03/02/2009 - Atebion a Roddwyd i Aelodau ar 3 Chwefror 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 3 Chwefror 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Tŷ

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Faint mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wario ar gynghorwyr arbennig, gan gynnwys cyflogau, treuliau a’r holl gostau cysylltiedig, ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ53180)

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Sawl cynghorydd arbennig y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i gyflogi ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ53181)

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Dengys y tabl isod nifer y swyddi a chyfanswm costau cyflog Cynghorwyr Arbennig ar gyfer pob blwyddyn ers sefydlu’r Cynulliad:

Atebion a Roddwyd i Aelodau ar 3 Chwefror 2009

Blwyddyn

Nifer o Gynghorwyr Arbennig

(Cyfwerth ag amser llawn)

Costau Cynghorwyr Arbennig

(Cyflog, Pensiwn a Nawdd Cymdeithasol)

1999-2000

4

£110,067

2000-2001

5

£206,825

2001-2002

6

£237,388

2002-2003

6

£252,824

2003-2004

6

£257,514

2004-2005

6

£317,108

2005-2006

6

£348,947

2006-2007

6

£328,750

2007-2008

8*

£484,717

2008-2009

8

£370,932**

* Diwygiodd Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor nifer y cynghorwyr Arbennig yn Hydref 2007 o 6 i 8.

**Costau ar 31 Rhagfyr 2008.

Ymddengys y costau’n isel ar gyfer 1999-2000. Y rheswm am hyn yw nad ydynt yn gostau blwyddyn gyfan ac ymunodd y cynghorwyr a gyflogwyd yn ystod y cyfnod hwnnw â’r Cynulliad ar amrywiol ddyddiadau yn ystod y flwyddyn.

Nid yw’r costau a hawliwyd am dreuliau gan y cynghorwyr arbennig ar gael ar hyn o bryd ac felly ni chawsant eu cynnwys.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r amser cyfartalog y mae’r Prif Weinidog wedi’i gymryd i ymateb i ohebiaeth gydag Aelodau Cynulliad yn y flwyddyn gyfredol a beth oedd yr amser cyfartalog a gymerwyd ym mhob un o’r blynyddoedd blaenorol o 2005 ymlaen? (WAQ53237)

Y Prif Weinidog: Rwyf yn ymateb ar ran y Cabinet.

Dangosir amserau ymateb cyfartalog yn y tabl isod. Cedwir data am y tair blynedd flaenorol yn unig felly o 2006 ymlaen mae’r data ar gael.

Atebion a Roddwyd i Aelodau ar 3 Chwefror 2009

Gweinidog

2006*

2007**

2008

2009***

Y Prif Weinidog

13

15

14

9

Dirprwy Brif Weinidog Cymru

DD/G

14

14

11

Andrew Davies

15

14

17

-

Alun Ffred Jones

DD/G

DD/G

12

12

Brian Gibbons

10

12

8

5

Carwyn Jones

10

12

19

-

Edwina Hart

9

10

9

7

Elin Jones

DD/G

13

14

8

Jane Davidson

12

12

12

7

Jane Hutt

11

13

12

7

Nodiadau

DD/G = Ddim yn Gymwys

* Yn seiliedig ar lythyrau a dderbyniwyd ers 28 Ionawr 2006.

** Yn ystod cyfnod etholiad 2007 ychydig o ohebiaeth a dderbyniwyd gan Weinidogion ar y pryd ond ymatebwyd i’r ohebiaeth hon gan y rhai oedd yn eu holynu.

*** Yn seiliedig ar y llythyrau a dderbyniwyd rhwng 1-29 Ionawr a atebwyd. Pan nad oes cyfartaledd ar gael golyga fod y niferoedd yn annigonol i’w cyfrif.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r amser cyfartalog y mae’r Prif Weinidog wedi’i gymryd i ymateb i gwestiynau ysgrifenedig yn y flwyddyn gyfredol a beth oedd yr amser cyfartalog a gymerwyd ym mhob un o’r blynyddoedd blaenorol o 2005 ymlaen? (WAQ53247)

Y Prif Weinidog: Rwyf yn ymateb ar ran y Cabinet.

Atebion a Roddwyd i Aelodau ar 3 Chwefror 2009
 

Ion -

Rhag 2005

Ion -

Rhag 2006

Ion -

Rhag 2007

Ion -

Rhag 2008

Nifer y WAQau a gyflwynwyd

4139

3619

1598

1941

% yr atebion cyflawn i WAQau a gyflwynwyd i ACau o fewn 5 diwrnod gwaith

4 %

12%

33%

48%

% yr atebion cyflawn i WAQau a gyflwynwyd i ACau o fewn 8 diwrnod gwaith  

93%

94%

94%

94%

% o atebion dros dro i WAQau a gyflwynwyd i ACau

7%

6%

6%

6%

% o atebion dros dro i WAQau a gyflwynwyd i ACau ac sy’n cael llythyr sy’n cynnwys ateb cyflawn o fewn 10 diwrnod gwaith

56%

42%

64%

48%

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud am nifer y swyddi i raddedigion sydd ar gael yn economi Cymru? (WAQ53190)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Nid oes diffiniad swyddogol o 'swydd i raddedigion’. Cyflogir graddedigion fel arfer yn y tri grŵp galwedigaethol uchaf (rheolwyr, gweithwyr proffesiynol a gweithwyr proffesiynol cyswllt). Yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2008, roedd y grŵp hwn yn cyfrif am 38% o holl weithwyr Cymru.  Rhwng y flwyddyn 2001 a’r flwyddyn hyd at fis Mehefin 2008 roedd cynnydd o 20% yn nifer y gweithwyr yng Nghymru yn y tri grŵp galwedigaethol uchaf o’i gymharu â chynnydd o 16% yn y DU yn gyfan. Mae’r cynnydd yng Nghymru yn cynrychioli 85% o’r cynnydd o 100,000 i gyd.

Dengys ffigurau ynglŷn â graddedigion (2006/07) hefyd amodau gwaith graddedigion sy’n preswylio yng Nghymru a graddedigion o Sefydliadau Addysg Uwch Cymru (SAU):

Chwe mis ar ôl graddio, roedd dros dri chwarter wedi dechrau gweithio, tybir bod 5% yn ddi-waith, gyda mwyafrif y gweddill yn parhau i astudio.

Roedd 82% graddedigion cyflogedig o Gymru ac 81% o raddedigion cyflogedig o SAUau Cymru mewn gwaith parhaol.

Roedd y gyfradd gadw yn debyg i ranbarthau Lloegr.

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa dargedau neu ragfynegiadau a wnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer nifer y swyddi mewn Canolfannau Technium dros y pum mlynedd diwethaf, ac a gafodd y rhain eu cyflawni? (WAQ53209)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Gosodwyd y mwyafrif o’r targedau gwreiddiol gan brosiectau’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd. Cyrhaeddodd pob un o’r targedau hyn ei nod, heblaw am Technium Sir Benfro sydd newydd ddechrau, ac mewn rhai achosion aethant y tu hwnt i’r disgwyliadau.

Mike German (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog neu ei swyddogion wedi’u cael â Llywodraeth y DU ynghylch y potensial i dorri treth busnesau? (WAQ53211)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi bod yn bresennol yn y tair Uwchgynhadledd Economaidd ac fel aelod o’r Cyngor Economaidd Cenedlaethol mae wedi hysbysu Llywodraeth y DU yn uniongyrchol am bryderon cyllidol busnesau yng Nghymru.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Faint o’r arian sy’n cael ei wario ar y rhaglen Rhyngwyneb Cefnffyrdd sydd yn ffioedd ymgynghorwyr? (WAQ53221)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Rhagwelir y bydd £11.378m yn cael ei wario ar ymgynghorwyr yn ystod 2008/09 ar y cynlluniau a restrir ym Mlaenraglen Gefnffyrdd 2008.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Faint o’r arian sy’n cael ei wario ar Llwybrau Diogel mewn Cymunedau sydd yn ffioedd ymgynghorwyr? (WAQ53222)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Dyrennir y cyllid ar gyfer cynlluniau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yn uniongyrchol i awdurdodau lleol. Nid oes gennym wybodaeth ganolog am gyflogaeth ymgynghorwyr gan awdurdodau lleol.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r amser cyfartalog y mae’r Gweinidog wedi’i gymryd i ymateb i ohebiaeth gydag Aelodau Cynulliad yn y flwyddyn gyfredol a beth oedd yr amser cyfartalog a gymerwyd ym mhob un o’r blynyddoedd blaenorol o 2005 ymlaen? (WAQ53238) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Y Prif Weinidog: Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ53237.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r amser cyfartalog y mae’r Gweinidog wedi’i gymryd i ymateb i gwestiynau ysgrifenedig yn y flwyddyn gyfredol a beth oedd yr amser cyfartalog a gymerwyd ym mhob un o’r blynyddoedd blaenorol o 2005 ymlaen? (WAQ53248) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Y Prif Weinidog: Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ53247.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog egluro sut y caiff ysgolion eu harchwilio’n flynyddol i asesu cyflwr yr adeiladau? (WAQ53193)

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Mae pob Awdurdod Addysg Lleol yn arolygu cyflwr adeiladau eu hysgolion i gyd. Gwneir hyn mewn cylch o bedair i bum mlynedd.

Bydd gan yr awdurdodau lleol raglenni cynnal a chadw rheolaidd ar waith ar gyfer eu hysgolion a fydd wedi’u llywio gan eu harolygon o gyflwr adeiladau, a fydd yn nodi’r holl waith hanfodol sydd ei angen a’r gwaith y dymunir ei wneud ar bob ysgol yn unigol. Bydd y wybodaeth hon yn elfen bwysig yng nghynllun rheoli asedau awdurdod lleol.

Fel rhan o’r broses hon bydd awdurdodau hefyd yn gwneud arolygon blynyddol a fydd yn cynnwys materion megis arolygon o ran amddiffyn rhag tân, ffenestri, gwifrau trydanol, Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, bacteriwm clefyd y lleng filwr ac asbestos. Mae gan rai AALlau Gytundebau Lefel Gwasanaeth gyda’u hysgolion ar gyfer gwaith cynnal a chadw/atgyweirio a gwaith cynnal a chadw’r adeiladau. Fel rhan o’r math hwn o gynllun cynhelir ymweliadau cyson bob tymor gan is-adran gwasanaethau technegol yr AALl.

Irene James (Islwyn): Faint o ddisgyblion sy’n cymryd rhan yn y cwricwlwm Cyfnod Sylfaen newydd ym mhob ardal awdurdod lleol? (WAQ53218)

Jane Hutt: Ers mis Medi 2008 mae pob plentyn tair a phedair blwydd oed mewn lleoliad addysg blynyddoedd cynnar wedi bod yn cymryd rhan yn y Cyfnod Sylfaen. Dengys y wybodaeth ddiweddaraf bod dros 25,800 o blant yn cael budd o’r cwricwlwm newydd mewn ysgolion a gynhelir ar hyn o bryd. Yn y tabl atodedig gwelir nifer y disgyblion tair a phedair oed mewn ysgolion ym mhob awdurdod.

Yn ogystal â rhain mae plant tair a phedair oed mewn lleoliadau nas cynhelir yn cymryd rhan yn y Cyfnod Sylfaen. Ar hyn o bryd mae 766 o leoliadau a gynhelir yng Nghymru; fodd bynnag, nid yw nifer y plant yn y lleoliadau hyn ar gael ar hyn o bryd.

Disgyblion tair i bedair oed mewn dosbarthiadau sy’n cyflwyno’r Cyfnod Sylfaen

Atebion a Roddwyd i Aelodau ar 3 Chwefror 2009

Medi 2008 (a)

     

 

 

 

 

AALI

 

Nifer y disgyblion

 

Ynys Môn

 

472

 

Gwynedd

 

1,028

 

Conwy

 

943

 

Sir Ddinbych

 

859

 

Sir y Fflint

 

1,607

 

Wrecsam

 

1,352

 

Powys (b)

 

60

 

Ceredigion

 

208

 

Sir Benfro

 

839

 

Sir Gaerfyrddin

 

1,222

 

Abertawe

 

2,202

 

Castell-nedd Port Talbot

 

1,479

 

Pen-y-bont ar Ogwr

 

1,346

 

Bro Morgannwg

 

1,157

 

Rhondda Cynon Taf

 

2,736

 

Merthyr Tudful

 

662

 

Caerffili

 

1,993

 

Blaenau Gwent

 

723

 

Tor-faen

 

639

 

Sir Fynwy

 

363

 

Casnewydd

 

1,355

 

Caerdydd

 

2,559

 

Cymru

 

25,804

 

Ffynhonnell: Ffurflenni awdurdodau lleol Medi 2008

(a) disgyblion tair i bedair oed mewn ysgolion a gynhelir ar 23 Medi 2008.

Mae nifer o awdurdodau’n derbyn plant ar sawl achlysur yn ystod y flwyddyn ac nid yw disgyblion a ddechreuodd ysgol ar ôl 23 Medi yn gynwysedig.

(b) addysgir y mwyafrif o ddisgyblion tair oed ym Mhowys drwy ddarpariaeth wedi ei hariannu y tu allan i’r sector ysgolion a gynhelir.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r amser cyfartalog y mae’r Gweinidog wedi’i gymryd i ymateb i ohebiaeth gydag Aelodau Cynulliad yn y flwyddyn gyfredol a beth oedd yr amser cyfartalog a gymerwyd ym mhob un o’r blynyddoedd blaenorol o 2005 ymlaen? (WAQ53243) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Y Prif Weinidog: Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ53237.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r amser cyfartalog y mae’r Gweinidog wedi’i gymryd i ymateb i gwestiynau ysgrifenedig yn y flwyddyn gyfredol a beth oedd yr amser cyfartalog a gymerwyd ym mhob un o’r blynyddoedd blaenorol o 2005 ymlaen? (WAQ53251) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Y Prif Weinidog: Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ53247.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i ddarparu cyngor ar gofnodi pleidleisiau aelodau mewn Parciau Cenedlaethol i sicrhau mwy o atebolrwydd? (WAQ53257)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Mae’r tri Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru yn awdurdodau lleol diben sengl o fewn llywodraeth leol ac mae ganddynt drefniadau llywodraethu tebyg i’r 22 o Awdurdodau Unedol yng Nghymru.

Nid yw’n arferol cofnodi pleidleisiau Aelodau, ond fel arfer mae gan y Rheolau Sefydlog ddarpariaeth sy’n caniatáu i isafswm o Aelodau alw am bleidlais wedi’i chofnodi ar fater penodol. Mae’r Rheolau Sefydlog hefyd fel arfer yn caniatáu i Aelod unigol ofyn fod cofnod yn cael ei gadw o’r ffordd mae’r Aelod yn pleidleisio (neu’n ymatal) yn y cofnodion. Mae’n arferol i bob awdurdod lleol, gan gynnwys Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol, gadw cofnod o enwau’r Aelodau sy’n bresennol mewn cyfarfodydd, gan gynnwys pryd maent yn cyrraedd (os yw hyn ar ôl i’r cyfarfod ddechrau) a pryd maent yn gadael (eto os yw hyn cyn diwedd y cyfarfod).

Drwy hyn gall unrhyw un wybod os oedd Aelod penodol yn bresennol pan drafodwyd mater neu pan wnaethpwyd penderfyniad. Yn ogystal â hyn, mae pob un o gyfarfodydd yr Awdurdodau’n agored i’r cyhoedd (heblaw am achos o eithrio statudol) a chyhoeddir papurau ymlaen llaw ar wefan Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol.

O ystyried tryloywder y system bresennol, nid oes bwriad gennyf roi cyngor penodol ar y pwnc ar hyn o bryd.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r amser cyfartalog y mae’r Gweinidog wedi’i gymryd i ymateb i ohebiaeth gydag Aelodau Cynulliad yn y flwyddyn gyfredol a beth oedd yr amser cyfartalog a gymerwyd ym mhob un o’r blynyddoedd blaenorol o 2005 ymlaen? (WAQ53239) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Y Prif Weinidog: Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ53237.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r amser cyfartalog y mae’r Gweinidog wedi’i gymryd i ymateb i gwestiynau ysgrifenedig yn y flwyddyn gyfredol a beth oedd yr amser cyfartalog a gymerwyd ym mhob un o’r blynyddoedd blaenorol o 2005 ymlaen? (WAQ53249) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Y Prif Weinidog: Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ53247.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r amser cyfartalog y mae’r Gweinidog wedi’i gymryd i ymateb i ohebiaeth gydag Aelodau Cynulliad yn y flwyddyn gyfredol a beth oedd yr amser cyfartalog a gymerwyd ym mhob un o’r blynyddoedd blaenorol o 2005 ymlaen? (WAQ53240)

Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Y Prif Weinidog: Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ53237.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r amser cyfartalog y mae’r Gweinidog wedi’i gymryd i ymateb i gwestiynau ysgrifenedig yn y flwyddyn gyfredol a beth oedd yr amser cyfartalog a gymerwyd ym mhob un o’r blynyddoedd blaenorol o 2005 ymlaen? (WAQ53250) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Y Prif Weinidog: Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ53247.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r amser cyfartalog y mae’r Gweinidog wedi’i gymryd i ymateb i ohebiaeth gydag Aelodau Cynulliad yn y flwyddyn gyfredol a beth oedd yr amser cyfartalog a gymerwyd ym mhob un o’r blynyddoedd blaenorol o 2005 ymlaen? (WAQ53242) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Y Prif Weinidog: Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ53237.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r amser cyfartalog y mae’r Gweinidog wedi’i gymryd i ymateb i gwestiynau ysgrifenedig yn y flwyddyn gyfredol a beth oedd yr amser cyfartalog a gymerwyd ym mhob un o’r blynyddoedd blaenorol o 2005 ymlaen? (WAQ53252) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Y Prif Weinidog: Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ53247.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd): Faint o bobl sydd wedi manteisio ar fynediad am ddim i amgueddfeydd ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru ers cyflwyno’r polisi? (WAQ53235)

Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Alun Ffred Jones): Cyflwynwyd mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru - National Museum Wales (AC-NMW) yng Nghymru gan Lywodraeth y Cynulliad ym mis Ebrill 2001, chwe mis cyn i bolisi tebyg gael ei gyflwyno yn Lloegr.

Gan fod Llywodraeth Cynulliad Cymru’n rhoi cyllid sylweddol i AC-NMW, mae’n briodol fod pobl Cymru ac ymwelwyr i’r ardal yn medru mynd i bob un o’r safleoedd am ddim. Mae’r polisi hwn wedi bod yn llwyddiant ysgubol: cyfanswm yr ymweliadau i saith safle’r Amgueddfa yn 2007-08 oedd 1.67 miliwn, sef cynnydd o 124% ers y flwyddyn 2000-1, y flwyddyn olaf o godi tâl mynediad.

Cynhaliwyd nifer o arolygon ymwelwyr. Yn yr arolwg diweddaraf yn 2006 holwyd ble yr hanai’r ymwelwyr. Yn 2006 hanai 9% o ymwelwyr AC-NMW o Dde Ddwyrain Cymru, 28% o Ganol De Cymru, 14% o’r De-Orllewin, 3% o’r Gogledd a llai nag 1% o’r Canolbarth. Hanai’r 45% a oedd yn weddill o’r tu allan i Gymru neu ni nodwyd o ble roeddent yn hanu. Bwriedir cynnal arolwg trylwyr o ymwelwyr ym mhob un o safleoedd AC-NMW yn 2009.

Ni chynhwysir amgueddfeydd lleol ym mholisi mynediad am ddim Llywodraeth y Cynulliad. Mae pob awdurdod lleol ac amgueddfa annibynnol yn penderfynu drostynt eu hunain p’un a ddylid codi tâl mynediad. CyMAL: Cynhaliodd is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru arolwg llinell sylfaenol 'Sbotolau ar Amgueddfeydd’ yn 2006. Dangosodd fod dros 1.7 miliwn o bobl wedi ymweld ag amgueddfeydd lleol yn 2005, cynnydd o 228,000 ers 2004. Dangosodd hefyd fod 66% o amgueddfeydd awdurdod lleol a 34% o amgueddfeydd o’r sector annibynnol yn cynnig mynediad am ddim. Nid oes data cyson yn dangos o ble mae ymwelwyr ag amgueddfeydd lleol yn hanu.

Karen Sinclair (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sawl disgybl ysgol uwchradd sydd wedi cymryd rhan yn rhaglen 5x60 Cyngor Chwaraeon Cymru ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru ers cyflwyno’r rhaglen? (WAQ53259)

Alun Ffred Jones: Cyngor Chwaraeon Cymru sydd wedi darparu’r ffigurau isod.

Maent yn dangos cyfanswm y sesiynau 5 x 60 a gynhaliwyd ym mhob awdurdod lleol ac yna bresenoldeb yn ôl pob Cyfnod Allweddol ac yn ôl rhyw ar gyfer tymor yr hydref 2008 a’r flwyddyn academaidd 2007-2008.

Atebion a Roddwyd i Aelodau ar 3 Chwefror 2009
 

Hydref 2008

   

Niferoedd yn cymryd rhan yn y Gweithgareddau 5x60

   

Meini prawf:

 

Sesiynau

Bechgyn CA3

Bechgyn CA4

Merched CA3

Merched CA4

AALl Ynys Môn

 

482

901

403

489

148

AALl Blaenau Gwent

502

469

119

365

121

 

AALl Pen-y-bont ar Ogwr

 

725

2141

794

1369

424

AALl Caerffili

 

1268

3092

599

2528

331

AALl Caerdydd

 

1480

2883

813

2088

567

AALl Sir Gaerfyrddin

994

1734

495

1461

304

 

AALl Ceredigion

 

364

897

232

660

75

AALl Conwy

 

283

602

219

449

101

AALl Sir Ddinbych

 

769

1594

1145

2493

882

AALI Sir y Fflint

 

854

1140

473

1183

396

AALI Gwynedd

 

1201

1890

576

1194

352

AALI Merthyr Tudful

136

494

120

327

54

 

AALI Sir Fynwy

449

463

316

478

242

 

AALI Castell-nedd Port Talbot

823

1706

499

1606

536

 

AALI Casnewydd

 

688

1646

366

986

248

AALI Sir Benfro

600

1728

239

561

126

 

AALI Powys

 

686

1607

560

1273

344

AALl Rhondda Cynon Taf

2211

4181

1190

2205

675

 

AALI Abertawe

 

922

1453

492

1275

317

AALI Tor-faen

 

383

539

286

337

151

AALI Bro Morgannwg

297

605

56

933

110

 

AALI Wrecsam

 

509

950

193

602

140

   

16626

32715

10185

24862

6644

Noder: Gall ffigurau amrywio rhwng awdurdodau lleol oherwydd i rai ysgolion ymuno â’r cynllun ar wahanol adegau o’r flwyddyn.

Blwyddyn Academaidd 2007-2008

Atebion a Roddwyd i Aelodau ar 3 Chwefror 2009
 

Blwyddyn Academaidd 07-08

 

Niferoedd yn cymryd rhan yn y Gweithgareddau 5x60

     

Meini prawf:

 

Sesiynau

Bechgyn CA3

Bechgyn CA4

Merched CA3

Merched CA4

AALl Ynys Môn

588

840

466

751

285

 

AALl Blaenau Gwent

988

1198

222

756

165

 

AALl Pen-y-bont ar Ogwr

1134

4078

678

2965

290

 

AALl Caerffili

1602

3736

703

4192

544

 

AALl Caerdydd

 

2573

4176

1617

2919

862

AALl Sir Gaerfyrddin

1322

2437

569

1796

270

 

AALl Ceredigion

560

1215

161

866

115

 

AALl Conwy

 

578

575

167

933

252

AALl Sir Ddinbych

1407

3569

1463

3094

1488

 

AALI Sir y Fflint

1166

1880

447

1792

532

 

AALI Gwynedd

1541

2360

612

2501

691

 

AALI Merthyr Tudful

776

1141

336

861

330

 

AALI Sir Fynwy

349

1261

86

769

52

 

AALI Castell-nedd Port Talbot

938

1071

179

1765

364

 

AALI Casnewydd

855

1516

335

871

318

 

AALI Sir Benfro

936

1401

371

1141

481

 

AALI Powys

 

964

2085

346

1991

353

AALl Rhondda Cynon Taf

2912

7329

2180

4101

1174

 

AALI Abertawe

980

1783

428

2243

359

 

AALI Tor-faen

592

1031

191

1149

200

 

AALI Bro Morgannwg

772

2331

217

1839

387

 

AALI Wrecsam

869

1843

132

1414

178

 
   

24402

48856

11906

40709

9690

Noder: Gall ffigurau amrywio rhwng awdurdodau lleol oherwydd i rai ysgolion ymuno â’r cynllun ar wahanol adegau o’r flwyddyn

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r amser cyfartalog y mae’r Gweinidog wedi’i gymryd i ymateb i ohebiaeth gydag Aelodau Cynulliad yn y flwyddyn gyfredol a beth oedd yr amser cyfartalog a gymerwyd ym mhob un o’r blynyddoedd blaenorol o 2005 ymlaen? (WAQ53246) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Y Prif Weinidog: Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ53237.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r amser cyfartalog y mae’r Gweinidog wedi’i gymryd i ymateb i gwestiynau ysgrifenedig yn y flwyddyn gyfredol a beth oedd yr amser cyfartalog a gymerwyd ym mhob un o’r blynyddoedd blaenorol o 2005 ymlaen? (WAQ53256) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Y Prif Weinidog: Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ53247.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa newidiadau sydd wedi cael eu gwneud i bolisi’r Comisiwn Ewropeaidd ar gyflwyno tagiau adnabod electronig gorfodol ar gyfer defaid yng Nghymru yn dilyn eich cyfarfod â’r Comisiynydd Vassiliou ar y 19eg o Ionawr? (WAQ53183)

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig (Elin Jones): Dim newidiadau. Bûm yn parhau i bwyso ar y Comisiynydd Vasilliou ond pwysleisiodd bwysigrwydd cael system ddibynadwy er mwyn olrhain achosion o glefydau ar waith, er iddi gyfeirio at ymweliad arfaethedig y Comisiwn â’r DU ac y gobeithiai y byddai hwn o gymorth i’r DU weithredu’r system yn llawn erbyn 2012.

Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa newidiadau sydd wedi cael eu gwneud i bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyflwyno tagiau adnabod electronig gorfodol ar gyfer defaid yn dilyn eich cyfarfod â’r Comisiynydd Vassiliou ar y 19eg o Ionawr? (WAQ53184)

Elin Jones: Dim newidiadau, byddaf yn parhau â’m dull gweithredu deublyg, y cam nesaf fydd y diwydiant, ynghyd â’r Llywodraeth, yn defnyddio ymweliad Gwasanaethau’r Comisiwn ym mis Chwefror i dynnu sylw at y problemau ymarferol sydd ganddynt wrth weithredu’r Rheoliad hwn.

Bwriadaf gyhoeddi adroddiad interim ar y cynllun peilot yng Nghymru yn hwyrach yn y gwanwyn hefyd, er mwyn llywio’r ymgynghoriad arfaethedig ar y rheolau newydd.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dynnu a rheoli llysiau’r gingroen? (WAQ53220)

Elin Jones: Mae llysiau’r gingroen yn hynod wenwynig, ac o’u hamlyncu ar eu ffurf wyrdd neu sych fel a geir mewn gwair neu silwair, gall achosi niwed difrifol i’r iau ac yn aml marwolaeth. Mae 'Cod Ymarfer er mwyn Rhwystro a Rheoli Ymlediad Llysiau’r Gingroen’ yn rhoi gwybodaeth am sut i adnabod llysiau’r gingroen, rheoli glaswelltir, addasrwydd ac effeithiolrwydd dulliau rheoli gan gynnwys ystyriaethau amgylcheddol. Gan ddeiliad y tir lle mae llysiau’r gingroen yn tyfu mae’r prif gyfrifoldeb am reoli eu hymlediad.

Nid yw’n ddymunol difa llysiau’r gingroen yn llwyr oherwydd, gan ei fod yn blanhigyn brodorol, mae’n bwysig iawn i fywyd gwyllt yn y DU, ac mae llawer o fanteision i’r fioamrywiaeth. Nod y Cod yw addysgu perchnogion ceffylau a da byw, tirfeddianwyr a deiliaid o’r angen i rwystro eu hymlediad lle mae risg uchel o wenwyno ceffylau a da byw, neu o ymledu i gaeau a ddefnyddir i gynhyrchu cnydau porthiant. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru felly’n gweithio ar hyn o bryd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o berygl llysiau’r gingroen mewn cysylltiad ag anifeiliaid yn pori.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi dim-GM yng Nghymru? (WAQ53232)

Elin Jones: Byddai’n anghyfreithlon i Lywodraeth Cynulliad Cymru osod gwaharddiad llwyr ar gnydau a addaswyd yn enetig. Ein polisi felly yw cyfyngu cymaint â phosibl ar fasnacheiddio cnydau a addaswyd yn enetig a bod mor rhagofalus â phosibl, o fewn cyd-destun fframwaith deddfwriaethol y DU a’r UE.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r amser cyfartalog y mae’r Gweinidog wedi’i gymryd i ymateb i ohebiaeth gydag Aelodau Cynulliad yn y flwyddyn gyfredol a beth oedd yr amser cyfartalog a gymerwyd ym mhob un o’r blynyddoedd blaenorol o 2005 ymlaen? (WAQ53245) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Y Prif Weinidog: Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ53237.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r amser cyfartalog y mae’r Gweinidog wedi’i gymryd i ymateb i gwestiynau ysgrifenedig yn y flwyddyn gyfredol a beth oedd yr amser cyfartalog a gymerwyd ym mhob un o’r blynyddoedd blaenorol o 2005 ymlaen? (WAQ53255) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Y Prif Weinidog: Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ53247.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A oes unrhyw asesiad wedi cael ei wneud o ba mor ddefnyddiol yn gymdeithasol yw tafarndai yng Nghymru ac, os felly, a wnaiff roi manylion hyn? (WAQ53229)

Y Dirprwy Weinidog dros Adfywio (Leighton Andrews): Rhoddwyd grant o £16,500 gan yr Adran Materion Gwledig yn 2007 i’r rhaglen 'Pub is the Hub’ er mwyn ymchwilio i’r posibilrwydd o ddefnyddio tafarndai gwledig i gyfuno gwasanaethau a fyddai’n gwella eu hyfywedd e.e. cyfuno tafarn a siop, tafan a swyddfa’r post, cynnig lleoliad i gylch chwarae, gwasanaeth casglu presgripsiynau ac ati. Mae’r adroddiad hwn 'Pub is the Hub - a Rural Pub and Services Strategy for Wales’ ar fin cael ei gyhoeddi.

Rydym yn ymwybodol fod nifer o dafarndai yng Nghymru yn cynnal swyddfa’r post ar hyn o bryd. Mae trefniadau o’r math yn ategu’r rhwydwaith traddodiadol o swyddfeydd post ac yn sicrhau fod cwsmeriaid yn gallu cael gafael ar wasanaethau’r swyddfa bost yn hawdd.

Mae Swyddfa’r Post Cyf wedi nodi fod nifer fechan o dafarndai yng Nghymru’n estyn gwasanaethau swyddfa’r post i’w cymuned. Yn ogystal â hyn, mae meysydd parcio dwy dafarn arall yn cael eu defnyddio gan wasanaeth symudol Swyddfa’r Post Cyf.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r Gweinidog wedi cyflwyno unrhyw sylwadau i Lywodraeth y DU ynghylch cau tafarndai yng Nghymru? (WAQ53230)

Leighton Andrews: Naddo.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r Gweinidog wedi cyflwyno sylwadau ynghylch y ffaith bod TAW yn berthnasol i werthu alcohol mewn siopau trwyddedig ond dim yn berthnasol i werthu alcohol mewn tafarndai, a’r effaith andwyol y mae hyn ei gael ar dafarndai yng Nghymru? (WAQ53231)

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Lleol (Brian Gibbons): Nid wyf wedi gwneud sylwadau ar effaith TAW ar dafarndai.

Yn ein strategaeth 10 blynedd ar gamddefnyddio sylweddau 'Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed’, rydym wedi ymrwymo i leihau’r niwed a achosir drwy gamddefnyddio alcohol.  Rydym yn ymrwymedig i bwyso ar Lywodraeth y DU i gyflwyno isafswm prisio a/neu i ystyried codi treth. Rydym yn awyddus iawn i fynd i’r afael â mater isafswm prisio gan y byddai’n golygu mynd i’r afael â’r broblem o alcohol am brisiau gostyngol neu rad iawn a werthir mewn siopau trwyddedig.  

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i ddarparu cyngor ar gofnodi pleidleisiau aelodau mewn awdurdodau lleol i sicrhau mwy o atebolrwydd? (WAQ53258)

Brian Gibbons: Mae darpariaeth yn Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ynglŷn â chynnal cyfarfodydd awdurdodau lleol. Darperir bod yn rhaid cofnodi enwau’r aelodau sy’n bresennol a’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud mewn cyfarfod yn y cofnodion. Nid oes darpariaethau yn nodi bod yn rhaid cofnodi pleidleisiau aelodau unigol. Mater sy’n cael ei drin yn rheolau sefydlog yr awdurdodau lleol yw hwn.

Nid oes bwriad rhoi cyngor i awdurdodau lleol ar y mater hwn. Yn gyffredinol, mae cyfarfodydd awdurdodau lleol yn agored i’r cyhoedd - ac eithrio pan gynhelir trafodaethau ar faterion cyfrinachol.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r amser cyfartalog y mae’r Gweinidog wedi’i gymryd i ymateb i ohebiaeth gydag Aelodau Cynulliad yn y flwyddyn gyfredol a beth oedd yr amser cyfartalog a gymerwyd ym mhob un o’r blynyddoedd blaenorol o 2005 ymlaen? (WAQ53241) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Y Prif Weinidog: Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ53237.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r amser cyfartalog y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i gymryd i ymateb i gwestiynau ysgrifenedig yn y flwyddyn gyfredol a beth oedd yr amser cyfartalog a gymerwyd ym mhob un o’r blynyddoedd blaenorol o 2005 ymlaen? (WAQ53251) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Y Prif Weinidog: Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ53247.

Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Tŷ

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r amser cyfartalog y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i gymryd i ymateb i ohebiaeth gydag Aelodau Cynulliad yn y flwyddyn gyfredol a beth oedd yr amser cyfartalog a gymerwyd ym mhob un o’r blynyddoedd blaenorol o 2005 ymlaen? (WAQ53244) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Y Prif Weinidog: Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ53237.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r amser cyfartalog y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i gymryd i ymateb i gwestiynau ysgrifenedig yn y flwyddyn gyfredol a beth oedd yr amser cyfartalog a gymerwyd ym mhob un o’r blynyddoedd blaenorol o 2005 ymlaen? (WAQ53254) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog.

Y Prif Weinidog: Cyfeiriaf at fy ateb i WAQ53247.