16/10/2007 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 16 Hydref 2007

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 16 Hydref 2007

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi eu cynnal gyda Llywodraeth y DU ynghylch tollau Pont Hafren? (WAQ50474)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Nid yw’r Gweinidog wedi cael unrhyw drafodaethau â Llywodraeth y DU o ran tollau Pont Hafren.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei harfarniad o Fathemateg Ffwythiannol mewn ysgolion? (WAQ50465)

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Ceir consensws ymysg cyflogwyr nad oes gan lawer o bobl ifanc y sgiliau mathemategol 'sylfaenol’ neu 'ffwythiannol’ sydd eu hangen arnynt yn y gweithle. Rwyf wedi penderfynu y dylid cryfhau sgiliau TGAU Mathemateg, gan roi mwy o bwyslais ar y sgiliau hyn.

Yn Lloegr, y dull sy’n cael ei archwilio yw asesu 'mathemateg ffwythiannol’ ar wahân i’r papurau TGAU Mathemateg. Mae fy swyddogion yn cadw mewn cysylltiad agos â’r datblygiad hwnnw. Mae dull arall o weithredu yn cael ei dreialu yng Nghymru i wneud y sgiliau hyn yn amlwg mewn addysgu ac arholiadau mathemateg. Byddai dysgwyr yn defnyddio gwaith ar yr hanfodion mewn TGAU mathemateg ac ar draws eu rhaglenni dysgu er mwyn ennill cymhwyster Sgiliau Allweddol. Mae angen i ddysgwyr ymarfer yr hanfodion mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau ac nid dim ond mewn gwersi ar gyfer un pwnc. Dyna gryfder Sgiliau Allweddol, sy’n gymaint o lwyddiant yma yng Nghymru.

Bydd CBAC yn treialu’r TGAU newydd hwn ochr yn ochr â threialon o TGAU mathemateg a sgiliau ffwythiannol yn Lloegr. Caiff y ddau ddull eu gwerthuso yn annibynnol am eu heffeithiolrwydd wrth godi lefelau sgiliau, a pha mor hawdd ydynt i ysgolion eu defnyddio. Byddaf yn gwneud fy mhenderfyniadau terfynol yn seiliedig ar dystiolaeth o’r treialon hyn. Bydd TGAU gwell mewn mathemateg ar gael i’w addysgu o fis Medi 2010.

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu safbwynt Llywodraeth y Cynulliad ynghylch y posibilrwydd o ehangu cronfa ddata ContactPoint i wasanaethu Cymru gyfan? (WAQ50471)

Jane Hutt: Cafodd Llywodraeth Cynulliad Cymru bwerau yn Neddf Plant 2004 a oedd yn cyfateb i’r rhai yn Lloegr i sefydlu a rhoi cronfa ddata gwybodaeth plant ar waith.

Rydym yn bwriadu cynnal astudiaeth gwmpasu eleni i asesu pa mor effeithiol y mae gwybodaeth yn cael ei rheoli a’i rhannu ar hyn o bryd ymysg gweithwyr proffesiynol yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o’r DU. Bydd canlyniadau’r astudiaeth honno yn llywio’r gwaith o ddatblygu’r datrysiad mwyaf priodol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Bydd angen dadansoddi’r penderfyniadau ar y ffordd ymlaen yn gadarn, gan nodi pa mor dda a pha mor aml y caiff y data ei ddefnyddio i helpu’r broses o ddatblygu canlyniadau cadarnhaol i blant. Bydd angen i ni ystyried yn arbennig y materion allweddol o ran cyfrinachedd, hygyrchedd, diogelwch a gwerth.

Unwaith y bydd cynigion wedi cael eu datblygu, byddant yn destun ymgynghoriad eang, gan ymgorffori’r ystod lawn o bortffolios Gweinidogol a rhanddeiliaid allanol allweddol y mae eu gwaith yn effeithio ar blant.

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno’r Cyfnod Sylfaen yng Nghymru? (WAQ50472)

Jane Hutt: Rwy’n parhau yn gwbl ymrwymedig i gyflwyno’r Cyfnod Sylfaen o fis Medi 2008 a chyflawni 'Cynllun Gweithredu Adeiladu’r Cyfnod Sylfaen’ a lansiwyd fis Rhagfyr diwethaf. Ers hynny rydym wedi:

  • Cyflawni ymgynghoriad cyhoeddus ar y Fframwaith Cyfnod Sylfaen ar gyfer Dysgu Plant ac wedi diwygio’r Fframwaith yng ngoleuni’r ymatebion;

  • Adolygu a diwygio’r ddeg dogfen ganllaw ddrafft yn dilyn ymgynghoriad â’r sefydliadau/ysgolion peilot;

  • Cynhyrchu canllaw drafft ar "Addysgeg Dysgu ac Addysgu" a Phroffil y Cyfnod Sylfaen sy’n canolbwyntio ar lwyddiannau parhaus plant a’u camau datblygu.

  • Datblygu Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen;

  • Cydweithio ag Awdurdodau Addysg Lleol yn lleol ac ar lefel consortia er mwyn llunio rhaglen hyfforddi i helpu pob aelod o staff i baratoi ar gyfer cyflwyno’r Cyfnod Sylfaen;

  • Ehangu’r Cyfnod Sylfaen ar gyfer 42 o ysgolion 'Cychwyn Cynnar’ ac ariannu darparwyr nas cynhelir o fis Medi 2007;

  • Darparu arian grant i bob awdurdod lleol er mwyn penodi Swyddog Hyfforddi a Chymorth i reoli’r broses o gyflwyno’r Cyfnod Sylfaen;

  • Dyfarnu arian grant o £2.5 miliwn er mwyn galluogi darparwyr nas cynhelir i gael o leiaf 10 y cant o amser athro cymwysedig;

  • Datblygu strategaeth gyfathrebu i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a chyfleoedd gyrfa i’r gweithlu;

  • Dyfarnu grantiau i Dysgu drwy Dirweddau a’r Fforwm Coetiroedd ar gyfer Dysgu i weithio gydag ysgolion ac Awdurdodau Addysg Lleol ar ddatblygu ac addasu’r amgylchedd dysgu awyr agored;

  • Sefydlu Grŵp Rheoli Prosiect Cenedlaethol a strwythur cymorth i oruchwylio’r broses o roi’r Cyfnod Sylfaenol ar waith.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod cleifion Osteoporosis yn gallu cael gafael ar y triniaethau y mae eu hangen arnynt drwy’r GIG? (WAQ50450)

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau y mae wedi’u cael o bosibl gyda Chymdeithas Genedlaethol Osteoporosis ynghylch arweiniad diweddar NICE ar y triniaethau sydd ar gael dan y GIG ar gyfer Osteoporosis? (WAQ50453)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Cyfrifoldeb Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG yw’r gwasanaethau ar gyfer osteoporosis. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi nodi camau gweithredu allweddol yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn a Chyfarwyddebau ar Ddatblygu a Chomisiynu Gwasanaethau ar gyfer Arthritis a Chyflyrau Cyhyrysgerbydol Cronig, i fynd i’r afael ag atal, rheoli a thrin y cyflwr hwn.

Nid wyf wedi cael cyfarfodydd â’r Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol ynghylch canllawiau NICE ar y pwnc hwn.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am arweiniad diweddar NICE ynghylch triniaethau sydd ar gael dan y GIG ar gyfer Osteoporosis? (WAQ50452)

Edwina Hart: Mae canllawiau drafft NICE ar gyfer defnyddio alendronate fel triniaeth ar gyfer Osteoporosis, yn argymell ei ddefnyddio fel triniaeth ataliol sylfaenol ac eilaidd i gleifion sy’n bodloni nifer o feini prawf sy’n amrywio yn ôl oedran y claf. Er bod pob triniaeth arall wedi dangos ei bod yn effeithiol, barn Pwyllgor Arfarnu NICE oedd mai alendronate oedd y driniaeth fwyaf clinigol a chost-effeithiol a arfarnwyd.

Nid dyma ganllawiau terfynol NICE i’r GIG a derbyniwyd tair apêl, y bydd y Panel Apelio yn gwrando arnynt ar 22 Hydref. Ni chaiff y canllawiau terfynol eu cyhoeddi nes bod yr apeliadau wedi’u datrys, er nad yw’n bosibl dweud pryd y bydd hyn yn digwydd, gan y bydd yn dibynnu ar ganlyniad yr apeliadau.

Os nad yw alendronate yn addas ar gyfer rhai cleifion, dylai eu gweithwyr iechyd proffesiynol allu rhagnodi meddyginiaeth arall ar sail eu barn glinigol. Pan fydd hyn yn cynnwys cyffuriau nad ydynt wedi’u cymeradwyo gan ganllawiau NICE, bydd angen cyflwyno achos i gomisiynwyr.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa ystyriaethau y mae’r Gweinidog wedi ei rhoi i gefnogi hyfforddiant cŵn cymorth awtistiaeth i blant ag awtistiaeth? (WAQ50464)

Edwina Hart: Nid oes cynlluniau ar hyn o bryd i gefnogi hyfforddiant cŵn cymorth awtistiaeth i blant ag awtistiaeth. Mae swyddogion yn ymwybodol o gynllun peilot sy’n cael ei redeg gan sefydliad sector gwirfoddol yn Lloegr ac wedi gofyn am gael eu hysbysu o’u canfyddiadau.

Bu ymgynghoriad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar Gynllun Gweithredu Strategol Cymru ar gyfer Anhwylder yn y Sbectrwm Awtistig yn gynharach eleni ac mae’r ymatebion yn cael eu dadansoddi.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru faint o ddeintyddion y GIG sy’n derbyn oedolion yn gleifion newydd ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru? (WAQ50466)

Edwina Hart: Mae mynediad at driniaeth ddeintyddol yn amrywio o ddydd i ddydd, oherwydd effaith trosiant staff a Byrddau Iechyd Lleol yn datblygu eu rôl gomisiynu i ddatblygu gwasanaethau newydd er mwyn diwallu’r angen clinigol lleol. Felly, dim ond cipolwg o’r sefyllfa y mae’n bosibl ei ddarparu, er bod y contract deintyddol a’r adnoddau ychwanegol a ddarperir wedi cael effaith gadarnhaol ar wella mynediad.

Caiff nifer y practisau deintyddol yn y GIG sy’n derbyn cleifion newydd ar 12 Hydref 2007 eu cynnwys yn y tabl isod.

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 16 Hydref 2007

Bwrdd Iechyd Lleol

Nifer y practisau deintyddol sy’n derbyn cleifion newydd

Abertawe

2

Blaenau Gwent

7

Bro Morgannwg

7

Caerdydd

26

Caerffili

13

Casnewydd

6

Castell-nedd Port Talbot

0

Ceredigion

2

Conwy

2

Gwynedd

5

Merthyr Tudful

4

Pen-y-bont ar Ogwr

4

Powys

17

Rhondda Cynon Taf

16

Sir Benfro

0

Sir Ddinbych

4

Sir y Fflint

5

Sir Fynwy

7

Sir Gaerfyrddin

7

Tor-faen

3

Wrecsam

4

Ynys Môn

0

Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am stociau o’r brechiad rhag y ffliw y gaeaf hwn? (WAQ50467)

Edwina Hart: Mae’r adroddiadau diweddaraf gan wneuthurwyr brechlynnau yn nodi y byddant yn gallu cwblhau’r holl archebion sy’n bodoli eisoes gan feddygfeydd yng Nghymru am gyflenwadau o’r brechiad rhag y Ffliw.

Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfarwyddebau gwasanaeth a chomisiynu ar gyfer cyflyrau niwrolegol yng Nghymru? (WAQ50468)

Edwina Hart: Mae Cyfarwyddebau ar Ddatblygu a Chomisiynu Gwasanaethau wrthi’n cael eu datblygu ar gyfer y cyflwr niwrolegol epilepsi, a gaiff eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad maes o law.

Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc â chyflyrau niwrolegol yng Nghymru? (WAQ50469)

Edwina Hart: Yn Ne Cymru mae mwyafrif y plant a’r bobl ifanc y mae angen triniaeth arnynt ar gyfer cyflyrau niwrolegol pediatrig arbenigol yn cael eu trin fel rhan o rwydwaith presennol. Mae’r rhwydwaith yn gweithredu ledled De Cymru, a dim ond cyflyrau niwrolegol prin iawn sy’n cael eu cyfeirio at Ganolfannau Uwchranbarthol yn Lloegr.

Mae Plant a phobl Ifanc sy’n byw yng Ngogledd Cymru yn cael eu trin gan Arbenigwyr yn Ysbyty Plant Brenhinol Lerpwl.

Fel rhan o’r Prosiect Gwasanaethau Arbenigol i Blant a Phobl Ifanc (CYPSSP), mae safonau a modelau penodol i ddarparu’r gwasanaeth yn cael eu datblygu ar hyn o bryd. Sefydlwyd y prosiect gwasanaethau arbenigol i Blant a Phobl Ifanc (CYPSSP) yn dilyn cyhoeddiad Gweinidogol ym mis Hydref 2002 a oedd yn nodi mai dim ond drwy’r broses o ddatblygu Rhwydweithiau Clinigol Wedi’u Rheoli y byddai dyfodol i wasanaethau iechyd arbenigol i blant yng Nghymru.

Mae safonau Niwroleg Pediatrig drafft wedi’u datblygu gan Weithgor Allanol y mae eu haelodaeth yn cynnwys clinigwyr sy’n gyfrifol am gyflwyno’r gwasanaeth ledled Cymru, Comisiynwyr, Sefydliadau gwirfoddol a rhieni plant sydd â chyflyrau niwrolegol.

Caiff y safonau Niwroleg eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddarach yn 2007 a chaiff y ddogfen derfynol ei chyhoeddi ar ddiwedd y prosiect yn 2008.