01/11/2017 - Cwestiynau ac Atebion Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 26/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 31/10/2017

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 25 Hydref 2017 i'w hateb ar 1 Tachwedd 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet nodi dyddiad cychwyn y grŵp a grëwyd i ymchwilio'n fanylach i ddadansoddi a dulliau o fesur yr economi gig a pryd y bydd yn cyflwyno adroddiad ar ei ganfyddiadau? (WAQ74479)

Ateb i ddilyn.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Dros y 5 mlynedd diwethaf, faint o geisiadau ariannu cleifion unigol ar ran pobl fyddar/pobl sy'n colli eu clyw ar gyfer triniaethau'n gysylltiedig ag iechyd meddwl oedd ar gyfer (a) gwasanaethau Iechyd Meddwl Byddar Cenedlaethol yn Lloegr a (b) gwasanaethau eraill, fel SignHealth,Deaf4Deaf? (WAQ74476)

Ateb i ddilyn.

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Dros y 5 mlynedd diwethaf, faint o geisiadau ariannu cleifion unigol ar ran pobl fyddar/pobl sy'n colli eu clyw ar gyfer triniaethau'n gysylltiedig ag iechyd meddwl a gymeradwywyd, fesul bwrdd iechyd lleol? (WAQ74477)

Ateb i ddilyn.

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Dros y 5 mlynedd diwethaf, faint o geisiadau ariannu cleifion unigol ar ran pobl fyddar/pobl sy'n colli eu clyw ar gyfer triniaethau'n gysylltiedig ag iechyd meddwl, er enghraifft therapi seicolegol, asesiad/triniaeth seiciatryddol arbenigol, sydd wedi'u gwneud yng Nghymru? (WAQ74478)

Ateb i ddilyn.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Gareth Bennett (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau ei hadran â'r RSPCA ynghylch cadw primatiaid fel anifeiliaid anwes yng Nghymru? (WAQ74480)

Ateb i ddilyn.

Huw Irranca–Davies (Ogwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi rhagor o fanylion am sut y gall rhanddeiliaid y tu hwnt i awdurdodau rheoli gyfrannu at ddatblygu Cynllun Gweithredu Blaenoriaeth Rheoli Ardal Forol Warchodedig, cyn ei gyhoeddi? (WAQ74481)

Ateb i ddilyn.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch a ddylai awdurdodau lleol ddal data'n ymwneud â throseddau gan yrwyr tacsis trwyddedig? (WAQ74482)

Derbyniwyd ateb ar 27 Hydref 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol (Mark Drakeford): The Welsh Government launched a public consultation in June 2017 about reforms to the framework governing the licensing of taxis and private hire vehicles proposed by the Law Commission in May 2014. This consultation ended on 8 September 2017 and the contributions received from local licensing authorities, private hire vehicle operators and drivers are being assessed. It is expected to be able to publish a summary outcome report by the end of December 2017. Based on the outcome of this consultation exercise, detailed proposals will be published for public consultation in the Spring of 2018.

​In developing proposals for the reform of licensing for taxi and private hire vehicles in Wales, it is important that arrangements are in place to enable local licensing authorities to ensure that licensed professional drivers are subject to appropriate assessments required to maintain public safety.   ​

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud i wella nifer yr awdurdodau lleol yng Nghymru sy'n talu ei holl staff, gan gynnwys staff asiantaethau, gyfraddau cyflog byw y Living Wage Foundation, neu fwy? (WAQ74483)

Ateb i ddilyn.

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Caffael Cyhoeddus yng Nghymru? (WAQ74484)

Derbyniwyd ateb ar 30 Hydref 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol (Mark Drakeford): The findings of the Public Procurement in Wales are welcomed.
My Written Statement of 21 September announced plans for refocussing procurement within Welsh Government. This review will be taken forward in collaboration with public and social partners and will support the response to the recommendations of the Auditor General for Wales’ report.

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Yn ychwanegol at yr adolygiad parhaus o'r sector, sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio i wella ar nifer y bobl sy'n sefyll i gael eu hethol i Gynghorau Tref a Chynghorau Cymuned yng Nghymru, ac a all roi enghreifftiau penodol o waith sy'n cael ei wneud mewn cysylltiad â hyn? (WAQ74485)

Derbyniwyd ateb ar 30 Hydref 2017

Mark Drakeford: An information booklet: 'Being a Local Councillor 2017', was funded by Welsh Government and produced by One Voice Wales in 2016 to support community councils to raise awareness and encourage participation in community council elections, and to increase diversity, ahead of the elections in May.
The Welsh Government also produced a video in autumn 2016 on ‘Standing for Election to Community Councils’, which was distributed by One Voice Wales and is available on the Welsh Government website.
Further action to encourage participation and increase diversity continues with the publication of the One Voice Wales guidance document on youth representation. This was distributed at the Welsh Government stand at the National Eisteddfod in August 2017.
The Community Council Review Panel is also considering the level of local participation in community and town councils. Exploring the reasons behind councils which have particularly high, or low, levels of people standing for election will form a particular line of enquiry for the Panel.

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y panel adolygu annibynnol sy'n ystyried dyfodol rôl Cynghorau Cymuned a Chynghorau Tref, a rhoi gwybod am unrhyw amserlenni penodol ar gyfer cyflwyno adroddiad o gynnydd y mae wedi'i roi i'r panel? (WAQ74486)

Derbyniwyd ateb ar 30 Hydref 2017

Mark Drakeford: The Independent Review Panel has held two meetings to date and issued a formal call to evidence at the start of October. They are meeting monthly and will be undertaking evidence gathering as part of those meetings and well as undertaking other engagement activity. They are in the process of identifying lines of enquiry to explore all aspects of the role of councils, and how they can best be equipped to play that role.
The Review will take around a year. The Panel plan to develop emerging themes and test these with stakeholders early in the new year, with a view to formalising recommendations over the summer.
I have asked the Panel to share emerging findings with me next summer and formally report to me in early autumn 2018.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf, yn ôl dyddiad a swydd, cyflogeion sy'n ymddeol yn gynnar mewn sefydliadau sector cyhoeddus Cymru? (WAQ74487)

Derbyniwyd ateb ar 30 Hydref 2017

Mark Drakeford: The Welsh Government does not hold information on early retirement across the public sector. Information is published on StatsWales on the retention of teaching staff in Wales which includes the numbers of teachers taking early retirement from the profession.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg 

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Ymhellach i ateb ysgrifenedig WAQ74400, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a yw Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi trafod ymateb yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i'r Papur Gwyn ar yr Iaith Gymraeg gyda'r Ombwdsmon? (WAQ74488)

Derbyniwyd ateb ar 30 Hydref 2017

Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes (Alun Davies): No discussions have taken place with the Public Services Ombudsman for Wales about his written response to the White Paper ‘Striking the right balance: proposals for a Welsh Language Bill’, which was received on 26 September 2017.