11/11/2011 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 4 Tachwedd 2011 i’w hateb ar 11 Tachwedd 2011

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith penderfyniad Llywodraeth y DU i leihau’r cymhorthdal ar gyfer pwer yr haul ar ddiwydiant ynni'r haul yng Nghymru. (WAQ58343)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa asesiad, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o raddfa pla clymog Japan yng Nghymru ym mhob un o’r 5 mlynedd diwethaf. (WAQ58344)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog egluro pa gynlluniau sydd ganddo i gryfhau cyfrifoldebau a phwerau Awdurdodau Lleol er mwyn mynd i’r afael â rhywogaethau planhigion tramor goresgynnol. (WAQ58345)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog egluro sawl cais y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael, a gan ba fudiadau, i’r gronfa gwerth £1 miliwn i gefnogi gwytnwch ecosystemau er mwyn rheoli rhywogaethau goresgynnol tramor. (WAQ58346)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Lynne Neagle (Tor-faen): Yn dilyn ei hateb i WAQ58228, pryd y mae’r Gweinidog yn disgwyl i Iechyd Cyhoeddus Cymru gwblhau ei waith yn coladu nifer y ceisiadau am gyffuriau drud dan y Broses Cymeradwyo Cyllido Claf, ynghyd â nifer y ceisiadau a gafodd eu cymeradwyo a'u gwrthod ar gyfer cyffuriau penodol. (WAQ58340)

Lynne Neagle (Tor-faen): Yn dilyn ateb y Gweinidog i WAQ58228, er mwyn hybu tryloywder, a wnaiff y Gweinidog ystyried gwneud dadansoddiad pellach o’r cyhoeddiad o nifer y ceisiadau am gyffuriau drud dan y Broses Cymeradwyo Cyllido Claf yn ôl y Bwrdd Iechyd yng Nghymru, ynghyd â nifer y ceisiadau a’r nifer a wrthodwyd am gyffuriau penodol ym mhob bwrdd iechyd. (WAQ58341)

Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad yn ôl Byrddau Iechyd Lleol o nifer y babanod cynamserol, dros y ddwy flynedd diwethaf, a ddaeth yn ôl i ward bediatrig ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o ofal arbennig. (WAQ58342)

Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A all y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch unrhyw gyfarfodydd neu drafodaethau a gafodd yn ddiweddar gydag enwadau eglwysi mewn perthynas â gwarchod capeli hanesyddol yng Nghymru. (WAQ58339)