Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 26 Chwefror 2013 i’w hateb ar 5 Mawrth 2013
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Eluned Parrott (Canol De Cymru): Yn y chwe mis diwethaf, sawl elusen / cynrychiolydd elusen y mae’r Gweinidog wedi cwrdd â hwy i drafod Rhyddhad Ardrethi Busnes ar gyfer siopau elusen. (WAQ62357)
Eluned Parrott (Canol De Cymru): Wrth edrych ymlaen at gyhoeddi adroddiad yr Athro Brian Morgan ar ryddhad ardrethi i siopau elusen, sawl elusen / cynrychiolydd elusen y mae’r Gweinidog yn bwriadu cwrdd â hwy i drafod canfyddiadau’r adroddiad. (WAQ62358)
Eluned Parrott (Canol De Cymru): Yn dilyn ateb y Gweinidog i WAQ61551, a aeth Llywodraeth Cymru ar Daith Fasnach i Seattle ym mis Chwefror 2012 ac, os felly, beth a gyflawnwyd ac, os na, pam y canslwyd y daith. (WAQ62366)
Eluned Parrott (Canol De Cymru): Faint sydd wedi’i wario ar hyrwyddo Cymru yn (a) yr Almaen, (b) Sbaen, ac (c) y Swistir ers 1 Medi 2012 hyd at nawr. (WAQ62367)
Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr o’r cyfarfodydd y mae wedi’u cynnal gyda Llywodraeth y DU yn ystod mis Rhagfyr 2012, mis Ionawr 2013, a mis Chwefror 2013, gan roi crynodeb o’r hyn a drafodwyd ac â phwy ym mhob cyfarfod. (WAQ62368)
Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r cyfarfodydd y tu allan i Gymru y mae wedi bod yn bresennol ynddynt yn ystod mis Rhagfyr 2012, mis Ionawr 2013 a mis Chwefror 2013, ac amlinellu pwy arall oedd yn bresennol. (WAQ62369)
Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r cyfarfodydd ag arweinwyr busnes y mae wedi bod yn bresennol ynddynt yn ystod mis Rhagfyr 2012, mis Ionawr 2013 a mis Chwefror 2013. (WAQ62370)
Eluned Parrott (Canol De Cymru): A oes gan Lywodraeth Cymru ddiffiniad pendant o Ardal Fenter, ac os felly, beth ydyw. (WAQ62371)
Eluned Parrott (Canol De Cymru): A oes gan Lywodraeth Cymru ddiffiniad pendant o Ddinas-ranbarth, ac os felly, beth ydyw. (WAQ62372)
Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu nifer yr ymweliadau â http://www.wales.com/business a gofnodwyd ym mhob mis rhwng 1 Ionawr 2011 a 28 Chwefror 2012. (WAQ62373)
Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu nifer yr ymweliadau â http://www.visitwales.co.uk/ a gofnodwyd ym mhob mis rhwng 1 Ionawr 2011 a 28 Chwefror 2012. (WAQ62374)
Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i farchnata Cymru yn Llundain yn ystod 2013. (WAQ62375)
Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i farchnata Cymru i gwmnïau cynhyrchu ffilmiau a theledu o safbwynt ffilmio yn yr awyr agored. (WAQ62376)
Eluned Parrott (Canol De Cymru): A oes gan y Gweinidog amcangyfrif o sawl troedfedd sgwâr o ofod swyddfa Gradd A y mae’n disgwyl i Ardal Fenter Caerdydd ei chreu. (WAQ62377)
Eluned Parrott (Canol De Cymru): Yn dilyn y datganiadau ar 28 Tachwedd 2012 a 22 Ionawr 2013, a’r ateb i WAQ61725, a wnaiff y Gweinidog amlinellu pa drafodaethau / cynlluniau / cynigion sydd wedi cael eu llunio, neu sydd yn cael eu llunio, a chan bwy, yng nghyswllt system drafnidiaeth Metro newydd rhwng Dinas a Bae Caerdydd. (WAQ62378)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A yw Awdurdod Addysg Lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi gwneud cais am gyllid arbennig i ddiogelu swyddi staff. (WAQ62354)
Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog a) nodi sawl menyw sydd wedi gadael swyddi rheoli yn y tri chorff amgylcheddol ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei bwriad i greu Cyfoeth Naturiol Cymru, a b) sawl un o’r menywod hyn y gofynnir iddynt ailymgeisio am eu swyddi yn y corff newydd. (WAQ62355)
Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o oblygiadau gofynion iaith Gymraeg ar gyflogi menywod yn Llywodraeth Cymru, ac mewn cyrff a weinyddir gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru. (WAQ62356)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau sawl bwrdd iechyd y mae’n disgwyl fydd yn cyflawni ei rwymedigaethau ariannol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol bresennol. (WAQ62359)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi’i rhoi i lunio strategaeth iechyd i ddynion. (WAQ62360)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog roi manylion unrhyw dargedau ac amserlenni cyflawni ar gyfer gostwng cyfraddau gordewdra mewn (a) oedolion a (b) plant. (WAQ62361)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y bleidlais o ddiffyg hyder gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. (WAQ62362)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau sawl cyfarfod y mae hi a / neu ei swyddogion wedi’u cael gyda Chymdeithas Feddygol Prydain (Cymru), y Coleg Nyrsio Brenhinol a’r Coleg Brenhinol y Bydwragedd ynghylch dyfodol gwasanaethau newyddenedigol lefel tri ar gyfer Gogledd Cymru. (WAQ62363)
Gofyn i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr o’r cyfarfodydd y mae wedi’u cynnal gyda chynrychiolwyr o’r sector trafnidiaeth yn ystod mis Rhagfyr 2012, mis Ionawr 2013, a mis Chwefror 2013, gan roi crynodeb o’r hyn a drafodwyd ac â phwy ym mhob cyfarfod. (WAQ62364)
Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr o’r cyfarfodydd y mae wedi’u cynnal gyda Llywodraeth y DU yn ystod mis Rhagfyr 2012, mis Ionawr 2013, a mis Chwefror 2013, gan roi crynodeb o’r hyn a drafodwyd ac â phwy ym mhob cyfarfod. (WAQ62365)