Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 9 Tachwedd 2016 i'w hateb ar 16 Tachwedd 2016
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)
Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb. Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith tariffau'r EU ac effaith rhwystrau eraill heb dariffau arnynt ar sectorau penodol yng Nghymru, os bydd y DU yn gadael y Farchnad Sengl a'r Undeb Tollau? (WAQ71441)
Derbyniwyd ateb ar 18 Tachwedd 2016
Prif Weinidog Cymru (Carwyn Jones): I refer you to the response to WAQ71431.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
Gareth Bennett (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o brimatiaid yn cael eu cadw fel anifeiliaid anwes dof yng Nghymru? (WAQ71437)
Gareth Bennett (Canol De Cymru): Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ymgyrch yr RSPCA i wahardd mwncïod a phrimatiaid eraill rhag cael eu cadw fel anifeiliaid anwes? (WAQ71438)
Derbyniwyd ateb ar 21 Tachwedd 2016
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig (Lesley Griffiths): No assessment has been undertaken, however, I have asked my officials to seek discussions with the RSPCA on their campaign.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu'r ffigurau canlyniadau ar gyfer y rhaglen Cymunedau am Waith? (WAQ71439)
Derbyniwyd ateb ar 15 Tachwedd 2016
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant (Carl Sargeant): As at September 2016 Communities for Work has supported 5,631 people, of whom 898 have entered employment.
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o Adolygiadau Ymarfer Plant sydd wedi cael eu cofnodi yn y pum mlynedd diwethaf, gan ddechrau ym mis Ebrill 2011? (WAQ71440)
Derbyniwyd ateb ar 15 Tachwedd 2016
Carl Sargeant: Child Practice Reviews replaced the Serious Case Reviews process in January 2013. Since becoming statutory 32 Child Practice Reviews have been undertaken:
During 2013/14: 9 (5 concise reviews and 4 extended reviews)
During 2014/15: 13 (8 concise reviews and 5 extended reviews)
During 2015/16: 8 (2 concise reviews and 6 extended reviews)
During 2016/17: 2 (2 extended reviews)