Atebion a roddwyd i Aelodau ar 5 Rhagfyr 2007
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau faint o weision sifil yn Llywodraeth y Cynulliad sydd ar absenoldeb arbennig ar hyn o bryd wrth iddynt aros i gael eu hadleoli, a faint y mae hyn yn ei gostio i Lywodraeth y Cynulliad? A allwch ddarparu’r wybodaeth hon: a) ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei chyfanrwydd; a b) fesul pob adran weinidogol? (WAQ50757)
Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Ar draws Llywodraeth Cynulliad Cymru mae dau unigolyn ar hyn o bryd a fu ar gyfnod byr o absenoldeb arbennig tan yr wythnos hon wrth ddisgwyl i gael eu hadleoli. Yr oedd un ar secondiad, a ddaeth i ben yn gynt na'r disgwyl a bu'n rhaid i ni weithio gyda'r unigolyn i ddod o hyd i benodiad amgen addas ar fyr rybudd. Yn wreiddiol fe'i cyflogwyd yn yr Adran Economi a Thrafnidiaeth a bellach fe'i lleolir mewn rôl newydd yn yr adran honno y bydd yn dechrau arni ar 3 Rhagfyr. Roedd y gost i Lywodraeth y Cynulliad yn gyfystyr â dau fis o gyflog. Bu'r ail aelod o staff ar absenoldeb arbennig am bythefnos ar y gost leiaf posibl, gan ei fod yn cael ei gyflogi am 15 awr yr wythnos. Daeth ei leoliad yn yr Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i ben ac er ein bod yn gwneud pob ymdrech i leoli pobl cyn gynted ag y daw secondiadau i ben, roedd amgylchiadau arbennig yn yr achosion hyn.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fanylion y prosiect peilot ar gyfer y prosiect Blas am Oes? (WAQ50736)
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): O fis Medi 2008 byddwn yn gweithredu prosiect ymchwil gweithredu dwy flynedd i ddatblygu a phrofi'r canllawiau ar gyfer gweithredu'r safonau bwyd a maeth arfaethedig yn y cynllun gweithredu Blas am Oes, ac yn dysgu gwersi o'r prosiect hwn i lywio defnydd ehangach ohono ar draws yr holl ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
Bydd y prosiect yn mabwysiadu ymagwedd astudiaeth achos ar ddwy lefel—ysgol ac awdurdod lleol—i ddysgu gwersi er mwyn defnyddio'r canllawiau yn ehangach. Bydd yr ymchwil hefyd yn ceisio gwneud asesiad o'r costau sy'n gysylltiedig â gweithredu'r safonau bwyd a maeth a geir yn Blas am Oes. Bydd yr ymagwedd hon yn rhoi syniad mwy realistig i ni o'r materion sy'n wynebu ysgolion ac awdurdodau lleol wrth gyflwyno newid.
Mae Teresa Filipponi, ein cydlynydd Blas am Oes, eisoes wedi dechrau gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i gefnogi'r dasg o roi'r fenter hon ar waith mewn modd ymarferol. Er mwyn hwyluso'r gwaith hwn, sefydlodd bedwar grŵp rhanbarthol, er mwyn ei gwneud yn haws i ddosbarthu gwybodaeth am y gwaith da sy'n cael ei gynnal ar draws awdurdodau eisoes. Y bwriad yw bod un awdurdod lleol o bob un o'r pedwar grŵp rhanbarthol hyn yn cymryd rhan yn y prosiect ymchwil gweithredu. Bydd hyn yn helpu awdurdodau addysg lleol i ddysgu a rhannu gwybodaeth a ddaw o'r prosiect yn barhaus. Mae'r dull ymchwil gweithredu a gynigir yn cynnwys proses gylchol ddeinamig o adolygu, cynllunio a monitro. Bwriedir cynnal gweithdai rhanddeiliaid hefyd drwy gyfnod y prosiect i hwyluso dysgu a rhannu gwybodaeth wrth iddi godi, y tu hwnt i'r awdurdodau/ysgolion hynny sy'n cymryd rhan yn y prosiect, yn hytrach nag aros am ddyddiadau adrodd interim. Caiff yr adroddiad interim ei ddosbarthu fel y bo'n briodol yn ôl natur yr adroddiad ei hun. Disgwylir y bydd yr hyn a gaiff ei ddysgu o'r broses ymchwil gweithredu yn cael ei rannu eisoes ar draws y grwpiau a grybwyllwyd uchod. Bydd gan gydlynwyr ysgolion iach ran hanfodol i'w chwarae yn cefnogi ysgolion wrth ddefnyddio'r wybodaeth hon yn y ffordd orau.
Ar hyn o bryd mae swyddogion yn datblygu manyleb fanwl ar gyfer y prosiect a fydd ar gael ar ddechrau'r flwyddyn nesaf. Caiff y contractwr llwyddiannus wedyn ei gyhoeddi yn dilyn ymarfer tendro cystadleuol.
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i hybu disgyblaeth mewn ysgolion? (WAQ50737)
Jane Hutt: Mae gennym athrawon rhagorol yng Nghymru sy'n ymrwymedig i'r dasg hanfodol o annog ein pobl ifanc i ddysgu. Fodd bynnag, mae'r dasg hon yn fwy heriol oherwydd y lleiafrif bach o ddisgyblion sy'n amharu ar wersi yn rheolaidd. Yr wyf yn ymrwymedig i gefnogi ein hathrawon wrth hyrwyddo ymddygiad da mewn ysgolion.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ganllawiau i ysgolion ac awdurdodau addysg lleol ym mis Tachwedd 2006 ar yr angen i ddatblygu ymagwedd ysgol gyfan tuag at hyrwyddo ymddygiad da. Mae canllawiau cynnwys a chynorthwyo disgyblion yn nodi dyletswyddau ysgolion ac awdurdodau lleol ynghyd â chanllawiau ymarferol ar agweddau fel datblygu polisïau ymddygiad yn yr ysgol, cosbi ymddygiad gwael a diarddel disgyblion a'u cadw dan orchymyn.
Byddwn yn ymgynghori ar ganllawiau drafft a'r defnydd o bwerau yn Neddf Addysg ac Arolygiadau 2006 ar ddechrau 2008, gan fwriadu eu gweithredu ym mlwyddyn academaidd 2008-09. Mae'r pwerau yn cwmpasu materion cyffredin ar ymddygiad yn ogystal â materion fel atafaelu eitemau a diffinio cosbau disgyblu.
Mae gan Weinidogion Cymru hefyd bwerau fframwaith yn Neddf Addysg ac Arolygiadau 2006 sy'n caniatáu i ni ddatblygu ein hymagwedd ddeddfwriaethol ein hun yng Nghymru o ran materion fel presenoldeb yn yr ysgol, ymddygiad a disgyblu, gan gynnwys cyfrifoldebau rhieni o ran disgyblion a gaiff eu diarddel a'r ddarpariaeth addysg i ddisgyblion a gaiff eu ddiarddel.
Rhaid selio'r defnydd o'r pwerau fframwaith ar dystiolaeth glir a'u datblygu drwy ymgynghoriad agos. Am y rheswm hwnnw gwnaethom gomisiynau adolygiad pwysig o ymddygiad a phresenoldeb yng Nghymru, a ddechreuodd yn ystod yr hydref 2006.
Mae'r adolygiad yn ystyried arfer da yng Nghymru ar hyn o bryd, ond hefyd y meysydd lle mae angen i ni wella i sicrhau y gall rhai o'n pobl ifanc mwyaf diamddiffyn fanteisio ar y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i oresgyn y rhwystrau i ddysgu y maent yn eu hwynebu.
Mae'r grŵp llywio wedi cynhyrchu adroddiad interim cychwynnol a gyhoeddwyd ar 1 Medi, 2007 a disgwylir i'r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi ar 1 Ebrill 2008.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad o’r holl diroedd amaethyddol sydd ar hyn o bryd ym meddiant corfforaethau datblygu trefol yng Nghymru (e.e. Corfforaeth Datblygu y Drenewydd) a allent gael eu heffeithio gan gynigion dan y Mesur Tai ac Adfywio? (WAQ50733)
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Nid oes corfforaethau datblygu trefol yng Nghymru.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth y Cynulliad yn helpu’r teuluoedd hynny y mae clefyd Hurler yn effeithio arnynt? (WAQ50759)
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Tan yn ddiweddar, yn unig driniaeth a oedd ar gael oedd trawsblaniad mêr esgyrn. Bellach gellir trin yr afiechyd drwy therapi disodli ensymau. Yn ddiweddar cymeradwyodd grŵp strategaeth feddyginiaethau Cymru gyfan y defnydd o gyffur o'r enw Laronidase, ac rwyf wedi pennu arian i Gomisiwn Iechyd Cymru ddatblygu gwasanaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Nick Ramsay (Mynwy): Sut y mae Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio gyda darparwyr iechyd i sicrhau y gall cleifion sydd â chlefyd Hurler gael gafael ar wasanaethau gofal cymunedol? (WAQ50761)
Edwina Hart: Mae haint Hurler yn un o grŵp o gyflyrau prin a etifeddir sy'n arwain at afiechyd gwanychu gydol oes. Yn draddodiadol bu'n gyflwr na ellid ei drin y gellid ond defnyddio mesurau cefnogol ar ei gyfer, ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf fe'i triniwyd gyda therapi disodli ensymau a all wella ansawdd bywyd y dioddefwr yn sylweddol. Er bod y therapi newydd hwn yn cynnig manteision enfawr i ddioddefwr a gafodd ddiagnosis diweddar, mae'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n trin y cyflwr hefyd yn ymwybodol o bwysigrwydd gofal cymunedol hirdymor i'r dioddefwyr presennol ac maent yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn y gwasanaeth cymdeithasol i asesu a darparu anghenion gofal yn y gymuned.
Mike German (Dwyrain De Cymru): Beth yw’r costau a’r cyfrifoldebau a ddosrannwyd i’r prif swyddog nyrsio a’r prif swyddog meddygol yn adran newydd iechyd y cyhoedd a’r proffesiynau iechyd? (WAQ50764)
Edwina Hart: Nid yw cyfrifoldebau'r prif swyddog nyrsio wedi newid. Y prif swyddog meddygol yw pennaeth adran newydd iechyd y cyhoedd a phroffesiynau iechyd ac mae nyrsio wedi ymuno â phroffesiynau iechyd eraill yn yr adran. Cyllideb costau rhedeg dirprwyedig yr adran yw £6.021 miliwn, gyda £570,000 yn cael ei wario ar swyddi nyrsio proffesiynol. Cwmpasir materion fel cefnogaeth ar draws yr adran ac ni ellir eu dadansoddi.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint o ddefnyddwyr cyffuriau dosbarth A cofrestredig sydd ym Mlaenau Ffestiniog? (WAQ50765)
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (Brian Gibbons): Mae cronfa ddata genedlaethol Cymru ar gyfer camddefnyddio sylweddau yn cofnodi gwybodaeth am y bobl hynny sy'n derbyn triniaeth. Mae'n cynnwys dadansoddiad o gyfeiriadau fesul partneriaeth diogelwch cymunedol a fesul problemau a nodir. Gellir dod o hyd i'r ail adroddiad, ar gyfer 2006-07, yn www.wales.gov.uk/substancemisuse.