03/07/2007 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 3 Gorffennaf 2007

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 3 Gorffennaf 2007

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg. Cynnwys Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth Cwestiynau i’r Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog restru’r 50 cyflogwr uchaf yng Nghymru o ran y niferoedd a gyflogir yn ?l ei adran ef? (WAQ50124) Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Brian Gibbons): Yn unol ? Deddf Ystadegau Masnachu 1947, mae gwybodaeth a gasglwyd gan fusnesau at ddibenion ystadegol yn rhwym wrth ddarpariaethau cyfrinachedd llym ac ni ellir datgelu manylion sy’n ymwneud ? chyflogwyr unigol. Mike German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru’r holl ardaloedd y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cael gwybod eu bod yn ardaloedd digyswllt, drwy Arsyllfa Band Eang Cymru? (WAQ50127) Brian Gibbons: Cafwyd 982 o gofrestriadau gan ddefnyddwyr preswyl, busnesau cartref a busnesau ledled Cymru sydd wedi cofrestru eu galw am fand-eang drwy gyfleuster trefnu ar gyfer ardaloedd digyswllt ym mhrosiect Cymorth Band-eang Arloesol Rhanbarthol. Mae’r tabl canlynol yn rhoi manylion 601 o gofrestriadau sydd wedi’u rhannu yn ?l cod post, sy’n cynnwys ardaloedd digyswllt lle cafwyd 5 neu fwy o gofrestriadau. (Y wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael)
Atebion a roddwyd i Aelodau ar 3 Gorffennaf 2007

Cod post

Ardal

Nifer y cofrestriadau

SA38 9

Capel Iwan

56

SY25 6

Ystrad Meurig

26

SY23 4

Trefenter

25

SY16 3

Adfa

24

SA44 5

Penrhiwlan

24

SY19 7

Llanbrynmair

23

SY21 0

Cefn Coch

22

SA48 7

Cilcennin

20

SA43 2

Cilgerran

20

SA67 8

Brynhyfryd

19

SA33 6

Bronwydd Arms

18

SA20 0

Cilycwm

18

SA32 8

Y Gelli Aur

18

SA32 7

Peniel

16

LL22 8

Gwytherin

16

SY23 3

Cwmrheidiol

15

SA19 7

Llandeilo

15

NP12 8

Casnewydd

13

NP10 8

Llansanffraid / Gwynllwg

13

SY25 6

Llandewi Brefi

13

LL65 4

Caergybi - amrywiol

13

LD3 0U

Trefeitha / Felinfach

13

SA48 8

Cilcennin

11

NP16 6

Llanddeiniol

11

SA5 79

Abertawe

17

SA19 8

Llanwrda

9

NP7 9E

Llanofer

9

LL57 4

Bangor

8

SA68 0

Cilgeti

8

SA66 7

Clunderwen

8

LD3 0E

Aberhonddu

8

SY22 5

Llanfyllin

7

SY16 3

Y Drenewydd

7

SA62 6

Hwlffordd

7

LD1 6Y

Llandrindod

7

SY21 9

Y Trallwng

6

SA62 5

Haverfordwest

6

SA44 4

Llandysul

6

SA3 1P

Y Mwmbwls

6

NP15 1

Brynbuga

6

LL32 9

Conwy

6

LL32 8

Henryd

6

LD3 0R

Aberhonddu

6

SA33 5

Caerfyrddin

5

SA14 7

Llanelli

5

LL21 9

Corwen

5

CF23 9

Caerdydd

5

Christopher Franks (Canol De Cymru): Beth yw polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch sut y dylai derbyniadau a geir drwy werthu tir ar l?n y d.r yng Nghymru gael eu hail-fuddsoddi yn y gymuned leol? (WAQ50135) Brian Gibbons: Caiff derbyniadau sy’n codi o werthu tir ac eiddo eu hailfuddsoddi ym mlaenoriaethau datblygu ac economaidd adfer ehangach Adran yr Economi a Thrafnidiaeth ledled Cymru, yn unol ag anghenion ac amserlenni prosiectau. Mae’r rhan fwyaf o Adrannau’r Llywodraeth, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn gweithredu o fewn y fframwaith hon.  Mae derbyniadau o’r fath (sydd yn bennaf yn codi o werthu eiddo a rhentu) yn gyfran bwysig o gyllideb gwariant Adran yr Economi a Thrafnidiaeth bob blwyddyn. Er enghraifft, mae ymrwymiad Adran yr Economi a Thrafnidiaeth i ailddatblygu ardal Glannau’r Barri, gydag Associated British Ports, a’r gwaith adfer rydym yn ei gyflawni yn ardal ehangach y Barri, gyda Barry Action, eisoes wedi cael ei ariannu’n rhannol drwy werthiannau a wnaed mewn mannau eraill yng Nghymru. Os mai dim ond ar gyfer ariannu prosiectau neu trefi y daeth y derbyniadau ohonynt y defnyddir derbyniadau, bydd hyn yn amharu ar y gallu i ddefnyddio adnoddau ac arian yn hyblyg er mwyn sicrhau cyfleoedd newydd a helpu’r ardaloedd llai ffyniannus a’r ardaloedd gwerth is yng Nghymru. Christopher Franks (Canol De Cymru): Sut gall Llywodraeth Cynulliad Cymru helpu Bwrdd Partneriaeth Adfywio’r Barri i gadw ac ail-fuddsoddi derbyniadau tir yn yr un modd ? chwmn?au adfywio Casnewydd ac Abertawe? (WAQ50136) Brian Gibbons: Mae amgylchiadau unigryw yn achos Casnewydd. Roedd sefydlu’r Cwmni Adfywio Trefol, Newport Unlimited, gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn ei gwneud yn ofynnol i fabwysiadu ymagwedd benodol er mwyn sicrhau body cwmni yn gallu gweithredu’n effeithiol ar ôl i’r cyfraniadau ariannol cychwynnol gan y cyrff sefydlu (Cyngor Casnewydd, Llywodraeth Cynulliad Cymru ac Awdurdod Datblygu Cymru gynt) ddod i ben. Yn SA1 yn Abertawe, ni chedwir derbyniadau o werthu tir ac ni ch?nt eu hailfuddsoddi mewn prosiectau eraill. Fodd bynnag, mae’r trefniadau cyllidebol yn ddigon hyblyg i ariannu rhai achosion o wariant hanfodol (ar wasanaethu lleiniau datblygu) o’r derbyniadau a gafwyd o waredu safle penodol ar gyfer datblygu, ond dim ond o fewn yr un flwyddyn ariannol. Mae hyn yn adlewyrchu amgylchiadau penodol prosiect SA1, bu angen gwario ar seilwaith er mwyn paratoi lleiniau o dir i’w gwerthu. Christopher Franks (Canol De Cymru): Faint o arian sydd neu a fydd wedi cael ei dderbyn gan (i) Llywodraeth Cynulliad Cymru a (ii) Cyrff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad drwy werthu tir ar lan y dwr yn y Barri gan Gymdeithas Porthladdoedd Prydain? (WAQ50137) Brian Gibbons: Mae’r Barri wedi cael buddsoddiad sylweddol iawn gan Awdurdod Datblygu Cymru gynt/Adran yr Economi a Thrafnidiaeth a phartneriaid adfywio eraill dros gyfnod hir, drwy nifer o raglenni adfywio a Menter ar y Cyd ABP/WDA/DEIN y Barri yn enwedig - sef dros £40 miliwn ers 1994 yn ôl amcangyfrif. Ymgymerwyd â nifer o brosiectau allweddol, gan gynnwys Cam 1 o ardal Glannau’r Barri sydd wedi llwyr i safon uchel. Mae Awdurdod Datblygu Cymru/Adran yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cael tua ?14.5 miliwn o werthu tir mewn cysylltiad ? Glannau’r Barri o 1994 hyd heddiw.  Penderfynir yn rhannol ar dderbyniadau yn y dyfodol yn y trafodaethau sydd yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd yn ymwneudi â’r cynnig i werthu mwy o dir i’r sector preifat. Christopher Franks (Canol De Cymru): Sut y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gwario derbyniadau a geir drwy werthu tir ar lan y d.r yn y Barri? (WAQ50138) Brian Gibbons: Cyfeiriwch at yr ymatebion i WAQ50135 a WAQ50136. Christopher Franks (Canol De Cymru): Pa sylwadau a wnaed gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch sut y caiff derbyniadau o werthu tir ar lan y d.r yn y Barri eu gwario? (WAQ50139) Brian Gibbons: Cyfeiriwch at yr ymatebion i WAQ50135, WAQ50136 a WAQ50137. Christopher Franks (Canol De Cymru): Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi ei rhoi i ddarparu cyllid i Fwrdd Partneriaeth Adfywio’r Barri dros gyfnod hwy na blwyddyn? (WAQ50143) Brian Gibbons: Mae’r Barri wedi cael ei nodi’n ‘anheddiad allweddol’ yn y drafft newydd o Gynllun Gofodol Cymru sy’n cael ei baratoi ar hyn o bryd. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y flaenraglen adfywio a baratowyd gan Adran yr Economi a Thrafnidiaeth ar ôl ymgynghori â phartneriaid adfywio. Y bwriad yw cydweithio drwy ddulliau sefydledig, gan gynnwys Bwrdd Partneriaeth Adfywio’r Barri, i gyd-drafod a chytuno ar y blaenoriaethau adfywio yn y dyfodol i’r Barri dros y 3 i 5 mlynedd nesaf. Drwy bennu amcanion clir a realistig a fydd yn arwain at ganlyniadau ystyrlon, y nod yw troi’r blaenoriaethau hyn yn gynllun gweithredu/busnes ar y cyd i’r ardal. Bydd hyn yn helpu i nodi’r adnoddau ffisegol ac ariannol y bydd eu hangen, ynghyd â chyfraniadau y bydd yn rhaid i bob un o’r partneriaid (cyhoeddus, preifat a gwirfoddol) eu gwneud i gyflawni amcanion y cynllun. Christopher Franks (Canol De Cymru): Pa gyllid y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i ddarparu i Fwrdd Partneriaeth Adfywio’r Barri bob blwyddyn er 2003? (WAQ50144) Brian Gibbons: Cyfeiriwch hefyd at yr ymateb i WAQ50137. Darparwyd yr arian canlynol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i hwyluso’r gwaith o adfywio’r Barri dros y cyfnod rhwng 2003 a 2007; Cronfa Adfywio Ffisegol £1.993 miliwn - gan gynnwys arian datblygu ar gyfer Ardal Fasnachol y Barri ac arian gweithredu ar gyfer clirio a gwella amgylchedd yr hwn Wersyll Gwyliau a gwaith gwella tir y cyhoedd a rheoli traffig yn Stryd Thompson/Heol Holton. Rhanbarth De-ddwyrain Adran yr Economi a Thrafnidiaeth tua £4.25 miliwn - gan gynnwys buddsoddiad mewn adfer tir, gwella’r amgylchedd, caffael eiddo a mentrau gwella ac adfywio trefol megis gwaith ailddatblygu cynhwysfawr ar hen adeilad Gradd 2 Neuadd y Dref a’r Llyfrgell a’r ardal o’u hamgylch a’r Ganolfan Sgiliau Entrepreneuriaeth/Busnes.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am leoedd ysgol gwag mewn ysgolion yng Nghaerdydd? (WAQ50150) Y Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg (Carwyn Jones): Carwyn Jones: Nododd y Cynllun Addysg Sengl a gyhoeddwyd yng Nghyngor Sir Caerdydd yn 2006 fod tua 4,500 o leoedd gwag i gyd mewn ysgolion cynradd, a bod 4,200 o leoedd gwag mewn ysgolion uwchradd. Disgwylir i Gyngor Sir Caerdydd gyhoeddi gwybodaeth ddiwygiedig yn dangos niferoedd ar y gofrestr ochr yn ochr â lleoedd mewn ysgolion erbyn 31 Gorffennaf 2007. Dyletswydd yr Awdurdod Addysg Lleol yw cynllunio darpariaeth ysgolion gan ystyried effeithlonrwydd a gwybodaeth leol.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ailgyflunio gwasanaethau ysbytai yng Nghymru? (WAQ50158) Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ariannu a rheoli’r GIG yng Nghymru? (WAQ50159) Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i ddatblygu a gwella gwasanaethau iechyd Cymru? (WAQ50160) Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i sicrhau mynediad teg a chyfartal i ofal iechyd? (WAQ50161) Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i sicrhau gwell profiad i gleifion? (WAQ50162) Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gefnogi gofal cymdeithasol? (WAQ50163) Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Parhaf i gydweithio ag arweinwyr cyrff y GIG, darparwyr gwasanaethau cymdeithasol, sefydliadau staff a phart?on eraill â diddordeb yng Nghymru i sicrhau consensws blaengar y gellir gwella profiad cleifion a chleientiaid a sicrhau mynediad at wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn ei erbyn. Mae’r Llywodraeth eisoes wedi dangos ein bwriad i gyflwyno Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG, gan ddefnyddio pwerau Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Nodwyd ein safle ar ail-gyflunio gwasanaethau yn fy ateb i WAQ50030 ar 14 Mehefin. Irene James (Islwyn): A all y Gweinidog ddarparu amserlen ar gyfer adeiladau’r ysbyty Redwood newydd ym Mwrdeistref Caerffili? (WAQ50164) Edwina Hart: Mae partneriaid ym Mwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymgysylltu’n llawn â’r broses o ddatblygu Canolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig ym mhen gogleddol y Fwrdeistref Sirol. Mae’r gwaith o gytuno ar fodelau o ofal rhwng asiantaethau wedi dechrau ac mae’r grwp llywio yn ystyried y camau y mae angen eu cymryd i ddatblygu’r achos busnes. Ystyrir y ganolfan adnoddau yn alluogwr allweddol ar gyfer y modelau gofal a fydd yn gweithredu yn Ysbyty newydd Caerffili a byddant wedi’u rhoi ar waith felly cyn i’r Ysbyty newydd agor.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad, fesul awdurdod lleol, o’r ’828 miliwn a ddarparwyd i awdurdodau lleol yn y gogledd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer 2007/8? (WAQ50126) Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Mae’r tabl isod yn dangos yr arian ar gyfer awdurdodau yn y Gogledd drwy setliad ariannol llywodraeth leol sef cyfanswm o £827.2 miliwn. Nid yw’r ffigurau hyn yn cynnwys grantiau penodol Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Atebion a roddwyd i Aelodau ar 3 Gorffennaf 2007

Awdurdod

Cyfanswm (£ miliwn)

Cynnydd % dros 2006-07

Ynys Môn

88.9

3.1

Conwy

137.1

4.0

Sir Ddinbych

125.4

4.7

Sir y Fflint

170.7

4.2

Gwynedd

159.1

3.7

Wrecsam

146.0

4.1

Cyfanswm

827.2

4.0

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad i weithwyr cefnogi plant mewn llochesau cymorth i fenywod? (WAQ50166) Andrew Davies: Fel rhan o’r broses barhaus o gyflawni Strategaeth Cam-drin yn y Cartref Llywodraeth Cynulliad Cymru, rhoddwyd £249,490 i Gymorth i Fenywod yng Nghymru ar gyfer 2007-08 ymlaen er mwyn sicrhau swydd cydgysylltydd gweithwyr plant a 7 swydd gweithiwr plant rhanbarthol.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig

Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch pryd y cymeradwyir ceisiadau a wnaed yn ystod 2007 i drosi i Ffermio Organig dan y Cynllun Datblygu Gwledig? (WAQ50123) Y Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig (Jane Davidson): Gobeithiaf wneud cyhoeddiad ar y Cynllun Ffermio Organig yn fuan. Christopher Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru’r holl ohebiaeth a chyfarfodydd a gafodd hi neu ei rhagflaenydd ynghylch safle niwclear Oldbury er 2003? (WAQ50140) Jane Davidson: Ar 23 Mehefin, cafodd fy rhagflaenydd, Carwyn Jones fel y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad wybodaeth gan swyddogion yngl.n ? gorsafoedd ynni niwclear Magnox, gan gynnwys Oldbury. Ar 30 Mai 2007, cafodd y Prif Weinidog e-bost gan swyddogion yn Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei hysbysu am ddigwyddiad anniwclear yn safle Oldbury. Derbyniwyd yr e-bost ar adeg pan oedd y Prif Weinidog yn gyfrifol am bortffolio yr Amgylchedd. Christopher Franks (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cynnal ynghylch safle niwclear Oldbury? (WAQ50141) Jane Davidson: Ni chefais unryw drafodaethau am safle niwclear Oldbury. Christopher Franks (Canol De Cymru): Faint o arian a roddodd adran y Gweinidog a/neu Lywodraeth Cynulliad Cymru o’r neilltu i ddelio ag unrhyw gostau sy’n ymwneud ag unrhyw waith adferol angenrheidiol yn chwarel Bro Feisgyn ar gyfer pob blwyddyn ariannol er 2000? (WAQ50142) Jane Davidson: Cyfrifoldeb perchennog/deiliad unrhyw dir halogedig yw cyflawni’r gwaith adferol. Mae Bro Feisgyn yn "safle arbennig" ac mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi ymgymryd â’r cyfrifoldeb i nodi "personau priodol" h.y. y rhai sydd yn atebol i gyflawni’r gwaith adfer. Mae’r Asiantaeth yn cymryd camau parhaus i nodi personau priodol.  Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi darparu arian drwy’r Rhaglen Prosiectau Cyfalaf Tir Halogedig.  Dyrannwyd yr arian hwn i Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Awdurdod Lleol ar gyfer cynnal gwaith ymchwiliol ym Mro Feisgyn. Mae arian hyd yn hyn yn cynnwys: 2005-06 - £274,334 (Asiantaeth) 2006-07 - £108.850 (Asiantaeth) 2007-08 - £172,350 (Rhondda Cynon Taf) Yn ogystal â’r cymorth cyfalaf sydd ar gael o dan y Gronfa Gyfalaf Tir Halogedig, rhoddwyd £2 filiwn y flwyddyn yn llinell sylfaen y Grant Cynnal Refeniw o 2000-01 i helpu awdurdodau lleol i ddiwallu eu hanghenion gwariant refeniw o dan Ran 2A. Christopher Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r amserlen sylfaenol ar gyfer ymgynghori ar Gynlluniau Gweithredu Ansawdd Aer a’u gweithredu ar ?l i awdurdod lleol ganfod unrhyw lefelau llygredd aer sy’n uwch na’r lefelau statudol dan y rheoliadau Ansawdd Aer? (WAQ50146) Jane Davidson: Nid yw Deddf yr Amgylchedd 1995 yn nodi unrhyw amserlen ar gyfer paratoi cynllun gweithredu. Fodd bynnag mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn disgwyl iddynt gael eu cwblhau rhwng 12 - 18 mis ar ôl i unrhyw Feysydd Rheoli Ansawdd Aer gael eu dynodi. Mae’r cyfnod ymgynghori yn rhan annatod o’r broses o gael adborth ar gynlluniau’r Awdurdodau Lleol.