13/02/2017 - Cwestiynau ac Atebion Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 07/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/02/2017

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 6 Chwefror 2017 i'w hateb ar 13 Chwefror 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa warantau ariannol sydd wedi cael eu rhoi neu eu hawdurdodi gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phrosiect Cylchffordd Cymru? (WAQ72028)

Derbyniwyd ateb ar 10 Chwefror 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith (Ken Skates): The only Financial Guarantee authorised or issued by Welsh Government on the Circuit of Wales was in relation to part of a loan provided to the company by its bankers in 2014, under which a payment of £7.3m was made in May 2016.
 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): Beth fydd y broses o asesu lleoliad Awdurdod Cyllid Cymru yn y dyfodol, ar ôl i'w leoliad dros dro yn Nhrefforest ddod i ben? (WAQ72029)W

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): Mae Arfarniad Opsiynau Lleoliadau Awdurdod Cyllid Cymru yn dangos mai Parc Cathays, Merthyr a Threfforest oedd y tri lleoliad ar restr fer y mannau i'w hystyried, beth oedd dyddiad ffurfio'r rhestr hon? (WAQ72030)W

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): Parthed Arfarniad Opsiynau Lleoliadau Awdurdod Cyllid Cymru, pa ystyriaethau a roddwyd i leoli'r adran yng Ngogledd Cymru?  (WAQ72031)W

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): Pa mor bwysig oedd llenwi adeilad gwag Llywodraeth Cymru wrth wneud y penderfyniad terfynol ar leoliad Awdurdod Cyllid Cymru? (WAQ72032)W

Derbyniwyd ateb ar 16 Chwefror 2017.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol (Mark Drakeford): Bydd lleoliad Awdurdod Cyllid Cymru'n cael ei adolygu ar ôl deunaw mis. Bydd yr adolygiad yn ystyried gofynion gweithredol yr Awdurdod a ph'un a yw wedi denu'r sgiliau penodol ac arbenigol y mae eu hangen er mwyn gweithredu'n effeithiol. Bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried Strategaeth Leoli ehangach Llywodraeth Cymru.

Gosodwyd yr arfarniad o opsiynau ar gyfer lleoliad gerbron y Cynulliad ar 3 Chwefror. Roedd yr adroddiad hwn yn asesu'r materion a ystyriwyd wrth benderfynu lleoli'r Awdurdod yn Nhrefforest ac iddo gael presenoldeb yn Aberystwyth a Llandudno. Lluniwyd fersiwn derfynol o'r adroddiad fis Hydref ac fe'i cyflwynwyd imi ei ystyried. Defnyddiais yr amser hwn i bwyso a mesur yr opsiynau ac fe ymgynghorwyd ag ochr yr Undebau Llafur o fewn Llywodraeth Cymru hefyd.

Wrth gynnal yr arfarniad, cadarnhawyd mai aros o fewn ystad Llywodraeth Cymru fyddai'n cynnig y gwerth gorau am arian. Mae'r arfarniad o opsiynau (tudalen 14, pwynt 67) yn nodi'r meini prawf a ddefnyddiwyd wrth ddiystyru eiddo posib yn ystad Llywodraeth Cymru. Roedd y meini prawf hyn yn cynnwys bod lle ar gael yn yr eiddo erbyn mis Ebrill 2018, addasrwydd y les a bodloni gofynion yr Awdurdod. Roedd y rhestr fer yn cynnwys chwech o adeiladau'r Llywodraeth wedi'u lleoli ledled Cymru.

Nid adeiladau'r Llywodraeth nad oeddent yn cael eu defnyddio a aseswyd fel rhan o'r arfarniad, ond swyddfeydd â chanddynt ddigon o le ac a oedd yn bodloni gofynion yr Awdurdod. Cafodd swyddfeydd y Llywodraeth yn y Gogledd eu hasesu a'r unig un a oedd yn gallu diwallu anghenion yr Awdurdod oedd swyddfa Cyffordd Llandudno.