11/07/2007 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 11 Gorffennaf 2007

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 11 Gorffennaf 2007

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg. Cynnwys Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth Cwestiynau i’r Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad misol, dros yr wyth mlynedd diwethaf, o a) cynnyrch mewnwladol crynswth, a b) cynnyrch gwladol crynswth Cymru, a pha gymhariaeth y mae wedi’i gwneud gyda’r rhain yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon? (WAQ50194) Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Brian Gibbons): Rhoddir dadansoddiad o Werth Ychwanegol Crynswth (GYC) sy’n cwmpasu’r wyth mlynedd ddiweddaraf sydd ar gael yn y tabl. Dim ond amcangyfrifon ar sail flynyddol sydd ar gael. Gwerth Ychwanegol Crynswth yw’r cyfrifon cenedlaethol cyffredinol sydd ar gael ar gyfer y gwledydd unigol o fewn y DU. (Defnyddiwyd y term Cynnyrch Mewnwladol Crynswth ar brisiau sylfaenol o dan y system cyfrifon cenedlaethol flaenorol.) Nid oes unrhyw amcangyfrifon swyddogol o Gynnyrch Gwladol Crynswth pob gwlad unigol o’r DU. Cynyddodd y cyfanswm GYC yng Nghymru o 34 y cant rhwng 1999 a 2005. Gwelwyd cynnydd o 39% mewn digolledu cyflogeion, sef y rhan o’r GYC sy’n effeithio fwyaf uniongyrchol ar bobl yng Nghymru, dros yr un cyfnod. Mae hyn yn cymharu â chynnydd o 38 y cant yn yr elfen hon o GYC yng ngweddill y DU dros yr un cyfnod. Gwelwyd cynnydd o 36 y cant, 33 y cant a 34 y cant yng nghyfanswm GYC yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn y drefn honno dros yr un cyfnod. Gwerth ychwanegol crynswth yng Nghymru, yn ôl uned incwm (£ miliwn)
Atebion a roddwyd i Aelodau ar 11 Gorffennaf 2007
  Digolledi cyflogeion Gwarged gweithredol/incwm cymysg Cyfanswm y gwerth ychwanegol crynswth

1998

18,172

11,511

29,683

1999

19,142

11,453

30,595

2000

20,366

11,378

31,744

2001

21,581

11,835

33,416

2002

22,596

12,427

35,024

2003

23,844

13,270

37,115

2004

25,130

14,186

39,316

2005

26,523

14,344

40,867

Ffynhonnell: Cyfrifon Rhanbarthol yr ONS Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Faint o swyddi sector preifat sydd wedi’u colli yng Nghymru dros yr wyth mlynedd diwethaf, a pha gymhariaeth y mae’r Gweinidog wedi’i gwneud gyda ffigurau blynyddol byd-eang? (WAQ50195) Brian Gibbons: Caiff nifer fawr o swyddi sector preifat eu colli a’u creu bob blwyddyn yng Nghymru fel rhan o’r broses barhaus o ailstrwythuro deinamig sy’n gyffredin i bob economi ddatblygedig. Rhwng 2001 a 2004 (y cyfnod y mae amcangyfrifon ar gael ar ei gyfer), ar gyfartaledd, collwyd tua 107,000 o swyddi yn y sector preifat bob blwyddyn a chrewyd tua 117,000. Rhwng 1999 a’r flwyddyn tan fis Medi 2006, effaith net creu a cholli swyddi oedd cynnydd amcangyfrifedig o 85,000 (neu 9 y cant) yn y nifer y swyddi sector preifat yng Nghymru. Nid yw’n hawdd cael gafael ar ffigurau ar gyfer y byd yn ei gyfanrwydd, ond ar gyfer y DU, gwelwyd cynnydd o 5 y cant yn nifer y swyddi sector preifat dros yr un cyfnod.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru) A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Cyfnod Sylfaen? (WAQ50186) Y Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg (Carwyn Jones): Rwy’n parhau yn gwbl ymrwymedig i gyflwyno’r Cyfnod Sylfaenol o fis Medi 2008 a chyflenwi ‘Cynllun Gweithredu Adeiladu’r Cyfnod Sylfaenol’ a lansiwyd fis Rhagfyr diwethaf. Dros y chwe mis diwethaf rydym wedi: • Cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y Fframwaith Cyfnod Sylfaenol ar gyfer Dysgu Plant; • Datblygu Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaenol; • Cyhoeddi lleoliad 42 o ysgolion cychwyn cynnar ac ariannu safleoedd nas cynhelir a fydd yn cyflwyno’r Cyfnod Sylfaenol o fis Medi eleni; • Darparu arian grant i bob awdurdod lleol er mwyn penodi Swyddog Hyfforddi a Chymorth i reoli’r broses o gyflwyno’r Cyfnod Sylfaenol; • Sicrhau bod dros £2.5 miliwn ar gael fel bod gan bob un o’r darparwyr blynyddoedd cynnar nas cynhelir a ariennir fynediad i o leiaf 10 y cant o amser athro cymwysedig; • Dyfarnu grantiau i Dysgu drwy Dirweddau a’r Fforwm Coetiroedd ar gyfer Dysgu i weithio gydag ysgolion ac Awdurdodau Addysg Lleol ar ddatblygu ac addasu’r amgylchedd dysgu awyr agored; • Cydweithio ag Awdurdodau Addysg Lleol yn lleol ac ar lefel consortia er mwyn llunio rhaglen hyfforddi i helpu pob aelod o staff i baratoi ar gyfer cyflwyno’r Cyfnod Sylfaenol; • Datblygu strategaeth gyfathrebu i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r cyfnod sylfaenol a chyfleoedd gyrfa i’r gweithlu; • Sefydlu Gr.p Rheoli Prosiect Cenedlaethol a strwythur cymorth i oruchwylio’r broses o roi’r Cyfnod Sylfaenol ar waith. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pobl ifanc rhwng 16 a 19 oed yn cael eu cefnogi i aros mewn addysg neu ddysgu seiliedig ar waith? (WAQ50187) Carwyn Jones: Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymrwymedig i drawsnewid darpariaeth 14-19 yng Nghymru a chyfleoedd pob person ifanc. Caiff hyn ei wneud drwy ymestyn dewis a hyblygrwydd; sicrhau llwybrau dysgu wedi’u teilwra’n unigol sy’n diwallu anghenion dysgwyr a darparu cyfleoedd a phrofiadau cyfoethocach a fydd yn helpu pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau fydd eu hangen arnynt ar gyfer bywyd a gwaith. Yr hyn rydym am ei gyflawni drwy’r Llwybrau Dysgu 14-19 yw sicrhau bod pob unigolyn 14-19 oed yn cael llwybr dysgu unigol unigryw gyda’r opsiynau sy’n gweddu orau i’w ddiddordebau, ei allu a’i arddulliau dysgu. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa ystyriaeth sydd wedi’i rhoi gan y Gweinidog i newid y canllawiau sy’n ymwneud ag enwi ysgol? (WAQ50197) Carwyn Jones: Nodir y gofynion statudol presennol sy’n ymwneud â newid enw ysgol yn Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005, a ddaeth i rym ar 31 Hydref 2005. Bu ymgynghori eang ar y rheoliadau hyn cyn iddynt gael eu trafod a’u cymeradwyo gan y Cynulliad mewn Cyfarfod Llawn ar 18 Hydref 2005. Nid oedd galwad yn sgil yr ymgynghoriad i ddiwygio’r darpariaethau sy’n ymwneud â newid enw ysgol. O ystyried hyn, nid wyf yn bwriadu diwygio na diddymu’r darpariaethau hyn drwy ddeddfwriaeth bellach.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gyhoeddi canlyniad yr archwiliad o wasanaethau ar gyfer pobl h.n sy’n rhan o’r rhaglen waith ar gyfer gweithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hyn? (WAQ50189) Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Faint o Fyrddau Iechyd Lleol sydd wedi ymateb i’r archwiliad o wasanaethau ar gyfer pobl h.n sy’n rhan o’r rhaglen waith ar gyfer gweithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hyn? (WAQ50190) Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Caiff y broses o fonitro gweithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol i Bobl Hyn yng Nghymru ei chynnal drwy ddefnyddio Offer Archwilio Hunan Asesiad newydd ar y rhyngrwyd sy’n cyflwyno adroddiad ar gynnydd ar sail iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar y cyd ar gyfer pob ardal sirol. Mae ffurflenni blynyddol ar gyfer targedau a cherrig milltir 2006-07 bellach wedi’u cwblhau ar gyfer pob maes partneriaeth yng Nghymru. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’r canlyniadau o’r archwiliad hwn ar wefan y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol i Bobl Hyn (www.howis.wales.nhs.uk/oldernsf) yn fuan.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adeiladu eiddo Cymdeithasau Tai gyda chawodydd mynediad gwastad ar gyfer yr henoed? (WAQ50183) Y Dirprwy Weinidog dros Dai (Leighton Andrews): Roedd yn ofynnol i bob cartref newydd a adeiladwyd gan Gymdeithasau Tai yng Nghymru ers mis Gorffennaf 2005 gyrraedd y Safonau Cartrefi Gydol Oes a gyhoeddwyd gan Sefydliad Joseph Rowntree. Mae’r cysyniad o Gartrefi Gydol Oes yn ymwneud â darparu cartrefi sy’n hyblyg ac yn ymatebol i anghenion cyfnewidiol y deiliaid ac sy’n hygyrch i bawb gan gynnwys y rheini sydd â nam corfforol, sy’n oedrannus neu sydd â nam ar eu synhwyrau. Felly rhoddir cawod a bath ym mhob cartref newydd. Mewn tai newydd, caiff y gawod ei rhoi ar y llawr daear/ lefel mynediad a chaiff ei chynllunio i’w defnyddio gan bobl sy’n cael trafferth symud neu sydd mewn cadair olwyn. Rhoddir cawod a bath mewn fflatiau a byngalos hefyd ac mae gan fflatiau llawr daear a fflatiau a wasanaethir gan lifft ystafelloedd ymolchi sydd wedi’u cynllunio fel y gallant gael eu haddasu i gael eu defnyddio gan bobl sy’n cael trafferth symud neu sydd mewn cadair olwyn. Darperir tai Gofal Ychwanegol neu Bobl Oedrannus Fregus sydd wedi’u cynllunio’n arbennig i ddiwallu anghenion pobl oedrannus, yn enwedig y rhai sydd angen lefel uchel o gymorth drwy fflatiau hunan gynhaliol annibynnol. Caiff yr holl fflatiau eu hadeiladu i safonau cadair olwyn ac mae ganddynt gawod hygyrch i gadair olwyn gyda drws sy’n cysylltu â’r brif ystafell wely fel y gellir ychwanegu teclyn codi. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisi’r Cynulliad o ran penderfyniadau Cynghorau Sir i gwtogi ar nifer y Cynghorwyr Cymuned? (WAQ50192) Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Nid mater i’r Cynulliad yw hwn. Mae Deddf Llywodraeth Leol 1972 yn gosod dyletswydd ar brif awdurdodau i barhau i adolygu ffiniau cymunedol a threfniadau etholiadol cymunedol o fewn eu hardal.