01/10/2013 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 24 Medi 2013 i’w hateb ar 1 Hydref 2013

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch a fydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu'r cynllun tocynnau teithio rhatach ar reilffordd Calon Cymru ym mis Hydref 2013? (WAQ65541)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Fesul adran achosion brys a bwrdd iechyd lleol, ac am bob un o'r tair blynedd diwethaf, a wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad GIG Cymru yn erbyn y targed blaenoriaeth Haen 1, sef y dylai 95% o'r holl gleifion cardiaidd, trawma a strôc gael eu trosglwyddo o fewn 15 munud i gyrraedd adran achosion brys mewn ambiwlans, a rhoi data ar gyfer hyn? (WAQ65540)