Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 8 Mawrth 2010
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W]
yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Ar gyfer pob un o’r tair blynedd diwethaf, beth oedd cyfanswm cyllideb Busnes Rhyngwladol Cymru ac a all y Gweinidog roi amcan o’i gyllideb yn y dyfodol. (WAQ55724)
Rhoddwyd
ateb ar 16 Mawrth 2010
Y gyllideb ar gyfer 2007/08 oedd £12,069,000; yn 2008/9, roedd yn £6,975,000, i adlewyrchu'r ffaith bod cyllideb y rhaglenni marchnata rhyngwladol wedi'i throsglwyddo i atgyfnerthu'r gyllideb farchnata yn Adran yr Economi a Thrafnidiaeth, a bod yr adnoddau wedi'u hailflaenoriaethu'n fewnol; ac yn 2009/10, roedd yn £5,975,000, i adlewyrchu'r ffaith bod swyddogaeth a chyllideb Busnes Creadigol Cymru wedi'u trosglwyddo i Dechnoleg ac Arloesi.
Penderfynir ar gyllidebau'r dyfodol ar sail casgliadau Cynllunio Adnoddau Menter a'n casgliadau ni.
Gofyn
i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu unrhyw gyflawniadau y gellir eu priodoli i’r Gronfa Hyrwyddo Cydraddoldeb dros y flwyddyn diwethaf. (WAQ55720)
Rhoddwyd
ateb ar 16 Mawrth 2010
Lansiwyd y Gronfa Hyrwyddo Cydraddoldeb
ym mis Medi 2009 yn bennaf ar gyfer cyllid craidd a chyllid prosiectau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2010/11. Mae'r gronfa yn dechrau ar 1 Ebrill 2010, a hysbyswyd yr ymgeiswyr am ganlyniad y broses gwneud cais ar 15 Chwefror 2010. Roedd cyfran
fach o gyllid hefyd ar gael ar gyfer grantiau bach yn ystod y flwyddyn ar gyfer 2009 gwerth £57,622 a ddyfarnwyd i 13 sefydliadau a restrir isod.
Sefydliad |
Dyfarniad |
Anabledd Powys |
£6,000 |
Pobl yn Gyntaf Cymru |
£10,615 |
Tîm Cefnogi Ieuenctid Ethnig |
£10,250 |
Cyngor Cydraddoldeb Rhanbarthol y Cymoedd (VALREC) prosiect 1 |
£3,000 |
Cyngor Cydraddoldeb Rhanbarthol y Cymoedd (VALREC) prosiect 2 |
£3,000 |
Merched yn Gwneud Gwahaniaeth |
£3,000 |
Canolfan Sanatan |
£750 |
Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan - prosiect 1 |
£2,925 |
Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan - prosiect 2 |
£3,610 |
BRfm (Best Radio for miles) |
£1,500 |
Urban Circle |
£1,500 |
YWCA Cymru a Lloegr |
£2,472 |
Clymblaid Pobl Anabl Caerdydd a'r Fro (CVCDP) |
£9,000 |
Cyfanswm |
£57,622 |
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r rhesymau dros yr oedi wrth weinyddu’r Gronfa Hyrwyddo Cydraddoldeb cyn cyhoeddi’r ceisiadau llwyddiannus ar 14 Chwefror 2010. (WAQ55721)
Rhoddwyd
ateb ar 16 Mawrth 2010
Rwy'n ymwybodol o'r oedi a fu o ran gweinyddu'r Gronfa Hyrwyddo Cydraddoldeb cyn i'r ceisiadau llwyddiannus gael eu cyhoeddi. Rwyf hefyd yn ymwybodol o'r cwyn a wnaed ar y mater hwn o dan y Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu'r Trydydd Sector. Mae fy swyddogion wrthi'n ymchwilio i'r gŵyn.
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi’i rhoi i gyllido corff eirioli annibynnol sy’n gweithio dros gyfle cyfartal i ferched yng Nghymru. (WAQ55722)
Rhoddwyd
ateb ar 16 Mawrth 2010
Mae cyrff eirioli annibynnol sy'n gweithio dros gyfle cyfartal ar gyfer pob un o'r meysydd cydraddoldeb yng Nghymru yn bwysig, gan gynnwys gweithio dros gyfle cyfartal i ferched yng Nghymru. Nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ariannu unrhyw gorff eirioli annibynnol penodol sy'n gweithio dros gyfle cyfartal - mae'r holl gyllid ar gyfer cyllid craidd a chyllid prosiectau ym maes cydraddoldeb ar gael drwy gystadleuaeth a phroses gwneud cais ffurfiol i'r Gronfa Hyrwyddo Cydraddoldeb; cyhoeddwyd canlyniadau'r Gronfa Hyrwyddo Cydraddoldeb ar gyfer 2010/11, 2011/12 a 2012/13 ar 15 Chwefror 2010.
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pwysigrwydd cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru. (WAQ55723)
Rhoddwyd
ateb ar 16 Mawrth 2010
Mae rhywedd yn un o'r meysydd cydraddoldeb, ac felly, mae'n bwysig bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru, a'i bod yn hyrwyddo cydraddoldeb yn fwy cyffredinol.