07/11/2012 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 31 Hydref 2012 i’w hateb ar 7 Tachwedd 2012

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Nick Ramsay (Mynwy): Ar ba ddyddiad y bydd gwefan fusnes newydd Llywodraeth Cymru yn cael ei lansio. (WAQ61490)

Nick Ramsay (Mynwy): Sawl gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi cwrdd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i drafod lleddfu caledi ers dechrau’r Pedwerydd Cynulliad. (WAQ61491)

Nick Ramsay (Mynwy): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i geisio ymestyn y Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach. (WAQ61492)

Nick Ramsay (Mynwy): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn hybu’r achos dros ddatganoli ardrethi busnes i’r Comisiwn Silk. (WAQ61494)

Nick Ramsay (Mynwy): A yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw gynigion gan ardaloedd sydd â diddordeb mewn sefydlu Ardal Gwella Busnes. (WAQ61495)

Nick Ramsay (Mynwy): Pryd y bydd canllaw penodol Asiantaeth y Swyddfa Brisio i newid perthnasol mewn amgylchiadau o ran gwerth ardrethol ar gael. (WAQ61496)

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi manylion am yr amserlen ar gyfer yr adroddiad ar siopau elusen a gaiff ei arwain gan yr Athro Brian Morgan. (WAQ61497)

Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Nick Ramsay (Mynwy): Yn dilyn ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 14 yr Adolygiad Ardrethi Busnes, pryd y bydd y Gweinidog yn archwilio’r mater o gynllunio canol trefi a chyrion trefi ac yn adrodd arno. (WAQ61493)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith Apnoea Cwsg ar iechyd a lles Cymru. (WAQ61498)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth y mae’r Gweinidog yn ei wneud i godi lefelau ymwybyddiaeth o Apnoea Cwsg ledled Cymru. (WAQ61499)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth y mae’r Gweinidog yn ei wneud i wella canlyniadau i bobl ag Apnoea Cwsg yng Nghymru. (WAQ61500)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi’i rhoi i gyllido Ambiwlans Awyr Cymru o gyllid Llywodraeth Cymru. (WAQ61501)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth oedd cost Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn y pum mlynedd diwethaf. (WAQ61502)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa ganran o drosglwyddiadau ambiwlans a gwblheir o fewn yr amser targed o 15 munud. (WAQ61503)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa effaith y mae’r Gweinidog yn ei rhagweld y bydd y targed o ryddhau 20% o gleifion o’r ysbyty cyn 11am yn ei chael ar ofal cleifion ledled Cymru. (WAQ61504)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Sawl rhybudd o dywydd poeth a gafodd Llywodraeth Cymru gan y Swyddfa Dywydd o ganlyniad i’w contract gwerth £24,996. (WAQ61505)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y dyrannwyd y £10 miliwn ychwanegol o gronfeydd wrth gefn y GIG ar gyfer Gwasanaethau Gofal Brys. (WAQ61506)