13/07/2009 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 13 Gorffennaf 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 13 Gorffennaf 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Michael German (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau mae’r Prif Weinidog wedi’u cael ynghylch yr angen am labordy Gwasanaeth Gwyddoniaeth Fforensig yng Nghymru? (WAQ54526)

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Ar 8fed Mehefin 2009 cyhoeddodd y Gwasanaeth Gwyddoniaeth Fforensig (FSS) y byddai ymgynghoriad 90 diwrnod yn dechrau ar gyfer ei holl safleoedd yn y DU. Disgwylir i’r ymgynghoriad ddod i ben ar ddechrau mis Medi. Nid oes penderfyniadau wedi eu gwneud eto, ac mae awgrymiadau bod penderfyniadau ar ddiswyddiadau a chau unrhyw ganolfannau, gan gynnwys Cas-gwent, eisoes wedi’u gwneud yn anghywir.

Serch hynny, mae bygythiad posibl i Labordy’r FSS yng Nghas-gwent ac rwyf wedi trafod yr achos dros ei gadw gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan obeithio cynnal trafodaethau pellach â’r Ysgrifennydd Cartref.

Byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddiogelu’r swyddi o safon uchel y mae’r ased gwerthfawr hwn yn eu darparu.

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa drafodaethau diweddar mae’r Gweinidog wedi’u cael gydag (i) perchnogion porthladdoedd (ii) gweithredwyr cludo nwyddau ar reilffyrdd a (iii) rheilffyrdd cludo nwyddau ynghylch gwella mynediad rheilffyrdd i borthladdoedd Cymru? (WAQ54471)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Cyfarfûm â gweithredwyr porthladdoedd ym mis Mawrth ac rwyf wedi sefydlu Grŵp Porthladdoedd Cymru i drafod amryw faterion yn rheolaidd, gan gynnwys mynediad rheilffyrdd. Mae fy swyddogion yn cwrdd â gweithredwyr trenau nwyddau yn rheolaidd i drafod ystod eang o faterion, gan gynnwys mynediad i borthladdoedd, ac rwy’n cael fy hysbysu’n rheolaidd o’r trafodaethau hyn.

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Faint o staff adran y Gweinidog sy’n gweithio ar wella’r cysylltiadau ffordd yng Nghymru rhwng y gogledd a’r de? (WAQ54474)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Mae aelodau o staff ym maes Trafnidiaeth yn gweithio ar drawstoriad o brosiectau sy’n mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud ag amrywiaeth o fentrau ac yn cwmpasu ardaloedd daearyddol. Nid yw’n bosibl rhoi ffigurau diffiniol (h.y. Cyfwerth ag Amser Llawn) o ran nifer yr unigolion sy’n gweithio ar wella cysylltiadau rhwng Gogledd a De Cymru.

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa asesiad mae’r Gweinidog wedi’i wneud o’r gost o drawsnewid safleoedd parcio a theithio i’w defnyddio fel meysydd parcio lorïau dros nos (i) i berchnogion safleoedd a (ii) i Lywodraeth Cynulliad Cymru? (WAQ54478)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Hyd yn hyn nid wyf wedi gwneud asesiad o’r fath.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa amserlenni targed sydd ar waith ar gyfer ystyried a phenderfynu ar geisiadau a wnaed dan y Gronfa Fuddsoddi Sengl? (WAQ54498)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Mae angen i derfynau amser ar gyfer elfennau gwahanol o’r cynllun newydd gael eu pennu’n derfynol o hyd, ond byddant fel rheol yn amrywio rhwng 10 a 40 diwrnod gwaith o’r dyddiad y ceir cais wedi’i gwblhau’n llawn a thystiolaeth ategol sy’n mynd i’r afael â’r holl feini prawf angenrheidiol. Ni chaiff yr holl geisiadau eu penderfynu o fewn y terfynau amser hynny gan nad yw’n anghyffredin i gynigion ar fuddsoddiadau newid ar ôl derbyn y cais. Er enghraifft, gallai’r proffil gwariant cyfalaf a chyllid y prosiect newid yn sylfaenol. Yn ogystal â hyn, gall oedi ddigwydd os bydd y broses diwydrwydd dyladwy yn amlygu unrhyw broblemau y gallai fod angen ymchwilio iddynt ymhellach i sicrhau y caiff arian cyhoeddus ei stiwardio’n briodol.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y grantiau sydd ar gael ar gyfer cyfleusterau twristiaeth yng Nghymru? (WAQ54525)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Mae grantiau twristiaeth ar gael drwy’r Gronfa Fuddsoddi Sengl. Ceir rhagor o fanylion drwy ffonio 03000 6 03000 neu ewch i wefan Cymorth Hyblyg i Fusnes yn www.cymorth-busnes-cymru.gov.uk

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion, ar wahân, ynghylch sawl unigolyn a busnes yn y Gogledd sydd wedi llwyddo i gael mynediad at gyllid ProAct ym mhob mis ers iddo gael ei gyflwyno? (WAQ54500)

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Atodaf ddadansoddiad o’r arian a roddwyd i gwmnïau yng Ngogledd Cymru, wedi’i rannu fesul mis gan roi manylion am yr unigolion a fydd yn cael budd o’r arian hwn.

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 13 Gorffennaf 2009

Mis

Nifer y Cwmnïau

Nifer yr Unigolion

Swm yr Arian

Mawrth

1

25

£72,203

Ebrill

1

21

£40,265

Mai

3

261

£633,825

Mehefin

6 (ac un cynllun hyfforddi ychwanegol)

306

£734,911

Cyfanswm

 

613

£1,481,204

Yn ogystal â hyn mae 12 yn rhagor o gwmnïau a leolir yng Ngogledd Cymru wedi bod drwy’r cam panel ac yn datblygu cynlluniau hyfforddi. Mae hyn yn ymrwymiad posibl yn y dyfodol o £2,472,000 a gallai gynnwys hyd at 857 o unigolion.

Janet Ryder (Gogledd Cymru): Pryd oedd y tro diwethaf i Lywodraeth Cynulliad Cymru adolygu swyddogaeth cyrff llywodraethu ysgolion mewn achosion o gwynion yn erbyn yr ysgol? (WAQ54519)

Jane Hutt: O dan Adran 29 o Ddeddf Addysg 2002, mae’n ofynnol bod gan bob corff llywodraethu weithdrefn gwyno ar waith ac wedi’i chyhoeddi.

Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried cwynion am ysgolion yn fel mater o drefn. Mewn achosion lle mae’r achwynydd wedi cyflwyno’r gŵyn i’r corff llywodraethu ac ymddengys fod afreoleidd-dra mewn gweithdrefnau neu broblemau difrifol nas datryswyd, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn tynnu sylw’r Awdurdod Addysg Lleol at y mater i’w ystyried a/neu gymryd camau. Gall AALlau ymyrryd os barnant fod prosesau llywodraethu neu reoli mewn ysgol yn wael.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn ymrwymedig i wella’r ffordd yr ymdrinnir â chwynion ac mae’n bwriadu cyhoeddi canllawiau newydd i gyrff llywodraethu a fydd yn cynnwys gweithdrefn enghreifftiol. Fe’i datblygwyd mewn partneriaeth â Llywodraethwyr Cymru (sefydliad mantell o lywodraethwyr ysgolion), awdurdodau lleol a Chomisiynydd Plant Cymru. Ar hyn o bryd, gall pob corff llywodraethu benderfynu p’un ai i fabwysiadu’r weithdrefn enghreifftiol ai peidio.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr o’r cyhoeddiadau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi talu tanysgrifiad iddynt ym mhob un o’r 5 mlynedd diwethaf, gan eu rhestru yn y drefn (a) enw’r cyhoeddiad a (b) y swm a dalwyd? (WAQ54470)

Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Nid yw’r wybodaeth a geisir yn cael ei chadw’n ganolog ond ysgrifennaf atoch gyda rhestr o gyhoeddiadau y mae Gwasanaeth Llyfrgell a Chyhoeddiadau’r Cynulliad wedi talu tanysgrifiad amdanynt ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf, gan eu rhestru yn ôl (a) cyhoeddiad a (b) y swm a dalwyd. Caiff y wybodaeth ei rhoi pan fyddwn yn ei chael gan y cyflenwyr priodol.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Faint o swyddi gwag sydd mewn fferyllfeydd yng Nghymru ar hyn o bryd? (WAQ54520)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Cyhoeddir data ar nifer y swyddi gwag yn y GIG ar wefan Llywodraeth y Cynulliad (gweler y ddolen isod). Caiff fferyllwyr cymunedol eu contractio gan Fyrddau Iechyd Lleol i ddarparu gwasanaethau fferyllol penodol yn eu hardaloedd lleol ac maent yn gyfrifol yn unigol am staffio eu safleoedd eu hunain. Felly, ni chedwir data ar nifer y swyddi gwag mewn fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru yn ganolog.

http://www.statswales.wales.gov.uk/TableViewer/tableView.aspx?ReportId=1304

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Faint o beiriannau anadlu osgiladol sydd mewn ysbytai yng Nghymru ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad fesul Ymddiriedolaeth GIG? (WAQ54521)

Edwina Hart: Nid yw’r wybodaeth hon ar gael yn ganolog.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Faint o arian mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wario ar ei hymrwymiad i sicrhau bod o leiaf un nyrs ysgol ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru, ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad fesul Awdurdod Addysg Lleol? (WAQ54522)

Edwina Hart: Nid yw’r wybodaeth hon ar gael eto.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at sicrhau bod o leiaf un nyrs ysgol ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru? (WAQ54523)

Edwina Hart: Caiff y Fframwaith ar gyfer Gwasanaeth Nyrsio mewn Ysgolion ei gyhoeddi ar ddiwedd mis Gorffennaf.

Janet Ryder (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog egluro’r rhesymwaith dros y cynlluniau i symud gwasanaeth Galw Iechyd Cymru ar gyfer y Gogledd o Fangor i Lanelwy ac ystyried bod y gwasanaeth ym Mangor wedi hen ennill ei blwyf ac yn seiliedig ar ddefnyddio’r ffôn? (WAQ54529)

Janet Ryder (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgan faint o staff presennol Galw Iechyd Cymru, sydd yn meddu ar sgiliau a phrofiad, a fydd yn trosglwyddo i’r ganolfan Galw Iechyd Cymru newydd yn Llanelwy a pha ddewisiadau sydd ar gael iddynt ym Mangor, oni fyddant yn dewis trosglwyddo neu oni chânt drosglwyddo? (WAQ54530)

Janet Ryder (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog sicrhau bod digon o staff ar gael yn Galw Iechyd Cymru i ddelio ag ymholiadau yn y naill iaith a’r llall pan fydd yn symud i Lanelwy? (WAQ54531)

Janet Ryder (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddweud wrthyf beth fydd y goblygiadau ariannol i drethdalwyr ac i’r staff yn sgil trosglwyddo gwaith Galw Iechyd Cymru o Fangor i Lanelwy, ee o ran costau teithio a sut y cyfrifwyd y costau hyn? (WAQ54532)

Edwina Hart: Y rhesymeg dros y cynnig hwn yw nad yw’r safle cyfredol yn Llanfairfechan, sy’n gartref i ystafell reoli Gogledd Cymru, yn addas at y diben mwyach ac mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn ystyried, fel rhan o’i Strategaeth Ystadau, adleoli’r gwasanaeth hwn.

Fel rhan o’r gwaith o ddatblygu’r achos busnes a nodi’r opsiynau, bydd angen i’r Ymddiriedolaeth ystyried nifer o faterion, gan gynnwys y posibilrwydd o adleoli gyda gwasanaethau brys eraill, cost, gwerth am arian ac, yn dilyn ei uno â Galw Iechyd Cymru, botensial a dichonadwyedd cyd-leoli’r ddau wasanaeth a’r effaith a gaiff ar y staff a’r gwasanaethau.

Os oes unrhyw newidiadau mawr, fel adleoli un o’r gwasanaethau neu’r ddau, yn cael eu hargymell, byddwn yn disgwyl ardystiad llawn o’r opsiynau ac ymgynghoriad ffurfiol â’r staff.

Ni allaf ragdybio canlyniad y broses hon ond disgwyliaf gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ac argymhellion ac, yn y pen draw, disgwyliaf gael achos busnes i mi ei gymeradwyo, y bydd ei angen er mwyn dangos sut y bydd y materion hyn a’u canlyniadau wedi cael eu hystyried.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyd amseroedd aros mewn coridorau ar gyfer cleifion GIG wrth drosglwyddo rhwng ambiwlansys ac adrannau damweiniau ac achosion brys? (WAQ54533)

Edwina Hart: Nid yw’r wybodaeth hon ar gael yn ganolog.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Michael German (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith y bwriad i gau’r Gwasanaeth Gwyddoniaeth Fforensig yng Nghas-gwent ar gymunedau Cymru? (WAQ54527)

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (Brian Gibbons): Cyfeiriwch at Ateb y Prif Weinidog i WAQ54526.