Atebion a roddwyd i Aelodau ar 1 Gorffennaf 2009
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno
yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Paul Davies (Preseli Pembrokeshire): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am gost gweinyddu’r cynllun Lwfans Cynhaliaeth Addysg? (WAQ54421)
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Mae’r cynllun Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) yn cynnig cymhelliant ariannol a chymorth i fyfyrwyr barhau mewn addysg neu hyfforddiant ar ôl iddynt gwblhau eu cyfnod gorfodol yn yr ysgol. Cyfanswm y LCA a dalwyd i fyfyrwyr yn ystod blwyddyn ariannol 2008-09 oedd £28.9m.
Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, sy’n gweinyddu cymorth ariannol i fyfyrwyr ledled y DU, sy’n darparu’r cynllun LCA yng Nghymru. Y gost weinyddol a dalwyd i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn ystod blwyddyn ariannol 2008-09 oedd £1.3m.
At hynny, mae’r cynllun hefyd yn cynnwys cytundeb dysgu sydd yn ei hanfod yn gytundeb rhwng y myfyriwr a’r ysgol neu’r coleg, ac yn nodi nodau dysgu’r unigolyn. Derbyniwyd taliad gweinyddol blynyddol o £40 fesul myfyriwr LCA gan bob canolfan dysgu sydd â deg neu fwy o fyfyrwyr LCA wedi’u cofrestru. Cyfanswm y gost a dalwyd i ganolfannau dysgu ym mlwyddyn ariannol 2008-09 oedd £1.2m.
David Melding (South Wales Central): Yn y flwyddyn ddiwethaf y mae ffigurau ar gael ar ei chyfer, sawl disgybl ysgol uwchradd a gafodd ei wahardd a oedd yn Blentyn sy’n Derbyn Gofal, ac a wnaiff ddatganiad? (WAQ54423)
David Melding (South Wales Central): Yn y flwyddyn ddiwethaf y mae ffigurau ar gael ar ei chyfer, sawl disgybl ysgol gynradd a gafodd ei wahardd a oedd yn Blentyn sy’n Derbyn Gofal, ac a wnaiff ddatganiad? (WAQ54424)
Jane Hutt: Caiff y dangosyddion perfformiad ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a gaiff eu gwahardd o’r ysgol eu nodi yn ôl y math o waharddiad - parhaol neu gyfnod penodol, nid yn ôl oedran y plentyn.
Y nifer o blant sy’n derbyn gofal a gafodd eu gwahardd o ysgol yn barhaol rhwng y 1af Ebrill 2007 a’r 31ain Mawrth 2008, oedd 11 allan o 2,607 o blant o oedran ysgol a oedd wedi derbyn gofal am 12 mis, sef 0.42%.
Yn ystod yr un cyfnod, nododd awdurdodau lleol fod 693 o waharddiadau am 5 diwrnod neu lai, a 93 o waharddiadau am 6 diwrnod neu fwy yn cynnwys plant sy’n derbyn gofal. Mae dadansoddiad pellach o gyfraddau gwahardd cyfnod penodol, a gyflawnwyd fel rhan o’r broses o werthuso’r grant Rhagori ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, yn dangos bod nifer fechan o blant yn cael eu gwahardd am gyfnodau hir yn cyfrannu’n fawr at gynnydd mewn cyfraddau gwahardd ar gyfer y grŵp hwn o ddisgyblion.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn benderfynol o weithio gydag awdurdodau lleol i leihau’r gyfradd o waharddiadau parhaol a chyfnod penodol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal. Fel rhan o’r rhaglen Rhagori, darparwyd £1m y flwyddyn i awdurdodau lleol ers 2006-07 at y diben penodol o wella cyrhaeddiad addysgol plant sy’n derbyn gofal.
Drwy’r grant hwn a dulliau eraill, dylai awdurdodau lleol nodi plant unigol sy’n derbyn gofal ac sydd fwyaf tebygol o gael eu gwahardd, a rhoi cymorth a chyngor addas i fynd i’r afael â’r problemau penodol a all arwain at waharddiad pe na chânt eu datrys. Fel rhan o’r grant, mae athrawon dynodedig mewn ysgolion yn cael hyfforddiant i wella eu dealltwriaeth o fflachbwyntiau ac ymddygiad sy’n peri i ysgolion ystyried gwahardd, a sut i gymryd camau ataliol i ymyrryd yn gynnar er mwyn osgoi colli rhagor o addysg ymhlith plant sy’n derbyn gofal.
Daeth deddfwriaeth newydd o ran derbyniadau ysgolion i blant sy’n derbyn gofal yng Nghymru, i rym ym mis Ebrill 2009. Mae Rheoliadau Addysg (Derbyn Plant sy’n Derbyn Gofal) (Cymru) 2009 yn sicrhau y caiff plant sy’n derbyn gofal flaenoriaeth o ran cael eu derbyn i ysgol. Mewn achos annymunol lle bydd plentyn sy’n derbyn gofal yn cael ei wahardd, neu’n agos at hynny, bydd y rheoliadau hyn yn golygu y gellid canfod lle mewn ysgol arall yn gyflymach, gan leihau faint o addysg a gollir ac atal patrwm o absenoldeb rhag datblygu.
Bydd y Cynllun Gweithredu Ymddygiad a Phresenoldeb, y Strategaeth Cynghori mewn Ysgolion a’r Strategaeth Eiriolaeth yn chwarae rhan yn y broses o leihau’r gyfradd gwahardd ar gyfer pob plentyn, ond yn arbennig plant sy’n derbyn gofal.
Paul Davies (Preseli Pembrokeshire): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am gost Adolygiad Merfyn Jones o Addysg Uwch? (WAQ54425)
Jane Hutt: Ar hyn o bryd, cyfanswm costau’r Adolygiad o Addysg Uwch yng Nghymru yw £60,658; mae hyn yn cynnwys costau ar gyfer 17 o gyfarfodydd y Panel Adolygu, a 6 o gynadleddau cenedlaethol a rhanbarthol ar gyfer grwpiau sector ledled Cymru, a dargedwyd at fusnesau, dysgwyr ac at ehangu mynediad at waith gyda Busnes yn y Gymuned, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a’r Sefydliad Cenedlaethol dros Addysg Barhaus i Oedolion, yn y drefn honno. Hefyd, mae’n cynnwys costau ar gyfer ymgynghoriad ysgrifenedig a’r broses o secondio dadansoddwr strategaeth a pholisi o faes addysg uwch.
Derbyniodd aelod Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru ac aelod y Grŵp Cynghori Gweinidogol gydnabyddiaeth ariannol fel rhan o’u gwaith. Ni dderbyniodd yr aelodau eraill, yn cynnwys y Cadeirydd, gydnabyddiaeth ariannol; cawsant eu had-dalu am gostau gwirioneddol teithio a chynhaliaeth yn unig.
Mick Bates (Montgomeryshire): A fydd y newidiadau arfaethedig i Gyllid Myfyrwyr Addysg Uwch yn cael unrhyw effaith ar Fyfyrwyr o Gymru y tu allan i Gymru sy’n dilyn cyrsiau nad ydynt ar gael yng Nghymru megis gwyddoniaeth filfeddygol? (WAQ54433)
Jane Hutt: Byddant, bydd y newidiadau a wneir i’r system cymorth i fyfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2010/11 ymlaen yn berthnasol i bob myfyriwr o Gymru, lle bynnag y maent yn dewis astudio. Bydd myfyrwyr o Gymru sy’n astudio y tu allan i Gymru yn gymwys i gael yr un grantiau a benthyciadau â’r rheini sy’n aros yng Nghymru.
Caiff Grant Dysgu’r Cynulliad ei godi o £2,906 yn 2009/10 i £5,000 yn 2010/11, a bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar fyfyrwyr o deuluoedd sydd â’r incymau isaf.
O 2010/11, bydd Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn dileu hyd at £1,500 o ddyledion benthyciadau myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr o Gymru sy’n parhau mewn addysg ac sy’n cael benthyciad cynhaliaeth ym mlwyddyn academaidd 2010/11 gan Gyllid Myfyrwyr Cymru. Ymysg y rhain bydd llawer nad oeddent yn gallu manteisio ar y Grant Ffioedd Dysgu mewn blynyddoedd blaenorol, gan gynnwys y rheini sy’n dilyn cyrsiau nad ydynt ar gael yng Nghymru, fel gwyddorau milfeddygol.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Nick Ramsey (Monmouthshire): Faint o gyllideb y portffolio Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai sydd wedi’i wario ar y trydydd sector ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ54412)
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Dangosir y wybodaeth isod a chaiff ei hadlewyrchu yn Adroddiadau Blynyddol Uned y Trydydd Sector.
Sefydlwyd Adran yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai ym mis Gorffennaf 2007. Mae’r ffigurau a ddarperir ar gyfer 2001-2 i 2006-7 yn dangos cyfrifoldebau Adran yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai mewn portffolios Adrannol gwahanol cyn y dyddiad hwnnw. Nid oedd Adroddiad Blynyddol Uned y Trydydd Sector ar gael cyn 2001, felly nid oes ffigurau cymaradwy ar gael ar hyn o bryd,
Blwyddyn |
Swm £000’s |
2001-2 |
£6,677 |
2002-3 |
£8,135 |
2003-4 |
£65,662 |
2004-5 |
£46,070 |
2005-6 |
£100,529 |
2006-7 |
£109,191 |
2007-8 |
£131,018 |
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
Kirsty Williams (Brecon and Radnorshire): Faint o’r Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol sy’n dal heb ei dyrannu? (WAQ54405)
Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Ar hyn o bryd, mae £125m ar gael yn yr ail gyfran o’r Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol (SCIF) i’w ddyrannu i brosiectau cyfalaf arloesol, trawsbynciol a strategol.
Cyhoeddais y gyfran gyntaf o brosiectau a ariennir gan y Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol ym mis Rhagfyr 2008. Roedd yn cynnwys 19 o brosiectau, gyda chyfanswm adnoddau SCIF o tua £350m, o gyllideb o £400m.
Mae’r £50 miliwn sy’n weddill wedi’i ategu gan £75m ychwanegol o arian hyblygrwydd diwedd blwyddyn, ac felly mae £125m ar gael i’w ddyrannu yn ail gyfran SCIF.
Byddaf yn cyhoeddi’r ail gyfran o brosiectau sydd i’w hariannu gan SCIF yn ystod yr hydref.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mick Bates (Montgomeryshire): Beth sydd gan y Gweinidog dros Iechyd i fesur effeithiau ailstrwythuro’r GIG ar ansawdd gwasanaethau ac, yn benodol, ar ofal ar gyfer toriadau esgyrn brau? (WAQ54437)
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Ni ddylai’r broses o ailstrwythuro’r GIG yng Nghymru gael effaith ar ddarpariaeth gwasanaeth. Yn ôl y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn, mae’n rhaid i’r GIG a phartneriaid gofal cymdeithasol ddatblygu Strategaeth Cwympiadau a Thoriadau gymunedol ac amlasiantaethol, a’i rhoi ar waith, i rwystro achosion o gwympiadau a thoriadau a’u trin.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
William Graham (South Wales East): Sut y mae’r Gweinidog yn cyfarwyddo polisïau i dyfu’r diwydiant twristiaeth yn Nwyrain De Cymru dros y deunaw mis nesaf? (WAQ54436)
Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Alun Ffred Jones): Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi arian i’r Uwch Ranbarth Twristiaeth yn flynyddol i hyrwyddo a datblygu twristiaeth yn yr ardal yn unol â’n Strategaeth Dwristiaeth Genedlaethol, Cyflawni ein Potensial. Mae Croeso Cymru yn cyfarfod yn rheolaidd â’r Uwch Ranbarth Twristiaeth i fonitro ei weithgaredd.
Cytunwyd ar y strategaeth ranbarthol ar gyfer De-ddwyrain Cymru ym mis Awst 2008, ac mae’n cael ei rhoi ar waith drwy gynllun busnes yr Uwch Ranbarth Twristiaeth - mae hwn yn nodi twristiaeth busnes a 5 profiad twristiaeth hamdden fel blaenoriaethau: gweithgareddau (gan gynnwys golff), diwylliant a threftadaeth, cefn gwlad a golygfeydd, gwyliau mewn dinasoedd a 'phori’ (bwyd, manwerthu, digwyddiadau).
Yn ogystal â gwaith yr Uwch Ranbarth Twristiaeth, rwy’n disgwyl i Croeso Cymru gynyddu ei weithgaredd marchnata sy’n ymwneud â Chwpan Ryder 2010 dros y flwyddyn nesaf, ac iddo barhau i weithio’n agos gydag Is-adran y Dirprwy Weinidog dros Adfywio drwy roi prosiectau twristiaeth ar waith yn Ardal Adfywio Strategol Blaenau’r Cymoedd.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Brynle Williams (North Wales): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y fferm? (WAQ54408)
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig (Elin Jones): Yn dilyn fy nghyhoeddiad ar 5 Mai, bydd y cynllun Glastir newydd yn cael ei lunio i sicrhau canlyniadau mesuradwy ar raddfa fferm unigol ac ar raddfa’r dirwedd. Bydd yr elfen Cymru gyfan yn golygu yr eir i’r afael â newid yn yr hinsawdd drwy gefnogi’r broses o osod technolegau ynni adnewyddadwy ar ffermydd, gyda’r nod o leihau dibyniaeth y fferm ar drydan allanol. Mae’r manylion gweithredol ar gyfer Glastir yn cael eu datblygu drwy broses fanwl o ymgynghori allanol â rhanddeiliaid.
Bydd yr arian a geir o dan gynllun Glastir yn cynorthwyo â’r broses o brynu cyfarpar cyfalaf i gyflawni buddiannau busnes ac amgylcheddol, a bydd prif fuddiannau’r technolegau yn helpu mentrau ffermio, nid defnydd domestig na defnydd arallgyfeirio.
Nod y cyfarpar a brynir yw gwella effeithlonrwydd adnoddau busnes y fferm drwy leihau’r defnydd o ynni a/neu ddŵr, a thrwy wella’r defnydd o adnoddau naturiol eraill, ac maent yn cynnwys y technolegau cymwys canlynol:
Pŵer adnewyddadwy—Tyrbin gwynt ar raddfa fach (e.e. 500w-25Kw) a sylfeini; cyfarpar microddŵr a’r broses o’u gosod; grid
Gwres Adnewyddadwy—Systemau adfer gwres, boeleri bio-màs, pympiau gwres o’r ddaear a chyfarpar ategol ar gyfer y rhain i gyd.
Systemau gwresogi dŵr â phaneli solar ar gyfer ffermydd llaeth (golchi’r parlwr).
Systemau casglu dŵr glaw/ailgylchu dŵr—Gan gynnwys pympiau sefydlog, systemau hidlo uwch-fioled, peipiau a thanciau storio.
Prynu peiriant malu coed a chyfarpar ategol i gynhyrchu bio-màs ar gyfer gwresogi’r fferm a/neu i ddefnyddio gwellt gwely yn hytrach na naddion coed a gynhyrchwyd o goed ar safle’r fferm.
Darparu safleoedd storio sy’n cyd-ffinio ar gyfer cadw naddion coed crai a naddion coed gwely a gompostiwyd.
Ffioedd technegol sy’n gysylltiedig â’r broses o gomisiynu’r systemau uchod.
Costau cyn y prosiect sy’n gysylltiedig ag astudio dichonoldeb a chaniatâd cynllunio’r safle (nid ffioedd y broses o wneud cais cynllunio).
Brynle Williams (North Wales): A wnaiff y Gweinidog roi adroddiad cynnydd am adolygiad Llywodraeth Cynulliad Cymru o fiwrocratiaeth yn y diwydiant ffermio? (WAQ54422)
Elin Jones: Byddaf yn gwneud datganiad ysgrifenedig ar y mater hwn ddechrau mis Gorffennaf.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Nick Ramsay (Monmouthshire): Faint o gyllideb y portffolio Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol sydd wedi’i wario ar y trydydd sector ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ54414)
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (Brian Gibbons): Cafodd y maes portffolio ar gyfer Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol ei greu ym mis Gorffennaf 2007. Felly ni ellir cymharu gwybodaeth ariannol am y Trydydd Sector yn y portffolio hwn cyn 2007/08 yn uniongyrchol.
Mae’r arian a ddyranwyd o’m portffolio yn 2007/08 fel a ganlyn:
Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Cyllid Llywodraeth Leol |
£78,128 |
Diogelwch Cymunedol |
£2,220,208 |
Y Gyfarwyddiaeth Cymunedau |
£32,977,548 |
Cyfanswm |
£35,275,883 |
Mae ffigurau ar gyfer 2008/09 yn cael eu casglu ar hyn o bryd, a chânt eu cyhoeddi yn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer Cynllun (Trydydd) Sector Gwirfoddol 2008/09 maes o law.
Gellir gweld gwybodaeth fanwl am wariant Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y sector gwirfoddol yn yr adroddiadau a gyhoeddir yn flynyddol ar Gynllun y Sector Gwirfoddol. Mae’r adroddiadau hyn yn dangos cynnydd o un flwyddyn i’r llall yn yr arian a ddarperir i’r Sector gan Lywodraethau olynol y Cynulliad. Gellir gweld y rhain ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn:
http://cymru.gov.uk/topics/housingandcommunity/voluntarysector/publications/?lang=cy
Mae’r ffigurau uchod yn dangos taliadau uniongyrchol i’r Trydydd Sector yn unig. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn darparu arian ychwanegol arall drwy gyrff cyfryngol, er enghraifft y Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf.
Darren Millar (Clwyd West): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at ddosbarthiadau darllen gwefusau am ddim yng Nghymru i’r rheini sydd wedi colli eu clyw? (WAQ54417)
Darren Millar (Clwyd West): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud ynghylch pa mor ddigonol yw darpariaeth dosbarthiadau darllen gwefusau am ddim yng Nghymru? (WAQ54418)
Darren Millar (Clwyd West): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud ynghylch sut y dylai dosbarthiadau darllen gwefusau gael eu cyllido i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn rhad ac am ddim ac yn hygyrch i’r rheini sydd wedi colli eu clyw? (WAQ54419)
Brian Gibbons: Gall pobl sy’n profi colled clyw ystyried defnyddio nifer o gymhorthion cyfathrebu amgen, yn dibynnu ar faint o’u clyw a gollwyd ac ar anghenion clinigol neu anghenion gofal yr unigolyn a aseswyd. Mae cymryd rhan mewn dosbarthiadau darllen gwefusau yn un o’r dewisiadau amgen hynny. Byddwn yn gobeithio y byddai’r GIG neu staff y gwasanaethau cymdeithasol yn cyfeirio unigolion at ddosbarthiadau o’r fath, os ystyrir hynny’n briodol.
Canfu’r ymarfer meincnodi diweddar, ar wasanaethau i bobl sydd â nam ar y clyw, bod 8 ardal Awdurdod Lleol lle na chaiff dosbarthiadau darllen gwefusau eu darparu. Ceir materion sy’n ymwneud â diffyg tiwtoriaid cymwys, a man llwyd sy’n ymwneud â chyfrifoldeb dros gyllido. Argymhellwyd y canlynol gan yr ymarfer meincnodi:
'O ystyried y prinder dosbarthiadau darllen gwefusau a’r diffyg tiwtoriaid cymwys, efallai y byddai o fudd i Wasanaethau Cymdeithasol, Addysg ac Iechyd ddatblygu strategaeth ar y cyd ar gyfer datblygiad yn y dyfodol’.