Atebion a roddwyd i Aelodau ar 15 Chwefror 2008
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno
yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Faint o blant byddar 18 oed ac iau a addysgir mewn systemau a) ysgol feithrin, b) ysgol gynradd ac c) ysgol uwchradd yng Nghymru? (WAQ51237)
Y
Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Dangosir nifer y disgyblion a nodwyd fel rhai ag anghenion addysgol arbennig o ganlyniad i nam ar eu clyw (fel y prif angen unigol a nodwyd) yn y tabl canlynol:
Ysgolion meithrin |
Ysgolion cynradd |
Ysgolion uwchradd |
||||
heb ddatganiad o angen addysgol arbennig |
gyda datganiad o angen addysgol arbennig |
heb ddatganiad o angen addysgol arbennig |
gyda datganiad o angen addysgol arbennig |
heb ddatganiad o angen addysgol arbennig |
gyda datganiad o angen addysgol arbennig |
|
Cymru |
3 |
3 |
485 |
198 |
416 |
165 |
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Nick Ramsay (Mynwy): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith y cynnig i gau Swyddfa Brisio Cyllid a Thollau EM yng Nghasnewydd ar yr amgylchedd, oherwydd y bydd yn rhaid i weithwyr deithio ymhellach? (WAQ51205)
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Dim. Mae’r penderfyniad yn fater i Lywodraeth y DU.
Darren Millar (Gogledd Caerdydd): Pa awdurdodau lleol yng Nghymru sydd wedi rhoi’r gorau i gasglu sbwriel gweddilliol cartrefi bob wythnos yn ôl y cofnodion sydd gan (a) Llywodraeth Cynulliad Cymru a (b) swyddfa Cymru Rhaglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau? (WAQ51212)
Jane Davidson: Mae’r holl awdurdodau lleol yn Nghymru yn cynnal gwasanaethau casglu gwastraff rheolaidd a chynhwysfawr i’w trigolion. Mae wyth awdurdod lleol yng Nghymru wedi cyflwyno casgliadau gwastraff gweddilliol bob pythefnos i o leiaf rai o’r cartrefi yn eu hardaloedd ochr yn ochr â chasgliadau deunyddiau y gellir eu hailgylchu neu eu compostio bob yn ail wythnos. Yr ardaloedd yw: Conwy, sir Ddinbych, Casnewydd, Tor-faen, Wrecsam, Ynys Môn, Gwynedd a sir Gaerfyrddin. Mae awdurdodau lleol eraill yng Nghymru hefyd yn ystyried gwella eu gwasanaethau casglu yn y ffordd hon.
Fe’ch cyfeiriaf hefyd at fy ateb i WAQ51189 ar 11 Chwefror.
Nid yw WRAP (Rhaglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau) yn cadw cofnodion o wasanaethau awdurdodau lleol unigol.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi manylion pa ddarpariaethau sydd ar gael ar gyfer gofal cartref yn ystod y nos ar gyfer yr henoed yn sir Benfro? (WAQ51234)
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Cyfrifoldeb cyfreithiol awdurdodau lleol unigol mewn cydweithrediad â’u partneriaid gwasanaethau iechyd yw asesu anghenion a chynllunio a chomisiynu gwasanaethau gofal yn y cartref lleol. Mae darparu gwasanaethau gofal yn y cartref yn ystod y nos yn destun penderfyniadau comisiynu lleol sy’n ystyried anghenion y boblogaeth leol a’r adnoddau sydd ar gael.
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Faint o blant byddar 18 oed neu iau y cofnodwyd eu bod â’u cartref yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn er 1999? (WAQ51235)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Faint o blant byddar 18 oed neu iau sydd â’u cartref yng Nghymru? (WAQ51236)
Edwina Hart: Ni chedwir gwybodaeth yn ganolog am niferoedd y plant byddar sy’n byw yng Nghymru.
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Faint o gleifion o Gymru gafodd eu trin mewn ysbytai yn Lloegr yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae ffigurau ar gael ar ei chyfer ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad blynyddol o’r ffigur hwn dros yr wyth mlynedd diwethaf? (WAQ51239)
Edwina Hart: Mae’r wybodaeth hon ar gael ar wefan Atebion Iechyd Cymru—Gwybodaeth ac Ystadegau Iechyd Cymru.
http://www.wales.nhs.uk/sites3/w-home.cfm?orgid=527, yn yr adran Data Ysbytai ar-lein a’r adran Ffigurau Pennawd.
Mae’n dangos Trigolion Cymru a Gafodd Driniaeth mewn Ymddiriedolaethau y tu allan i Gymru (Cyfnodau yng ngofal meddyg Ymgynghorol a ddaeth i ben) ac mae’r wybodaeth ar gael ar gyfer sawl blwyddyn hyd at 2005-06. Bwriedir diweddaru’r data ar gyfer 2006-07 maes o law.
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Faint o unedau arennol arbenigol sydd ar waith yng Nghymru, a sut y mae’r ffigur hwn yn cymharu y pen â’r un ffigur yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon? (WAQ51240)
Edwina Hart: Yng Nghymru mae pum prif uned arennol (Caerdydd, Abertawe, Wrecsam, Y Rhyl a Bangor) a saith is-uned (pump yn gysylltiedig â Chaerdydd a dwy ag Abertawe). Mae’r nifer hwn o unedau arennol y pen yn debyg i’r Alban, ychydig yn is na Gogledd Iwerddon ac ychydig yn uwch na Lloegr.
Fodd bynnag, yng Nghymru, mae’r Rhwydweithiau Arennol yn cynllunio i ehangu’r capasiti dialysis gan ddefnyddio asesiad cynhwysfawr o amlygrwydd afiechydion, demograffi cleifion ac amseroedd teithio, nid nifer y boblogaeth yn unig. Hefyd, mae’r Rhwydweithiau Arennol yn gweithio i gynyddu nifer y cleifion sy’n cael dialysis yn eu cartrefi eu hunain.
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Faint o bobl a gyflogir gan Adran Iechyd Llywodraeth y Cynulliad a GIG Cymru mewn swyddogaethau gweinyddol neu heb fod yn glinigol o’i gymharu â’r nifer a gyflogir mewn swyddi clinigol? (WAQ51241)
Edwina Hart: Gellir darllen gwybodaeth am niferoedd y staff a’r nifer sy’n cyfateb i weithwyr llawn amser a gyflogir gan y GIG fesul maes gwaith ar wefan StatsCymru.
O ran nifer y bobl a gyflogir gan Adran Iechyd Llywodraeth y Cynulliad fe’ch cyfeiriaf at fy ateb i gwestiwn Nicholas Bourne ar 4 Chwefror ar WAQ 51080. Atodaf ddolen i’r cofnod:
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu a) ffigur cyfanswm y refeniw o gostau parcio ceir ar draws ysbytai Cymru, b) dadansoddiad o’r ymddiriedolaethau lle deilliodd y refeniw hwnnw ohonynt ac c) ffigur cyfanswm ar gyfer y dirwyon a roddwyd yn y meysydd parcio hynny? (WAQ51243)
Edwina
Hart:
Yn gyffredinol, ni chesglir gwybodaeth am gostau parcio ceir mewn ysbytai yng Nghymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Ymddiriedolaethau’r GIG sy’n gyfrifol am yr agweddau gweithredol ar gostau parcio yn eu hysbytai.
Parcio Ceir - Incwm 2006/07
Ymddiriedolaeth |
Incwm oddi wrth staff (£) (a) |
Incwm oddi wrth cleifion ac ymwelwyr (£)(b) |
Cyfanswm Incwm (£) |
Bro Morgannwg |
153,076 |
426,227 |
579,303 |
Caerdydd a’r Fro |
434,586 |
245,995 |
680,581 |
Sir Gaerfyrddin |
- |
225,020 |
225,020 |
Ceredigion |
- |
14,858 |
14,858 |
Conwy a Sir Ddinbych |
- |
423,793 |
423,793 |
Gofal Iechyd Gwent |
367,736 |
606,072 |
973,808 |
Gogledd-ddwyrain Cymru |
89,484 |
481,687 |
571,171 |
Gogledd Morgannwg |
- |
- |
- |
Gogledd-orllewin Cymru |
- |
100,000 |
100,000 |
Sir Benfro a Derwen |
- |
51,800 |
51,800 |
Pontypridd a Rhondda |
51,882 |
297,943 |
349,825 |
BILl Powys |
- |
- |
- |
Abertawe |
437,282 |
1,046,424 |
1,483,706 |
Felindre |
- |
- |
- |
Cyfanswm |
1,534,046 |
3,919,819 |
5,453,865 |
Ffynhonnell: System Rheoli Perfformiad Ystadau a Chyfleusterau (EFPMS)
Incwm oddi wrth staff: Incwm gros blynyddol mewn £oedd o’r holl fannau parcio i staff o fewn tiroedd y sefydliad
Incwm oddi wrth ymwelwyr/cleifion: Incwm gros blynyddol mewn £oedd o’r holl fannau parcio i ymwelwyr o fewn tiroedd y sefydliad
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth y Cynulliad yn awr ac ar gyfer dyfodol yng nghyswllt caniatáu i gleifion o Gymru gael triniaeth a) yn Lloegr a b) y tu allan i Gymru’n gyffredinol? (WAQ51244)
Edwina Hart: Nid oes bwriad i newid y trefniadau presennol.
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad o ddyled BILl blynyddol, wedi’i ddadansoddi fesul ardal ers eu creu? (WAQ51245)
Edwina Hart: Mae’r wybodaeth hon ar gael yn y cyfrifon a archwiliwyd o BILlau yng Nghymru.
Irene James (Islwyn): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i wella gofal pediatrig? (WAQ51249)
Edwina Hart: Gofynnais i Dr Huw Jenkins, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gofal Iechyd i Blant a Phobl Ifanc, sefydlu Grŵp Cynghori Arbenigol ar Wasanaethau Pediatrig yng Nghymru.
Nick Ramsay (Mynwy): Faint o gleifion sy’n disgwyl am driniaeth ar gyfer canser ar hyn o bryd yng Nghymru? (WAQ51252)
Edwina Hart: Fe’m cynghorir gan y Gyfarwyddiaeth Ystadegol, yr adroddodd ymddiriedolaethau’r GIG ar ddiwedd mis Rhagfyr 2007 fod 695 o gleifion newydd gael diagnosis o ganser nad oeddent eto wedi cael triniaeth gyntaf bendant. Mae’r ffigur hwn yn cynnwys yr holl gleifion sydd wedi disgwyl am unrhyw gyfnod o amser.
Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth gwasanaethau trin traed dan y GIG yng Nghymru? (WAQ51253)
Edwina Hart: Gwneir penderfyniadau ar faterion yn ymwneud â darparu gwasanaethau podiatreg yn lleol. Ar hyn o bryd cyfrifoldeb y bwrdd iechyd lleol yw’r rhan fwyaf o wasanaethau iechyd lleol, gan gynnwys podiatreg. Rhaid i’r byrddau hyn asesu anghenion eu hardal leol a gweithio gydag ymddiriedolaethau’r GIG, y sector gwirfoddol ac eraill, a chynllunio a blaenoriaethu eu gwasanaethau iechyd drwy eu strategaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles i ddiwallu’r angen hwnnw gyda’r adnoddau sydd ar gael.
Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyllid sydd ar gael, drwy ei hadran, ar gyfer cefnogi pobl â sglerosis ymledol? (WAQ51269)
Edwina Hart: Caiff mwyafrif y gwasanaethau eu comisiynu gan Gomisiwn Iechyd Cymru. Nid yw’r wybodaeth hon ar gael ar hyn o bryd a bydd yn cymryd cryn amser i’w chasglu. Felly mae fy swyddogion yn gweithio gyda Chomisiwn Iechyd Cymru a byddaf yn ysgrifennu atoch gyda’r wybodaeth hon maes o law.
Ni chedwir gwybodaeth am wariant ar wasanaethau i bobl â sglerosis ymledol a ariennir drwy ddyraniadau yn ôl disgresiwn BILlau yn ganolog.
Nick Ramsay (Mynwy): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o Ganolfan Therapi Sglerosis Ymledol De Cymru? (WAQ51270)
Edwina Hart: Yr wyf ar ddeall mai sefydliad a ariennir drwy elusen yw Canolfan Therapi Sglerosis Ymledol De Cymru sy’n rhoi cymorth therapiwtig i gleifion. Cofrestrir y ganolfan gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Gall sefydliadau gwirfoddol fel Canolfan Therapi y Gymdeithas Sglerosis Ymledol chwarae rhan bwysig yn y gwaith o wella’r gwasanaethau i’r gymuned sglerosis ymledol yng Nghymru.
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion nifer yr a) ysbytai GIG, a b) wardiau ysbytai GIG a gaewyd yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn er 1999? (WAQ51276)
Edwina Hart: Nid oes dull ffurfiol ar gyfer hysbysu Llywodraeth y Cynulliad bod ysbyty neu ward wedi cau.
Ni chesglir data am gau wardiau yn ganolog gan Lywodraeth y Cynulliad. Yn ystod oes ysbyty (e.e. rhai degawdau o bosibl) bydd proffil y gwasanaeth yn newid ac yn effeithio ar niferoedd mewn wardiau. Yn ogystal â hyn bydd niferoedd mewn wardiau yn newid yn aml er mwyn ymateb i faterion gweithredu byrdymor fel niferoedd staffio, dodrefnu neu newidiadau dros dro i wasanaethau.
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth fu cost presgripsiynau am ddim yn ystod y flwyddyn hon ers cyflwyno presgripsiynau am ddim i bawb ac a wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad blynyddol o’r ffigur hwn dros yr wyth mlynedd diwethaf? (WAQ51277)
Edwina Hart: Ni chesglir y wybodaeth hon gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Byddaf yn ysgrifennu atoch ymhellach ar y mater hwn.
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa asesiad neu archwiliad y mae GIG Cymru neu Lywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud o feddyginiaethau presgripsiwn a roddir am ddim ac a wastreffir yng Nghymru? (WAQ51278)
Edwina Hart: Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnal asesiadau ar feddyginiaethau a ragnodwyd ac a wastraffwyd. Mae nifer o fyrddau iechyd lleol wedi cynnal gwaith i amcangyfrif faint o feddyginiaethau a wastraffwyd drwy werthuso sampl o’r meddyginiaethau a ddychwelir i fferyllfeydd cymunedol. Gall ymddiriedolaethau’r GIG hefyd wneud amcangyfrifon achlysurol o wastraff yn seiliedig ar sampl o’r meddyginiaethau a ddychwelir i fferyllfeydd eu hysbytai.
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Faint o bresgripsiynau nas defnyddiwyd neu a wastraffwyd ers cyflwyno presgripsiynau am ddim i bawb a beth oedd cost hynny, ac a wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad blynyddol o’r ffigurau hyn dros yr wyth mlynedd diwethaf? (WAQ51279)
Edwina Hart: Fe’m cynghorir nad yw’n bosibl casglu’r wybodaeth hon.
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Faint o bresgripsiynau a roddwyd yng Nghymru ers cyflwyno presgripsiynau am ddim i bawb ac a wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad blynyddol o’r ffigur hwn dros yr wyth mlynedd diwethaf? (WAQ51280)
Edwina Hart: Ni chesglir y wybodaeth hon gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ond mae Atebion Iechyd Cymru wedi rhoi’r wybodaeth yn y daenlen a atodir.
Caiff y rhan fwyaf o bresgripsiynau a ragnodir yng Nghymru eu dosbarthu yng Nghymru ond caiff rhai eu dosbarthu yn Lloegr, a dyma pam y cyfeirir at Gymru a Lloegr yn y data.
Nifer yr Eitemau a Ragnodwyd yng Nghymru ac a Ddosbarthwyd yn y Gymuned (Cymru a Lloegr)
FY 2007-08 (Ebrill i Dachwedd 2007) |
FY 2006-07 |
FY 2005-06 |
FY 2004-05 |
FY 2003-04 |
FY 2002-03 |
FY 2001-02 |
FY 2000-01 |
41,941,315 |
59,796,599 |
57,709,119 |
54,542,713 |
51,869,910 |
49,334,528 |
46,564,234 |
43,781,839 |
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog roi manylion y 25 cyffur a roddir ar bresgripsiwn amlaf yng Nghymru? (WAQ51281)
Edwina Hart: Ni chesglir y wybodaeth hon gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ond mae Atebion Iechyd Cymru wedi rhoi’r wybodaeth yn y rhestr a atodir.
Mae’r wybodaeth yn ymwneud â’r 25 o feddyginiaethau a ragnodir amlaf yng Nghymru rhwng Ebrill 2006 a Mawrth 2007.
Y 25 o Baratoadau a ragnodir amlaf yng Nghymru: Ebrill 2006 i Mawrth 2007
Disgrifiad
Aspirin Todd_Tab 75mg
Bendroflumethiazide_Tab 2.5mg
Salbutamol_INha100mcg (200 D) Cff
Simvastatin_Tab 40mg
Simvastatin_Tab 20mg
Paracet_Tab 500mg
Frusemide_Tab 40mg
Omeprazole_Cap E/c 20mg
Atenolol_Tab 50mg
Levothyrox Sod_Tab 100mcg
Amlodipine_Tab 5mg
Metformin Tab_Hcl 500mg
Levothyrox Tab_Sod 50mcg
Co-Codamol_Tab 8mg/500mg
Co-Codamol_Tab 30mg/500mg
Lansoprazole_Cap 15mg (E/C Gran)
Levothyrox Tab_Sod 25mcg
Lansoprazole_Cap 30mg (E/C Gran)
Co-Dydramol_Tab 10mg/500mg
Atorvastatin_Tab 20mg
Atorvastatin_Tab 10mg
Citalopram Tab_Hydrob 20mg
Amoxycillin_Cap 250mg
Diclofenac Tab_Sod E/c 50mg
Atenolol_Tab 25mg
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Faint o nyrsys sy’n rhoi presgripsiwn sydd yng Nghymru ac a wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad blynyddol o’r ffigur hwn dros yr wyth mlynedd diwethaf? (WAQ51282)
Edwina
Hart: Ni chesglir y wybodaeth hon gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, fodd bynnag mae Atebion Iechyd Cymru wedi rhoi’r wybodaeth angenrheidiol yn y tabl isod.
Nifer y nyrsys yn cofrestru ag Atebion Iechyd Cymru i Ragnodi mewn Gofal Sylfaenol (2000 - 08)
Blwyddyn |
Nyrsys-ragnodwyr a Gofrestrwyd (practis a chymunedol) |
Nyrsys-ragnodwyr Atodol a Gofrestrwyd |
Nyrsys-ragnodwyr Annibynnol a Gofrestrwyd |
2000 |
20 |
1 |
0 |
2001 |
791 |
0 |
0 |
2002 |
728 |
0 |
0 |
2003 |
145 |
1 |
0 |
2004 |
118 |
13 |
0 |
2005 |
87 |
35 |
0 |
2006 |
122 |
23 |
1 |
2007 |
58 |
16 |
42 |
2008 |
2 |
1 |
1 |
Cyfansymiau |
2071 |
90 |
44 |
Nodiadau
1. Nid yw’r ffigurau uchod yn cynnwys nyrsys sy’n rhagnodi mewn ysbytai yng Nghymru. Ni chedwir y wybodaeth hon yn ganolog.
2. Gall rhai nyrsys-ragnodwyr gael eu cynnwys mewn mwy nag un colofn e.e. gall nyrs-ragnodydd atodol hefyd fod yn nyrs-ragnodydd (ymarfer a chymunedol), a / neu yn nyrs-ragnodydd annibynnol.
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth yw’r cyllid y pen ar gyfer pob BILl yn y flwyddyn ariannol hon a beth oedd y ffigur hwnnw ar gyfer pob blwyddyn ariannol ers sefydlu’r BILlau? (WAQ51283)
Edwina Hart: Ni chesglir y wybodaeth y gofynnwyd amdani gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn y fformat hwn.
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A yw fformiwla dyrannu’r Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn defnyddio cyfrifiadau poblogaeth gofrestredig ynteu drigolion? (WAQ51284)
Edwina Hart: Elfen swm byd-eang dyraniad y contract gwasanaethau meddygol cyffredinol yw’r unig elfen sy’n uniongyrchol berthnasol i’r boblogaeth gofrestredig. Mae elfennau eraill y dyraniad yn seiliedig yn bennaf ar lefelau ariannu hanesyddol a addaswyd ar gyfer newidiadau a gytunwyd drwy gontract.
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog bennu dyddiad ar gyfer adnewyddu fformiwla dyrannu’r gwasanaethau meddygol cyffredinol? (WAQ51285)
Edwina Hart: Trafodwyd y fformiwla ariannu ar gyfer y gwasanaethau meddygol cyffredinol fel rhan o’r contract newydd yn 2003. Cynhaliwyd adolygiad yn y DU o’r fformiwla gan Adrannau Iechyd, cyflogwyr y GIG a Phwyllgor Meddygon Teulu Cymdeithas Feddygol Prydain yn 2006.
Un o argymhellion adroddiad y Pwyllgor Archwilio, 'Adolygu’r Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yng Nghymru’, oedd dileu’r gwariant isafswm incwm practis yn raddol o fewn pum mlynedd. Rwyf yn ymrwymedig i fynd i’r afael â’r broses o ddileu gwarant isafswm incwm practis a dosbarthu arian meddygfeydd yn deg drwy drafod â’r pedair Adran Iechyd a Chymdeithas Feddygol Prydain.
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Er mis Awst 2007 pa drafodaethau a gynhaliwyd rhyngoch chi a’ch swyddogion a BILl Caerdydd ynghylch gwasanaethau gwell? (WAQ51286)
Edwina Hart: Mae swyddogion yn cwrdd â BILl Caerdydd i drafod materion gofal sylfaenol bob chwarter yn rheolaidd. Trafodwyd y ddarpariaeth o wasanaethau gwell fel rhan o’r trafodaethau hyn. Yn benodol, trafodwyd penderfyniad BILl Caerdydd i beidio â pharhau i gomisiynu gwasanaethau ar gyfer iechyd meddwl ac anawsterau dysgu fel gwasanaethau gwell lleol. Datryswyd y sefyllfa hon wrth i Bwyllgor Meddygon Teulu Cymru gytuno ar becyn gwasanaethau gwell a chyfeiriedig ym mis Tachwedd a oedd yn cynnwys y ddau wasanaeth hyn.
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Faint o gyffuriau 'triongl du’ sydd ar gael ar bresgripsiwn yng Nghymru ar hyn o bryd ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr? (WAQ51287)
Edwina Hart: Gellir darllen rhestr o holl gyffuriau 'triongl du’ y Deyrnas Unedig ar wefan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd: www.mhra.gov.uk.
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Faint o gyffuriau 'triongl du’ a dynnwyd yn ôl rhag eu defnyddio wedyn yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac a wnaiff y Gweinidog roi manylion blynyddol y ffigur hwn ar gyfer yr wyth mlynedd diwethaf? (WAQ51288)
Edwina Hart: Cedwir y wybodaeth hon gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd sy’n penderfynu a oes angen tynnu meddyginiaethau yn ôl.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Nick Ramsay (Mynwy): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith tollau croesi Afon Hafren ar dwristiaeth yng Nghymru? (WAQ51255)
Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Rhodri Glyn Thomas): Nid oes unrhyw asesiad o’r fath wedi’i gyflawni na’i gomisiynu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru na Bwrdd Croeso Cymru gynt.