Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad ar 7 Rhagfyr 2009
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn
wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu ffigur ar gyfer nifer y myfyrwyr y mae disgwyl iddynt gofrestru ar gyfer Bagloriaeth Cymru yn y flwyddyn academaidd 2010-11. (WAQ55226)
Rhoddwyd
ateb ar 8 Rhagfyr 2009
Mae'n bleser gennyf ddweud bod y broses o gyflwyno Cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn parhau i fod yn llwyddiannus. Rydym yn darparu'r Fagloriaeth ehangach, fel yr addawyd gennym yn Cymru'n Un, a bellach mae 168 o ganolfannau yn cynnig y Fagloriaeth a thua 34,000 o ddysgwyr yn dilyn cyrsiau Bagloriaeth Cymru.
Yn ddiweddar mae canolfannau wedi cyflwyno ceisiadau i gymryd rhan yng ngham nesaf y broses gyflwyno, a fydd yn dechrau ym mis Medi 2010. Roedd diddordeb mawr mewn cynnig Bagloriaeth Cymru unwaith eto, gyda thua 68 o ganolfannau yn gwneud cais i ddechrau'r ddarpariaeth neu i ehangu eu darpariaeth bresennol. At hynny, cafwyd 22 o geisiadau i ddarparu Cymwysterau Prif Ddysgu newydd ym Magloriaeth Cymru oddi wrth 10 o gonsortia sy'n seiliedig ar y Rhwydwaith 14-19. Caiff canlyniadau'r ceisiadau hyn eu cyhoeddi'n fuan.
Pan fydd y canolfannau newydd yn dechrau'r ddarpariaeth ym mis Medi 2010 rydym yn rhagweld y bydd tua 48,000 o ddysgwyr yn dilyn cyrsiau Bagloriaeth Cymru, a bydd y ffigur hwn yn codi i 54,000 yn 2011 pan fydd y canolfannau hyn yn dechrau ar ail flwyddyn eu darpariaeth.
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A chofio bod Llywodraeth Cynulliad Cymru'n bwriadu diddymu cyllid ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus, sut y mae’r Gweinidog yn bwriadu sicrhau bod pob athro’n cael yr hyfforddiant parhaus angenrheidiol sydd wedi’i deilwra’n arbennig ar eu cyfer. (WAQ55229)
Rhoddwyd
ateb ar 10 Rhagfyr 2009
Y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion yw'r fframwaith cyffredinol ar gyfer meithrin gallu yn ein hystafelloedd dosbarth yng Nghymru ac ar gyfer creu a chynnal ysgolion gwell ar lefel ysgol, awdurdod lleol a llywodraeth. Addysgu a dysgu ardderchog a gefnogir gan DPP effeithiol sydd wrth wraidd y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion. Mae'r ymchwil academaidd diweddaraf, fodd bynnag, yn dangos yn glir bod y datblygiad proffesiynol mwyaf effeithiol yn golygu athrawon yn cydweithio'n agos gyda'i gilydd er mwyn datblygu a rhannu arfer gorau, a chanolbwyntio eu datblygiad proffesiynol ar holi a deialog cadarn o fewn cymunedau dysgu proffesiynol. Mae adolygiad o Safonau Proffesiynol, DPP a rheoli perfformiad yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Fel rhan o'r adolygiad, rhoddir ystyriaeth i sut y gall Safonau Proffesiynol, DPP a systemau Rheoli Perfformiad weithio fel cyfanrwydd a chydbwyso datblygiad yr athro unigol yn effeithiol gan ganolbwyntio ar wella canlyniadau ar gyfer ein holl blant a phobl ifanc.
Gofyn
i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru’r holl arwynebedd llawr sydd wedi’i osod ym mhob un o’r canolfannau Technium. (WAQ55221)
Rhoddwyd
ateb ar 21 Ionawr 2010
Yn dilyn yr ateb dros dro a gawsoch ar gyfer WAQ 55221, rwyf bellach mewn sefyllfa i roi ateb cyflawn i chi.
Ym mis Hydref 2009, roedd yr arwynebedd llawr sydd wedi’i osod yn y Canolfannau Technium ledled Cymru fel a ganlyn:
Technium |
Lleoliad |
% o’r arwynebedd llawr sydd wedi’i osod |
Technium 1 |
Abertawe |
71% |
Technium 2 |
Abertawe |
56% |
Technium Digidol |
Abertawe |
50% |
Digidol @ Sony |
Pencoed |
29% |
Peirianneg Perfformiad |
Llanelli |
Swyddfeydd 24%, Gweithdai 100% |
Sir Benfro |
Sir Benfro |
17% |
Technolegau Cynaliadwy |
Baglan |
29% |
Aberystwyth |
Aberystwyth |
46% |
OpTIC |
Llanelwy |
84% |
CAST |
Bangor |
100% |
Springboard |
Cwmbran |
80% |
Safle ECM² |
Port Talbot |
80% |
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru’r holl ganolfannau Technium yn ogystal â chost pob un ohonynt. (WAQ55222)
Rhoddwyd
ateb ar 21 Ionawr 2010
Yn dilyn yr ateb dros dro a gawsoch ar gyfer WAQ 55222, rwyf bellach mewn sefyllfa i roi ateb cyflawn i chi.
Dyma restr y canolfannau Technium a’u costau:
Technium |
Costau adeiladu |
Yn eiddo i Lywodraeth y Cynulliad (y Llywodraeth) |
Technium 1 Abertawe(2001) |
£2.5m |
ydy |
Technium 2 Abertawe (2004) |
£4.8m |
ydy |
Technium Digidol (2003) |
£5.4m (nid y Llywodraeth a dalodd y costau adeiladu) |
Mae gan y Llywodraeth y brif les ar un llawr. Mae’r adeilad yn eiddo i Brifysgol Abertawe. |
Technium Digidol @ Sony (2005) |
£530,000 (Talwyd y costau gan Awdurdod Datblygu Cymru) |
Mae gan y Llywodraeth les am yr arwynebedd deori yn swyddfa Sony |
Peirianneg Perfformiad Technium (2007) |
£4.9m |
ydy |
Technium Sir Benfro (2007) |
£8.95m (ni thalwyd y costau adeiladu gan y Llywodraeth |
Nac ydy. Mae’n eiddo i Awdurdod Lleol Sir Benfro. |
Technolegau Cynaliadwy Technium |
£6.8m (ni thalwyd y costau adeiladu gan y Llywodraeth |
Mae gan y Llywodraeth y brif les ar yr adeilad, sy’n eiddo i Gastell-nedd Port Talbot |
Technium Aberystwyth (2004) |
£2.3m |
ydy |
Technium OpTIC (2004) |
£11.1m |
Y Llywodraeth sydd biau’r rhydd-ddaliad ar Technium OpTIC. Mae gan Brifysgol Glyndŵr Brif Les (gwaith atgyweirio llawn) am 4.5 blwyddyn. Ar hyn o bryd, mae’r Llywodraeth yn negodi Prif Les Newydd am hyd at 25 mlynedd. Mae’r Asedau Mewnol a’r offer etc yn dod o dan gytundeb Prynu Les 5 mlynedd. |
Technium CAST (2005) |
£10.7m |
ydy |
Technium Springboard (2005) |
Nid yw manylion y gost ar gael ar hyn o bryd (nid y Llywodraeth sy’n talu’r costau) |
Nac ydy, mae’n eiddo i Gyngor Tor-faen |
Safle ECM² |
Prynwyd oddi wrth Corus ym mis Mawrth 2002 am £2m |
ydy |
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wneud ynghylch y pumed Adolygiad Rheoli Prisiau Dosbarthu, o ran effaith setliad is na’r hyn y gofynnwyd amdano gan weithredwyr y rhwydwaith ddosbarthu ar gyflawni twf economaidd cynaliadwy yng Nghymru. (WAQ55227)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wneud ynghylch y pumed Adolygiad Rheoli Prisiau Dosbarthu, o ran effaith setliad is na’r hyn y gofynnwyd amdano gan weithredwyr y rhwydwaith ddosbarthu ar ddiogelu a chreu swyddi sgiliau uchel yng Nghymru. (WAQ55228)
Rhoddwyd
ateb ar 1 Mawrth 2010
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cwrdd yn rheolaidd ag Ofgem i drafod y polisïau a’r rhaglenni y maen nhw’n gyfrifol am eu rheoleiddio.
Cyhoeddwyd cynigion cychwynnol Ofgem ar gyfer yr Adolygiad Rheoli Prisiau Dosbarthu Trydan (DPCR5) ar 3 Awst 2009. Mae’r adolygiad yn pennu’r refeniw ar gyfer Gweithredwyr y saith Rhwydwaith Dosbarthu, sy’n gyfrifol am ddosbarthu trydan mewn 14 ardal drwyddedig ym Mhrydain. Y cynigion cychwynnol yw cam diweddaraf yr adolygiad fydd yn penderfynu faint y bydd cwmnïau’n cael ei godi dros y cyfnod o bum mlynedd rhwng Ebrill 2010 a Mawrth 2015.
Wrth gynnal yr adolygiad, rhaid ystyried materion cymhleth fel dibynadwyedd y rhwydwaith, y cyflenwad ynni isel ei garbon yn y dyfodol a rhoi gwerth eu harian i gwsmeriaid.
Bydd swyddogion fy adran yn gweithio gyda swyddogion Adran yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, sy’n cydweithio’n glos ag Ofgem i gloriannu effaith y setliad ar weithredwyr y rhwydweithiau dosbarthu yng Nghymru ac ar dwf economaidd a swyddi.
Gofyn
i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Mick
Bates (Sir Drefaldwyn): Pa asesiad a wnaethpwyd o’r gofynion gwresogi ar gyfer datblygiad tai cymdeithasol Treletert sy’n cael ei ddatblygu gan Gymdeithas Dai Sir Benfro. (WAQ55217) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Dirprwy Weinidog
dros Dai
Rhoddwyd
ateb ar 21 Rhagfyr 2009
Y Dirprwy Weinidog dros Dai (Jocelyn
Davies): Mae'n ofynnol i gynlluniau Cymdeithasau Tai a ariennir drwy'r Grant Tai Cymdeithasol gydymffurfio â Lefel 3 y Cod Tai Cynaliadwy. Yn ogystal, o 9 Medi 2009 bydd rhaid i bob datblygiad tai newydd gyda mwy na 5 annedd y mae angen cais cynllunio
arno gydymffurfio â lefel 3 y cod gyda mwy o ofynion o ran effeithlonrwydd ynni. Mae cydymffurfo â'r cod yn seiliedig ar asesiad ynni sy'n ystyried y math o ynni, adeiladwaith yr adeilad a'r system wresogi a ddarparwyd.
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’u cyflwyno i Ofgem o ran y pumed Adolygiad Rheoli Prisiau Dosbarthu. (WAQ55223)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wneud ynghylch y pumed Adolygiad Rheoli Prisiau Dosbarthu, o ran effaith setliad is na’r hyn y gofynnwyd amdano gan weithredwyr y rhwydwaith ddosbarthu ar a) cynnal cyflenwadau ynni diogel yng Nghymru, a b) gwella safon y gwasanaeth i gwsmeriaid yng Nghymru, yn enwedig y rheini sy’n byw mewn ardaloedd gwledig. (WAQ55224)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wneud ynghylch y pumed Adolygiad Rheoli Prisiau Dosbarthu, o ran effaith setliad is na’r hyn y gofynnwyd amdano gan weithredwyr y rhwydwaith ddosbarthu ar gysylltu ynni adnewyddadwy newydd ar y tir sy’n angenrheidiol i gyflawni targedau ynni adnewyddadwy Llywodraeth Cynulliad Cymru. (WAQ55225)
Rhoddwyd
ateb ar 10 Rhagfyr 2009
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cyfarfod yn rheolaidd ag Ofgem i drafod gweithredu'r polisïau a'r rhaglenni sydd o dan ei reolaeth reoliadol.
Mae Ofgem yn mynd i'r Uwchgynadleddau Ynni, sydd yn gyfarfodydd bord gron lle mae diwydiant, cyrff amgylcheddol a rhanddeiliaid allweddol yn bresennol yn ogystal â chyfarfodydd Grŵp Cynghori Tlodi Tanwydd, lle maent yn arsylwyr. Ymysg y materion a godwyd i'w trafod yn y cyfarfodydd hyn mae prisiau gwahaniaethol, costau trawsyriant, cynnal prisiau cymdeithasol, mesuryddion deallus, rhwymedigaethau cymdeithasol cyflenwyr ynni, y Targed Lleihau Allyriadau Carbon a'r Rhaglen Arbed Ynni yn y Gymuned.
Cyhoeddwyd cynigion cychwynnol Ofgem ar gyfer yr Adolygiad Rheoli Prisiau Dosbarthu Trydan (DPCR5) ar 3ydd Awst 2009. Mae'r adolygiad yn gosod y cyllidebau ar gyfer y saith Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu (DNOs) sy'n gyfrifol am ddosbarthu trydan mewn 14 o ardaloedd trwyddedig ym Mhrydain Fawr. Dyma'r pumed adolygiad pris o'r fath ers preifateiddio'r sector trydan. Y cynigion cychwynnol yw'r cam diweddaraf yn y broses adolygu a fydd yn penderfynu faint y gall cwmnïau ei godi dros y cyfnod pum mlynedd o Ebrill 2010 hyd Mawrth 2015. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ddiolchgar bod Ofgem wedi cydnabod pwysigrwydd cyflawni'r her o gynhyrchu gwasgaredig yn yr ymgynghoriad. Mae DPCR5 ar drothwy newid sylweddol yn yr angen am fuddsoddiad yn y rhwydwaith DNO.
Adeiladwyd llawer o'r system trawsyriant presennol yn y 1950au a'r 1960au i gludo a dosbarthu trydan a gynhyrchwyd gan orsafoedd pŵer glo. O ganlyniad, mae 'Grid' y DU wedi'i gynllunio i ddosbarthu trydan o nifer fach o orsafoedd pŵer mawr, yn hytrach na nifer fawr o safleoedd ynni adnewyddadwy cymharol fach.
Mae'n rhaid i'r adolygiad gydbwyso materion cymhleth. Mae'n rhaid iddo ddarparu'r arian sydd ei angen ar gwmnïau i ddisodli, moderneiddio a chryfhau eu rhwydweithiau er mwyn cynnal y lefel uchel o ddibynadwyedd rhwydwaith y mae cwsmeriaid yn ei fwynhau ac yn ei ddisgwyl. Mae hefyd rhaid iddo alluogi'r DNOs i baratoi ar gyfer newidiadau sylweddol i'w busnesau a fydd yn ofynnol er mwyn iddynt chwarae eu rhan wrth gyflenwi ynni carbon isel yn y dyfodol ac ar yr un pryd sicrhau bod cwsmeriaid yn parhau i gael gwerth am arian.
Os yw'r DU yn mynd i ddarparu digon o adnoddau i ddiwallu targedau ynni adnewyddadwy, mae'n hanfodol ailgyflunio'r system trawsyriant i gefnogi'r gwaith o'i gyflenwi a'i ddosbarthu. Ystyriwn y bydd y bandio arfaethedig o ran Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy, a chyflwyno porthiant tariff tebygol ar gyfer cynhyrchu ar raddfa fach yn trawsffurfio'r galw am gysylltiadau i'r
rhwydwaith gwasgaredig, a fydd yn arwain at newid sylweddol yn yr angen am reoli a buddsoddi yn y rhwydwaith.
Dylai'r costau o wella'r rhwydwaith o fewn DNO gael eu cymdeithasoli er mwyn sicrhau bod ynni adnewyddadwy graddfa fach yn gweithio i'r eithaf. Rydym wedi bod yn cydweithio'n agos ag Ofgem a byddwn yn parhau i wneud hynny.
Gofyn
i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog nodi ar ba ddyddiad y daeth darpariaethau’r Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG i rym yn y GIG yng Nghymru. (WAQ55218)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gynnydd y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o ran defnyddio’r Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG ers i’r Cynulliad ei gymeradwyo. (WAQ55219)
Rhoddwyd
ateb ar 8 Rhagfyr 2009
Mewn perthynas â'r broses o roi Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008 ar waith, mae set o reoliadau drafft wrthi'n cael ei chwblhau, a bydd yn destun ymgynghoriad llawn yn y dyfodol agos cyn ei chyflwyno i'r Cynulliad yng ngwanwyn 2010. Caiff gorchymyn cychwyn ei gyflwyno ar yr un adeg i roi darpariaethau perthnasol y Mesur ar waith.
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch goblygiadau presenoldeb asbestos mewn adeiladau cyhoeddus. (WAQ55220)
Rhoddwyd
ateb ar 10 Rhagfyr 2009
Cyfrifoldeb deiliad y cyfrifoldeb yw cydymffurfio â gofynion rheoliadau rheoli asbestos yn y gwaith. Caiff deiliad y cyfrifoldeb ei ddiffinio yn y rheoliadau fel unrhyw un sy'n gyfrifol am gynnal a chadw ac atgyweirio eiddo cyfan neu ran o eiddo neu sydd â rheolaeth dros eiddo. Felly mater ar gyfer y Byrddau Iechyd Lleol a chyrff daliadau eiddo eraill y GIG yw cydymffurfio â'u gofynion.