Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 30 Ionawr 2013 i’w hateb ar 6 Chwefror 2013
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog roi rhestr o bob ymweliad tramor gan Weinidogion yng nghyswllt eu dyletswyddau cabinet ers mis Medi 2012 a phob ymweliad a gynlluniwyd hyd ddiwedd Gorffennaf 2013 a diben pob ymweliad. (WAQ62110)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi manylion yr holl gostau cysylltiedig â’r daith fasnach ddeuddydd i Iwerddon, gan gynnwys teithio, llety a chynhaliaeth. (WAQ62114)
Eluned Parrott (Canol De Cymru): Pa ystyriaeth a roddodd yr Uned Digwyddiadau Mawr i gefnogi cais gan Gymru i gynnal pencampwriaethau beicio’r byd UCI. (WAQ62116)
Eluned Parrott (Canol De Cymru): Pa ystyriaeth a roddodd yr Uned Digwyddiadau Mawr i gefnogi cais gan Gymru i gynnal pencampwriaethau beicio cenedlaethol Prydain - ras ffordd a phrawf amser. (WAQ62117)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi manylion pob taith awyren sydd i’w gwneud gan Weinidogion Cymru yn 2013 ac o ba feysydd awyr y byddant yn hedfan. (WAQ62126)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn atebion y Prif Weinidog i WAQ62036 a WAQ62037 ac ers y tri digwyddiad a nodwyd yn WAQ61155, faint o weithiau y mae’r Prif Weinidog wedi cael cyfarfod â Masnach a Buddsoddi y DU yn ystod y pedwerydd Cynulliad (a) yn adeiladau Llywodraeth Cymru a (b) y tu allan i adeiladau Llywodraeth Cymru ac a all y Prif Weinidog gadarnhau (i) ar ba ddyddiadau a (ii) ym mha leoliadau y cynhaliwyd y cyfarfodydd hyn. (WAQ62129)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau faint o Weinidogion Cymru sy’n defnyddio ceir swyddogol Llywodraeth Cymru i deithio i’r gwaith. (WAQ62130)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi manylion ynghylch faint o gyfarfodydd a gynhaliwyd ym Mhencadlys Llywodraeth Cymru yn Llundain ers iddo gael ei agor yng Ngorffennaf 2012. (WAQ62133)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog nodi pa fusnesau y cynhaliodd gyfarfodydd â hwy yn ystod ei daith fasnach i Weriniaeth Iwerddon heb ddatgelu unrhyw wybodaeth fasnachol sensitif. (WAQ62135)
Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Yn dilyn WAQ61993, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau nifer y cyfarfodydd y mae hi’n bersonol wedi eu cynnal hyd yma yng nghyswllt prosiect Cylchffordd Cymru, dyddiadau’r cyfarfodydd hynny a beth a drafodwyd ynghylch y prosiect. (WAQ62089)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog a) nodi’r meysydd awyr (y DU a rhyngwladol) lle y mae Llywodraeth Cymru yn prynu gofod hysbysebu ar hyn o bryd; a b) rhoi dadansoddiad o’r gost fesul maes awyr a’r math o hysbysebu. (WAQ62115)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu’r farchnad mordeithiau yng Nghymru. (WAQ62118)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi ffigurau, am y pum mlynedd diwethaf, o ran y swm a wariwyd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo Cymru ym mhob un o’r lleoliadau canlynol:
a) Lloegr
b) Yr Alban
c) Gogledd Iwerddon
d) Gweriniaeth Iwerddon (WAQ62119)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a wariwyd unrhyw arian i hyrwyddo Cymru yng ngemau pencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaeredin, Paris a Rhufain. (WAQ62120)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa asesiad a wnaed o botensial Cwpan y Byd Rygbi’r Gynghrair 2013 i dwristiaeth. (WAQ62131)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog nodi faint o gyfarfodydd a gynhaliodd gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones AS, ers dechrau’r Pedwerydd Cynulliad. (WAQ62132)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog nodi faint o gyfarfodydd a gynhaliodd gyda chyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan AS, ers dechrau’r Pedwerydd Cynulliad. (WAQ62134)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd denu myfyrwyr Rhyngwladol i brifysgolion Cymru o ystyried y gostyngiad yn y ceisiadau am Addysg Uwch gan fyfyrwyr o’r wlad hon. (WAQ62109)
Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i fonitro effaith y Grant Amddifadedd Disgyblion mewn ysgolion ar draws Cymru. (WAQ62111)
Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion ynghylch sut y mae’r cyllid ychwanegol drwy’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei wario gan ysgolion i gefnogi disgyblion o gefndiroedd tlotach. (WAQ62112)
Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa arweiniad a gyhoeddodd y Gweinidog i ysgolion yng Nghymru ynghylch defnyddio cyllid drwy’r Grant Amddifadedd Disgyblion. (WAQ62113)
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd ar y treialon AAA sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd mewn saith ardal ar draws de Cymru ac un yng ngogledd Cymru. (WAQ62128)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa asesiad a wnaeth y Gweinidog o’r ffigurau a roddwyd gan UCAS: Cylch Ymgeiswyr 2013 – Diwrnod Cau Ionawr; sy’n dangos mai Cymru yw’r unig wlad a rhanbarth yn y DU sydd wedi profi gostyngiad yn y ceisiadau i sefydliadau Addysg Uwch rhwng 2012 a 2013. (WAQ62121)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Faint o ddyddiau addysgu y mae’r gweinidog yn rhagweld a fydd yn cael eu colli o ganlyniad i athrawon yn mynychu’r Gweithdy TGAU Mathemateg a Saesneg a gynigir gan Education London Ltd. (WAQ62122)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Yn dilyn ei ateb i WAQ61999 a WAQ62000 a wnaiff y Gweinidog gadarnhau pa ddwy ysgol a gyflwynodd gynlluniau gweithredu ond na ddyfarnwyd cymorth ychwanegol o £10,000 iddynt eto; a'r rhesymau am hyn. (WAQ62123)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Yn dilyn ei ateb i WAQ61999 a WAQ62000, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau'r pedair ysgol na chyflwynodd gynlluniau gweithredu. (WAQ62127)
Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty
Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion unrhyw gyfarfodydd a gafodd gyda grwpiau cydraddoldeb yn y chwe mis diwethaf. (WAQ62090)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion sut y mae Teuluoedd yn Gyntaf yn cysylltu â’r Rhaglen Dechrau’n Deg y Blynyddoedd Cynnar fel y nodwyd yn Teuluoedd yn Gyntaf: Canllawiau’r Rhaglen. (WAQ62091)
Elin Jones (Ceredigion): Faint o lawdriniaethau a ganslwyd oherwydd nad oedd staff meddygol a/neu nyrsio ar gael dros y pum mlynedd diwethaf. (WAQ69092)
Elin Jones (Ceredigion): Faint o gwynion am ansawdd gofal mewn ysbytai a dderbyniodd pob bwrdd iechyd am bob un o’r pum mlynedd diwethaf; a faint o’r cwynion hyn a gadarnhawyd. (WAQ69093)
Elin Jones (Ceredigion): Beth fu cyfradd salwch staff ym mhob BILl am y pum mlynedd diwethaf. (WAQ69094)
Elin Jones (Ceredigion): Faint o swyddi nyrsio a fu i bob band ym mhob BILl am bob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ69095)
Elin Jones (Ceredigion): Faint o ‘archwiliadau Urddas a Gofal Hanfodol’ a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC); a (i) faint o’r archwiliadau hyn a gododd bryderon ynghylch lefelau staffio diogel; a (ii) faint o’r archwiliadau hyn a ddatgelodd bryderon ynghylch ansawdd gofal cleifion. (WAQ69096)
Elin Jones (Ceredigion): Faint o archwiliadau a gynhaliodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) bob blwyddyn dros y pum mlynedd diwethaf; a (i) faint o’r archwiliadau hyn a gododd bryderon ynghylch lefelau staffio diogel; a (ii) faint o’r archwiliadau hyn a ddatgelodd bryderon ynghylch ansawdd gofal cleifion. (WAQ69097)
Elin Jones (Ceredigion): Pa arweiniad a gyhoeddwyd i fyrddau iechyd ynghylch lefelau staffio diogel mewn ysbytai. (WAQ69098)
Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa asesiad a wnaeth Llywodraeth Cymru i edrych ar effaith lleol ‘treth llofftydd’ ym mhob awdurdod lleol. (WAQ62099)
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa gamau penodol a gymerodd Llywodraeth Cymru i liniaru effaith ‘treth llofftydd'. (WAQ62100)
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa astudiaethau a wnaeth Llywodraeth Cymru i allu’r sector rhentu preifat i gwrdd â’r cynnydd disgwyliedig mewn galw a fydd yn dilyn y newidiadau i fudd-dal tai. (WAQ62101)
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Faint o gyfarfodydd a gafodd y Gweinidog gyda chynrychiolwyr y sector ariannol (e.e. Cyngor y Benthycwyr Morgeisi) ynghylch cefnogaeth bosibl y gallai Llywodraeth Cymru ei darparu i atal ailfeddiannu tai. (WAQ62102)
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa arweiniad a gyhoeddodd y Gweinidog i’r heddlu ac awdurdodau heddlu ynghylch y cynnydd disgwyliedig mewn digartrefedd a’r effaith bosibl ar y gwasanaethau hyn. (WAQ62103)
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Faint o bobl / cartrefi a gynorthwywyd bob blwyddyn yn ystod cyfnod y Cynllun Achub Morgeisi. (WAQ62104)
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Faint o gyfarfodydd a gafodd y Gweinidog Tai cyfredol gyda swyddogion San Steffan ynghylch newidiadau i fudd-dal tai a digartrefedd. (WAQ62105)
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa arweiniad a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ynghylch (a) cydymffurfio â deddfwriaeth bresennol ar ddigartrefedd; (b) paratoi ar gyfer y cynnydd disgwyliedig mewn ceisiadau digartrefedd wrth i newidiadau Llywodraeth San Steffan i fudd-dal tai ddod i rym. (WAQ62106)
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa gyfanswm o gyllid a dderbyniodd sefydliadau tai a/neu hawliau lles gan Lywodraeth Cymru am bob un o'r pum mlynedd diwethaf. (WAQ62107)
Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl cynghorau lleol o ran creu gwaddol diwylliannol yng Nghymru yn dilyn llwyddiant y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd. (WAQ62108)
Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd y Rhaglen Cefnogi Craffu a sut y mae'n ymwneud â’r cynnydd yng nghyflogau uwch swyddogion cynghorau. (WAQ62124)