06/10/2016 - Cwestiynau ac Atebion Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 30/09/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/10/2016

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 29 Medi 2016 i'w hateb ar 6 Hydref 2016

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

 

 Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi'r cyfanswm a ddyfarnwyd i fusnesau o dan Gynllun Rhyddhad Manwerthu Cymru, fesul awdurdod lleol, ar gyfer blynyddoedd ariannol 2014-15 a 2015-16? (WAQ71091)

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi cyfanswm nifer y busnesau, fesul awdurdod lleol, a gafodd fudd o Gynllun Rhyddhad Manwerthu Cymru ar gyfer blynyddoedd ariannol 2014-15 a 2015-16? (WAQ71092)

Derbyniwyd ateb ar 11 Hydref 2016

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith (Ken Skates): Data on the total grant paid to local authorities and number of premises supported through the Wales Retail Relief Scheme 2014-15 is available online at http://gov.wales/docs/det/publications/160330-business-rates-relief-scheme-data-en.pdf. We will consider whether further data can be made available, including an update to cover the 2015-16 financial year.

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr o Godau Ymarfer ar gyfer lles anifeiliaid a gaiff eu hadolygu ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru a rhoi crynodeb o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried a'r amserlen o dan sylw? (WAQ71078)

Derbyniwyd ateb ar 5 Hydref 2016

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig (Lesley Griffiths): The dog, cat, equine, laying hens and pigs codes are being reviewed, whilst a code of practice for broilers is being developed. The objectives of the review is to quality assure the existing codes of practice and update them where there have been changes in the science and legislation.
It is our intention to finalise these codes by the early autumn of 2017.

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ynghylch unrhyw Godau Ymarfer yn ymwneud â lles anifeiliaid sy'n cael eu hadolygu? (WAQ71084)

Derbyniwyd ateb ar 5 Hydref 2016

Lesley Griffiths:  The Welsh Government, through the Wales Animal Health and Welfare Framework Group, has adopted a partnership approach to undertake the review of welfare codes of practice and are working with key stakeholders.

When all the proposed changes have been received and scrutinised, we will issue a formal consultation to allow for any further views to be received.

 

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei datganiad ar 15 Gorffennaf 2016 ynghylch "Arddangosfeydd Symudol o Anifeiliaid gan gynnwys Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau Teithiol," yn amlinellu pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar y mater penodol hwn a pha waith y mae Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid wedi'i wneud ar y mater hwn? (WAQ71075)

Derbyniwyd ateb ar 11 Hydref 2016

Lesley Griffiths:  I am considering the next steps and will make a statement before the Christmas recess.

 

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi'r rhesymeg dros ehangu'r cylch gwaith anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau i "Arddangosfeydd Symudol o Anifeiliaid"? (WAQ71079)

Derbyniwyd ateb ar 6 Hydref 2016

Lesley Griffiths: There is sufficient evidence to suggest there are a significant number of animals in captivity which are being used at corporate functions, schools, entertainment and other events.  These are animals which are transported from place to place.

It would be wrong not to take the welfare of  these animals, as well as wild animals in circuses, into consideration.

 

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr o unrhyw eithriadau i'r diffiniad o "Arddangosfeydd Symudol o Anifeiliaid"? (WAQ71080)

Derbyniwyd ateb ar 6 Hydref 2016

Lesley Griffiths:  I refer to my answer to WAQ71081.

 

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau sut y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi adroddiad yr Athro Steven Harris ar waith?  (WAQ71076)

Derbyniwyd ateb ar 6 Hydref 2016

Lesley Griffiths: The findings of the independent review will, along with other relevant information, be used in providing the Welsh Government with options to consider for future policy decisions.

 

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth mewn perthynas â defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau ac arddangosfeydd symudol o anifeiliaid? (WAQ71077)

Derbyniwyd ateb ar 11 Hydref 2016

Lesley Griffiths AM: I refer to my answer to WAQ 71075.

 

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr gynhwysfawr o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei gredu yw 'arddangosfa symudol o anifeiliaid'? (WAQ71081)

Derbyniwyd ateb ar 6 Hydref 2016

Lesley Griffiths: No. There are several thousand animals across the UK which might fall into this category and it could be any animals which are captive and being used in engagements outside of their normal behavioral requirements.

 

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo bwyta adar hela yng Nghymru? (WAQ71082)

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddarparu'r ffigurau ar gyfer cyfanswm y cig adar hela a gafodd ei allforio o Gymru bob blwyddyn am y pum mlynedd diwethaf? (WAQ71083)

Derbyniwyd ateb ar 6 Hydref 2016

Lesley Griffiths: The Welsh Government actively supports and promotes the consumption of quality Welsh food and drink. Advice and grant support from the Rural Communities Rural Development Programme 2014-20 are available to farmers and Welsh food and drink companies to develop their businesses to supply domestic and export markets, and to target new opportunities, which can include game.  The Welsh Government's actions are geared towards achieving our ambitious action plan for the food and drink industry with the target to increase industry turnover to £7 billion by 2020.

The Welsh Government does not collect statistical information on the amount of game meat exported from Wales each year.  Game meat is a specialist and developing sector with producers often selling direct to consumers or to local markets.

 

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Faint o ymatebion a gafodd Llywodraeth Cymru i'w hymgynghoriad ar "Wella'r cyfleoedd i gael mynediad i'r awyr agored ar gyfer gweithgareddau hamdden cyfrifol," a daeth i ben ar 2 Hydref 2015? (WAQ71085)

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pa gyngor cyfreithiol a gafodd Llywodraeth Cymru, yn fewnol ac yn allanol, cyn yr ymgynghoriad "Gwella'r cyfleoedd i gael mynediad i'r awyr agored ar gyfer gweithgareddau hamdden cyfrifol"? (WAQ71086)

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A yw'r Gweinidog yn bwriadu deddfu mewn perthynas â "Gwella'r cyfleoedd i gael mynediad i'r awyr agored ar gyfer gweithgareddau hamdden cyfrifol"? (WAQ71087)

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Pa ymgysylltiad cyhoeddus y mae'r Gweinidog wedi'i gael ynghylch ymgynghoriad "Gwella'r cyfleoedd i gael mynediad i'r awyr agored ar gyfer gweithgareddau hamdden cyfrifol"? (WAQ71088)

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu beth yw bwriad Llywodraeth Cymru o ran gwella cyfleoedd i gael mynediad i'r awyr agored ar gyfer gweithgareddau hamdden cyfrifol yn y Pumed Cynulliad? (WAQ71089)

Derbyniwyd ateb ar 6 Hydref 2016

Lesley Griffiths: The Welsh Government received 5796 responses to the public consultation on improving opportunities to access the outdoor for responsible recreation. The summary of responses is available at the following link: https://consultations.gov.wales/consultations/improving-opportunities-access-outdoors-responsible-recreation

Welsh Government Legal Services was consulted on various matters relating to the content of the consultation paper as part of the on-going policy development on access and outdoor recreation. Legal Services also cleared the paper prior to publication.
More work has to be done before any decision is made on whether to amend the legislative framework on access and outdoor recreation. The Welsh Government has commissioned research on the costs associated with existing statutory duties and powers exercised by public bodies in relation to rights of way and wider statutory access to the outdoors.
Public engagement played an important role in the development of the consultation paper and during the consultation period. Officials met regularly with stakeholders and encouraged interest groups to publicise the consultation. A series of seminars were held in 2014 covering all the issues contained in the paper, including public rights of way, wider access to the countryside and access to water. In addition it received good media coverage and the use of social media to promote public interest.
I intend to engage very widely before taking any decisions on potential new measures to improve access.

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi'r cofnod o benderfyniad sy'n amlinellu rhesymeg Llywodraeth Cymru dros beidio â pharhau â Chynllun Rhyddhad Manwerthu Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2016-17? (WAQ71090)

Derbyniwyd ateb ar 10 Hydref 2016

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol(Mark Drakeford): Welsh Ministers introduced a time limited scheme to support businesses in Wales through the Welsh Retail Relief Scheme, enabled by consequential funding from the UK Government. This scheme ended on 31 March 2016.