08/10/2007 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 8 Hydref 2007

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 8 Hydref 2007

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A yw Comisiwn Coedwigaeth Cymru erioed wedi ceisio trwydded i darfu ar wiwerod coch a, neu, ddifrodi eu nythod neu fannau eraill a ddefnyddir ganddynt fel lloches, cyn neu yn ystod cynnal gwaith coetir mewn safleoedd y mae’n hysbys eu bod yn cynnwys poblogaethau o wiwerod coch? (WAQ50427)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymrwymedig i warchod y wiwer goch. Ar safleoedd sydd â phoblogaethau preswyl o’r wiwer goch, mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn defnyddio mesurau i ddiogelu’r poblogaethau hyn ac i osgoi cyflawni trosedd a fyddai fel arall yn ei gwneud yn ofynnol i gael trwydded er mwyn i weithrediadau’r coetiroedd allu parhau.

Mae’r wiwer goch yn rhywogaeth a warchodir gan ei bod wedi’i chynnwys yn Atodlen 5 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (2000) (Deddf CROW)).

Noda Adran 9 o’r Ddeddf honno:

'......if any person intentionally kills, injures or takes any wild animal included in Schedule 5, he shall be guilty of an offence’.

Mae hefyd yn nodi:

'…..if any person intentionally or recklessly damages or destroys, or obstructs access to, any structure or place which any wild animal included in Schedule 5 uses for shelter or protection, or disturbs any such animal while it is occupying a structure or place which it uses for that purpose he shall be guilty of an offence’.

Fodd bynnag, mae adran 10 o’r Ddeddf yn nodi:

'.....a person shall not be guilty of an offence ….. if he shows that the act was the incidental result of a lawful operation and could not reasonably have been avoided’.

Ein barn ni yw y bydd yr eithriad hwn yn berthnasol i weithgareddau coedwigaeth parhaus, ar yr amod y caiff y gweithgareddau hynny eu cyflawni’n gyfreithlon ac na allai’r anaf ac ati i’r anifail gwyllt fod wedi cael ei osgoi yn rhesymol.

Mae Adran 40 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (Deddf NERC) yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus ystyried, diben gwarchod bioamrywiaeth, wrth gyflawni ei swyddogaethau, cyhyd ag y bo hynny’n gyson â’r broses o gyflawni’r swyddogaethau hynny yn briodol. Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd hon.

At hynny, gan mai Comisiwn Coedwigaeth Cymru sy’n rheoli ystad goedwig y Cynulliad ar ran Gweinidogion Cymru, mae dyletswydd arno hefyd i gymryd y cyfryw gamau yr ymddengys eu bod yn rhesymol ymarferol i Weinidogion Cymru i ddatblygu’r broses o warchod yr organebau a’r rhywogaethau a gaiff eu cynnwys yn y rhestr a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 42 o Ddeddf NERC. Mae’r wiwer goch wedi’i chynnwys yn y rhestr hon o dan adran 42 (sy’n disodli’r rhestr a gyhoeddwyd o dan adran 74 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, a oedd hefyd yn cynnwys y wiwer goch).

Caiff y swyddogaethau statudol hyn eu hategu gan yr ymrwymiadau a nodir yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU, Strategaeth a Chynllun Gweithredu Amgylchedd Cymru a Fframwaith Bioamrywiaeth Cymru. Noda Adran 2.11 o Fframwaith Bioamrywiaeth Cymru fod:

'Annex B lays out the new legislation under Section 40 and 42 of the Natural Environment and Rural Communities Act 2006 (NERC), which reinforces each of these pieces of legislation and extends the future legal basis for biodiversity action in Wales. Mae Adran 40 o’r Ddeddf (yn berthnasol i Gymru a Lloegr) yn nodi: 'Every public authority must, in exercising its functions, have regard, so far as is consistent with the proper exercise of those functions, to the purpose of conserving biodiversity’.

ac:

'In order to be fully compliant with this legislation all strategies, policies, plans and projects affecting Wales need to recognise the importance of biodiversity and show the contribution they can make to its improvement’.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa archwiliadau a rheolaeth sydd ar waith i sicrhau bod Comisiwn Coedwigaeth Cymru’n cymryd pob cam angenrheidiol i osgoi amharu ar wiwerod coch a dinistrio safleoedd eu nythod neu eu llochesi wrth iddo gynnal gwaith coetir? (WAQ50428)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa archwiliadau a rheolaeth sydd ar waith i sicrhau bod Comisiwn Coedwigaeth Cymru’n cymryd pob cam angenrheidiol i ddod o hyd i safleoedd nythu gwiwerod coch cyn iddo gynnal gwaith mewn cynefinoedd coetir a reolir gan y wladwriaeth y mae’n hysbys eu bod yn cynnwys gwiwerod coch? (WAQ50429)

Jane Davidson: Wrth reoli ystad goedwig y Cynulliad, mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn defnyddio’r system Cynllunio Coedwig i sicrhau ei fod, ar y lefel strategol, yn cyflawni ei oblygiadau yn llawn er mwyn osgoi gweithredoedd sy’n niweidio cynefinoedd a rhywogaethau a warchodir ac sydd â blaenoriaeth.

Croesgyfeiriwch at y cyd-destun cyfreithiol a roddwyd fel ateb i WAQ50427: Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn cydymffurfio â’r dyletswyddau a’r gofynion cyfreithiol sy’n gysylltiedig â’r wiwer goch drwy:-

• Ar bob safle gweithredol yng Nghoetir y Cynulliad, lle caiff cynefinoedd a rhywogaethau a warchodir ac sydd â blaenoriaeth eu nodi fel nodweddion y safleoedd hynny, sicrhau y caiff mesurau er mwyn diogelu cyflwr cynefin a phoblogaethau lleol o rywogaethau o’r fath eu meithrin yn y Datganiadau Dull Gweithio.

• Drwy’r strwythur Grant Coetir, sicrhau bod taliadau i gefnogi’r gwaith ar lefel y coetir a’r clwstwr er mwyn gwella rhywogaethau a chynefinoedd a warchodir ar gael i berchnogion coetiroedd preifat.

• Mae rhywfaint o arian ar gael hefyd i gefnogi’r gwaith o reoli gwiwerod llwyd ar safleoedd sensitif.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd drwy Gomisiwn Coedwigaeth Cymru i sicrhau y caiff gwiwerod llwyd, sy’n cludo firws a all ladd gwiwerod coch brodorol, eu hatal rhag byw mewn coetiroedd a reolir gan y wladwriaeth ac sy’n cynnwys poblogaethau o wiwerod coch? (WAQ50430)

Jane Davidson: Mae Fforwm Gwiwerod Cymru (WSF) yn cynnwys sefydliadau statudol, sefydliadau anstatudol a grwpiau lleol ac mae’n rhoi cynllun gwarchod y Wiwer Goch ar waith yng Nghymru. Mae Strategaeth bresennol y Wiwer Goch yng Nghymru yn cael ei hadolygu a bydd cynhyrchu Cynllun Cadwraeth ar gyfer Gwiwerod Coch yng Nghymru yn rhoi fframwaith ar gyfer gwarchod ac adfer y rhywogaethau. Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn gweithio’n agos gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru ac eraill yn y broses o gynhyrchu’r cynllun hwn.

Mae nifer sylweddol o wiwerod llwyd yn bresennol yng Nghymru ac maent yn symud drwy gynefin addas yn ôl faint o fwyd sydd ar gael. Wrth reoli ystad goedwig y Cynulliad, mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn parhau i reoli’r wiwer lwyd mewn ffordd briodol ac wedi’i thargedu er mwyn diogelu iechyd coed a gwarchod y wiwer goch. Drwy’r strwythur grant coetir, Coetiroedd Gwell i Gymru, mae taliadau i ariannu’r gwaith ar lefel y coetir a’r clwstwr er mwyn gwella diogelwch rhywogaethau a chynefinoedd ar gael. Mae rhywfaint o arian ar gael hefyd i ariannu’r gwaith o reoli gwiwerod llwyd ar safleoedd sensitif.

Mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn parhau i gefnogi gwaith ymchwil ar warchod y wiwer goch, Feirws Brech y Wiwer a rheoli’r wiwer lwyd. Gellir cael arfer da ar gyfer rheoli’r wiwer lwyd yng nghyhoeddiad y Comisiwn Coedwigaeth sef 'Practice Note 4 - Controlling Grey Squirrel Damage to Woodlands’ a ddiwygiwyd ym mis Awst 2007.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatgan beth yw poblogaeth gyfredol gwiwerod coch coedwig Clocaenog, sut y cyfrifwyd y ffigur hwn, beth yw’r goddefiant gwallau yn yr amcan hwn ac a oes gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru ragamcan ar gyfer y niferoedd yn 2010 ac yn 2020? (WAQ50431)

Jane Davidson: Ceir gwiwerod coch drwyddi draw yng Nghoedwig Clocaenog mewn cynefinoedd addas. O’r adroddiad diweddaraf ar boblogaeth a gynhyrchwyd yn 2000, mae nifer y gwiwerod coch sy’n gallu cael eu cynnal gan y goedwig yn ei chyflwr presennol, a amcangyfrifwyd o ddadansoddiad Ardaloedd Cyswllt Deinamig Gofynnol (MDLA), ond ychydig uwchben isafswm lefel y boblogaeth hyfyw (MVP). Mae’r MDLA yn amcangyfrif bod 225 o wiwerod coch. Yr MVP yn amcangyfrif o ran yr MVP yw 200 o wiwerod coch. Y bwriad yw monitro bob 10 mlynedd h.y. 2010, 2020.

Gwybodaeth Ychwanegol: Ni ellir 'rhagweld’ poblogaethau rhywogaethau a warchodir yn hawdd - mae proses Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU yn caniatáu i dargedau poblogaeth gael eu pennu. Mae Fforwm Gwiwerod Cymru (WSF) yn cynnwys sefydliadau statudol, sefydliadau anstatudol a grwpiau lleol ac yn rhoi cynllun gwarchod y Wiwer Goch ar waith yng Nghymru. Mae Strategaeth bresennol y Wiwer Goch yng Nghymru yn cael ei hadolygu a bydd cynhyrchu Cynllun Cadwraeth ar gyfer Gwiwerod Coch yng Nghymru yn rhoi fframwaith ar gyfer gwarchod ac adfer y rhywogaethau. Mae’n bosibl fod Partneriaeth Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol, sy’n cwmpasu ardal Coedwig Clocaenog wedi pennu targed, ar gyfer nifer yr unigolion a ddylai, yn eu barn hwy, gael eu cynnwys ym mhoblogaeth y wiwer goch yn eu hardal leol yn y dyfodol.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnwys Llanfair-ym-Muallt mewn rhaglen amddiffyn rhag llifogydd? (WAQ50432)

Jane Davidson: Mae’r ardal dan sylw yn agored i lifogydd o Afon Gwy sy’n brif afon ddynodedig. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gyfrifol am faterion rheoli’r perygl o lifogydd sy’n gysylltiedig â phrif afonydd Cymru.

Deallaf gan Asiantaeth yr Amgylchedd fod Llanfair-ym-Muallt, ac yn enwedig Llanelwedd, wedi cael llifogydd ar hyd gorlifdir yr afon yn y gorffennol. Digwyddodd yr achos diweddar mwyaf arwyddocaol ym mis Hydref 1998 pan gafodd tua 17 o adeiladau eu gorlifo a tharfwyd ar y traffig.

Cefais wybod gan Asiantaeth yr Amgylchedd fod sawl astudiaeth ddichonoldeb wedi’u cyflawni dros y 30-40 mlynedd diwethaf o b’un a ellir gwella safonau diogelu rhag llifogydd yn yr ardal. Nid yw’r broblem yn Llanfair-ym-Muallt, oherwydd ei maint, yn un o flaenoriaethau buddsoddi Asiantaeth yr Amgylchedd ar hyn o bryd.

Nod ein Rhaglen Ymagweddau Newydd ar gyfer rheoli’r perygl o lifogydd a risg arfordirol yng Nghymru yw hwyluso newid yn ein dull o reoli’r perygl o lifogydd a bydd canlyniadau’r rhaglen honno yn helpu i greu rhaglenni gwaith newydd yn y dyfodol. Unwaith y bydd y Rhaglen wedi’i chwblhau bydd fy swyddogion yn rhan o’r broses o adolygu blaenraglen Asiantaeth yr Amgylchedd.