04/11/2009 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 4 Tachwedd 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 4 Tachwedd 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

David Melding (Canol De Cymru): Pa ganran o ddisgyblion sy’n cael cinio ysgol am ddim gafodd 5 neu fwy TGAU gradd C neu uwch yn y flwyddyn diwethaf y mae ffigurau ar gael ar ei chyfer. (WAQ55069)

Rhoddwyd ateb ar 09 Tachwedd 2009

Yn 2008, cafodd 28 y cant o ddisgyblion 15 oed sy'n gymwys i gael cinio ysgol am ddim 5 TGAU neu fwy ar radd C neu'n uwch neu gymhwyster cyfatebol.

Ceir rhagor o ddata am berfformiad yng Nghyfnod Allweddol 4 yn ôl hawl i gael cinio ysgol am ddim yn Nhabl 8 o fwletin ystadegol 'Cyflawniad Academaidd a'r Hawl i Brydau Ysgol am Ddim':

http://wales.gov.uk/topics/statistics/headlines/schools2009/hdw200903191/?skip=1&lang=cy

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa gamau mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i leihau allyriadau carbon o eiddo prifysgolion. (WAQ55071)

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa asesiad mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wneud o ddatganiad Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr y dylai prifysgolion geisio lleihau allyriadau 50% erbyn 2020 o’i gymharu â lefelau 1990 a 100% erbyn 2050. (WAQ55072)

Rhoddwyd ateb ar 10 Tachwedd 2009

Dros y pedair blynedd diwethaf, mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) wedi gweithredu dull sydd wedi'i gynllunio a'i gynnal i gefnogi defnydd llai o ynni a dŵr, ac felly leihau carbon, o fewn sector Addysg Uwch (AU) yng Nghymru fel rhan o'i ffocws cynyddol ar gynaliadwyedd. Mae'r dull hwn yn cynnwys darparu cefnogaeth a chymorth ar lefel weithredol yn ogystal â cheisio sicrhau bod meini prawf yr amgylchedd yn dod yn elfen bwysig a pharhaus o'r broses cynllunio strategol. Mae'r prif gamau gweithredu a gyflawnwyd gan CCAUC hyd yma yn cynnwys:

• Dyrannu £4 miliwn o Gyfalaf Ymgeisio yn Uwch ym mis Mawrth 2007 er mwyn galluogi i bob Sefydliad Addysg Uwch (SAU) yng Nghymru ddatblygu system fanwl o fesuriadau ynni a dŵr manwl sy'n caniatáu i ddefnydd ynni a dŵr gael ei gofnodi fesul pob adeilad bob hanner awr. Roedd yr arian hwn yn cynnwys gwasanaeth biwrô ynni yn rhoi cymorth technegol a oedd yn monitro ac yn cynghori SAUau ar y data a gynhyrchwyd a'u perfformiad cyffredinol.

• Datblygu a darparu llawlyfr manwl o arfer da ar reoli ynni.

• Ffurfio partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Garbon yng Nghymru i roi cyngor technegol, cymorth ac arian ychwanegol i SAUau i wella'r broses o reoli ynni a lleihau allyriadau carbon. Mae hyn wedi cynnwys:

• Darparu archwiliadau ynni.

• Adroddiad ar ddefnydd gyriannau cyflymder amrywiol.

• Cyngor unigol ar ddefnydd ac uwchraddio Systemau Rheoli Adeiladau.

• Darparu cymorth technegol a chyfleoedd am ddatblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer rheolwyr ynni a staff ystadau.

• Cymorth ariannol ar gyfer astudiaethau dichonoldeb.

• Darparu cyngor ar y broses ddylunio ar gyfer SAUau sy'n ystyried codi adeiladau newydd.

• Mae pum SAU yng Nghymru wedi cymryd rhan yn y Rhaglen Rheoli Carbon Addysg Uwch.

• Yn 2008, cyflwynodd CCAUC gylchlythyr (W08/07HE) a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i bob SAU ddatblygu systemau rheoli amgylcheddol a ddilysir yn allanol o fewn tair blynedd, yn cwmpasu pob un o'r prif effeithiau amgylcheddol gan gynnwys allyriadau C02. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau fonitro, cofnodi a phennau targedau ar gyfer gwelliannau o ran allyriadau C02. Caiff cynnydd ar y gofyniad hwn ei fonitro drwy broses gynllunio strategol CCAUC a thrwy drafodaeth barhaus â'r Sector AU.

• Mae CCAUC wedi bod yn monitro allyriadau carbon drwy'r Ystadegau Rheoli Ystadau ers 2005/06. Mae'r dull hwn hefyd yn galluogi SAUau i ystyried a meincnodi perfformiad C02 yn erbyn SAUau eraill drwy'r DU.

Hoffech wybod hefyd fod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi sefydlu Cronfa Ynni Gwario i Gynilo drwy Salix Finance yn ddiweddar sydd wedi sicrhau bod £4 miliwn ar gael i gefnogi sefydliadau'r sector cyhoeddus sydd am roi mesurau ar waith i wella perfformiad carbon.  Mae CCAUC wedi ysgrifennu at bob un o'r Is-gangellorion mewn SAUau yng Nghymru yn tynnu eu sylw at yr arian hwn ac yn eu hannog i ddefnyddio'r adnodd hwn i roi rhagor o fesurau gwella ynni ar waith.

O ran datganiad Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (CCAULl) ar leihau allyriadau, mae CCAUC wedi bod yn arsylwr ar Grŵp Cynaliadwyedd Prifysgolion y DU/CCAULl ac wedi cael mynediad i'r gwaith ymchwil a gynhelir i gefnogi cynnig CCAULl.   

Ar hyn o bryd mae CCAUC yn asesu pa gamau ychwanegol y bydd eu hangen i alluogi'r sector AU yng Nghymru leihau allyriadau carbon o hyd. Yn benodol, mae CCAUC yn ystyried a oes angen datblygu'r gofyniad presennol ar gyfer SAUau ymhellach i ddatblygu systemau rheoli amgylcheddol  er mwyn sicrhau y caiff mentrau a chynnydd o ran lleihau C02 eu cofnodi'n gyson yn Lloegr a'r Alban, a bod y broses o wneud adroddiadau yn gyson ag unrhyw ofynion a all godi o Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd i ddod. Caiff y mater o sefydlu targed C02  gorfodol sydd yn uwch nag unrhyw darged presennol gwirfoddol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru neu'r DU ei ystyried fel rhan o ddatblygu'r polisi hwn.

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa gamau yr ydych yn eu cynnig i gydnabod rôl Parciau Cartrefi Gwyliau wrth ddiwallu anghenion tai yng Nghymru, pan fo trigolion yn byw yn eu cartref symudol statig fel eu prif breswylfa a’r effaith y caiff hyn ar ddarpariaeth gwasanaethau lleol. (WAQ55070)

Rhoddwyd ateb ar 09 Tachwedd 2009

Y Dirprwy Weinidog dros Dai (Jocelyn Davies): Nid yw llety o'r fath yn cyfateb i dai parhaol ac ni ddylid ystyried ei fod yn cyfrannu at ddiwallu anghenion tai yn ystyr arferol y term hwnnw.

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa fesurau mae’r Gweinidog wedi’u cymryd i sicrhau y caiff gwasanaethau awyru eu darparu yn fwy systematig ledled Cymru. (WAQ55060)

Rhoddwyd ateb ar 09 Tachwedd 2009

Mae ein Cyfarwyddebau o ran Cyflyrau Anadlol Cronig yn ei gwneud yn ofynnol i BILlau ddarparu gwasanaethau anadlu priodol i wasanaethu eu cymunedau lleol mewn ysbytai a chartrefi. Ymgymerwyd ag archwiliad o'r cynnydd a wnaed yn erbyn y Cyfarwyddebau yn ddiweddar gan yr Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd (NLIAH). Byddaf yn trafod canlyniadau'r archwiliad hwn yn fuan ag aelodau Cynghrair Anadlol Cymru i sicrhau bod gwasanaethau anadlu yn cael eu darparu'n briodol ledled Cymru.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru unrhyw gynlluniau teilyngdod sydd ar waith yng Nghymru ar gyfer gweithwyr y GIG. (WAQ55061)

Rhoddwyd ateb ar 09 Tachwedd 2009

Mae'r Cynllun Gwobrwyo Rhagoriaeth Glinigol Cenedlaethol ar gyfer Cymru a Lloegr yn rhan o delerau ac amodau gwasanaeth meddygon ymgynghorol.  Mae ar waith ers 1948.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o gyllid mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wario'n benodol ar ofal a) Clefyd Niwronau Motor a b) clefyd Parkinson yng Nghymru ym mhob blwyddyn er 2003. (WAQ55062)

Rhoddwyd ateb ar 09 Tachwedd 2009

Nid yw'r wybodaeth hon ar gael yn ganolog.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau sydd wedi’u cymryd i sicrhau bod gofal lliniarol yn gwella ar gyfer cleifion gyda chyflwr niwrolegol. (WAQ55063)

Rhoddwyd ateb ar 09 Tachwedd 2009

Er mwyn gwella gofal lliniarol a diwedd oes i bob claf y mae ei angen arno, gan gynnwys y rhai â chyflyrau niwrolegol, rydym wedi cynyddu ein cyllid rheolaidd canolog i £4 miliwn yn 2009/10.

Mae'r Bwrdd Gweithredu Gofal Lliniarol, a gadeirir gan y Farwnes Ilora Finlay, wedi nodi blaenoriaethau allweddol i ddatblygu gwasanaethau gofal lliniarol a diwedd oes sy'n diwallu anghenion cleifion. O'r £4m, cyfeirir £2.1m at hosbisau ledled Cymru i gefnogi eu gofal clinigol a arweinir gan feddygon ymgynghorol. Mae ein dull gweithredu yn defnyddio arian cyhoeddus yn effeithlon ac yn gosteffeithiol ac mae anghenion cleifion wrth ei wraidd.

Ysgrifennais at Aelodau'r Cynulliad ar 16 Hydref i egluro fy mod wedi cael adroddiadau gan Grwpiau Cynllunio Gweithredu Niwrowyddoniaeth Gogledd Cymru a Chanolbarth a De Cymru a chan nodi'r broses i'w gweithredu. Mae'r ddau adroddiad yn gwneud argymhellion sy'n ymwneud â gwasanaethau gofal lliniarol i gleifion â chyflyrau niwrolegol.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth yw’r amser aros presennol i oedolion sy’n gleifion niwrolegol rhwng cael y diagnosis cyntaf gan Feddyg Teulu ac yna gan ymgynghorydd. (WAQ55064)

Rhoddwyd ateb ar 09 Tachwedd 2009

Mae holl sefydliadau'r GIG yng Nghymru bellach yn gweithio tuag at gyflawni cyfanswm amser aros o 26 wythnos o atgyfeiriad gofal sylfaenol i ddechrau triniaeth erbyn diwedd mis Rhagfyr 2009.  

Gellir darllen y ffigurau diweddaraf yn y ddolen ganlynol:

http://www.statscymru.cymru.gov.uk/ReportFolders/reportfolders.aspx

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A yw staff gofal lliniarol dan hyfforddiant yn mynychu clinigau er mwyn cael hyfforddiant ar gyflyrau niwrolegol penodol. (WAQ55065)

Rhoddwyd ateb ar 09 Tachwedd 2009

Mae'r holl hyfforddeion gofal lliniarol yn cylchdroi lleoliadau lle byddant yn dod i gysylltiad â chleifion â chyflyrau niwrolegol sydd ag anghenion gofal lliniarol arbenigol.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pryd fydd y Gweinidog yn gwneud datganiad am y cyllid sydd ar gael ar gyfer Gwasanaethau Niwrolegol i Oedolion yn y flwyddyn ariannol nesaf. (WAQ55066)

Rhoddwyd ateb ar 10 Tachwedd 2009

Mae arian ar gyfer Gwasanaethau Niwrolegol Oedolion yng Nghymru yn rhan o'r dyraniadau cyllideb blynyddol a wneir i Fyrddau Iechyd Lleol, a hwy sy'n gyfrifol am flaenoriaethu, ariannu a rheoli gwasanaethau iechyd i bobl yn eu hardal. Bydd angen i Fyrddau Iechyd Lleol ystyried adroddiadau diweddar grŵp cynllunio gweithredu niwrowyddoniaeth oedolion wrth iddynt nodi eu cynlluniau ar gyfer hyn yn eu Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles blynyddol.

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

David Melding (Canol De Cymru): Pa werthusiad mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wneud o ran rhaglen addysg y Ganolfan Camfanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP) yng Nghymru. (WAQ55067)

Rhoddwyd ateb ar 09 Tachwedd 2009

Mae CEOP yn un o asiantaethau gweithredol y Swyddfa Gartref ac ariannwyd rhaglen addysgol y Ganolfan, a gynhaliwyd ledled y DU, ar y cyd gan y Swyddfa Gartref a'r Undeb Ewropeaidd.

Mae CEOP wedi rhoi gwybod y disgwylir cyhoeddi adolygiad gan Swyddfa Archwilio Genedlaethol y DU yn fuan, er nad oes dyddiad wedi'i bennu. Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymgymryd â gwerthusiad o'r rhaglen addysgol Camfanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP).

David Melding (Canol De Cymru): A oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru unrhyw fwriad i gomisiynu gwasanaethau i godi ymwybyddiaeth rhieni a gwarcheidwaid ynghylch perygl cam-drin plant ar-lein. (WAQ55068)

Rhoddwyd ateb ar 09 Tachwedd 2009

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn aelod o Gyngor y DU ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd ac mae'n gweithio gyda'r Cyngor ar ei gynigion ar gyfer ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus i'r DU gyfan a Siop Un Stop sy'n rhoi cyngor a gwybodaeth e-ddiogelwch i rieni, plant a'r rhai sy'n gweithio gyda phlant.  Rydym hefyd yn datblygu adnoddau gwrth-fwlio ac e-ddiogelwch ar gyfer ysgolion yng Nghymru i'w defnyddio gyda rhieni a gofalwyr.