.
Atebion a roddwyd i Aelodau ar 15 Gorffennaf 2009
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Nick Ramsay (Mynwy): Er mis Mai 2007, faint mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wario ar ymweliadau tramor ac a allech ddarparu manylion imi am i) lleoliad; ii) teithwyr; iii) cynhaliaeth; iv) llety; a v) costau ychwanegol? (WAQ54516)
Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Ers mis Mai 2007 mae £109,911 wedi’i wario ar ymweliadau tramor. Dangosir y wybodaeth sydd gennym yn y tabl canlynol. Rydym yn cadw data ar gyfanswm y costau, nid ar y dadansoddiad manwl y gofynnwyd amdano.
Ymweliadau Tramor - Mai 2007 i Fehefin 2009
Gweinidog |
Y Cyrchfan |
|
Rheswm dros yr Ymweliad |
Swyddogion a aeth hefyd |
Cost |
Prif Weinidog |
Brwsel |
Medi-2007 |
Fforwm Cydlyniant yr UE |
Ysgrifennydd Preifat a Swyddog Polisi |
£1,263 |
|
Iwerddon |
Chwe-2008 |
Cyfarfod Y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig |
Ysgrifennydd Preifat |
£350 |
|
Brwsel |
Chwe-2008 |
Dathliad Dydd Gŵyl Dewi Brwsel |
Ysgrifennydd Preifat |
£896 |
|
Tsieina |
Maw-2008 |
Ymweliad Gweinidogol |
Ysgrifennydd Preifat |
£7,104 |
|
UDA |
Medi-2008 |
Cwpan Ryder - Kentucky |
Ysgrifennydd Preifat a’r Dirprwy Brif Weinidog |
£6827 |
|
Y Swistir |
Hyd-2008 |
Ymweliad ag Ystafell Reoli LHC |
Ysgrifennydd Preifat |
£520 |
|
Brwsel/Paris |
Chwef-2009 |
Derbyniad Dydd Gŵyl Dewi, Brwsel |
Ysgrifennydd Preifat |
£2,980 |
|
UDA/Washington |
Maw-2009 |
Y Lansiad Smithsonian |
Ysgrifennydd Preifat |
£10,107 |
|
Milan |
Mai-2009 |
Pwyllgor y Rhanbarthau Ewropeaidd |
Ysgrifennydd Preifat |
£1,704 |
|
UDA/Washington |
Meh-2009 |
Yr Wythnos Smithsonian |
Nid yw’r Wybodaeth na’r Gost lawn ar gael hyd yma |
|
|
|
|
|
|
|
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth |
Brwsel |
Gorff-2007 |
Dathlu 90 mlynedd ers Brwydr Paschendaele |
Ysgrifennydd Preifat |
£1,158 |
|
Brwsel |
Medi-2007 |
Fforwm Cydlyniant yr UE |
Ysgrifennydd Preifat a Swyddog Polisi |
£1,263 |
|
India |
Tach-2007 |
Cenhadaeth Fasnach |
Ysgrifennydd Preifat a 5 Swyddog Polisi |
£14,530 |
|
Iwerddon |
Chwe-2008 |
Y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig |
dd/g |
£171 |
|
Efrog Newydd a Boston |
Chwe-2008 |
Cynnwys Gweinidogion yn Wythnos Cymru |
Ysgrifennydd Preifat a Swyddog y Wasg |
£19,425 |
|
UDA |
Medi-2008 |
Cwpan Ryder - Kentucky |
Ysgrifennydd Preifat a’r Prif Weinidog |
£6827 |
|
Brwsel |
Chwef-2009 |
Cyfarfod â Chyfarwyddwr Cyffredinol Comisiwn yr UE |
Ysgrifennydd Preifat |
£419 |
|
Paris |
Chwef-2009 |
Cyfarfodydd, a Gwestai yng ngêm Rygbi Ffrainc v Cymru |
dd/g |
£497 |
|
|
|
|
|
|
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol |
Brwsel |
Gorff-2007 |
Dathlu 90 mlynedd ers Brwydr Paschendaele |
dd/g |
£630 |
is-gyfanswm |
|
|
|
|
£630 |
Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus |
Barcelona - Sbaen |
Tach-2007 |
Cynhadledd REGLEG |
Ysgrifennydd Preifat |
£1,096 |
|
Iwerddon |
Maw-2008 |
Gêm Rygbi Cymru v Iwerddon - gwestai Noel Dempsey, y Gweinidog dros Drafnidiaeth |
dd/g |
£295 |
|
Barcelona - Sbaen |
Ebr-2009 |
Cyfarfodydd â Gweinidogion Llywodraeth Catalonia |
Ysgrifennydd Preifat |
£1,025 |
|
|
|
|
|
|
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai |
Brwsel |
Rhag-2007 |
Cyfarfod Cyngor yr UE |
Ysgrifennydd Preifat |
£1,200 |
|
Monaco |
Chwe-2008 |
Cyflwyniad i NRG4SD |
Ysgrifennydd Preifat |
£598 |
|
Brwsel |
Maw-2008 |
Cyfarfod Cyngor yr UE |
Ysgrifennydd Preifat |
£1,160 |
|
Brwsel |
Hyd 2008 |
Newid yn yr Hinsawdd - yr Wythnos Ewropeaidd |
Swyddog Polisi |
£894 |
|
Gwlad Pwyl/Poznan |
Rhag-2008 |
Uwchgynhadledd yr Arweinwyr Hinsawdd |
Swyddog Polisi |
£1,941 |
|
Brwsel |
Maw-2009 |
Cyngor yr Amgylchedd |
Ysgrifennydd Preifat |
£1,186 |
|
|
|
|
|
|
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau |
Brwsel |
Maw-2008 |
Mynd i gyfarfod EARALL |
Ysgrifennydd Preifat |
£1,708 |
|
|
|
|
|
|
Y Gweinidog dros Dreftadaeth |
Barcelona - Sbaen |
Tach-2007 |
Cynhadledd Twristiaeth Ddiwylliannol |
Ysgrifennydd Preifat |
£444 |
|
Brwsel |
Chwe-2008 |
Cynhadledd Amlieithrwydd |
dd/g |
£445 |
|
Brwsel |
Meh-2008 |
Lansio Rhwydwaith ar gyfer Hyrwyddo Amrywiaeth Ieithyddol |
Ysgrifennydd Preifat |
£1,179 |
|
|
|
|
|
|
Y Gweinidog dros Dreftadaeth |
Brwsel |
Tach-2008 |
Cyngor Diwylliant yr UE |
Ysgrifennydd Preifat |
£1,335 |
|
Fenis |
Meh-2009 |
'Arddangosfa Cymru’ Agored yn Biennale Celfyddyd Fenis |
Nid yw’r Wybodaeth na’r Gost lawn ar gael hyd yma |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig |
Brwsel |
Tach-2007 |
Ymweliad y Cyngor Amaethyddiaeth |
Ysgrifennydd Preifat |
£872 |
|
Dubai |
Chwe-2008 |
Arddangosfa Sioe Gulfood |
Ysgrifennydd Preifat |
£5,910 |
|
Lwcsembwrg |
Meh-2008 |
Cyngor Amaethyddiaeth |
Ysgrifennydd Preifat |
£1,298 |
|
Brwsel |
Tach-2008 |
Y Cyngor Amaethyddiaeth Ewropeaidd |
Ysgrifennydd Preifat a Swyddog Polisi |
£2,923 |
|
Brwsel |
Ion-2009 |
Cyfarfod â Chomisiynydd Vassilou |
Ysgrifennydd Preifat |
£1,033 |
|
|
|
|
|
|
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol |
Dulyn - Iwerddon |
Chwe-2008 |
Cyfarfod Y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig |
dd/g |
£425 |
|
|
|
|
|
|
Y Cwnsler Cyffredinol |
Hong Kong |
Ebr-2009 |
Cynhadledd Cyfraith y Gymanwlad |
Ysgrifennydd Preifat |
£7,167 |
|
|
|
|
|
|
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am barhau’r grant ysgolion bach ac am werth ysgolion bach i’r gymuned? (WAQ54538)
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Yn Cymru’n Un, gwnaethom ymrwymo i barhau â’r broses o ariannu ysgolion bach ac ysgolion gwledig, ac rydym wedi cyflawni’r ymrwymiad hwn. Yn 2009/10 mae cyfanswm o £4.1 miliwn eto ar gael i awdurdodau lleol er mwyn cefnogi cydweithio, penaethiaid sy’n addysgu ac i hyrwyddo ffocws cymunedol ysgolion bach. Mater i awdurdodau lleol yw penderfynu ar batrwm yr ysgolion i wasanaethu pob un o’u cymunedau, a maint priodol yr ysgol sydd ei hangen ym mhob ardal.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Faint o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol a gafwyd yng Nghymru ymhob blwyddyn er 1999 ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad fesul ardal BILl yn ogystal â phroffil oedran o’r rhai a fu farw? (WAQ54545)
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Gellir canfod y diffiniad o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn:
www.statistics.gov.uk/StatBase/Product.asp?vlnk=14496&Pos=&ColRank=1&Rank=272
Mae’r tabl isod yn dangos nifer y marwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol fesul grwpiau oedran yng Nghymru ers 1999.
Marwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol ymysg trigolion cyffredin Cymru, fesul grŵp oedran, 1999 i 2007.
Grŵp oedran |
1999 |
2000 |
2001 |
2002 |
2003 |
2004 |
2005 |
2006 |
2007 |
<15 |
0 |
0 |
0 |
0 |
0 |
0 |
0 |
0 |
1 |
15-44 |
67 |
65 |
76 |
68 |
79 |
75 |
68 |
67 |
101 |
45-74 |
222 |
246 |
276 |
254 |
283 |
302 |
302 |
329 |
333 |
75+ |
30 |
28 |
33 |
41 |
52 |
39 |
37 |
34 |
42 |
Pawb |
319 |
339 |
385 |
363 |
414 |
416 |
407 |
430 |
477 |
Darperir data pellach fesul ardal BILl ar wefan y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol (NPHS) yn:
www.howis.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=719&pid=28657
Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Faint o bobl sydd wedi mynd i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys gyda chyflyrau sy’n gysylltiedig ag alcohol er 1999 ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad fesul ardal BILl? (WAQ54546)
Edwina Hart: Ers mis Ebrill 2009, casglwyd data ar b’un a yw achosion mewn unedau Damweiniau ac Achosion Brys yn gysylltiedig ag alcohol ar gyfer Set Ddata yr Adran Achosion Brys. Nid oes data wedi’i gyhoeddi o’r ffynhonnell hon hyd yma.
Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Faint o bobl sydd wedi mynd i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ag anafiadau o ganlyniad i drais domestig ymhob blwyddyn er 1999 ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad fesul ardal BILl? (WAQ54547)
Edwina Hart: Ni chesglir data yn rheolaidd ar hyn o bryd ond mae gweithred yn fersiwn ddrafft ein cynllun gweithredu strategol sy’n nodi, 'Sicrhau bod gan Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys systemau gwybodaeth a all nodi unigolion a gaiff eu derbyn i’r ysbyty dro ar ôl tro, ac yn arbennig unigolion a gaiff eu derbyn dro ar ôl tro ac sydd wedi’u hanafu. Bydd hyn yn caniatáu i atgyfeiriadau priodol ac amserol gael eu gwneud.’
Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o’r defnydd o rifau ffôn 0844 / 0845 gan bractisau meddygon teulu? (WAQ54548)
Edwina Hart: Yn ddiweddar derbyniais bapur briffio gan fy swyddogion yn ymwneud â’r dewisiadau posibl, ond ar ôl rhoi ystyriaeth fanwl iddo, gofynnais i swyddogion gyflawni gwaith pellach cyn i mi benderfynu pa gamau rwyf am eu cymryd. Gobeithiaf fod mewn sefyllfa i wneud penderfyniad ar y ffordd ymlaen yn fuan iawn.
Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drin cleifion glawcoma yn y gymuned? (WAQ54549)
Edwina Hart: Ar 24 Mehefin cyhoeddais gynllun peilot y ganolfan ddiagnostig offthalmig a fyddai’n gwerthuso dichonoldeb y prosesau diagnosio a monitro glawcoma yn y gymuned. Mae dyddiadau peilot a dyddiadau agor y clinigau dal yn berthnasol.
Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y contract optometreg newydd? (WAQ54550)
Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Pryd bydd y contract optometreg newydd yn barod i’w gyflwyno? (WAQ54551)
Edwina Hart: Daeth adolygiad o’r ddarpariaeth gofal llygaid yng Nghymru i gasgliad y dylid cyflwyno llwybr claf gwell. Cytunwyd ar hyn gydag Optometreg Cymru. Mae’r anawsterau economaidd presennol wedi cael effaith andwyol ar weithredu’r cynllun. Nid wyf wedi penderfynu eto pryd y caiff y contract ei gyflwyno.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad, fesul lleoliad, yn dangos lle mae Athletau Cymru yn darparu rhaglenni cefnogi ar gyfer athletwyr o Gymru ar hyn o bryd? (WAQ54524)
Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Alun Ffred Jones): Mae’r Cyngor Chwaraeon yn gweithio’n agos gydag Athletau Cymru i roi cymorth i athletwyr ledled Cymru.
Un enghraifft yw’r rhaglen Talent Cymru a anelir at athletwyr rhwng 14 a 19 oed. Mae’r cynllun hwn yn darparu cymorth ariannol a chymorth arall i athletwyr sydd â’r potensial i fodloni meini prawf UK Pathway neu Elite Cymru yn ôl Cyrff Llywodraethu Cymru, Athletau Cymru yn yr achos hwn.
Mae Athletau Cymru hefyd yn cyflogi nifer o hyfforddwyr arbenigol i weithio gydag athletwyr perfformiad uchel ac maent wedi sefydlu Canolfannau Datblygu Rhanbarthol yn Abertawe, Glannau Dyfrdwy a Chaerdydd. Cynhelir cyfres o weithdai seicoleg hefyd yng Nghaerdydd, yn Abertawe ac yng Ngogledd Cymru a fydd yn dechrau ym mis Awst. At hynny, drwy Sefydliad Chwaraeon Rhanbarthol Gogledd Cymru, gall athletwyr penodol wneud defnydd o wasanaethau ffisiotherapi yn Llanrwst a Wrecsam.
Mae’r rhestr isod yn rhoi manylion am yr athletwyr sy’n derbyn cymorth gan Talent Cymru.
Enw |
Camp |
Oedran |
Grŵp Oedran cyfredol a faint o flynyddoedd ar y cynllun |
Lleoliad |
Lauren Bell |
800m/1500m |
14 |
Dan 15 (2il) |
Abergwaun |
Daniel Chesworth |
800m/1500m |
15 |
Dan 17 (1af) |
Casnewydd |
Antonio Cirillo |
Ras Gerdded 10k/20k |
18 |
Dan 20 (2il) |
Abertawe |
Sarah Dacey |
Ras Glwydi 400m |
18 |
Dan 20 (2il) |
Abertawe |
James Gardner |
Naid Hir |
17 |
Dan 20 (1af) |
Nantwich |
Dewi Griffiths |
5000m/ 10,000m |
17 |
Dan 20 (2il) |
Caerfyrddin |
Stephen Guest |
Naid Bolyn |
15 |
Dan 17 (1af) |
Pen-y-bont ar Ogwr |
Christina Hughes |
Naid Bolyn |
17 |
Dan 20 (1af) |
Glannau Dyfrdwy |
Rachel Johncock |
100/200m |
15 |
Dan 17 (1af) |
Bae Colwyn |
R Llewellyn |
Naid Bolyn |
15 |
Dan 17 (1af) |
Pen-y-bont ar Ogwr |
Alex Obiako |
Naid Driphlyg |
18 |
Dan 20 (2il) |
Caerdydd |
Sara Otung |
Heptathalon/ Ras Glwydi 80m |
15 |
Dan 17 (1af) |
Pontypridd |
Stephanie Owens |
Taflu Morthwyl |
19 |
Dan 20 (2il) |
Glannau Dyfrdwy |
Megan Rogers |
Heptathalon/ Ras Glwydi 300m/Ras Glwydi 400m |
16 |
Dan 17 (2il) |
Wrecsam |
Sian Swanson |
Naid Uchel |
16 |
Dan 17 (2il) |
Y Drenewydd |
Hannah Thomas |
100m/200m |
16 |
Dan 17 (2il) |
Wrecsam |
Toni Wells |
Taflu Morthwyl |
15 |
Dan 17 (2il) |
Crosskeys |
David Westbury |
Ras Ffos a Pherth 3k |
19 |
Dan 23 (1af) |
Derby |
Rhiannon Yates |
Naid Hir |
17 |
Dan 20 (2il) |
Casnewydd |
Tesni Ward |
Taflu Pwysau/ Disgen/ Gwaywffon |
17 |
Dan 20 (1af) |
Mansfield |
Kate Yhnell |
Taflu Morthwyl |
18 |
Dan 20 (2il) |
Caerloyw |
Enw |
Camp |
Oedran |
Grŵp Oedran cyfredol |
Lleoliad |
Tom Knight |
100m/200m |
16 |
Dan 20 (1af) |
Tonypandy |
Michael Payne |
Naid Hir |
15 |
Dan 17 (1af) |
Casnewydd |
Mica Moore |
100m |
16 |
Dan 17 (2il) |
Casnewydd |
Tom Miller |
400m |
20 |
Dan 23 (1af) |
Caerdydd |
Rhys L Williams |
Ras Glwydi 100m |
15 |
Dan 17 (1af) |
Pontypridd |