08/03/2010 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 8 Mawrth 2010

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 8 Mawrth 2010

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Ar gyfer pob un o’r tair blynedd diwethaf, beth oedd cyfanswm cyllideb Busnes Rhyngwladol Cymru ac a all y Gweinidog roi amcan o’i gyllideb yn y dyfodol. (WAQ55724)

Rhoddwyd ateb ar 16 Mawrth 2010

Y gyllideb ar gyfer 2007/08 oedd £12,069,000; yn 2008/9, roedd yn £6,975,000, i adlewyrchu'r ffaith bod cyllideb y rhaglenni marchnata rhyngwladol wedi'i throsglwyddo i atgyfnerthu'r gyllideb farchnata yn Adran yr Economi a Thrafnidiaeth, a bod yr adnoddau wedi'u hailflaenoriaethu'n fewnol; ac yn 2009/10, roedd yn £5,975,000, i adlewyrchu'r ffaith bod swyddogaeth a chyllideb Busnes Creadigol Cymru wedi'u trosglwyddo i Dechnoleg ac Arloesi.

Penderfynir ar gyllidebau'r dyfodol ar sail casgliadau Cynllunio Adnoddau Menter a'n casgliadau ni.

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu unrhyw gyflawniadau y gellir eu priodoli i’r Gronfa Hyrwyddo Cydraddoldeb dros y flwyddyn diwethaf. (WAQ55720)

Rhoddwyd ateb ar 16 Mawrth 2010

Lansiwyd y Gronfa Hyrwyddo Cydraddoldeb ym mis Medi 2009 yn bennaf ar gyfer cyllid craidd a chyllid prosiectau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2010/11.  Mae'r gronfa yn dechrau ar 1 Ebrill 2010, a hysbyswyd yr ymgeiswyr am ganlyniad y broses gwneud cais ar 15 Chwefror 2010.  Roedd cyfran fach o gyllid hefyd ar gael ar gyfer grantiau bach yn ystod y flwyddyn ar gyfer 2009 gwerth £57,622 a ddyfarnwyd i 13 sefydliadau a restrir isod.

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 8 Mawrth 2010

Sefydliad

Dyfarniad

Anabledd Powys

£6,000

Pobl yn Gyntaf Cymru

£10,615

Tîm Cefnogi Ieuenctid Ethnig

£10,250

Cyngor Cydraddoldeb Rhanbarthol y Cymoedd (VALREC) prosiect 1

£3,000

Cyngor Cydraddoldeb Rhanbarthol y Cymoedd  (VALREC) prosiect 2

£3,000

Merched yn Gwneud Gwahaniaeth

£3,000

Canolfan Sanatan

£750

Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan - prosiect 1

£2,925

Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan - prosiect 2

£3,610

BRfm (Best Radio for miles)

£1,500

Urban Circle

£1,500

YWCA Cymru a Lloegr

£2,472

Clymblaid Pobl Anabl Caerdydd a'r Fro (CVCDP)

£9,000

Cyfanswm

£57,622

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r rhesymau dros yr oedi wrth weinyddu’r Gronfa Hyrwyddo Cydraddoldeb cyn cyhoeddi’r ceisiadau llwyddiannus ar 14 Chwefror 2010. (WAQ55721)

Rhoddwyd ateb ar 16 Mawrth 2010

Rwy'n ymwybodol o'r oedi a fu o ran gweinyddu'r Gronfa Hyrwyddo Cydraddoldeb cyn i'r ceisiadau llwyddiannus gael eu cyhoeddi.  Rwyf hefyd yn ymwybodol o'r cwyn a wnaed ar y mater hwn o dan y Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu'r Trydydd Sector.  Mae fy swyddogion wrthi'n ymchwilio i'r gŵyn.

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi’i rhoi i gyllido corff eirioli annibynnol sy’n gweithio dros gyfle cyfartal i ferched yng Nghymru. (WAQ55722)

Rhoddwyd ateb ar 16 Mawrth 2010

Mae cyrff eirioli annibynnol sy'n gweithio dros gyfle cyfartal ar gyfer pob un o'r meysydd cydraddoldeb yng Nghymru yn bwysig, gan gynnwys gweithio dros gyfle cyfartal i ferched yng Nghymru.  Nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ariannu unrhyw gorff eirioli annibynnol penodol sy'n gweithio dros gyfle cyfartal - mae'r holl gyllid ar gyfer cyllid craidd a chyllid prosiectau ym maes cydraddoldeb ar gael drwy gystadleuaeth a phroses gwneud cais ffurfiol i'r Gronfa Hyrwyddo Cydraddoldeb; cyhoeddwyd canlyniadau'r Gronfa Hyrwyddo Cydraddoldeb ar gyfer 2010/11, 2011/12 a 2012/13 ar 15 Chwefror 2010.

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pwysigrwydd cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru. (WAQ55723)

Rhoddwyd ateb ar 16 Mawrth 2010

Mae rhywedd yn un o'r meysydd cydraddoldeb, ac felly, mae'n bwysig bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru, a'i bod yn hyrwyddo cydraddoldeb yn fwy cyffredinol.