am safonau gofal diabetes yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. OAQ(4)0150(HSS)
Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau sydd wedi cael eu cymryd i atal llifogydd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. OAQ(4)0138(ESD) W
2. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru. OAQ(4)0129(ESD)
3. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer cynaliadwyedd. OAQ(4)0134(ESD)
4. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Sut y bydd Cynllun Rheoli Adnoddau Naturiol arfaethedig Llywodraeth Cymru yn plethu â rheoli’r arfordir yn gynaliadwy yng Nghymru yng ngoleuni’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol. OAQ(4)0147(ESD)
5. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau safbwynt Llywodraeth Cymru ar ddatganoli polisi ynni ymhellach. OAQ(4)0146(ESD) W
6. David Rees (Aberafan): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â Rhywogaethau Goresgynnol Estron. OAQ(4)0144(ESD)
7. Ken Skates (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi’r diwydiant coedwigaeth yng Nghymru. OAQ(4)0142(ESD)
8. Ken Skates (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei gynlluniau i amddiffyn yr amgylchedd naturiol yng ngogledd Cymru. OAQ(4)0141(ESD)
9. Gwyn Price (Islwyn): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu nifer yr ardaloedd coetir yn ein cymunedau trefol. OAQ(4)0135(ESD)
10. Elin Jones (Ceredigion): Beth fydd blaenoriaethau’r Gweinidog dros y chwe mis nesaf. OAQ(4)0137(ESD) W
11. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol. OAQ(4)0131(ESD)
12. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch rheolaethau ar losgyddion gwastraff sydd ar waith yng Nghymru. OAQ(4)0133(ESD)
13. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf. OAQ(4)0143(ESD) TYNNWYD YN ÔL
14. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y ddeddfwriaeth arfaethedig ar fridio cwn. OAQ(4)0132(ESD)
15. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y cynigion i hybu bod yn berchnogion cwn cyfrifol fel y nodwyd ym Mhapur Gwyn y Swyddfa Gartref “Putting Victims First”
a gyhoeddwyd ym mis Mai 2012. OAQ(4)0139(ESD)
Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad
1. Elin Jones (Ceredigion): Pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i ddarparu hyfforddiant i Aelodau Cynulliad. OAQ(4)0059(AC) W
2. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Comisiwn roi brasamcan o gost darparu app ffôn deallus Cynulliad Cenedlaethol Cymru. OAQ(4)0060(AC)
3. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am y ffioedd y mae’r Comisiwn yn eu derbyn gan gwmnïau teledu sy’n gweithredu yn y Cynulliad. OAQ(4)0061(AC) W
4. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa drafodaethau y mae Comisiwn y Cynulliad wedi’u cael yn ddiweddar gyda sefydliadau a landlordiaid gerllaw ystâd y Cynulliad. OAQ(4)0062(AC)
5. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth yw strategaeth y Comisiwn ar gyfer sicrhau bod ei gyllideb yn adlewyrchu’r gostyngiadau mewn gwariant cyhoeddus yn gyffredinol. OAQ(4)0063(AC) TYNNWYD YN ÔL