11/07/2008 - Cwetstiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 4 Gorffennaf 2008
i’w hateb ar 11 Gorffennaf 2008

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fonitro defnydd staff Llywodraeth Cynulliad Cymru a) o'r e-bost a b) o'r rhyngrwyd. (WAQ52175)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw'r amser ymateb cyfartalog ar gyfer gohebiaeth i Lywodraeth Cynulliad Cymru ym mhob blwyddyn er 1999, fesul adran. (WAQ52178)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw'r amser ymateb hiraf ar gyfer gohebiaeth i Lywodraeth Cynulliad Cymru ym mhob blwyddyn er 1999, fesul adran. (WAQ52179)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw'r pellter a amcangyfrifir bod Gweinidogion wedi teithio a) mewn car, b) mewn trên, c) ar awyren a d) drwy ddefnyddio dulliau eraill o drafnidiaeth ar fusnes swyddogol Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mhob blwyddyn ers iddynt ddechrau yn eu swydd. (WAQ52182)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sawl Ysgol Gynradd yng Nghymru sydd wedi mabwysiadu cynllun brecwast am ddim Llywodraeth y Cynulliad ac yna wedi tynnu allan o'r cynllun, ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad fesul awdurdod lleol. (WAQ52170)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad sydd wedi cael ei wneud o nifer yr eitemau a gafodd eu dwyn o ysgolion yng Nghymru ym mhob blwyddyn er 1999, a beth yw amcan werth yr eiddo a gafodd ei ddwyn. (WAQ52183)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cael o ran ehangu defnydd y Cerdyn Teithio Rhatach ledled y DU. (WAQ52184)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A yw technolegau adnewyddadwy wedi cael eu cynnwys yn yr adolygiad o'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref. (WAQ52189)

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Beth oedd canlyniad yr astudiaeth gwmpasu lawn, a addawyd gan y Gweinidog Edwina Hart yn ystod trafodaeth yn y cyfarfod llawn ar Chwefror 13eg 2007, i dechnolegau adnewyddadwy a'r posibilrwydd o'u cynnwys yn y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref. (WAQ52190)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sawl tudalen sydd wedi cael ei dileu o wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mhob blwyddyn ers ei sefydlu, gan ddarparu dadansoddiad fesul pwnc. (WAQ52171)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ganllawiau swyddogol a roddir i staff Llywodraeth Cynulliad Cymru am ddefnyddio dulliau trafnidiaeth gynaliadwy pan fyddant ar fusnes swyddogol. (WAQ52173)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion faint o gynnyrch Masnach Deg a gynigir mewn derbyniadau a chyfarfodydd swyddogol Llywodraeth Cynulliad Cymru. (WAQ52172)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'i wario ar letygarwch ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ52174)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r arbedion posibl o ran ynni ac arian petai staff Llywodraeth Cynulliad Cymru'n diffodd cyfrifiaduron personol pan nad ydynt yn eu defnyddio. (WAQ52176)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion faint o fwyd a addaswyd yn enetig sydd wedi cael ei weini a) ar eiddo Llywodraeth Cynulliad Cymru a b) mewn derbyniadau a noddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. (WAQ52177)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'i wario ar a) cyfathrebu allanol a b) cyfathrebu mewnol ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ52180)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'i wario ar hysbysebu a) mewn papurau newydd, b) ar y teledu, ac c) ar y radio ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ52181)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A yw'r Gweinidog yn ystyried gweithredu Cynllun Canser Cymru Gyfan er mwyn rhoi ar waith y polisïau a amlinellwyd yn y ddogfen 'Cynllun i Fynd i'r Afael â Chanser' a'r argymhellion a wnaethpwyd gan y Pwyllgor Iechyd. (WAQ52167)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa wasanaethau sydd ar gael i blant oedolion sy'n dioddef canser i egluro beth sy'n digwydd i'w rhiant. (WAQ52168)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am ei hymweliad diweddaraf â'r Gogledd gan gynnwys pwrpas yr ymweliad, amcan o'r gost, dull o deithio yno ac yn ôl i Gaerdydd, nifer y staff a aeth yn gwmni iddi, amseroedd pob cyfarfod a sut y teithiodd o un cyfarfod i'r llall. (WAQ52169)

Gofyn i'r Gweinidog dros Dreftadaeth

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n eu cymryd i wneud Cymru'n gyrchfan fwy deniadol i ymwelwyr ar eu gwyliau o weddill y DU. (WAQ52185)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n eu cymryd i wneud Cymru'n gyrchfan fwy deniadol i ymwelwyr ar eu gwyliau o wledydd Ewropeaidd eraill. (WAQ52186)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o arian y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'i neilltuo ar gyfer y gyllideb marchnata twristiaeth ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ52187)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gyfran o gyllideb marchnata twristiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi cael ei wario ar hysbysebu a) o fewn Cymru, b) o fewn y DU, ac c) dramor ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ52188)