Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 7 Hydref 2009
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W]
yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cwestiynau i'r Gweinidog dros Dreftadaeth
Cwestiynau i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Mewn sawl ateb i gwestiynau ysgrifenedig y mae’r Prif Weinidog wedi ateb drwy ddatgan 'Ni chaiff yr wybodaeth hon ei chadw’n ganolog’ ac a fyddai’r Gweinidog yn darparu ffigurau ar gyfer pob blwyddyn er 1999. (WAQ54917)
Rhoddwyd
ateb ar 12 Hydref 2009
Byddai costau darparu'r ateb hwn yn afresymol. Cyhoeddir pob ymateb i gwestiynau ysgrifenedig ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gofyn
i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Andrew
RT Davies (Canol De Cymru): Mewn sawl ateb i gwestiynau ysgrifenedig y mae’r Gweinidog wedi ateb drwy ddatgan 'Ni chaiff yr wybodaeth hon ei chadw’n ganolog’ ac a fyddai’r Gweinidog yn darparu ffigurau ar gyfer pob blwyddyn
er 1999. (WAQ54919) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog
Rhoddwyd
ateb ar 12 Hydref 2009
Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Byddai costau darparu'r ateb hwn yn afresymol. Cyhoeddir pob ymateb i gwestiynau ysgrifenedig ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gofyn
i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgan pa gyllideb sydd ar gael ar gyfer hyfforddi a chefnogi rheolwyr cyfrifon newydd sy’n cefnogi’r polisi a’r rhaglen Cymorth Hyblyg i Fusnes. (WAQ54912)
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgan faint o arian sydd wedi cael ei wario ar hyfforddi rheolwyr cyfrifon newydd sy’n cefnogi’r polisi a’r rhaglen Cymorth Hyblyg i Fusnes. (WAQ54913)
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyfforddiant sy’n cael ei ddarparu i reolwyr cyfrifon newydd sy’n cefnogi’r polisi a’r rhaglen Cymorth Hyblyg i Fusnes. (WAQ54914)
Rhoddwyd
ateb ar 12 Hydref 2009
Ers mis Ebrill 2008, mae cyllideb benodedig o £154,000 ar gael at ddibenion datblygiad proffesiynol rheolwyr cydberthnasau yn fy adran. Hyd at ddiwedd mis Medi 2009, mae £114,000 wedi'i wario yn y maes hwn. Mae 65 o reolwyr cydberthnasau, gan gynnwys rheolwyr a benodwyd yn ddiweddar, wedi cael hyfforddiant i gefnogi'r Rhaglen Cymorth Hyblyg i Fusnes.
Andrew
RT Davies (Canol De Cymru): Mewn sawl ateb i gwestiynau ysgrifenedig y mae’r Gweinidog wedi ateb drwy ddatgan 'Ni chaiff yr wybodaeth hon ei chadw’n ganolog’ ac a fyddai’r Gweinidog yn darparu ffigurau ar gyfer pob blwyddyn
er 1999. (WAQ54918) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog
Rhoddwyd
ateb ar 12 Hydref 2009
Y Prif Weinidog: Byddai costau darparu'r ateb hwn yn afresymol. Cyhoeddir pob ymateb i gwestiynau ysgrifenedig ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gofyn
i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Andrew
RT Davies (Canol De Cymru): Mewn sawl ateb i gwestiynau ysgrifenedig y mae’r Gweinidog wedi ateb drwy ddatgan 'Ni chaiff yr wybodaeth hon ei chadw’n ganolog’ ac a fyddai’r Gweinidog yn darparu ffigurau ar gyfer pob blwyddyn
er 1999. (WAQ54920) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog
Rhoddwyd
ateb ar 12 Hydref 2009
Y Prif Weinidog: Byddai costau darparu'r ateb hwn yn afresymol. Cyhoeddir pob ymateb i gwestiynau ysgrifenedig ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gofyn
i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
Andrew
RT Davies (Canol De Cymru): Mewn sawl ateb i gwestiynau ysgrifenedig y mae’r Gweinidog wedi ateb drwy ddatgan 'Ni chaiff yr wybodaeth hon ei chadw’n ganolog’ ac a fyddai’r Gweinidog yn darparu ffigurau ar gyfer pob blwyddyn
er 1999. (WAQ54922) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog
Rhoddwyd
ateb ar 12 Hydref 2009
Y Prif Weinidog: Byddai costau darparu'r ateb hwn yn afresymol. Cyhoeddir pob ymateb i gwestiynau ysgrifenedig ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gofyn
i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gefnogaeth y mae’r GIG yn ei rhoi i bersonél milwrol wrth iddynt wella ac adsefydlu yn dilyn anaf mewn gwrthdaro ac a fu cynnydd mewn cefnogaeth oherwydd y baich presennol ar y lluoedd arfog. (WAQ54903)
Rhoddwyd
ateb ar 12 Hydref 2009
Amlinellir yn y ddogfen atodedig fanylion y gwaith y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd mewn perthynas â materion sy'n gysylltiedig â chyn-filwyr. Mae'n cwmpasu iechyd, tai a chymorth cyffredinol ar gyfer digwyddiadau a grwpiau o gyn-filwyr.
Dogfen 1
1. Cyn-filwyr ac Iechyd
Gofal Iechyd a Thriniaeth â Blaenoriaeth i Gyn-filwyr gan y GIG
• Ar 23 Tachwedd 2008, cyhoeddwyd gennych y bydd gan bob cyn-filwr yr hawl i gael triniaeth a gofal â blaenoriaeth gan y GIG ar gyfer cyflyrau sy'n gysylltiedig â gwasanaeth, gan ymestyn y flaenoriaeth a roddir i bensiynwyr rhyfel gan wasanaethau'r GIG i bob cyn-filwr.
• Dosbarthwyd Cylchlythyr Iechyd Cymru i Ymddiriedolaethau'r GIG, BILlau, meddygon teulu a chyrff eraill sy'n gysylltiedig ag iechyd er mwyn esbonio'r ymestyniad hwn i driniaeth â blaenoriaeth i gyn-filwyr.
Darpariaeth Coesau Prosthetig
• Bydd GIG Cymru yn cynnig darpariaeth coesau prosthetig o'r un safon o leiaf â'r ddarpariaeth a gynigir gan y Gwasanaethau Meddygol Amddiffynol i bersonél nad ydynt yn gwasanaethu mwyach.
• Mae'r bwlch rhwng y galw a'r ddarpariaeth bresennol wedi'i nodi a rhoddir cyngor i chi'n fuan.
Rhestrau Aros y GIG - Cadw Lle
• Pan fydd cleifion yn symud o amgylch y DU, ystyrir amseroedd aros blaenorol a disgwylir iddynt gael eu trin yn unol â safonau amseroedd aros cenedlaethol.
• Ystyrir canllawiau i'w rhoi i ymddiriedolaethau'r GIG er mwyn atgyfnerthu amseroedd aros wrth symud personél gwasanaeth o amgylch y DU..
• Chwech wythnos ar hugain fydd cyfanswm yr amser aros o ofal sylfaenol i ddechrau gofal diffiniol.
Gwobrau Partneriaeth Iechyd Milwrol a Sifilaidd
• Mae Llywodraeth y Cynulliad yn ymwneud â'r cynllun Gwobrau Partneriaeth Iechyd Milwrol a Sifilaidd, a gynhelir yn yr Alban eleni. Mae'n bosibl y cânt eu cynnal yng Nghymru yn 2010/2011.
Bwrdd Partneriaeth Adrannau Iechyd/Y Weinyddiaeth Amddiffyn
• Mae Swyddogion LlCC yn aelodau o Fwrdd Partneriaeth Adrannau Iechyd/Y Weinyddiaeth Amddiffyn ac yn cefnogi gweithgorau.
Cyn-filwyr ac Iechyd Meddwl
• Bydd cyn-filwyr a phawb sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yn cael budd o benderfyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod safon ac argaeledd gwasanaethau yn gwella dros y tair blynedd nesaf. Fel rhan annatod o gyrff lleol integredig newydd y GIG, bydd gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy amlwg yn y GIG er budd pob defnyddiwr gwasanaeth.
Treialu Gwasanaeth Therapi Iechyd Meddwl yn y Gymuned
• Mae'r prosiect peilot wrthi'n nodi lefel yr angen ymhlith cyn-filwyr a'r model cyflenwi mwyaf priodol i ddiwallu'r anghenion hyn, y mae rhan o'r gwaith hwn yn ymwneud â sicrhau y gellir diwallu anghenion iechyd cyn-filwyr o fewn gwasanaethau prif ffrwd y GIG.
• Lansiwyd y cynllun peilot dwy flynedd hwn ar 4 Chwefror 2008, am gost o £135,000, ac fe'i cyd-ariennir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Fe'i lleolir yn Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd ac mae'n darparu gwasanaethau i ardaloedd a gwmpesir gan Ymddiriedolaethau GIG Caerdydd a'r Fro a Chwm Taf. Gwnaethoch gytuno i ddarparu cyllid ychwanegol ar ôl i swyddogion ddod yn ymwybodol bod angen £5,000 ychwanegol ar y prosiect ar gyfer 2009/2010. (SF/EH/0642/08).
• Mae dros 90 o gyn-filwyr wedi'u hatgyfeirio at y prosiect ers 17 Mawrth 2008. Mae'r mwyafrif o'r cyn-filwyr a atgyfeiriwyd yn byw o fewn ardaloedd Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro ac Ymddiriedolaeth GIG Cwm Taf ond mae 20 o unigolion wedi'u hatgyfeirio o'r tu allan i'r dalgylch.
• Ystyrir cyflwyno'r prosiect ledled Cymru ac mae trafodaethau'n mynd rhagddynt ynghylch cynigion am swyddi penodedig yn y cyrff iechyd newydd sy'n canolbwyntio ar iechyd cyn-filwyr.
• Cefnogir a chynorthwyir y prosiect peilot hwn gan Combat Stress (Cymdeithas Lles Meddwl Cyn-Filwyr). Mae LlCC hefyd yn cyfrannu arian blynyddol at Combat Stress drwy'r grant Sefydliad Gwirfoddol Cenedlaethol iechyd meddwl.
2. Cyn-filwyr a Thai
Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn:
• Cyflwyno is-ddeddfwriaeth i roi'r darpariaethau a nodir yn a153 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 ar waith, er mwyn sicrhau bod y cyfnod y mae ymgeiswyr yn ei dreulio'n byw mewn ardal tra'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn cael ei gynnwys wrth asesu eu cysylltiad lleol â'r ardal, at ddibenion dyrannu tai cymdeithasol a chymorth gyda digartrefedd
• Ystyried ar y cyd â Cymorth Cymru, y Weinyddiaeth Amddiffyn a'r Asiantaeth y Cyn-filwyr y modd y gall sefydliadau uno'n fwy effeithiol i ddarparu tai a gwasanaethau lles i gyn-filwyr
• Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu strategaeth ar ddigartrefedd ar gyfer y DU i gyn-filwyr a arweinir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, a fydd yn canolbwyntio ar wella ymwybyddiaeth cyn-filwyr o'r gwasanaethau tai sydd ar gael i'w helpu.
• Ymgynghori ar Gynllun Digartrefedd deng mlynedd i Gymru, sydd â'r nod o atal digartrefedd ymhlith cyn-filwyr a'u cysylltu â gwasanaethau lle na ellir gwneud hynny
• Cyflwyno deddfwriaeth i sicrhau y gall pobl a gaiff eu hanafu yn y lluoedd arfog gael gafael ar Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl yn haws.
3. Digwyddiadau/Grwpiau Buddiant Cyffredinol i Gyn-filwyr
Digwyddiadau Diwrnod Blynyddol y Cyn-Filwyr yng Nghymru a Grŵp Ffocws Cyn-Filwyr
• Yn 2007 a 2008, rhoddodd Llywodraeth y Cynulliad gyllid, cyngor a chymorth i brif ddigwyddiadau Diwrnod Blynyddol y Cyn-filwyr, a gynhaliwyd yng Ngogledd Cymru (Caernarfon) a De Cymru (Caerdydd).
• Cynhelir Diwrnod nesaf y Cyn-filwyr, a elwir bellach yn Ddiwrnod y Lluoedd Arfog (y Gorffennol a'r Presennol) ar 27 Mehefin 2009 (lleoliad i'w gadarnhau). Mae briff yn cael ei baratoi ar y mater hwn.
• Mae swyddogion y Cynulliad hefyd yn cadeirio cyfarfodydd cynllunio rheolaidd Diwrnod y Cyn-filwyr ac yn darparu ysgrifenyddiaeth.
• Mae swyddogion y Cynulliad hefyd yn cadeirio'r Grŵp Ffocws Cyn-Filwyr Cymru Gyfan ac yn darparu cymorth gweinyddol.
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa ganran o fenywod cymwys sy’n cael eu sgrinio am ganser y fron bob tair blynedd, wedi’i ddadansoddi fesul bwrdd iechyd lleol ac ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ54904)
Rhoddwyd
ateb ar 12 Hydref 2009
Mae pedair gwlad y DU yn cael cyngor ar sgrinio canser gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU. O ran sgrinio canser y fron, mae'r Pwyllgor yn cynghori y dylai menywod gael eu sgrinio am ganser y fron pan fyddant rhwng 50 a 70 oed.
Dechreuwyd sgrinio menywod rhwng 64 a 70 oed yng Nghymru yn 2006 a bydd angen cylch tair blynedd cyfan cyn y bydd yn briodol cyflwyno adroddiad ar nifer y profion ar gyfer y grŵp oedran hwn.
Mae nifer y profion sgrinio mewn perthynas â chanser y fron yn adlewyrchu cyfuniad o gyfran y menywod cymwys a wahoddir i gael eu sgrinio yn ystod y cyfnod, a chyfran y menywod hynny sy'n mynychu. Mae Bron-Brawf Cymru yn gwahodd tua 120,000 o fenywod yng Nghymru bob blwyddyn. Mae tua 100,000 o fenywod yn derbyn y gwahoddiad ac yn mynd am brawf sgrinio.
Dengys y tablau isod nifer y profion sgrinio a gynhaliwyd fesul ardal Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer menywod rhwng 53 a 64 oed dros y pum mlynedd rhwng 2004/05 a 2008/09.
Bwrdd Iechyd Lleol |
Nifer y profion sgrinio a gynhaliwyd ar 31/03/05 |
Nifer y profion sgrinio a gynhaliwyd ar 31/03/06 |
Nifer y profion sgrinio a gynhaliwyd ar 31/03/07 |
Nifer y profion sgrinio a gynhaliwyd ar 31/03/08 |
Nifer y profion sgrinio a gynhaliwyd ar 31/03/09 |
Ynys Môn |
77.4% |
77.4% |
73.7% |
78.1% |
77.6% |
Blaenau Gwent |
81.0% |
79.3% |
78.5% |
78.1% |
78.0% |
Pen-y-bont ar Ogwr |
81.2% |
74.8% |
74.1% |
79.7% |
79.3% |
Caerffili |
75.1% |
79.6% |
79.4% |
76.0% |
77.5% |
Caerdydd |
74.4% |
74.3% |
73.2% |
71.5% |
72.5% |
Caerfyrddin |
79.6% |
79.7% |
73.8% |
77.2% |
78.5% |
Ceredigion |
67.9% |
79.2% |
79.2% |
72.4% |
76.7% |
Conwy |
53.4% |
74.3% |
75.5% |
71.4% |
74.2% |
Sir Ddinbych |
58.2% |
63.5% |
71.6% |
71.2% |
70.7% |
Sir y Fflint |
34.3% |
77.8% |
75.1% |
65.4% |
71.6% |
Gwynedd |
75.1% |
63.2% |
75.7% |
75.7% |
75.2% |
Merthyr Tudful |
78.5% |
57.7% |
77.1% |
77.1% |
54.2% |
Sir Fynwy |
82.9% |
82.5% |
74.2% |
80.1% |
80.3% |
Castell-nedd Port Talbot |
79.4% |
81.2% |
79.2% |
76.8% |
64.8% |
Casnewydd |
76.6% |
76.6% |
73.1% |
74.5% |
74.0% |
Sir Benfro |
80.8% |
56.4% |
73.6% |
80.4% |
61.6% |
Powys |
80.1% |
76.1% |
78.4% |
74.6% |
75.6% |
Rhondda Cynon Taf |
75.9% |
78.8% |
78.6% |
77.3% |
77.4% |
Abertawe |
69.7% |
76.5% |
77.5% |
73.8% |
68.0% |
Tor-faen |
75.8% |
77.3% |
79.0% |
77.2% |
77.6% |
Bro Morgannwg |
76.1% |
73.2% |
78.3% |
77.9% |
76.7% |
Wrecsam |
74.0% |
75.4% |
49.6% |
72.3% |
73.8% |
Cymru |
72.7% |
74.9% |
75.0% |
75.1% |
73.7% |
Mae Bron-Brawf Cymru yn cynnig profion sgrinio mor lleol â phosibl i fenywod. Caiff y rhan fwyaf o brofion sgrinio eu cynnal mewn unedau sgrinio symudol, sy'n teithio ledled Cymru mewn cylch tair blynedd a gynlluniwyd, gan ymweld â 119 o leoliadau ym mhob cyfnod o dair blynedd. Pan fydd pob menyw gymwys mewn un lleoliad wedi cael gwahoddiad, bydd yr uned symudol yn symud o'r lleoliad nesaf ac ati, gan ddychwelyd i'r safle gwreiddiol ymhen tair blynedd.
Wrth gyflwyno adroddiadau ar nifer y profion sgrinio fesul ardal Bwrdd Iechyd Lleol, gall y ffigurau pan fydd yr uned symudol mewn ardal ar ddechrau neu ddiwedd blwyddyn adrodd. Caiff rhai menywod wahoddiadau ym mis Mawrth un flwyddyn adrodd ond ni chânt eu sgrinio tan fis Ebrill y flwyddyn adrodd ganlynol.
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sawl (a) diagnosis o ganser a fethwyd, (b) gwall radiotherapi ac (c) gwall cemotherapi a gofnodwyd ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf y mae ffigurau ar gael ar ei gyfer. (WAQ54905)
Rhoddwyd
ateb ar 12 Hydref 2009
Nid yw'r holl wybodaeth y gofynnwyd amdani ar gael yn ganolog. Mae'n ofynnol i holl sefydliadau'r GIG gyflwyno data ar ddigwyddiadau i system adrodd a dysgu yr Asiantaeth Genedlaethol Diogelwch Cleifion. Gellir gweld adroddiadau Crynodeb o Ddata chwarterol o'r wybodaeth hon yn:
http://www.nrls.npsa.nhs.uk/resources/type/data-reports/
O dan ofynion Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Amlygiad Meddygol) 2000 (IR(ME)R), cyflwynir adroddiadau ar ddigwyddiadau radiotherapi i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Dyma' r ffigurau sydd ar gael:
2005 - 1 digwyddiad
2006 - 2 ddigwyddiad
2007 - 1 digwyddiad
2008 - 5 digwyddiad
2009 - 1 digwyddiad
Caiff Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd adroddiadau gan sefydliadau'r GIG ar ddigwyddiadau difrifol. Derbyniwyd yr adroddiadau canlynol ynghylch gwneud diagnosis o ganser a digwyddiadau cemotherapi.
2004 - 1 digwyddiad canser
2005 - 1 digwyddiad canser
2006 - 1 digwyddiad cemotherapi
2007 - 6 digwyddiad canser; 1 digwyddiad cemotherapi
2008 - 4 digwyddiad canser
2009 - 1 digwyddiad canser
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth yw’r cyfanswm a dalwyd gan gleifion deintyddol y DU mewn ffioedd bob blwyddyn er 1999. (WAQ54906)
Rhoddwyd
ateb ar 12 Hydref 2009
Dengys y tabl isod fanylion am gyfanswm taliadau cleifion deintyddol y GIG a gasglwyd bob blwyddyn rhwng 1999/00 a 2005/06.
Taliadau cleifion deintyddol y GIG a gasglwyd £m |
|
1999/00 |
23.5 |
2000/01 |
24.7 |
2001/02 |
24.4 |
2002/03 |
25.5 |
2003/04 |
25.3 |
2004/05 |
25.0 |
2005/06 |
22.0 |
Mae'r wybodaeth o 2006/07 hyd yma ar gael yng nghyfrifon blynyddol BILlau unigol a archwiliwyd a gellir eu gweld drwy ddilyn y ddolen ganlynol
http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-guide-docs-pub/bus-business-documents/bus-business-documents-doc-laid.htm
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Fesul Ymddiriedolaeth GIG, faint y mae ysbytai unigol wedi’i wario ar gyffuriau cemotherapi ym mhob blwyddyn er 1999, neu y mae ffigurau ar gael ar ei gyfer, a beth oedd nifer y cleifion a gafodd gemotherapi. (WAQ54907)
Rhoddwyd
ateb ar 12 Hydref 2009
Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn casglu gwybodaeth am wariant gan ysbytai unigol ar gyffuriau cemotherapi.
Mae nifer y bobl a oedd yn cael cemotherapi fel cleifion dydd a nos rheolaidd rhwng 2004/05 a 2007/08 wedi'i nodi yn Nhabl 8.3 o Ystadegau Iechyd Cymru 2009 sydd ar gael yn: http://wales.gov.uk/docs/statistics/2009/090930healthstatistics09en.pdf
Gellir cael gwybodaeth am nifer y cleifion a oedd yn cael cemotherapi cyn 2004/05 drwy ysgrifennu i Atebion Iechyd Cymru.
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Fesul Bwrdd Iechyd Lleol, faint sydd wedi cael ei wario fesul claf ar ofal strôc ym mhob blwyddyn y mae ffigurau ar gael ar ei gyfer. (WAQ54908)
Rhoddwyd
ateb ar 09 Hydref 2009
Nid yw Llywodraeth y Cynulliad yn casglu'r wybodaeth hon.
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth yw’r gwariant blynyddol fesul Bwrdd Iechyd Lleol ar gyffuriau canser drwy bresgripsiynau i gleifion eu codi mewn fferyllfeydd ym mhob blwyddyn y mae ffigurau ar gael ar ei gyfer. (WAQ54909)
Rhoddwyd
ateb ar 09 Hydref 2009
Ni ddelir y wybodaeth hon gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ond mae ar gael gan Atebion Iechyd Cymru.
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Fesul Bwrdd Iechyd Lleol, faint sydd wedi cael ei wario fesul claf ar ofal canser ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ54910)
Rhoddwyd
ateb ar 09 Hydref 2009
Nid yw Llywodraeth y Cynulliad yn casglu'r wybodaeth hon.
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o bobl yng Nghymru a gafodd ddiagnosis bod canser arnynt ym mhob blwyddyn er 1999, wedi’u dadansoddi yn ôl cyflyrau penodol. (WAQ54911)
Rhoddwyd
ateb ar 09 Hydref 2009
Mae Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru yn cyhoeddi adroddiadau sy'n cynnwys data sy'n ymwneud ag achosion o ganser yng Nghymru a chofrestru'r achosion hynny.
Canser yng Nghymru, 1992-2006: Adroddiad Cynhwysfawr” ar gael yn http://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=242&pid=33893 ac mae "Achosion o Ganser yng Nghymru, 2003-2007” ar gael yn http://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=242&pid=35385
Andrew
RT Davies (Canol De Cymru): Mewn sawl ateb i gwestiynau ysgrifenedig y mae’r Gweinidog wedi ateb drwy ddatgan 'Ni chaiff yr wybodaeth hon ei chadw’n ganolog’ ac a fyddai’r Gweinidog yn darparu ffigurau ar gyfer pob blwyddyn
er 1999. (WAQ54915) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog
Rhoddwyd
ateb ar 12 Hydref 2009
Y Prif Weinidog: Byddai costau darparu'r ateb hwn yn afresymol. Cyhoeddir pob ymateb i gwestiynau ysgrifenedig ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): I ble y mae cleifion o Bowys yn teithio er mwyn cael triniaeth dialysis. (WAQ54925)
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y cleifion ym Mhowys sydd ag angen triniaeth dialysis. (WAQ54926)
Rhoddwyd
ateb ar 12 Hydref 2009
Mae'r ffigurau ar gyfer nifer y cleifion sy'n teithio o Bowys i gael dialysis yn eithaf cymhleth ac yn cynnwys nifer o unedau yn dibynnu ar ble mae pob unigolyn yn byw. Mae’r rhain yn cynnwys Aberystwyth, Merthyr Tudful, Henffordd, Amwythig a Wrecsam. Bydd datblygu unedau dialysis yn y Trallwng a Llandrindod yn gwella hyn.
Ym mis Ionawr 2009 cynhaliodd y rhwydweithiau arennol adolygiad o nifer y cleifion i gynorthwyo'r gwaith cynllunio a'r broses o bennu blaenoriaethau yng Nghymru. Cofnodwyd 34 o gleifion ym Mhowys sy'n cael haemodialysis. Nid yw nifer y cleifion sy'n cael dialysis ym Mhowys nac amlder y driniaeth honno yn wahanol iawn i'r gyfradd gyfartalog genedlaethol a gellir disgwyl i nifer y cleifion gynyddu tua 6-7% y flwyddyn Lle y bo'n bosibl, caiff y gwaith o ddatblygu adnoddau dialysis ym Mhowys ei brawf-fesur i'r dyfodol er mwyn sicrhau gallu ac adnoddau ar gyfer y deng mlynedd nesaf.
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Pa gyllid a gynigir ar gyfer Grwpiau Cyfeirio Rhanddeiliaid ar lefel Sir. (WAQ54927)
Rhoddwyd
ateb ar 01 Chwefror 2010
Caiff y Grwpiau Cyfeirio Rhanddeiliaid eu sefydlu gan y Byrddau Iechyd Lleol fel rhan o'u cyfrifoldebau ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Gofyn
i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Andrew
RT Davies (Canol De Cymru): Mewn sawl ateb i gwestiynau ysgrifenedig y mae’r Gweinidog wedi ateb drwy ddatgan 'Ni chaiff yr wybodaeth hon ei chadw’n ganolog’ ac a fyddai’r Gweinidog yn darparu ffigurau ar gyfer pob blwyddyn
er 1999. (WAQ54923) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog
Rhoddwyd
ateb ar 12 Hydref 2009
Y Prif Weinidog: Byddai costau darparu'r ateb hwn yn afresymol. Cyhoeddir pob ymateb i gwestiynau ysgrifenedig ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gofyn
i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Andrew
RT Davies (Canol De Cymru): Mewn sawl ateb i gwestiynau ysgrifenedig y mae’r Gweinidog wedi ateb drwy ddatgan 'Ni chaiff yr wybodaeth hon ei chadw’n ganolog’ ac a fyddai’r Gweinidog yn darparu ffigurau ar gyfer pob blwyddyn
er 1999. (WAQ54921) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog
Rhoddwyd
ateb ar 12 Hydref 2009
Y Prif Weinidog: Byddai costau darparu'r ateb hwn yn afresymol. Cyhoeddir pob ymateb i gwestiynau ysgrifenedig ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa wybodaeth sydd gan y Gweinidog am nifer y coleri cŵn sy’n rhoi sioc drydanol a ddefnyddir yng Nghymru. (WAQ54928)
Rhoddwyd
ateb ar 12 Hydref 2009
Bu dau ymgynghoriad ar y mater hwn ac amcangyfrifodd y Gymdeithas Gweithgynhyrchwyr Coleri Electronig (ECMA) yn 2007 bod tua 6,000 o goleri yn cael eu defnyddio yng Nghymru.
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Faint o erlyniadau a wnaethpwyd yng Nghymru dros y tair blynedd diwethaf am greulondeb yn erbyn cŵn drwy ddefnyddio coleri cŵn sy’n rhoi sioc drydanol. (WAQ54929)
Rhoddwyd
ateb ar 12 Hydref 2009
Ni chesglir y wybodaeth hon yn ganolog.
Gofyn
i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Andrew
RT Davies (Canol De Cymru): Mewn sawl ateb i gwestiynau ysgrifenedig y mae’r Gweinidog wedi ateb drwy ddatgan 'Ni chaiff yr wybodaeth hon ei chadw’n ganolog’ ac a fyddai’r Gweinidog yn darparu ffigurau ar gyfer pob blwyddyn
er 1999. (WAQ54916) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog
Rhoddwyd
ateb ar 12 Hydref 2009
Y Prif Weinidog: Byddai costau darparu'r ateb hwn yn afresymol. Cyhoeddir pob ymateb i gwestiynau ysgrifenedig ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Mewn sawl ateb i gwestiynau ysgrifenedig y mae’r Prif Weinidog wedi ateb drwy ddatgan 'Ni chaiff yr wybodaeth hon ei chadw’n ganolog’ ac a fyddai’r Gweinidog yn darparu ffigurau ar gyfer pob blwyddyn er 2007. (WAQ54924)
Rhoddwyd
ateb ar 14 Hydref 2009
Dim