15/05/2009 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 15 Mai 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 15 Mai 2000

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynlluniau sydd yn yr arfaeth ar gyfer y rheini sy’n dlawd o ran tanwydd? (WAQ54078)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Cyhoeddwyd fersiwn drafft ein Cynllun Effeithlonrwydd ac Arbedion Ynni Cenedlaethol (NEESP) er mwyn ymgynghori arno ar 16 Mawrth ac mae’n nodi ein cynigion ar gyfer camau gweithredu byrdymor i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru.  

Mae’r cynigion yn cynnwys gwneud newidiadau sylweddol i’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref i dargedu aelwydydd sy’n dioddef o dlodi tanwydd yn fwy effeithiol a datblygu a ffurfioli rhwydweithiau cyfeirio rhwng gwahanol ddarparwyr cyngor.

Mae’r ymgynghoriad yn dod i ben ar 5 Mehefin.  Penderfynir ar y mentrau a ddatblygir yn y dyfodol i helpu aelwydydd sy’n dioddef o dlodi tanwydd yn dilyn canlyniad yr ymgynghoriad.  

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Effeithlonrwydd ac Arbedion Ynni? (WAQ54079)

Jane Davidson: Cyhoeddwyd y Cynllun Effeithlonrwydd ac Arbedion Ynni Cenedlaethol er mwyn ymgynghori arno ar 16 Mawrth a daw’r ymgynghoriad i ben ar 5 Mehefin.  Bu fy swyddogion yn bresennol mewn nifer o ddigwyddiadau ledled Cymru fel rhan o’r ymgynghoriad a chaiff adborth o’r digwyddiadau hyn eu dadanosddi ochr yn ochr â’r ymatebion ysgrifenedig a gafwyd.  

Unwaith y bydd canlyniad yr ymgynghoriad yn hysbys byddaf yn gwneud datganiad ar ein Strategaeth ar gyfer mynd i’r afael â Thlodi Tanwydd yng Nghymru.  Disgwyliaf wneud y datganiad hwn yn yr haf.

Cynhwysir camau gweithredu eraill ar gyfer hyrwyddo effeithlonrwydd ynni yn yr ymgynghoriad ar y Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd - Rhaglen Weithredu a gyhoeddir ym mis Mehefin.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gost y bydd rhaid i berchnogion cyflenwadau dŵr preifat ei hysgwyddo yn sgil y bwriad i gyflwyno Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2009? (WAQ54080)

Jane Davidson: Nododd ein datganiad sefyllfa strategol am ddŵr, a lansiwyd gennyf ym mis Mawrth, fod angen sicrhau bod dŵr yfed glân, iachus ar gael i bawb yng Nghymru fel mater o flaenoriaeth. Mae hyn yn cynnwys cyflenwadau dŵr cyhoeddus a chyflenwadau preifat.

Mae ein deddfwriaeth bresennol yn ymwneud â chyflenwadau dŵr preifat yn dyddio o 1981. Lansiwyd ymgynghoriad ar reoliadau newydd ym mis Mawrth, a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw’r 6ed Mehefin. Bydd y rheoliadau arfaethedig yn moderneiddio’r ffordd y rheoleiddir cyflenwadau dŵr preifat, gan gyflwyno asesiadau risg. Bydd y rhain yn helpu awdurdodau lleol i ganolbwyntio eu hymdrechion ar y cyflenwadau sy’n wynebu’r risg fwyaf a sicrhau y diogelir iechyd. Mae hyn yn arbennig o bwysig i ddefnyddwyr dos dro fel y rhai sy’n aros mewn bythynnod gwyliau a llety arall sy’n derbyn cyflenwadau preifat

Mae’r ddogfen ymgynghori yn cynnwys asesiad effaith interim sy’n cynnwys manylion y costau a ragwelir.  Fe’i hadolygir yng ngoleuni’r ymatebion i’r ymgynghoriad.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Yng nghyswllt yr angen i osod seilwaith carthffosiaeth tro cyntaf ar gyfer trigolion Goginan, Ceredigion o dan Adran 101a o Ddeddf y Diwydiant Dwr 1991, (a) pa arolygon sydd wedi’u cynnal gan asiantwyr neu ymgynghorwyr yn gweithio i Dŵr Cymu, (b) pa arfarniadau economaidd ac amgylcheddol sydd wedi cael eu gwneud mewn perthynas ag arolygon o’r fath, ac (c) a yw’r rhain wedi cael eu rhoi i Asiantaeth yr Amgylchedd? (WAQ54093)

Jane Davidson: Mae Dŵr Cymru wedi nodi iddo gomisiynu astudiaeth gan ymgynghorwyr arbenigol ar Adran 101A, sef Faber Maunsell, mewn ymateb i gais i ddarparu carthffos gyhoeddus yng Ngoginan. Disgwylir i’r astudiaeth gael ei chwblhau erbyn diwedd mis Mehefin 2009.  Bydd Dŵr Cymru yn ysgrifennu at yr ymgeiswyr gyda’i gasgliadau pan fydd wedi gorffen ystyried adroddiad yr ymgynghorydd a bydd yn hysbysu Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Awdurdod Lleol o’r canlyniad.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Irene James (Islwyn): Faint o (a) Ddiffribiliwyr Cardiaidd Mewnblanadwy a (b) rheolyddion calon sydd wedi’u mewnblannu yn ystod pob un o’r pum mlynedd diwethaf? (WAQ54105)

Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfradd defnyddio Diffribiliwyr Cardiaidd Mewnblanadwy a rheolyddion calon yng Nghymru, o’i chymharu â gweddill y DU? (WAQ54107)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Mae’r wybodaeth hon ar gael yn gyhoeddus yn

http://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=338&pid=34406

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ganran a) o blant a b) o oedolion yng Nghymru sydd wedi mynychu safleoedd amgylchedd hanesyddol dynodedig ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ54123)

Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Rhodri Glyn Thomas): O ran henebion sydd yng ngofal Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru, ni chedwir y cyfryw ddata hanesyddol.  Nododd ymchwil a gomisiynwyd gan Cadw ac a wnaed mewn sawl un o’u henebion yn 2008 y proffil oedran canlynol ymhlith ymwelwyr:

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 15 Mai 2009

Grŵp Oedran

Canran yr ymwelwyr

O dan 8

15

8 to 15

18

16 to 24

6

25 to 34

11

35 to 44

22

45 to 59

16

60+

13

Mae Cadw yn cynnig ymweliadau addysgol am ddim â’u henebion a chedwir data hanesyddol ar nifer y bobl sy’n manteisio ar y cynnig hwn.   Dengys y tabl isod y wybodaeth hon ochr yn ochr â chyfanswm yr ymwelwyr:

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 15 Mai 2009

Blwyddyn

Ymweliadau addysgol

Cyfanswm yr ymweliadau

Ymweliadau addysgol fel canran o gyfanswm yr ymweliadau

1999-2000

110,096

1,157,137

9.5

2000-2001

96,436

1,097,323

8.8

2001-2002

100,086

1,076,266

9.0

2002-2003

96,944

1,077,735

9.0

2003-2004

98,570

1,275,542

7.7

2004-2005

94,931

1,277,071

7.4

2005-2006

91,557

1,174,153

7.8

2006-2007

95,820

1,198,904

8.0

2007-2008

98,179

1,257,175

7.8

2008-2009

86,956

1,074,817

8.1

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion cynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer datblygu pysgodfeydd y glannau? (WAQ54113)

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig (Elin Jones): Fel y gwyddoch cyhoeddais ym mis Medi 2008 y byddai Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cymryd rheolaeth dros bysgodfeydd y Glannau yng Nghymru. Mae hyn yn golygu uno staff a swyddogaethau’r ddau Bwyllgor Pysgodfeydd y Môr sy’n gweithredu yng Nghymru ag Uned Pysgodfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r prosiect i gyflawni’r newidiadau hyn wedi hen ddechrau a disgwylir i’r cam cyntaf (y cyfnod darganfod) ddod i ben y mis nesaf.

Mae ymgysylltu â rhanddeiliaid yn rhan hanfodol o fodel presennol Pwyllgorau Pysgodfeydd y Môr a bydd yn allweddol i reoli pysgodfeydd yng Nghymru yn y dyfodol. Rwyf yn edrych ymlaen at glywed awgrymiadau Grŵp Cynghori’r Rhanddeiliaid ynghylch sut y gallwn sicrhau bod mewnbwn rhanddeiliaid yn cael yr effaith orau yng Nghymru. Mae maint a natur Cymru yn rhoi cyfle i ni ffurfio a rheoli pysgodfeydd mewn ffordd a fyddai’n amhosibl yn Lloegr oherwydd natur amrywiol a dosbarthiad ei diwydiant a chredaf mai’r model o bysgodfeydd y glannau sy’n cael ei ddatblygu gennym yw’r un gorau i Gymru.

Mae pysgodfeydd y glannau yn gwneud cyfraniad hanfodol at gymunedau gwledig ledled Cymru ac oherwydd hynny mae’r nod a osodais i mi fy hun o sicrhau pysgodfeydd hyfyw a chynaliadwy yn bwysicach fyth. Credaf fod natur y diwydiant pysgota yng Nghymru, a gynrychiolir bron yn gyfan gwbl gan sector pysgodfeydd y glannau, yn rhoi cyfle gwirioneddol i ni greu a chynnal diwydiant pysgota cynaliadwy yn unol â nodau Strategaeth Pysgodfeydd Cymru. Mae’r gydberthynas y mae staff Pwyllgorau Pysgodfeydd y Môr wedi’i meithrin â’r diwydiant yn lleol, heb sôn am eu profiad a’u harbenigedd yn y pwnc, yn hanfodol ac yn rhywbeth rwyf yn benderfynol o’u diogelu.

Byddwch hefyd yn ymwybodol bod diwygio’r modd y rheolir pysgodfeydd y glannau yn un o nifer o fesurau sy’n cael eu cyflwyno i wella pysgodfeydd yng Nghymru. Ym mis Ebrill y llynedd trosglwyddodd arolygwyr Asiantaeth y Môr a Physgodfeydd i gyflogaeth uniongyrchol Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion y costau a achoswyd i’w hadran oherwydd dod â Chyrff Cyhoeddus Anadrannol dan adain Llywodraeth y Cynulliad? (WAQ54115)

Elin Jones: Nid aeth fy adran i unrhyw gostau ychwanegol sylweddol o ganlyniad i uno’r Cyrff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad, megis Awdurdod Datblygu Cymru. Talwyd unrhyw gostau yr aed iddynt o gyllidebau canolog, yn ôl yr arfer mewn achosion o uno.