13/08/2007 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 13 Awst 2007

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 13 Awst 2007

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.CynnwysCwestiynau i’r Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Thai

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ddigartrefedd yn y Canolbarth a'r Gorllewin? (WAQ50275)Y Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Mae'n bleser gennyf nodi bod cynnydd sylweddol yn cael ei wneud i fynd i'r afael â digartrefedd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Dangosodd ystadegau am ddigartrefedd a gasglwyd gan awdurdodau lleol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru bod ceisiadau wedi gostwng 44% rhwng chwarter cyntaf 2005 a chwarter cyntaf 2007. Dros y cyfnod hwn o ddwy flynedd cafwyd gostyngiad o 34% yn nifer yr ymgeiswyr a oedd yn ddigartref yn anfwriadol ac y rhoddir blaenoriaeth i'w hanghenion, tra'r oedd nifer y teuluoedd mewn llety Gwely a Brecwast wedi gostwng 35%. Mae'r ffigurau hyn yn nodi ein bod ar y trywydd cywir o ran yr amcanion yn ein Strategaeth Genedlaethol ar Ddigartrefedd. Mae pob un o'r awdurdodau yn eich ardal yn canolbwyntio fwyfwy ar atal digartrefedd, a gweithio mewn partneriaeth â'r sector gwirfoddol i helpu pobl i ddod o hyd i lety addas a'i gadw.Rydym yn cefnogi'r agenda hon drwy ddeddfwriaeth, canllawiau, ariannu a chefnogi arfer da. Rydym yn darparu £1,398,000 i 23 o brosiectau yn benodol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru sydd wedi'u hanelu at fynd i'r afael â digartrefedd a'i leihau, gan gynnwys gwaith addysgol ar ddigartrefedd, gwasanaethau allgymorth, cyngor ar dai, a chynlluniau bond. Hefyd, caiff dros £5m ei wario ar wasanaethau Cefnogi Pobl i helpu pobl ddiamddiffyn i gadw eu llety.Rwy'n cydnabod yr anawsterau sy'n parhau i godi o'r farchnad dai sy'n gorboethi a'r prinder llety fforddiadwy sydd ar gael yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Dyna pam rydym yn ymrwymedig i gynyddu nifer y tai fforddiadwy, gan gynnwys tai cymdeithasol, a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar y broblem hon yn eich ardal. Rwy'n hyderus y gallwn adeiladu ar y cynnydd hwn yn y blynyddoedd i ddod i ostwng ac i leihau trallod digartrefedd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwr amddiffynfeydd rhag llifogydd yn y Canolbarth a'r Gorllewin? (WAQ50276)Jane Davidson: Cyfrifoldeb Asiantaeth yr Amgylchedd yw'r prif amddiffynfeydd llifogydd yng Nghymru. Caiff y rhain eu harchwilio yn rheolaidd a chaiff eu cyflwr ei gofnodi.  Defnyddir y wybodaeth hon i ddatblygu rhaglenni cynnal a chadw ac i sicrhau y caiff peryglon llifogydd eu rheoli'n briodol.Er bod Asiantaeth yr Amgylchedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o amddiffynfeydd rhag llifogydd yng Nghymru caiff rhai eu gweithredu gan eraill megis awdurdodau lleol.  Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn ymestyn eu rhaglenni archwilio presennol i gynnwys y rhain yn y dyfodol.Nododd Asiantaeth yr Amgylchedd fod dros 93% o'u hasedau presennol ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd mewn cyflwr gweddol, da neu dda iawn yn 2006.  Mae'r asesiad hwn wedi ei gefnogi gan berfformiad cyffredinol y rhwydwaith sydd wedi sicrhau'r amddiffyniad y cafodd ei gynllunio ar ei gyfer dros y blynyddoedd diwethaf.   Mewn mannau lle y bu llifogydd mae'r amddiffynfeydd wedi gorlifo yn gyffredinol.  Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae amddiffynfeydd wedi cael eu profi eto ac maent wedi perfformio'n foddhaol.Disgwylir i beryglon llifogydd a'r risg i'r arfordir gynyddu ac mae arian Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwaith o'r fath wedi cynyddu o £15m yn 1999 i £33m yn 2007/08 mewn ymateb i hynny.   Yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gwario dros £2.5m eleni, £3m y flwyddyn nesaf a £4.6m y flwyddyn ganlynol ar welliannau.  Mae awdurdodau lleol sydd hefyd yn cael arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithredu cynlluniau i wella llifogydd ac arfordiroedd gwerth £3.5m ar hyn o bryd yn yr ardal a cheir trafodaethau am geisiadau ar gyfer cynlluniau amddiffyn arfordirol mawr yn Nhywyn, Borth ac Aberaeron.Janet Ryder (Gogledd Cymru): Sut y gall y cyhoedd weld Rhestr Coetiroedd Hynafol Cymru? (WAQ50278)Jane Davidson: Mae Rhestr Coetiroedd Hynafol Cymru wedi ei rheoli gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) a gellir ei gweld drwy glicio ar y ddolen i'r wefan ganlynol:http://www-library.ccw.gov.uk (teipiwch y geiriau allweddol 'rhestr coetiroedd hynafol').Os cewch unrhyw broblemau wrth geisio gweld y wybodaeth hon drwy wefan CCGC yna cysylltwch â library@ccw.gov.uk (neu ffoniwch y llyfrgellydd ar  01248 385522) i gael rhagor o gymorth.Janet Ryder (Gogledd Cymru): Pa asesiad a wnaed o effaith nitradau sy'n llifo i weirgloddiau a choetiroedd traddodiadol cyfagos, yn enwedig coetiroedd hynafol? (WAQ50279)Jane Davidson: Nid oes gwaith ymchwil wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru na Chomisiwn Coedwigaeth Cymru ar effaith dŵr ffo nitrad ar ddolydd gwellt traddodiadol neu ar goetir hynafol cyffiniol. Caiff y rhan fwyaf o waith ymchwil yn y maes hwn ei gomisiynu gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ac Asiantaeth yr Amgylchedd.   Mae'r Comisiwn Coedwigaeth wedi paratoi papur trafod ar effaith nitrogen ar goetiroedd sy'n dwyn y teitl 'How Extensive are the Impacts of Nitrogen Pollution on Great Britain’s Forests?' Gellir llwytho'r papur hwn i lawr o wefan y Comisiwn Coedwigaeth yn;http://www.forestry.gov.uk/pdf/FR0102nitro.pdf/$FILE/FR0102nitro.pdf Os cewch unrhyw broblemau wrth geisio gweld y wybodaeth hon, cysylltwch â gwasanaethau llyfrgell y Comisiwn Coedwigaeth yn enquiries@forestry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0845 3673787 i gael cymorth.