07/03/2008 - Atebio a roddwyd i Aelodau ar 7 Mawrth 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 7 Mawrth 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Irene James (Islwyn): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i wella Addysg Feithrin? (WAQ51431)

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Ers 2002/03 rydym wedi cefnogi’r ddarpariaeth o addysg feithrin ran-amser am ddim drwy arian grant penodol. O fis Ebrill 2008 mae cyfanswm o £17 miliwn wedi’i gynnwys yn setliad Grant Cymorth Refeniw awdurdodau lleol er mwyn parhau â’r ddarpariaeth hon.  

Ers 2004 rydym wedi treialu cwricwlwm blynyddoedd cynnar newydd yn llwyddiannus—y Cyfnod Sylfaen ar gyfer plant rhwng 3 a 7 oed. Mae hwn yn gwricwlwm datblygiadol, cyfannol sydd wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion unigolion ac sy’n seiliedig ar blant yn dysgu drwy chwarae a chymryd rhan. O fis Medi 2008 bydd y Cyfnod Sylfaen yn statudol i blant rhwng 3 a 5 oed a chaiff ei gyflwyno i blant rhwng 3 a 7 oed erbyn diwedd blwyddyn ysgol 2010/11; mae cyfanswm o £107 miliwn yn cael ei ddarparu i helpu i’w gyflwyno.

Mae cyflwyno cymarebau oedolyn/disgybl—1:8 i blant rhwng 3 a 5 oed ac 1:15 i blant rhwng 5 a 7 oed yn elfen allweddol o’r Cyfnod Sylfaen. Bydd hyn yn galluogi ymarferwyr i weithio mewn grwpiau bach dan do ac yn yr awyr agored a bydd yn gwella’r cyfleoedd dysgu sydd ar gael i’n plant ieuengaf.

Irene James (Islwyn): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i hybu sgiliau TGCh plant ysgol gynradd? (WAQ51432)

Jane Hutt: Mae cwricwlwm cenedlaethol diwygiedig Cymru, a gaiff ei roi ar waith o fis Medi 2008, yn berthnasol iawn i ddatblygu sgiliau TGCh plant oedran ysgol gynradd. Bydd Gorchymyn pwnc y cwricwlwm cenedlaethol diwygiedig ar gyfer technoleg gwybodaeth a chyfathrebu yn ogystal â’r Fframwaith Sgiliau anstatudol ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 3 a 19 oed yng Nghymru yn helpu i ddatblygu sgiliau plant.

Mae’r cwricwlwm diwygiedig yn canolbwyntio ar y dysgwr ac mae’n rhoi mwy o bwyslais ar ddatblygu sgiliau priodol. Mae Rhaglen Astudio TGCh ddiwygiedig Cyfnod Allweddol 2 (plant rhwng 7 ac 11 oed) wedi’i chynllunio i fod yn hyblyg, yn gymhellol ac yn berthnasol i’r unfed ganrif ar hugain, a galluogi ysgolion i gynllunio a chyflwyno cwricwlwm mewn ffyrdd sy’n briodol i ddiwallu anghenion eu dysgwyr. Bydd hyn yn cynnwys dysgwyr yn meddwl drostynt eu hunain, wrth ddysgu’n weithgar ac yn rhyngweithiol, a datblygu eu sgiliau TGCh a’u rhoi ar waith mewn amrywiol gyd-destunau.

Mae’r Fframwaith Sgiliau wedi ei ddatblygu er mwyn darparu canllawiau ar barhad a dilyniant wrth ddatblygu sgiliau meddwl, cyfathrebu, TGCh a rhif dysgwyr rhwng 3 a 19 oed. Bydd yn helpu ysgolion i gynllunio’r broses o ddatblygu’r sgiliau generig hyn y gellir eu trosglwyddo a bydd yn sail i bob pwnc yn y cwricwlwm cenedlaethol diwygiedig.  Nodir y cyfleoedd ar gyfer datblygu sgiliau TGCh drwy’r cwricwlwm yn glir ym mhob Gorchymyn pwnc, fel y gallant gael eu hymgorffori’n llwyr ym mhrofiad dysgu cyfan dysgwyr.