07/07/2017 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad ac Atebion

Cyhoeddwyd 03/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/07/2017

​Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 30 Mehefin 2017 i'w hateb ar 7 Gorffennaf 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa ymrwymiadau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu gwneud fel rhan o'r Bartneriaeth Llywodraeth Agored? (WAQ73778)W

Derbyniwyd ateb ar 6 Gorffennaf 2017

Prif Wenidog (Carwyn Jones):  Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymrwymiadau yn y diweddariad i Gynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Agored y DU 2016-18 ym mis Rhagfyr 2016. Mae dogfen sy'n nodi'r naw ymrwymiad i'w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru:
http://gov.wales/about/foi/open-government/?skip=1&lang=cy

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog gyhoeddi unrhyw wybodaeth briffio a gafodd gan swyddogion ar Gylchffordd Cymru rhwng 26 Ionawr a 6 Ebrill 2016? (WAQ73756)

Derbyniwyd ateb ar 12 Gorffennaf 2017

Carwyn Jones: We are considering how much of this advice can be released in light of confidentiality obligations, the Data Protection Act and other legal and commercial considerations, and will write to the Assembly member in due course.

 

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pryd y mae'r Llywodraeth yn bwriadu cyhoeddi copïau o ddyddiaduron Gweinidogion yn unol â'r penderfyniad a wnaed ar 23 Ionawr 2017?  (WAQ73779)W

Derbyniwyd ateb ar 6 Gorffennaf 2017

Carwyn Jones: Dywedais yn fy llythyr at holl Aelodau'r Cynulliad ym mis Ionawr y byddai manylion cyfarfodydd y Gweinidogion gyda chyrff allanol a'r digwyddiadau y byddent yn eu mynychu yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru bob chwarter. Cafodd yr wybodaeth ar gyfer Ionawr-Mawrth 2017 ei chyhoeddi ym mis Ebrill. Byddwn yn cyhoeddi'r wybodaeth ar gyfer Ebrill-Mehefin yn ddiweddarach y mis yma.

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A dderbyniodd Llywodraeth Cymru gopi o adroddiad gan Ernst and Young yn ystod 2016, a oedd yn trafod y driniaeth fantolen o warant Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru? (WAQ73757)

Derbyniwyd ateb ar 7 Gorffennaf 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith (​Ken Skates): Yes

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A roddodd Llywodraeth Cymru unrhyw sicrwydd i'r Heads of the Valleys Development Company y byddai Gweinidogion yn cwrdd ag ef pe bai unrhyw bryderon mawr yn dod i'r amlwg fel rhan o'r diwydrwydd dyladwy ar gynnig mis Chwefror 2017? (WAQ73758)

Derbyniwyd ateb ar 7 Gorffennaf 2017

Ken Skates: No, the Company was not given any assurances that Welsh Government Ministers would meet with them.  However, officials met with the Company on a regular basis between October 2016 and June 2017.

 

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A yw TVR, Aston Martin a Jaguar Landrover wedi ymrwymo i gefnogi'r parc technoleg moduro arfaethedig yng Nglynebwy? (WAQ73759)

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pryd y cafodd TVR, Aston Martin a Jaguar Landrover eu hysbysu o'r cynnig am barc technoleg moduro? (WAQ73760)

Derbyniwyd ateb ar 12 Gorffennaf 2017

Ken Skates: We have spoken with TVR, Aston Martin Lagonda and Jaguar Landrover regarding their commitment to Wales in terms of investment and supply chain support in the absence of the circuit. Welsh Government will continue to work with these and other companies to ensure that the technology park meets the needs of business and the local community.

 

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa asesiad o'r farchnad sydd wedi cael ei gynnal fel sail ar gyfer y parc technoleg moduro yng Nglynebwy? (WAQ73761)

Derbyniwyd ateb ar 12 Gorffennaf 2017

Ken Skates: An assessment was undertaken by external consultants that evidenced that there was a need for high grade manufacturing and research and development facilities in the Ebbw Vale Enterprise Zone also, and equally relevant to this Question my Officials have evidence of demand from high tech companies looking for facilities in the area.

 

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pryd y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau ar y parc technoleg moduro arfaethedig yng Nglynebwy? (WAQ73762)

Derbyniwyd ateb ar 12 Gorffennaf 2017

Ken Skates: My ambition is to establish a project board with a view to site preparation commencing this financial year, subject to the usual planning and approval processes.

 

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pryd y cafodd y syniad o barc technoleg moduro ei drafod gyntaf fel dewis amgen i Gylchffordd Cymru? (WAQ73763)

Derbyniwyd ateb ar 12 Gorffennaf 2017

Ken Skates: The external due diligence on the Circuit of Wales project indicated that the majority of the jobs would be created through a technology park development, which was to be delivered at a later stage of the proposal. Cabinet therefore agreed that the technology park development should be supported and brought forward to deliver the associated job creation opportunities more quickly for the people of Ebbw Vale.

 

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal neu wedi comisiynu unrhyw ddadansoddiad cynharach o'r ffigur o 6,000 o swyddi y cyfeiria ato yn ei ddatganiad ar 27 Mehefin; ac a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi unrhyw asesiad o'r fath? (WAQ73764)

Derbyniwyd ateb ar 12 Gorffennaf 2017

Ken Skates: An assessment of the economic impact of the Circuit of Wales project was conducted by Welsh Government as part of the due diligence process associated with the developer’s application for Repayable Business Finance in 2014. The job numbers likely to be created by the project proposal at that time were included in a paper for WIDAB, which referenced the socio-economic report on project produced by the University of South Wales. Papers prepared for WIDAB are commercially confidential and are not published.

 

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa resymau a gaiff eu rhoi gan a) y Swyddfa Ystadegau Gwladol a b) Trysorlys EM am eu hasesiadau bod risg sylweddol y byddai gwarant Llywodraeth Cymru ar gyfer Cylchffordd Cymru ar y fantolen? (WAQ73765)

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pryd y cafodd y mater o driniaeth mantolen o warant y Llywodraeth ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru ei drafod gyntaf gyda a) y Swyddfa Ystadegau Gwladol a b) Trysorlys EM? (WAQ73766)

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pryd oedd y tro cyntaf i Lywodraeth Cymru drafod cynnig mis Chwefror Cylchffordd Cymru gyda a) y Swyddfa Ystadegau Gwladol a b) Trysorlys EM? (WAQ73767)

Derbyniwyd ateb ar 10 Gorffennaf 2017

Ken Skates: The role of the ONS is to determine whether bodies are classified as public sector bodies within the national accounts or otherwise. Such decisions are taken on the basis of the relevant contractual documentation, and decisions are arrived at by reference to the prevailing EU legislation, ESA2010, and its interpretative guidelines, the Manual on Government Deficit and Debt (2016). Discussions around the revision of these interpretative guidelines, which would assist our assessment of risk in the Circuit of Wales proposal, have been ongoing since summer 2015. Discussions with HMT about aspects of the Circuit of Wales proposal specifically have been ongoing since March 2016.

 

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi ffigurau ar gyfer asesiad y Llywodraeth o gyfanswm y risg ariannol i bob parti sy'n gysylltiedig â phrosiect Cylchffordd Cymru? (WAQ73768)

Derbyniwyd ateb ar 10 Gorffennaf 2017

Ken Skates: Welsh Government has made an assessment of the financial risk to the public purse and has not considered the breakdown of risk between the private sector parties. This assessment has shown that the public purse would carry in excess of 50% risk.

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pryd oedd y tro cyntaf i Lywodraeth Cymru hysbysu'r Heads of the Valleys Development Company o'i hasesiad bod ei rhan hi o'r risg a oedd yn gysylltiedig yn uwch na 50 y cant? (WAQ73769)

Derbyniwyd ateb ar 7 Gorffennaf 2017

Ken Skates: As I stated in my reply to WAQ73739, the full extent of Welsh Government exposure on this current proposal only became apparent on receipt of the draft due diligence reports and after consultation with HM Treasury.  Representatives of the Heads of the Valleys Development Company were informed of our assessment following Cabinet's decision on the project during the morning of 27 June, in advance of my Written Statement on the subject.

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet restru dyddiadau'r holl gyfarfodydd rhwng a) swyddogion a b) Gweinidogion â chynrychiolwyr Heads of the Valleys Development Company dros y ddwy flynedd diwethaf? (WAQ73770)

Derbyniwyd ateb ar 7 Gorffennaf 2017

Ken Skates: No. There will have been a significant number of meetings held between relevant parties over the last two years, and it would take a disproportionate amount of time to identify all occasions when officials and Ministers met with representatives of HoVDC.

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaeth y lefel o warant Llywodraeth Cymru y gwnaed cais amdani newid o £30 miliwn newid o £357 miliwn yn y dyddiau cyn gwrthod cynnig gwreiddiol Cylchffordd Cymru ar 6 Ebrill 2016? (WAQ73771)

Derbyniwyd ateb ar 7 Gorffennaf 2017

Ken Skates: The level of Welsh Government support being sought by Heads of the Valleys Development Company changed significantly in the lead up to the Ministerial decision on 6 April 2016.  Between August 2015 and March 2016 a range of funding options for the Circuit of Wales project were explored between the developers, local authorities and Welsh Government officials.  Following those exploratory discussions, what emerged during March 2016 was a proposal that required a 100% Welsh Government guarantee of the £357million investment. This proposal was set out for Ministers in the formal advice submitted on 5 April 2016.

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Ymhellach i WAQ73473, pwy a awgrymwyd ddylai danysgrifennu'r brif lês i gael ei dal gan Gyngor Bwrdeistref Blaenau Gwent? (WAQ73772)

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Ymhellach i WAQ73474, a wnaeth Llywodraeth Cymru gynnig amgen mewn ymateb i'r cynnig gan yr Heads of the Valleys Development Company ar 26 Ionawr 2016? (WAQ73773)

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Ymhellach i WAQ73474, faint o ddyled oedd gwerth y warant arfaethedig a pha ganran roedd yn ei chynrychioli? (WAQ73774)

Derbyniwyd ateb ar 12 Gorffennaf

Ken Skates: I will write to the Assembly Member about the information requested, and will place a copy of my letter in the library.

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A gafodd unrhyw awgrym i oedi'r penderfyniad terfynol ar Gylchffordd Cymru, er mwyn galluogi'r cwmni i ymateb i'r wybodaeth newydd ar gwestiwn y fantolen, ei drafod yn y Cabinet ar 27 Mehefin 2017? (WAQ73775)

Derbyniwyd ateb ar 12 Gorffennaf

Ken Skates: No.

 

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A yw swyddogion yn adran Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhyddhau unrhyw wybodaeth yn y gronfa ddata sy'n fasnachol gyfrinachol ar brosiect Cylchffordd Cymru, i'r cyfryngau? (WAQ73776)

Derbyniwyd ateb ar 7 Gorffennaf 2017

Ken Skates: Like all Civil Servants, officials in my department are expected to uphold the core values and standards of behaviour as set out in the Civil Service code. As such, I do not expect that any of my officials are responsible for disclosing official, commercially confidential information to the media in relation to the Circuit of Wales project.

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet nodi i bwy y mae'r grant ad-daladwy a gytunwyd fel rhan o Gynllun Adfywio Dinas Abertawe yn daladwy? (WAQ73780)

Derbyniwyd ateb ar 6 Gorffennaf 2017

Ken Skates: An offer of repayable funding for the Swansea City Centre Regeneration scheme has been made to the City and County of Swansea Council.

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi enwau'r busnesau y cytunwyd ar gyllid busnes ar eu cyfer ar 8 Mehefin 2017? (WAQ73781)

Ateb i ddilyn.

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi enwau'r busnesau y cytunwyd i dalu'r ffioedd proffesiynol ar eu cyfer ar 25 Mai 2017? (WAQ73782)

Ateb i ddilyn.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg 

Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A oes cyfeirlyfr o wasanaethau iechyd meddwl lleol yn cael ei ddarparu ar gyfer ysgolion i'w helpu i gynorthwyo myfyrwyr gyda materion iechyd meddwl a'u cyfeirio at y cymorth priodol? (WAQ73755)

Derbyniwyd ateb ar 6 Gorffennaf 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (Kirsty Williams): Work is currently ongoing across the health department to reduce the number of health-related directories to a single entity. There is a directory available, Dewis Cymru which provides information and advice to support citizens' well-being needs, including mental health.  A link for Dewis Cymru is as follows: https://www.dewis.wales/

Local authorities, the NHS and third sector organisations in Wales encourage and support local organisations to add their information for services which matter to people across Wales.  Work is currently underway to specifically develop a site for children and young people. 

Positive progress within Dewis is also being made to share information with Infoengine, which is the third-sector resource directory.

To co-ordinate this work and bring together these three strands into one 'virtual' Directory of Services (DoS), the Welsh Government has established a National DoS Project Board which is made up of representatives across health, social care and the third sector. The development of a single 'virtual' DoS is vital as it will enable users to find and view services across the health and care spectrum through a single search mechanism.

Moreover, our Welsh Government funded, NHS led Together for Children and Young People programme (T4CYP) is examining the way in which specialist mental health services work with primary care and others in social services, education, youth justice and the third sector to ensure young people have timely access to appropriate help and support to meet their needs.  T4CYP will clarify referral pathways so that all professionals can understand when emotional and mental health issues are developing; deal with them appropriately within their field of competence; and when outside their competence know who and where to seek further help and support for the child.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol 

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y llywodraeth gyhoeddi cylch gorchwyl ac aelodaeth y Bwrdd Gwella Effeithlonrwydd? (WAQ73777)W

Derbyniwyd ateb ar 12 Gorffennaf 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol (Mark Drakeford): Bydd y cylch gorchwyl terfynol yn cael ei anfon at aelodau’r Bwrdd Gwella Effeithiolrwydd cyn y cyfarfod nesaf ar 3 Awst. Bydd y cylch gorchwyl yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru yn syth ar ôl y cyfarfod.