07/03/2008 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 29 Chwefror 2008 i’w hateb ar 07 Mawrth 2008

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ystyried diwygio’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer Lwfansau Cynhaliaeth Addysg i ganiatáu i blant a symudwyd ymlaen un flwyddyn ysgol neu fwy, ond sy’n astudio ar Lefel Addysg Bellach, gael y Lwfans Cynhaliaeth Addysg fel y gwna’r rheini sy’n 16 neu’n hŷn. (WAQ51454)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi copïau o unrhyw ohebiaeth (gan gynnwys negeseuon e-bost) rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch datganoli rheoliadau adeiladu i Gymru. (WAQ51452)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi copïau o unrhyw ohebiaeth (gan gynnwys negeseuon e-bost) rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch datganoli gorsafoedd pŵer sy’n gallu cynhyrchu dros 50 MW i Gymru. (WAQ51453)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf a chynghori ar yr amserlen ar gyfer penderfynu ar ddyfodol Ysbyty Abergele. (WAQ51455)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf a chynghori ar yr amserlen ynghylch yr adolygiad o wasanaethau niwrolawdriniaeth yng Nghymru. (WAQ51456)

Jeff Cuthbert (Caerffili): Yng nghyd-destun deall y diffiniad ar gyfer y dyfodol o’r hyn sydd wedi cael ei alw yn 'wirioneddol leyg’, a wnaiff y Gweinidog nodi (a) pa sylwadau a wnaethpwyd i’r Adran Iechyd, Comisiwn Penodiadau’r GIG yn Lloegr a’r Cyngor Rhagoriaeth Rheoleiddio Gofal Iechyd ynghylch y meini prawf a ddefnyddir yn y dyfodol i benodi cynrychiolwyr o Gymru ar gyrff rheoleiddio proffesiynol ym maes iechyd a’r Cyngor Rhagoriaeth Rheoleiddio Gofal Iechyd; (b) sut y bydd hi’n sicrhau bod gan aelodau lleyg o Gymru ar gyrff rheoleiddio proffesiynol ym maes iechyd a’r Cyngor Rhagoriaeth Rheoleiddio Gofal Iechyd brofiad uniongyrchol o ran grwpiau defnyddwyr iechyd/cleifion a defnyddwyr gwasanaeth; ac (c) a wnaiff ddefnyddio mecanwaith penodiadau GIG Cymru wrth wneud penodiadau o’r fath yn y dyfodol. (WAQ51457)

Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog roi manylion (i) pa adnoddau y mae wedi’u darparu i gefnogi ymgysylltiad y cyhoedd a chleifion mewn rheoleiddio proffesiynol ym maes iechyd yng Nghymru, (ii) a fydd hyn yn ddigon i dorri drwy’r jargon technegol sy’n aml yn gymhleth a galluogi cyfranogwyr o Gymru i gael gwybodaeth a mynegi polisïau sy’n cyd-fynd ag anghenion yng Nghymru a (iii) swyddogaeth cynghorau iechyd cymuned yn y dyfodol yng nghyswllt ymgysylltiad cleifion â rheoleiddio proffesiynol ym maes iechyd yng Nghymru. (WAQ51458)

Jeff Cuthbert (Caerffili): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u gwneud, neu y bydd yn eu gwneud, i lywodraethau eraill y DU, ynghylch sut y gall Senedd y DU ddal i gyfrif y Cyngor Rhagoriaeth Rheoleiddio Gofal Iechyd a’r rheoleiddwyr proffesiynol ym maes iechyd mewn ffordd ystyrlon y tu hwnt i gynhyrchu adroddiadau blynyddol, datganiadau ariannol a chyfarfodydd blynyddol.  Er enghraifft, wrth gytuno ar eu cynlluniau strategol drwy bwyllgorau sefydlog Senedd y DU, Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ochr yn ochr â swyddogaeth cynghori ar gyfer Bwrdd y Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru. (WAQ51459)

Jeff Cuthbert (Caerffili): Ac ystyried datganiad y Papur Gwyn "Trust, Assurance and Safety" y dylai rheoleiddio proffesiynol statudol ganolbwyntio ar ddiogelwch ac ansawdd y gofal a gaiff cleifion yn anad dim arall, pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod pwysau llawn a phriodol yn cael ei roi i sylwadau grwpiau cleifion, y cyhoedd a’u cynrychiolwyr, yng nghyswllt agweddau perthnasol o’r Mesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gorchymyn Gofal Iechyd a Phroffesiynau Cysylltiedig (Diwygiadau Amrywiol) 2008. (WAQ514560)