03/09/2009 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 03 Medi 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 03 Medi 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Gofyn i’r Prif Weinidog

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod holl adroddiadau, datganiadau i’r wasg a strategaethau’r Llywodraeth yn cael eu hysgrifennu mewn iaith glir a dealladwy? (WAQ54727)

Rhoddwyd ateb ar 2 Medi 2009

Mae Cyfarwyddiaeth Gyfathrebu Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gysylltiedig â Rhwydwaith Cyfathrebu Llywodraeth y DU ar sail broffesiynol, ac mae'n hollol ymrwymedig i hyrwyddo'r safonau uchaf posibl o ran darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau cyhoeddus a pholisïau llywodraeth sy'n effeithio ar fywyd dyddiol pobl. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad i greu proses gyfathrebu glir a hygyrch, sy'n hyrwyddo'r defnydd o Saesneg clir ac yn sicrhau ansawdd a chysondeb.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnig nifer o gyrsiau hyfforddi i'w staff i wella eu sgiliau ysgrifennu ac yn llunio briffiau ac adroddiadau clir.

Mae Cyfarwyddiaeth Ystadegol Llywodraeth y Cynulliad wedi ennill tair gwobr genedlaethol am Saesneg clir gan yr Ymgyrch Saesneg Clir (yn 2003, yn 2004 ac yn 2006), ac mae wrthi'n datblygu cwrs undydd ar Saesneg clir.

Mae gan Lywodraeth y Cynulliad ganllaw arddull ar-lein sy'n nodi y dylai holl gynnwys y we fod yn glir ac yn gryno. Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn defnyddio safonau a gydnabyddir yn fyd-eang o ran mynediad i wefannau, sydd â gofynion penodol o ran cynnwys hygyrch. Bydd pob awdur ar y we yn cael hyfforddiant ar y safonau hyn cyn eu bod yn cael cyhoeddi cynnwys ar y wefan. Hefyd, mae gan Lywodraeth y Cynulliad broses sicrhau ansawdd ar waith lle caiff cynnwys y we ei fesur yn erbyn safonau cynnwys a hygyrchedd.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi dadansoddiad, fesul adran, o sawl cais Rhyddid Gwybodaeth a wrthodwyd, yn llawn neu yn rhannol, ar gyfer pob blwyddyn er 2000, gan roi’r rheswm dros bob un? (WAQ54729)

Rhoddwyd ateb ar 3 Medi 2009

Daeth Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 i rym ar 1 Ionawr 2005. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi adroddiadau ar ei gwefan ar roi deddfwriaeth a pholisïau llywodraeth agored ar waith ar gyfer pob blwyddyn o 2005 i 2008. Nid yw adroddiadau 2005, 2006 a 2007 yn cynnwys gwybodaeth gyfun am gategorïau y gofynnwyd amdanynt ac y'u cwblhawyd nac am y defnydd o eithriadau cyfreithiol i'r gofyniad i ryddhau gwybodaeth am nad oedd gwybodaeth ar gael. Fodd bynnag, cyhoeddir ymatebion i geisiadau am wybodaeth ar ein Log Datgelu a, lle bo gwybodaeth wedi cael ei heithrio rhag cael ei datgelu, cynigir eglurhad llawn. Mae gwybodaeth gyfun am gategorïau y gofynnwyd amdanynt ac y'u cwblhawyd a gwybodaeth am y defnydd o eithriadau cyfreithiol ar gael ar gyfer 2008 yn dilyn y broses o ddatblygu ein system fonitro fewnol. Darperir hyn ar gyfer Llywodraeth y Cynulliad gyfan yn yr adroddiad ar gyfer 2008 ac fe'i cynhwysir yn y tablau canlynol ar gyfer pob un o adrannau Llywodraeth y Cynulliad fel roeddent yn bodoli yn 2008.

Tabl 1: Nifer y ceisiadau a dderbyniwyd gan adrannau Llywodraeth y Cynulliad yn ystod 2008 y gellir eu rhoi yn y categorïau a gwblhawyd:

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 03 Medi 2009
 

Categori a Gwblhawyd

             

Adran

Darparwyd yr holl Wybodaeth

Darparwyd peth Gwybodaeth

Ni ddarparwyd unrhyw Wybodaeth

Ni Chedwir unrhyw Wybodaeth

Tynnwyd yn ôl

Aed y tu hwnt i'r Terfyn Priodol

Trallodus

Ail-adrodd

Datblygu Busnes

0

0

0

0

0

0

0

0

Materion Cyfansoddiadol, Cydraddoldeb a Chyfathrebu

11

1

1

1

0

0

0

0

Gwybodaeth a Gwasanaethau Corfforaethol

13

2

1

8

4

0

0

0

Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

20

7

1

7

7

0

0

0

Yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

35

2

7

9

6

6

0

1

Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

49

3

0

9

5

1

0

0

Iechyd y Cyhoedd a'r Proffesiynau Iechyd

6

0

0

1

2

0

0

0

Gwasanaethau Cyhoeddus a Pherfformiad

13

2

1

6

3

0

0

0

Yr Adran Materion Gwledig a Threftadaeth

45

19

8

16

5

3

0

0

Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

17

3

0

4

1

0

0

0

Economi a Thrafnidiaeth

99

16

5

18

14

5

0

1

Adran y Prif Weinidog

11

1

0

1

1

0

0

0

Cyllid

9

2

1

0

0

0

0

0

Adnoddau Dynol

33

13

0

5

5

0

0

0

Yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol

0

0

1

0

1

0

0

0

Swyddfa'r Ysgrifennydd Parhaol

0

0

0

0

0

0

0

0

Tabl 2: Y defnydd o esemptiadau/eithriadau i'r gofyniad i adrannau Llywodraeth y Cynulliad ryddhau gwybodaeth yn ystod 2008

2a: Eithriadau a ddefnyddiwyd o dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 03 Medi 2009
 

Eithriad

           

Adran

Rheoliad 12(4)(b)

Rheoliad 12(4)(d)

Rheoliad 12(4)(e)

Rheoliad 12(5)(a)

Rheoliad 12(5)(e)

Rheoliad 12(5)(f)

Rheoliad 13

Datblygu Busnes

             

Materion Cyfansoddiadol, Cydraddoldeb a Chyfathrebu

             

Gwybodaeth a Gwasanaethau Corfforaethol

             

Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

             

Yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

1

 

2

 

1

1

2

Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

             

Iechyd y Cyhoedd a'r Proffesiynau Iechyd

             

Gwasanaethau Cyhoeddus a Pherfformiad

             

Yr Adran Materion Gwledig a Threftadaeth

   

1

2

   

6

Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

             

Economi a Thrafnidiaeth

1

2

1

       

Adran y Prif Weinidog

             

Cyllid

 

1

1

   

1

 

Adnoddau Dynol

             

Yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol

             

Swyddfa'r Ysgrifennydd Parhaol

             

2b: Esemptiadau a ddefnyddiwyd o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 03 Medi 2009
 

Esemptiad

                         

Adran

A.1(3)

A0.14

A0.21

A0.22

A0.27

A0.28

A0.29

A0.35

A0.36

A0.38

A0.40

A0.41

A0.42

A0.43

Datblygu Busnes

                           

Materion Cyfansoddiadol, Cydraddoldeb a Chyfathrebu

               

1

 

1

 

1

1

Gwybodaeth a Gwasanaethau Corfforaethol

   

1

2

                   

Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

             

1

   

2

 

2

2

Yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

1

 

1

   

1

 

1

       

1

 

Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

           

1

     

2

   

1

Iechyd y Cyhoedd a'r Proffesiynau Iechyd

                           

Gwasanaethau Cyhoeddus a Pherfformiad

                   

3

   

1

Yr Adran Materion Gwledig a Threftadaeth

3

           

1

1

3

12

1

 

4

Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

1

 

1

1

     

1

       

1

 

Economi a Thrafnidiaeth

1

1

1

1

1

         

8

1

2

9

Adran y Prif Weinidog

1

                         

Cyllid

           

2

             

Adnoddau Dynol

1

                 

11

     

Yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol

1

                         

Swyddfa'r Ysgrifennydd Parhaol

                           

2c: Esemptiadau a ddefnyddiwyd o dan y Ddeddf Diogelu Data

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 03 Medi 2009
 

Esemptiad

Adran

Atodlen 7, Paragraff 10

Datblygu Busnes

 

Materion Cyfansoddiadol, Cydraddoldeb a Chyfathrebu

 

Gwybodaeth a Gwasanaethau Corfforaethol

 

Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

1

Yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

 

Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Iechyd y Cyhoedd a'r Proffesiynau Iechyd

 

Gwasanaethau Cyhoeddus a Pherfformiad

 

Yr Adran Materion Gwledig a Threftadaeth

 

Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

 

Economi a Thrafnidiaeth

 

Adran y Prif Weinidog

 

Cyllid

 

Adnoddau Dynol

1

Yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol

 

Swyddfa'r Ysgrifennydd Parhaol

 

Arall

 

Nodiadau:

Yr esemptiadau/eithriadau a restrir yw'r rheini a ddefnyddiwyd gan adrannau Llywodraeth y Cynulliad yn ystod 2008. Ni ddefnyddiwyd esemptiadau/eithriadau nas rhestrwyd. Ceir disgrifiad o'r mater y mae pob esemptiad/eithriad yn berthnasol iddo yn Atodiad A o God Ymarfer Llywodraeth y Cynulliad ar Fynediad at Wybodaeth, y gellir ei weld yn www.wales.gov.uk/publications/accessinfo/code/?lang=cy

Gan y byddai mwy nag un esemptiad/eithriad wedi cael ei ddefnyddio mewn perthynas â rhai ceisiadau unigol, nid yw'r cyfanswm yn nodi'r nifer o geisiadau y defnyddiwyd esemptiad/eithriad ar eu cyfer.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi dadansoddiad, fesul adran, o faint sydd wedi cael ei wario ar wasanaethau gyrwyr gan ddefnyddio ceir Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer pob blwyddyn er 2000? (WAQ54730)

Rhoddwyd ateb ar 7 Medi 2009

Mae fy Adran [Adran y Prif Weinidog] yn gyfrifol am geir Llywodraeth Cynulliad Cymru a ddefnyddir yn bennaf gan Weinidogion y Cabinet, y Cwnsler Cyffredinol, Dirprwy Weinidogion a'r Ysgrifennydd Parhaol ar gyfer teithiau swyddogol.  Dim ond o flwyddyn ariannol 2004/05 y mae gwybodaeth gyflawn am gostau cyflog ar gael ac fe'i dangosir yn y tabl isod. Ni chedwir ffigurau ar gyfer portffolios Gweinidogion unigol.

Bu'n rhaid gwneud newid i adnoddau yn rhan olaf 2007/08 ac yn 2008/09 er mwyn bodloni'r nifer ychwanegol o Weinidogion a'r cyfrifoldebau a ddygwyd ymlaen o dan ddarpariaethau a wnaed yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006.

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 03 Medi 2009

Blwyddyn Ariannol

Cyfanswm Costau Cyflog (£)

2008/09

216,461

2007/08

144,190

2006/07

123,647

2005/06

120,064

2004/05

111,693

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi dadansoddiad, fesul adran, o faint o filltiroedd y mae ceir Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi eu teithio ar gyfer pob blwyddyn er 2000? (WAQ54731)

Rhoddwyd ateb ar 3 Medi 2009

Mae fy Adran [Adran y Prif Weinidog] yn gyfrifol am geir Llywodraeth Cynulliad Cymru a ddefnyddir yn bennaf gan Weinidogion y Cabinet, y Cwnsler Cyffredinol, Dirprwy Weinidogion a'r Ysgrifennydd Parhaol ar gyfer teithiau swyddogol. Mae gwybodaeth lawn am filltiroedd ond ar gael o 2005, a chaiff ei dangos yn y tabl isod. Ni chedwir ffigurau ar gyfer portffolios Gweinidogion unigol.

Bu'n rhaid gwneud newid i adnoddau yn rhan olaf 2007/08 ac yn 2008/09 er mwyn bodloni'r nifer ychwanegol o Weinidogion a'r cyfrifoldebau a ddygwyd ymlaen o dan ddarpariaethau a wnaed yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006.

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 03 Medi 2009

Blwyddyn Galendr

Cyfanswm y Milltiroedd

2009

130,403*

2008

214,376

2007

127,866

2006

136,345

2005

132,286

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi dadansoddiad, fesul adran, o faint sydd wedi cael ei wario ar dacsis ar gyfer pob blwyddyn er 2000? (WAQ54732)

Rhoddwyd ateb ar 30 Medi 2009

Ni chaiff gwybodaeth ynglŷn â gwariant ar dacsis ei dal na'i coladu gan systemau rheoli gwybodaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac felly nid yw'r wybodaeth ar gael.

Gofyn i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog roi manylion cyfanswm nifer yr achlysuron pan gafodd teithwyr eu gadael ar ôl oherwydd bod y trenau’n llawn ar reilffordd Cwm Rhymni ar gyfer pob un o’r 12 mis diwethaf? (WAQ54738)

Rhoddwyd ateb ar 4 Medi 2009

Nid yw'r wybodaeth hon ar gael yn y fformat rydych wedi gofyn amdano. Mae fy swyddogion yn cael y wybodaeth gan Trenau Arriva Cymru a byddant yn ysgrifennu atoch ar wahân

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y myfyrwyr sy’n gweithio yn ei adran; y cylch gorchwyl sy’n berthnasol i’w penodiad; y tâl a gânt; a pha mor hir y bydd penodiad myfyriwr yn para ar gyfartaledd? (WAQ54740)

Rhoddwyd ateb ar 4 Medi 2009

O 28 Awst 2009 mae gan Adran yr Economi a Thrafnidiaeth bum lleoliad gwaith i israddedigion (gan gynnwys un Gymrodoriaeth Windsor).  Ar gyfartaledd, gwneir penodiad am ddeugain wythnos.  Mae'r cyfan ar delerau ac amodau Llywodraeth Cynulliad Cymru ac fe'u cyflogir ar waelod y Band Tîm, sef cyflog o £17,000 y flwyddyn ar hyn o bryd.

Mae cynlluniau lleoliad gwaith eraill ar gael nas cyfyngir i israddedigion/myfyrwyr.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Faint o staff yn adran y Gweinidog sydd ar "absenoldeb garddio”? (WAQ54742)

Rhoddwyd ateb ar 4 Medi 2009

Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi 'absenoldeb garddio'.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Faint o weithwyr yr hen Awdurdod Datblygu Cymru sydd yn dal ar gontractau dros dro gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru? (WAQ54743)

Rhoddwyd ateb ar 4 Medi 2009

Dim.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiffyg pensiwn Awdurdod Datblygu Cymru a sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu cydbwyso taliadau? (WAQ54744)

Rhoddwyd ateb ar 4 Medi 2009

Mae diffyg pensiwn yr hen WDA, a drosglwyddwyd i Lywodraeth y Cynulliad ym mis Ebrill 2006, ar hyn o bryd yn cael ei unioni gan daliadau blynyddol ychwanegol cam wrth gam yn ogystal â chyfraniadau arferol y cyflogwr.  Bydd sefyllfa'r diffyg sy'n berthnasol i gyn-aelodau cynllun Awdurdod Datblygu Cymru yn destun adolygiad pellach y tro nesaf y caiff Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf yn 2010, a ddaw i rym yn 2011 pan fydd sefyllfa'r diffyg a adolygwyd yn hysbys.  Rydym yn parhau i adolygu'r sefyllfa ac yn gwneud darpariaeth briodol i gwrdd â'r rhwymedigaeth barhaus.

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi gwybod pa dystiolaeth wyddonol benodol sydd ar gael, ac eithrio rhagfynegiadau damcaniaethol, y bydd datblygu trydan a gynhyrchir gan wynt yng Nghymru yn lleihau ein hôl troed carbon? (WAQ54722)

Rhoddwyd ateb ar 2 Medi 2009

Mae sawl adroddiad gwyddonol a luniwyd gan gyrff amrywiol wedi adolygu'r arbedion mewn allyriadau carbon ar ffermydd gwynt; er enghraifft:

• "Guidelines for the Measurement and Reporting of Emissions”, DEFRA 2005

• "The Costs and Impacts of Intermittency: An assessment of the evidence on the costs and impacts of intermittent generation on the British electricity network”, Canolfan Ymchwil Ynni y DU 2006

Ceir ffigur o 430/kWh a dderbynnir yn gyffredinol fel y lefel o allyriadau carbon deuocsid a arbedir gan ynni gwynt. Hwn yw'r lefel gyfartalog o garbon deuocsid a ollyngir gan drydan a gynhyrchir yn y DU, ac mae'r ffigur yn deillio o adroddiad 2005 DEFRA a grybwyllir uchod.

Mae adroddiad 2004 Cyngor Ynni y Byd, "Comparison of Energy Systems Using Life Cycle Assessment", yn cymharu'r allyriadau carbon ar bob cam o ddatblygu dulliau cynhyrchu amrywiol a'u rhoi ar waith. Dangoswyd bod ynni gwynt, dros gyfnod ei fywyd, gan gynnwys gwaith adeiladu, yn cynhyrchu 6.9-14.5 gram o allyriadau sy'n cyfateb i CO2 fesul cilowat yr awr o drydan a gynhyrchir. Wrth gymharu hyn â'r ffigur 430/kWh a ddangoswyd o'r blaen ar gyfer cyfartaledd y trydan grid, gellir gweld bod ynni gwynt yn arbed llawer iawn o allyriadau carbon.

Peter Black (Gorllewin De Cymru): A fydd y Gweinidog yn rhoi copi o’r 'Canllawiau Cost Derbyniol’ ar gyfer Tai Fforddiadwy yn Llyfrgell yr Aelodau? (WAQ54726)

Rhoddwyd ateb ar 4 Medi 2009

Rhoddir copi o'r "Canllaw Costau Derbyniol/Ar Gostau i'w defnyddio gyda Thai a Ariennir gan Grant Tai Cymdeithasol Cymru" (Hydref 2007) yn Llyfrgell yr Aelodau.  Caiff rhifynnau diwygiedig o'r ddogfen hon yn y dyfodol hefyd eu gosod yn Llyfrgell yr Aelodau pan gânt eu cyhoeddi.

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y myfyrwyr sy’n gweithio yn ei adran; y cylch gorchwyl sy’n berthnasol i’w penodiad, y tâl a gânt; a pha mor hir y bydd penodiad myfyriwr yn para ar gyfartaledd? (WAQ54741)

Rhoddwyd ateb ar 30 Medi 2009

Ar 28ain Awst 2009 mae gan yr adran Gyllid a Gwasanaethau Cyhoeddus 3 lleoliad gwaith i is-raddedigion. Ar gyfartaledd, mae penodiad yn para am hanner can wythnos. Maent oll ar delerau ac amodau Llywodraeth Cynulliad Cymru ac fe'u cyflogir ar waelod y Band Tîm, sef cyflog o £17,000 y flwyddyn ar hyn o bryd.

Mae cynlluniau lleoliad gwaith eraill ar gael nas cyfyngir i israddedigion/myfyrwyr.

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa ymgyrchoedd y mae Adran y Gweinidog wedi’u cynnal i godi ymwybyddiaeth o ganser y fron mewn dynion yn ystod y ddwy flynedd diwethaf? (WAQ54719)

Rhoddwyd ateb ar 2 Medi 2009

Ni chynhaliwyd unrhyw ymgyrchoedd yn benodol i godi ymwybyddiaeth o ganser y fron mewn dynion. Fodd bynnag, drwy ymgyrch Her Iechyd Cymru syn' mynd rhagddi, darparwyd cyngor ar yr hyn y gall pobl ei wneud i leihau eu risg o ddatblygu canser y fron. Mae'r cyngor ar gael ar ffurf taflen wybodaeth (Canser: lleihau'r risg) ac ar wefan Her Iechyd Cymru o dan yr adran 'Amodau' yn www.new.wales.gov.uk/hcwsubsite/healthchallenge/?lang=cy.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Faint o gyn-filwyr y lluoedd arfog sydd wedi cael gofal blaenoriaeth y GIG yng Nghymru ym mhob un o'r 10 mlynedd diwethaf? (WAQ54721)

Rhoddwyd ateb ar 2 Medi 2009

Ni chaiff y wybodaeth hon ei chasglu'n ganolog. Caiff y wybodaeth ei chasglu drwy roi diagnosis clinigol ac nid trwy feini prawf eraill.

Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw welliannau a welwyd yn y nifer sy’n cael y brechlyn MMR yng Nghymru, ar ôl lansio ymgyrch "defnyddio” ddiweddar Llywodraeth Cynulliad Cymru? (WAQ54724)

Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog roi datganiad manwl, gan ddyfynnu ffigurau pan fydd hynny’n bosibl, am effaith lawn ymgyrch Llywodraeth Cynulliad Cymru i wella’r nifer sy’n defnyddio’r brechlyn MMR yng Nghymru? (WAQ54725)

Rhoddwyd ateb ar 2 Medi 2009

Mae'r ystadegau diweddaraf am gyfraddau imiwneiddio rhwng mis Ebrill a mis Mehefin yn dangos tuedd gadarnhaol o ran cyfraddau derbyn y brechlyn MMR.  

Mae'r nifer sy'n derbyn y brechlyn MMR cyn cyrraedd 2 oed yn parhau i gynyddu a bellach mae'r ffigur yn 90.5% - y gyfran uchaf ers 1997. Rhagorwyd ar y targed o 95% gan ddau BILl, gyda phymtheg dros 90%.

Cynyddodd y nifer sy'n derbyn yr ail frechlyn MMR cyn cyrraedd 5 oed i 84.7%.

Nododd y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol (GICC) bod bron i 6,500 o rieni yng Nghymru wedi trefnu brechiadau dal i fyny i'w plant ers mis Ebrill 2009, pan gadarnhawyd achosion o frech goch gan yr GICC ledled Cymru.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wneud i ddiwallu ei hymrwymiad Cymru’n Un i ddileu defnyddio ysbytai’r sector preifat yn y GIG erbyn 2011? (WAQ54733)

Rhoddwyd ateb ar 2 Medi 2009

Fe'ch cyfeiriaf at fy atebion i WAQ54656, 54657, 54658 a 54659 a gyflwynwyd i Jonathan Morgan a atebwyd gennyf ar 12 Awst 2009. Atodaf gopi fel y gallwch gyfeirio ato.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o gyllid y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'i wario ar ofal lliniarol yng Nghymru ym mhob blwyddyn er 2003? (WAQ54734)

Rhoddwyd ateb ar 3 Medi 2009

Yn 2003, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y byddai'n rhyddhau £20 miliwn i gefnogi gwasanaethau a chyfleusterau hosbis. Dyrannwyd yr arian hwn i nifer o brosiectau mewn hosbisau ledled Cymru rhwng 2003-04 a 2006-07. Yn 2007-08 darparwyd cyfanswm o £2 filiwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer costau gwasanaeth mewn hosbisau, a bydd y broses o ddarparu'r arian hwn yn un rheolaidd. Yn 2008-09 darparwyd £1 filiwn arall i gefnogi gofal lliniarol fel rhan o'n hymrwymiad maniffesto Cymru'n Un, a chafodd y swm hwn ei gynyddu i £2m yn 2009-10.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn monitro ei chynnydd at gyflawni glanweithdra gwell mewn ysbytai? (WAQ54735)

Rhoddwyd ateb ar 2 Medi 2009

Rwyf wedi cyhoeddi pecyn o fesurau i wella'r sefyllfa a rhoi mwy o bŵer i nyrsys ar wardiau ysbytai i ddelio â glendid ar y wardiau ac i reoli heintiau. Mae’r rhain yn cynnwys:

• adfywio safonau cenedlaethol cyfredol o ran glendid mewn ysbytai

• sicrhau bod prif nyrsys ward a thimau rheoli heintiau yn gallu cael gafael ar dimau glanhau ymateb cyflym ymhob un o Ymddiriedolaethau'r GIG

• gofynion hyfedredd newydd llym ar gyfer glanhawyr ac amser wedi'i neilltuo ar gyfer glanhau

• glanhawyr ward penodol a gweithiwr yn cynnal y ward sy'n atebol i brif nyrs y ward ymhob ward

• gwisgoedd nyrs newydd gyda chyfleusterau golchi dillad a chyfleusterau newid dillad gwell i staff, a sicrhau bod digon o wisgoedd gan Ymddiriedolaethau fel y gall staff eu newid yn gyson.

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cynnal gwiriadau dirybudd i wirio glendid mewn ysbytai i sicrhau y cedwir at safonau.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog wedi’u cymryd i wella mynediad i ffonau a setiau teledu ar gyfer cleifion ysbytai? (WAQ54736)

Rhoddwyd ateb ar 3 Medi 2009

Mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ymrwymiad yn y ddogfen 'Cymru'n Un' i 'ddiwygio taliadau i gleifion' sy'n defnyddio ffonau a setiau teledu pan fyddant yn yr ysbyty. Mae swyddogion wedi ceisio barn nyrsys a chleifion ar y defnydd o ffonau a ffonau tâl/setiau teledu wrth ochr y gwely ac rwy'n disgwyl adroddiad yn fuan.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru’r adolygiadau a gafodd gan Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro yn ystod y 12 mis diwethaf ac egluro a yw canfyddiadau pob un bellach ar gael i’r cyhoedd? (WAQ54737)

Rhoddwyd ateb ar 2 Medi 2009

Rwyf wedi derbyn adolygiad o Wasanaethau Orthopedig a gafodd ei gyhoeddi, ac mae ar gael ar wefan Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro.

Gofyn i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Faint o ffermwyr (a) llaeth, (b) âr, (c) eidion a (d) defaid sydd ym mhob ardal Awdurdod Unedol yng Nghymru? (WAQ54718)

Rhoddwyd ateb ar 7 Medi 2009

Mae amaeth yn brin mewn sawl un o Awdurdodau Unedol Cymru (ee Cymoedd De Cymru). O'r herwydd adroddir ar ystadegau amaethyddol ar lefel ranbarthol. O gofio hyn, mae tabl 7.1 o gyhoeddiad blynyddol Ystadegau Amaethyddol Cymru yn darparu dadansoddiad o nifer y daliadau yng Nghymru yn ôl rhanbarth a math o fferm. Rhoddir dolen i'r tabl hwn isod:

Ystadegau Amaethyddol Cymru 2008 Pennod 7

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Faint o ffermwyr llaeth oedd yng Nghymru ym mhob un o’r tair blynedd diwethaf a (a) faint a ymunodd â’r sector a (b) faint a adawodd y sector ym mhob blwyddyn? (WAQ54720)

Rhoddwyd ateb ar 7 Medi 2009

Mae Arolwg Amaethyddol blynyddol mis Mehefin yn adrodd ar y nifer o brif ffermwyr, eu gwŷr neu wragedd a phartneriaid a chyfarwyddwyr busnes eraill fel grŵp cyfun. Fe'u rhennir yn rhan amser ac yn llawn amser. Mae niferoedd yr unigolion hyn ar ddaliadau a ddosberthir fel daliadau godro yn ystod y tair blynedd diwethaf fel a ganlyn:

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae’n bwriadu eu cymryd sy’n gwahardd protestiadau yn erbyn y cynnig i ddifa moch daear? (WAQ54728)

Rhoddwyd ateb ar 7 Medi 2009

Nid oes unrhyw fwriad i wahardd protestiadau cyhoeddus cyfreithlon; fodd bynnag, nodwch fod nifer o droseddau wedi'u cynnwys yn yr ymgynghoriad diweddar ar Orchymyn Dileu Twbercwlosis (Cymru) 2009 o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981.

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pa drefniadau sydd ar waith i gefnogi ffermwyr y daw eu cytundebau Tir Gofal i ben cyn dechrau’r cynllun Glastir? (WAQ54739)

Rhoddwyd ateb ar 7 Medi 2009

Gwnaeth fy Natganiad Ysgrifenedig ar 14 Gorffennaf 2009 roi manylion am drefniadau trosiannol Glastir o fewn Echel 2 o'r Cynllun Datblygu Gwledig 2007-13 ar gyfer deiliad cytundebau Tir Gofal.   Gallaf gadarnhau y cynigir estyniad o'u taliadau rheoli blynyddol i ddeiliaid cytundebau cyfredol yn Nhir Cynnal a Thir Gofal tan ddiwedd 2013.  

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Faint a pha gyfran o (a) dynion a (b) menywod a gafodd ddiagnosis eu bod yn ddibynnol ar alcohol ac o’r rheini a gafodd ddiagnosis eu bod yn ddibynnol ar alcohol faint a oedd dan 18 oed ac yn (a) dynion a (b) menywod yng Nghymru ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf? (WAQ54717)

Rhoddwyd ateb ar 30 Medi 2009

Nid yw'r ffigurau ar gyfer y bobl sy'n ddibynnol ar alcohol ar gael. Fodd bynnag, mae'r ffigurau ar gyfer y cleifion sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty am eu bod, yn ôl y diagnosis sylfaenol, yn ddibynnol ar alcohol, wedi eu nodi isod:

Pawb a dderbyniwyd i'r ysbyty oherwydd anhwylderau meddyliol ac ymddygiadol oherwydd defnydd o alcohol (1)

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 03 Medi 2009
 

O dan 18 oed

18 oed a hŷn

Pob oedran

         
 

Benyw

Gwryw

Cyfanswm

Benyw

Gwryw

Cyfanswm

Benywaidd

Gwryw

2004/05

7

4

11

259

532

791

266

536

2005/06 (2)

5

6

11

289

620

909

295

626

2006/07

19

16

35

338

621

959

357

637

2007/08

11

7

18

280

544

824

291

551

2008/09

7

8

15

245

478

723

252

486

(1) prif god diagnosis naill ai F10.1 Defnydd niweidiol neu F10.2. Syndrom dibyniaeth

(2) gan gynnwys un fenyw nad yw ei hoedran yn hysbys yn 2005/06

Mae'r ffigurau ar gyfer nifer y bobl a atgyfeiriwyd at ddarparwyr triniaeth ar gyfer camddefnyddio sylweddau oherwydd camddefnydd o alcohol ar y cyd â chamddefnydd o gyffuriau ac fel sylwedd unigol ar gyfer 2007-08 wedi eu nodi yn Nhabl 1 yn yr Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau y gellir cael ei gafael arno a'i ddarllen drwy'r ddolen isod:

http://wales.gov.uk/docs/dsjlg/publications/commsafety/081215smframework0708.pdf

Bydd yr Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau ar gyfer 2008-2009 yn cael ei gyhoeddi yn ystod Hydref 2009.

Gall y cyhoeddiad ar y Proffil ar Alcohol ac Iechyd fod yn ddefnyddiol hefyd - gallwch gael gafael arno a'i ddarllen drwy'r ddolen atodedig:

http://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=568&pid=36782

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth ariannol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer grwpiau gwirfoddol bach dan y fenter Llawr Gwlad? (WAQ54723)

Rhoddwyd ateb ar 7 Medi 2009

Ym mis Hydref 2007 lansiwyd cynllun grant Llawr Gwlad Peilot. Lluniwyd y gronfa i feithrin gallu mewn grwpiau gwirfoddol a chymunedol bach. Dosbarthwyd £100,000 rhwng y 22 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol a fu'n cynnal y cynllun peilot ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Yn dilyn y cynllun peilot cynhaliwyd gwerthusiad o'r cynllun. Am nad oedd y cynllun peilot yn llwyddiannus iawn, penderfynwyd peidio â datblygu'r cynllun ymhellach.