Atebion a roddwyd i Aelodau ar 17 Mawrth 2008
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Nick Ramsay (Mynwy): Faint o ymweliadau swyddogol â Chymru o wledydd tramor a gafodd y Prif Weinidog dros y 12 mis diwethaf? (WAQ51267)
Nick Ramsay (Mynwy): Faint o geisiadau gan wledydd tramor am ymweliadau swyddogol â Chymru a gafodd y Gweinidog dros y 12 mis diwethaf? (WAQ51268)
Ateb
terfynol yn dilyn yr ateb dros dro a roddwyd ar 4 Mawrth.
Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Rwy’n gwneud pob ymdrech i fodloni pob cais am gyfarfod gan gynrychiolwyr o wledydd tramor. Nid yw’r wybodaeth am y ceisiadau na fu modd eu bodloni ar gael. Ceir manylion fy nghyfarfodydd â chynrychiolwyr o wledydd tramor yn y ddogfen amgaeëdig.
YR YMWELIADAU Â CHYMRU O WLEDYDD TRAMOR A GAFODD PRIF WEINIDOG CYMRU
Chwefror 2007 - Chwefror 2008
Dyddiad |
Gwlad |
Ymwelydd |
|
1. |
15 Chwefror 2007 |
Hwngari |
Ei Hardderchogrwydd Ms Borbala Czako, Llysgennad |
2. |
14 Mawrth 2007 |
Denmarc |
Ei Ardderchogrwydd Mr Birger Riis-Jorgensen, Llysgennad |
3. |
18 Mawrth 2007 |
Canada |
Ei Ardderchogrwydd James R Wright, Uchel Gomisiynydd |
4. |
19/20 Mawrth 2007 |
Chubut, Patagonia, yr Ariannin |
Senor Mario Das Neves, Llywodraethwr |
5. |
25 Ebrill 2007 |
Yr Almaen |
Ei Ardderchogrwydd Wolfgang Ischinger, Llysgennad |
6. |
4 Mehefin 2007 |
Seland Newydd |
Ei Ardderchogrwydd Jonathan Hunt, Uchel Gomisiynydd |
7. |
2 Gorffennaf 2007 |
Rhanbarth Dinesig Chongqing, Tsieina |
Yr Athro Li Shirong, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol Comisiwn Cysylltiadau Masnachol ac Economaidd Tramor Chongqing, a dirprwyaeth |
8. |
4 Gorffennaf 2007 |
Talaith Fujian, Tsieina |
Mr Li Chuan, Is-lywodraethwr, a dirprwyaeth gan gynnwys Dirprwy Faer Xiamen |
9. |
22-23 Gorffennaf 2007 |
Yr Undeb Ewropeaidd |
Y Comisiynydd Mariann Fischer Boel |
10. |
6 Hydref 2007 |
Seland Newydd |
Y Gwir Anrh Helen Clark, Prif Weinidog |
11. |
6 Hydref 2007 |
Ffrainc |
François Fillon, Prif Weinidog |
12. |
6 Hydref 2007 |
Ffrainc |
Nicolas Sarkozy, Arlywydd |
13. |
11 Hydref 2007 |
Latfia |
Indulis Berzins, Llysgennad |
14. |
12 Hydref 2007 |
Gwlad Pwyl |
Janusz Moszynski, Marsial Silesia Uchaf |
15. |
23 Hydref 2007 |
Tsieina |
Chen Yatang, Is- gadeirydd Pwyllgor Sefydlog Cyngres y Bobl Chongqing |
16. |
24 Hydref 2007 |
Mali |
Dirprwyaeth o Lywodraeth Leol Timbuktu |
17. |
26 Hydref 2007 |
Gwlad Thai |
Ei Hardderchogrwydd Kitti Wasinindh, Llysgennad |
18. |
26 Hydref 2007 |
Yr Iseldiroedd |
Ei Ardderchogrwydd Pieter Waldeck, Llysgennad |
19. |
29 - 30 Hydref 2007 |
Yr Undeb Ewropeaidd |
Y Comisiynydd Vladimir Špidla |
20. |
30 Hydref 2007 |
Cyprus |
Evangelo Savva, Prif Gonswl |
21. |
31 Hydref 2007 |
UDA |
Brad Henry, Llywodraethwr Oklahoma |
22. |
8 Tachwedd 2007 |
Yr Undeb Ewropeaidd |
Y Comisiynydd Janez Potočnik |
23. |
13 Tachwedd 2007 |
India |
5 o newyddiadurwyr Indiaidd sy’n gweithio o Lundain ar ran cyhoeddiadau yn India |
24. |
12 Rhagfyr 2007 |
Estonia |
Ei Ardderchogrwydd Dr Margus Laidre, Llysgennad |
25. |
7 Ionawr 2008 |
Bangladesh |
Ei Ardderchogrwydd Mr Shafi U Ahmed, Uchel Gomisiynydd |
26. |
22 Ionawr 2008 |
De Affrica |
Cyngor Cenedlaethol y Taleithiau |
27. |
31 Ionawr 2008 |
Yr Undeb Ewropeaidd |
Y Comisiynydd Margot Wallström |
28. |
7 Chwefror 2008 |
Slofenia |
Ei Ardderchogrwydd Iztok Mirosic, Llysgennad |
29. |
21 Chwefror 2008 |
Tsieina |
Dirprwyaeth o newyddiadurwyr o Tsieina |
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sefydlu cyllideb arian cyfatebol Llywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi Rhaglen Cydgyfeirio’r UE 2007-2013? (WAQ50848)
Ateb
terfynol yn dilyn yr ateb dros dro a roddwyd ar 4 Mawrth.
Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Mae cyllideb o £105 miliwn wedi’i darparu fel arian cyfatebol ar gyfer gwariant Cyfalaf a Refeniw ar gyfer y blynyddoedd ariannol rhwng 2008/09 a 2010/11 i gefnogi’r gwaith o ddatblygu a darparu prosiectau Rhaglenni Cydgyfeirio, Cystadleurwydd Rhanbarthol a Chydweithredu Tiriogaethol y Cronfeydd Strwythurol.
Mae swyddogion wrthi’n trafod â rhanddeiliaid allanol i ddatblygu ffordd fanwl o weithredu rhaglen cymhwyso’r grant.
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei weledigaeth ar gyfer Partneriaethau Rheilffordd Cymunedol yng Nghymru? (WAQ51138)
Ateb
terfynol yn dilyn yr ateb dros dro a roddwyd ar 4 Mawrth.
Y Dirprwy Brif Weinidog: Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn edrych tua’r consortia rhanbarthol i sefydlu rôl y Partneriaethau Rheilffordd Cymunedol (CRPs) yn y dyfodol o ran ffurfio eu Cynlluniau Trafnidiaeth Ranbarthol.
Mae nifer o CRPs ledled Cymru ac roeddwn wrth fy modd o gael cwrdd â’r rhan fwyaf o’u swyddogion datblygu yng nghynhadledd genedlaethol Cymdeithas y Partneriaethau Rheilffordd Cymunedol ar Dwristiaeth a’r rheilffordd yn Llandudno ym mis Tachwedd y llynedd. Talaf deyrnged i’w gwaith, yn arbennig yr hyrwyddiad ar y cyd, "Golygfeydd Cymru ar y Trên”, sydd â gwefan wych (http://www.scenicwales.co.uk/) erbyn hyn.
Mae fy swyddogion yn cwrdd yn rheolaidd â phob un o’r CRPs, a oedd â rhan allweddol i ddwyn y maen i’r wal gyda chynllun peilot Teithio Rhatach ar y rheilffordd, a’r gwerthuso presennol. Maent wedi bod yn gadarnhaol iawn yn y fenter bwysig hon ac edrychaf ymlaen at weld hyn yn parhau.
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o’r amser cyfartalog i deithio a) mewn car a b) ar drên rhwng Caergybi a Chaerdydd bob blwyddyn er 1999 ac a wnaiff ddarparu manylion yr amseroedd hynny? (WAQ51180)
Ateb
terfynol yn dilyn yr ateb dros dro a roddwyd ar 4 Mawrth.
Y Dirprwy Brif Weinidog: Gwnaed asesiad o amserau teithio yn 2007, ond nid oes amserau cymharol ar gael o 1999. Yr amserau oedd 5 awr 29 munud mewn car a 5 awr 10 munud mewn trên.
Rwyf wedi dweud yn glir fy mod yn bwriadu lleihau yr amserau teithio cyfartalog presennol o Gaergybi i Gaerdydd. Mae Cymru’n Un yn ymrwymo’r Llwyodraeth hon i ddatblygu a gweithredu rhaglen i wella cysylltiadau rhwng y gogledd a’r de, gan gynnwys teithio ar ffyrdd ac ar reilffyrdd, i leihau amser teithio ar drên a gwella’r prif gysylltiadau ffordd rhwng y gogledd, y gorllewin a’r de.
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am nifer y teithwyr sydd wedi defnyddio’r bws mini gwennol rhwng Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd a gorsaf y Rhws bob blwyddyn ers i reilffordd Bro Morgannwg ailagor i deithwyr ar drenau? (WAQ51182)
Ateb
terfynol yn dilyn yr ateb dros dro a roddwyd ar 4 Mawrth.
Y Dirprwy Brif Weinidog: Nid yw’r wybodaeth hon gennyf gan fod y gwasanaeth bws gwennol yn cael ei ariannu a’i ddarparu gan Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, gyda chefnogaeth Cyngor Bro Morgannwg.
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw nifer cyfartalog y teithwyr ar daith unigol ar y bws mini gwennol rhwng Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd a gorsaf y Rhws? (WAQ51183)
Ateb
terfynol yn dilyn yr ateb dros dro a roddwyd ar 4 Mawrth.
Y Dirprwy Brif Weinidog: Nid yw’r wybodaeth hon gennyf gan fod y gwasanaeth bws gwennol yn cael ei ariannu a’i ddarparu gan Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, gyda chefnogaeth Cyngor Bro Morgannwg.
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pryd wnaeth y Gweinidog gwrdd â rheolwyr First Great Western ddiwethaf i drafod gwasanaethau trenau rhwng De Cymru a Llundain? (WAQ51184)
Ateb
terfynol yn dilyn yr ateb dros dro a roddwyd ar 4 Mawrth.
Y Dirprwy Brif Weinidog: Fe wnes i gyfarfod â rheolwyr FGW ar 25 Hydref 2007.
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pryd wnaeth y Gweinidog gwrdd â rheolwyr Trenau Arriva Cymru ddiwethaf i drafod materion yn ymwneud â gwasanaethau trenau yng Nghymru? (WAQ51185)
Ateb
terfynol yn dilyn yr ateb dros dro a roddwyd ar 4 Mawrth.
Y Dirprwy Brif Weinidog: Cyfarfum â rheolwyr Trenau Arriva Cymru ar 2 Hydref 2007.
Peter Black (Gorllewin De Cymru): Beth yw’r gwariant ar y rhwydwaith Technium ledled Cymru am bob blwyddyn ariannol er 2003/4, faint sydd yn y gyllideb yn 2008/09 a beth yw’r incwm o’r prosiectau hyn ar gyfer pob un o’r blynyddoedd ariannol hyn? (WAQ51201)
Ateb
terfynol yn dilyn yr ateb dros dro a roddwyd ar 4 Mawrth.
Y Dirprwy Brif Weinidog: Mae cyfanswm y gwariant ar gyfer pob un Technium ym mhob un o’r blynyddoedd ariannol hyd at ac yn cynnwys 2007/08 (heb gynnwys arian cychwynnol UE a P2P a chostau adeiladu) yn dod i gyfartaledd o tua £126,000. Mae hyn yn cwmpasu costau refeniw, seilwaith ffôn a rhaglenni Cymru gyfan. Mae cyfanswm yr incwm o’r prosiect rhwydwaith ar gyfer pob un o’r blynyddoedd ariannol hyd at ac yn cynnwys 2007/08 yn dod i gyfartaledd o tua £495,739. Caiff y gyllideb ar gyfer 2008/09 ei hadolygu ar hyn o bryd, gan ystyried y cynnig cydgyfeirio presennol a wneir gan swyddogion o fewn Adran yr Economi a Thrafnidiaeth.
Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa waith adeiladu sydd i fod i gychwyn yn SA1 (Datblygiad Glannau Abertawe) yn y flwyddyn ariannol 2008-09? (WAQ51203)
Ateb
terfynol yn dilyn yr ateb dros dro a roddwyd ar 4 Mawrth.
Y Dirprwy Brif Weinidog: Rhagwelwn y bydd y gwaith adeiladu canlynol yn cychwyn yn ein blwyddyn ariannol Ebrill 2008 i Fawrth 2009:
Tua 300 o fflatiau
Bloc Parcio Aml-Lawr—tua 500 o leoedd
Datblygiadau Swyddfeydd—cyfleuster ymchwil a datblygu 30,000 tr sg
Peter Black (Gorllewin De Cymru): Beth yw cyfanswm y gost i gyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y rheilffordd i Lynebwy a beth fydd y cymhorthdal a roddir i’r rheilffordd pan fydd ar waith? (WAQ51204)
Ateb
terfynol yn dilyn yr ateb dros dro a roddwyd ar 4 Mawrth.
Y Dirprwy Brif Weinidog: Y gost gyfalaf yw £20.3m, heb gynnwys y swm a ariennir gan Amcan Un a Chronfa Adfywio Gwaith Dur Corus. Ni allaf ryddhau gwybodaeth am y cymhorthdal parhaus i Drenau Arriva Cymru gan ei fod yn fasnachol sensitif.
Nick Ramsay (Mynwy): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith y cynnig i gau Swyddfa Brisio Cyllid a Thollau EM yng Nghasnewydd ar yr economi? (WAQ51206)
Nick Ramsay (Mynwy): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gan Gyllid a Thollau EM ynghylch y cynnig i gau Swyddfa Brisio Casnewydd? (WAQ51207)
Ateb
terfynol yn dilyn yr ateb dros dro a roddwyd ar 4 Mawrth.
Y Dirprwy Brif Weinidog: Mae’r cynnig ynglŷn â’r posibilrwydd o gau Swyddfa Brisio Casnewydd yn rhan o ymgynghoriad ar ailstrwythuro Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) ledled y DU er mwyn gwella gwasanaeth cwsmeriaid a chynyddu effeithlonrwydd. Nid yw’r rhain yn faterion ar gyfer Llywodraeth y Cynulliad, ond fe hysbysir y Gweinidogion o gynlluniau’r VOA gan gynnwys cynigion ar gyfer y posibilrwydd o gau swyddfa Casnewydd. Rhoddodd y VOA sicrwydd na fydd ei gynigion yn effeithio ar safonau gwasanaeth cwmseriaid.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A yw’r Gweinidog wedi ystyried darparu cyllid ar gyfer Cymdeithas Sgowtiaid Cymru? (WAQ51443)
Ateb
terfynol yn dilyn yr ateb dros dro a roddwyd ar 4 Mawrth.
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod y cyfraniad pwysig y mae mudiad y Sgowtiaid yn ei wneud i fywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae Cyngor Sgowtiaid Cymru yn un o’r mudiadau ieuenctid gwirfoddol cenedlaethol mwyaf yng Nghymru, ac mae’n darparu ystod eang o gyfleoedd addysg datblygiadol anffurfiol i bobl ifanc. Mae gwaith y Sgowtiaid yng Nghymru yn ategu ac yn cyfrannu at bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer pobl ifanc.
Wrth gydnabod a chefnogi ei waith gyda phobl ifanc yng Nghymru, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi darparu cymorth ariannol hirdymor i gynorthwyo â chostau rhedeg canolog y mudiad (y costau sydd anoddaf eu hariannu i’r mudiadau hyn) trwy gynllun grant Cyrff Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol. Mae’r cyllid hwn yn tanategu’r cymorth a ddarperir i grwpiau Sgowtiaid ledled Cymru a chyflwyno gwasanaethau i’w haelodau ledled Cymru. Yn 2007/08, rhoddwyd grant gwerth £62,572 i’r mudiad, a fydd yn cynyddu i £64,908 yn 2008/09. Yn ystod yr haf, gwahoddir mudiadau ieuenctid gwirfoddol cenedlaethol, gan gynnwys Cyngor Sgowtiaid Cymru, i gyflwyno cais am gymorth grant ar gyfer cylch cyllido 2009-2012.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth yw gwerth ariannol prosiectau a ddarparwyd yn yr adran iechyd pan ddefnyddiwyd menter cyllid preifat, a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o’r arian cyhoeddus/preifat a ddefnyddiwyd ar gyfer pob prosiect ac a wnaiff roi manylion y ffigurau hyn dros yr 8 mlynedd diwethaf? (WAQ51524)
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymwneud â’r contractau hyn ac felly nid yw mewn sefyllfa i wybod nac i gasglu data ariannol o’r sector preifat sy’n fasnachol sensitif. Rhoddwyd y cyfraniad cyhoeddus yn WAQ51293.