Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 24 Medi 2012
i’w hateb ar 1 Hydref 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu manylion sut y cytunwyd iddo ddefnyddio’r tocynnau Cwpan Ryder a negodwyd fel rhan o becyn buddion Gwlad Cynnal Cwpan Ryder 2010 ar gyfer Cwpan Ryder 2012, gan nodi pa sefydliadau neu bobl y mae wedi cynnig dyrannu tocynnau iddynt. (WAQ61230)
Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Yng nghyswllt ateb y Gweinidog i WAQ61144, a fyddai cystal â rhoi manylion sawl gwaith yn benodol y mae Llywodraeth Cymru wedi siarad ar ran cwmnïau Cymru â Masnach a Buddsoddi y DU. (WAQ61233)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint o fyfyrwyr a safodd arholiad TGAU Saesneg yng Nghymru eleni o dan fwrdd arholi ar wahân i CBAC. (WAQ61237)
Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bosibilrwydd cynnal ymgynghoriad i ganiatáu i berchnogion tai a busnesau allu adeiladu estyniadau mwy o lawer heb ganiatâd cynllunio nag y mae modd iddynt ei wneud ar hyn o bryd, am gyfnod o dair blynedd. (WAQ61229)
Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effeithiolrwydd gwefan StatsCymru gan gyfeirio at y rheswm dros ddarparu data’n anghyson. (WAQ61231)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion llawn y cyfathrebu a fu rhwng Llywodraeth Cymru ac a) Swyddfa Cymru; b) yr Undeb Ewropeaidd, ynghylch drafftio Bil Trawsblannu Dynol (Cymru). (WAQ61234)
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r niferoedd sydd wedi cael y brechlyn ffliw ar gyfer a) pobl o dan 65 oed; a b) menywod beichiog; yng Nghonwy a Gogledd Cymru ar gyfer pob un o’r tair blynedd diwethaf. (WAQ61235)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae nifer buddiolwyr y rhaglen Dechrau’n Deg wedi newid ers dechrau’r Pedwerydd Cynulliad. (WAQ61236)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad meddygol sydd wedi cael ei wneud ar ddeddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru ar lefydd di-fwg. (WAQ61238)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i fynd i’r afael â phroblemau gyda gwasanaethau y tu allan i oriau meddygon teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. (WAQ61239)
Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o ran sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn gallu cludo defnyddwyr cadeiriau olwyn. (WAQ61227)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Yn dilyn deiseb gan Achub y Plant, a chadarnhad y Llywodraeth ei bod yn gyflogwr cyflog byw ar hyn o bryd, a all y Gweinidog amlinellu pa drefniadau sydd ganddo ar waith i Lywodraeth Cymru wneud cais am Achrediad Cyflog Byw’ ar gyfer Llywodraeth Cymru a GIG Cymru. (WAQ61228)
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer yr awdurdodau lleol yng Nghymru sy’n cydweithredu ar hyn o bryd yng nghyswllt diogelwch cymunedol. (WAQ61232)
Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau union lefel y cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i bob un o’r 22 Partneriaeth Diogelwch Cymunedol yn 2010/2011, a 2011/2012. (WAQ61240)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): O'r 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu newydd heb warant y mae Llywodraeth Cymru wedi’u haddo: a) faint sydd wedi cael eu dyrannu hyd yn hyn; b) ble y cawsant eu dyrannu; ac c) pryd a ble y bydd gweddill Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu heb warant yn cael eu dyrannu. (WAQ61241)