14/01/2013 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 7 Ionawr 2013 i’w hateb ar 14 Ionawr 2013

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi manylion yr holl deithiau masnach tramor sydd gan Lywodraeth Cymru ar y gweill ar gyfer 2013, gan gynnwys y teithiau masnach sydd ar y gweill ar gyfer pob Gweinidog Cabinet. (WAQ61889)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog roi rhagor o fanylion ynghylch pam y bu iddo ddewis defnyddio esemptiad adran 36 gyda chais Rhyddid Gwybodaeth diweddar a oedd yn ymwneud â chofnodion y Paneli Sector. (WAQ61921)

Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion ble a phryd y cyfarfu Pwyllgor Cyflogau Amaethyddol Cymru yn ystod pob un o’r blynyddoedd canlynol: 2007, 2008, 2009, 2010, 2011 a 2012. (WAQ61894)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau ble a phryd y cyfarfu Pwyllgor Cynghori Anhedd-dai Amaethyddol Cymru yn ystod pob un o’r blynyddoedd canlynol: 2007, 2008, 2009, 2010, 2011 a 2012. (WAQ61895)

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatgan pa gynigion sydd ar waith i ganiatáu i Gynghorau Cymuned chwarae rhan yn y cynlluniau dinas-ranbarth ar gyfer rhanbarth Abertawe a De Ddwyrain Cymru. (WAQ61896)

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Wrth ystyried y potensial enfawr ar gyfer cyflogaeth a buddsoddiad gyda ‘City Deals’ Llywodraeth y DU, sut y bydd y Gweinidog yn sicrhau bod dinasoedd Cymru yn gallu cystadlu’n effeithiol â dinasoedd yn Lloegr a fydd newydd gael eu grymuso. (WAQ61897)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth oedd cost yr erthygl a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru am ymchwil Cymreig a gyhoeddir yn y cyfnodolyn Science. (WAQ61918)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r Cylch Gorchwyl neu’r gofynion tendr ar gyfer yr ymchwil i ardrethi busnes, a gyhoeddwyd ar yr adroddiadau ar benderfyniadau ar 12 Rhagfyr 2012. (WAQ61919)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog bennu swm, derbynnydd a diben rhyddhau’r cyllid a awdurdododd o dan Adrannau 126-128 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996, a ddatgelwyd ar yr adroddiad ar benderfyniad ar 7 Rhagfyr. (WAQ61920)  

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Alun Ffred Jones (Arfon): Faint o arian a ddyrannodd Llywodraeth Cymru i’r Peilot Rhannu Prentisiaeth a faint o leoedd prentisiaeth a gafodd eu creu gyda'r gyllideb hon. (WAQ61891)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ffigurau diweddar cylch Rhagfyr 2012 o ymgeiswyr a gyhoeddwyd gan UCAS sy’n awgrymu bod 11.7% yn llai o fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru wedi cyflwyno cais am le mewn Prifysgolion. (WAQ61892)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Ar ôl cyhoeddi ffigurau cylch Rhagfyr 2012 o ymgeiswyr gan UCAS, a yw’r Gweinidog yn cytuno â Dr Philip Dixon, cyfarwyddwr yr undeb addysg Cymdeithas Athrawon a Darlithwyr Cymru a ddywedodd iddo gael ei synnu gan faint y cwymp yn nifer y ceisiadau o Gymru. (WAQ61893)

Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Alun Ffred Jones (Arfon): Pa ddata sy’n cael ei gasglu ar gynhyrchu a defnyddio ynni yng Nghymru. (WAQ61903)

Alun Ffred Jones (Arfon): Pa ganiatâd cynllunio sydd wedi cael ei roi ar gyfer prosiectau cynhyrchu ynni sy’n gallu cynhyrchu dros 50MW ac sydd eto i gael eu hadeiladu. (WAQ61904)

Alun Ffred Jones (Arfon): Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog cwmnïau ynni i fuddsoddi yng Nghymru. (WAQ61905)

Alun Ffred Jones (Arfon): Pa gyfran o’r ynni sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru sy’n cael ei gynhyrchu o ffynonellau adnewyddadwy. (WAQ61906)

Alun Ffred Jones (Arfon): Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u rhoi i Lywodraeth y DU ynghylch datganoli rhagor o bwer ym maes ynni. (WAQ61907)

Alun Ffred Jones (Arfon): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gyda Swansea Bay Tidal Lagoons Ltd. (WAQ61908)

Alun Ffred Jones (Arfon): Pa gynnydd sydd wedi cael ei wneud o ran cyrraedd y targedau a osodwyd yn Nhrywydd Ynni 2008. (WAQ61909)

Alun Ffred Jones (Arfon): Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod cymunedau lleol yn elwa o brosiectau cynhyrchu ynni. (WAQ61910)

Alun Ffred Jones (Arfon): Faint o gyfarfodydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gyda Corlan Hafren. (WAQ61911)

Alun Ffred Jones (Arfon): Pa ganiatâd cynllunio sydd wedi cael ei roi ar gyfer prosiectau cynhyrchu ynni sy’n gallu cynhyrchu o dan 50MW ac sydd eto i gael eu hadeiladu. (WAQ61912)

Alun Ffred Jones (Arfon): Sut y mae maint yr economi ynni adnewyddadwy yng Nghymru wedi tyfu dros y pum mlynedd diwethaf. (WAQ61913)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A oes Cylch Gorchwyl, cynllun gwaith neu ddogfen arall a ddefnyddiwyd i sefydlu ymchwil grwp arbenigwyr y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol i effeithlonrwydd pwyllgorau cynllunio yng Nghymru ac os felly, o ble y gellir cael copi. (WAQ61916)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Yn ystod 2012, faint o hysbysebion gwybodaeth GIG Cymraeg a ddarlledwyd ar orsafoedd radio sy’n darlledu yn Saesneg yn bennaf, ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o gost yr hysbysebion hyn i GIG Cymru. (WAQ61884)

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Yn ystod 2012, faint o hysbysebion gwybodaeth GIG Saesneg a ddarlledwyd ar orsafoedd radio sy’n darlledu yn Gymraeg yn bennaf, ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o gost yr hysbysebion hyn i GIG Cymru. (WAQ61885)

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o gost noddi rhagolygon y tywydd ar ITV Wales yn 2012 i gyllideb GIG Cymru. (WAQ61886)

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad a chymhariaeth o fuddsoddiad GIG Cymru yn ysbytai Gogledd Cymru yn Llandudno, Glan Clwyd, Gwynedd a Wrecsam dros y tair blynedd diwethaf. (WAQ61887)

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o’r nifer a dderbyniwyd i ysbyty fesul pob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru am anafiadau a salwch o ganlyniad uniongyrchol i ddefnyddio alcohol rhwng 18 a 31 Rhagfyr 2012, a’r un cyfnod dros y pum mlynedd diwethaf, yn ogystal â nifer y gwelyau dadwenwyno sydd ar gael yn Aberconwy. (WAQ61888)

Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Ers y cyhoeddiad y bydd cystadleuaeth Super Cup 2014 UEFA yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o gyfarfodydd y mae wedi’u cael yn benodol er mwyn sicrhau bod Cymru’n manteisio ar yr holl fuddion sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad hwn a chadarnhau’r dyddiadau; pwy oedd yn bresennol yn y cyfarfodydd hyn; a beth gafodd ei drafod.  (WAQ61890)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pryd y mae’r Gweinidog yn disgwyl y bydd y gwerthusiad o Adfywio Strategol Blaenau Ffestiniog yn cael ei gwblhau. (WAQ61917)

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i rymuso cymunedau lleol, fel Llanelli, sy’n teimlo eu bod wedi’u difreinio oherwydd penderfyniadau ar wariant sydd wedi cael eu gwneud ar lefel unedol. (WAQ61898)

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Gan fod modd i’r cyhoedd roi feto ar godiadau yn y dreth gyngor a wneir gan gynghorau Lloegr, a all y Gweinidog amlinellu unrhyw gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cymunedau yng Nghymru yn gallu craffu ar benderfyniadau gwariant a wneir gan eu hawdurdod lleol yng Nghymru. (WAQ61899)

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A all y Gweinidog amlinellu faint o swyddi Penaethiaid Gwasanaeth a rennir sydd wedi cael eu creu yn ystod y 12 mis diwethaf fel rhan o’i Agenda Cydweithredu. (WAQ61900)

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Ar sail cyhoeddi Setliad Cyllid Llywodraeth Leol y DU ac Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol sydd fin cael ei gyhoeddi, a all y Gweinidog roi manylion y cynigion i arwain cynghorau i wneud arbedion realistig fel uno swyddogaethau swyddfa gefn. (WAQ61901)

Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am darged y Llywodraeth ar gyfer cyflwyno Cerdyn Hawl i Gludiant Cymreig ar gyfer gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd, a fydd yn cynnwys systemau tocynnau integredig, i ganiatáu trosglwyddo ‘di-dor’ rhwng gwasanaethau a gweithredwyr, erbyn 2014 fel yr amlinellwyd yn y Cynlluniau Trafnidiaeth Cenedlaethol a gyhoeddwyd yn 2009 a 2010, gan gadarnhau a yw’r Llywodraeth ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed hwn. (WAQ61902)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Mewn perthynas â ffordd osgoi’r Bontnewydd, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau a) maint y lagwnau draenio cysylltiedig a'u capasiti; b) goblygiadau’r draenio hyn i SoDdGA Gwyrfai; ac c) pa fesurau diogelwch fydd ar waith i atal dwr halogedig rhag gorlifo o lagwnau draenio. (WAQ61914)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi prynu Parc, Llanwnda, sydd wrth ymyl ffordd osgoi arfaethedig y Bontnewydd, ac a) pwy awdurdododd y pryniant; b) beth oedd y pris prynu; c) cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr eiddo hwn; a d) a fydd telerau tebyg yn cael eu cynnig i berchnogion eiddo eraill sy’n agos at y llwybr arfaethedig. (WAQ61915)