18/01/2010 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 18 Ionawr 2010

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 18 Ionawr 2010

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Fusnes a'r Gyllideb

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cwestiynau i Gynrychiolydd Comisiwn y Cynulliad

Gofyn i'r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am faint dalodd pob adran Gweinidogol a’i rhagflaenydd mewn ffioedd clampio cerbydau a hysbysiadau cosb benodedig am barcio a) ar dir preifat a b) ar dir sy’n eiddo cyhoeddus ym mhob un o’r 10 mlynedd diwethaf. (WAQ55349)

Rhoddwyd ateb ar 21 Ionawr 2010

Nid oes hawl gan staff Llywodraeth y Cynulliad i hawlio costau ar gyfer cosbau parcio (gan gynnwys dirwyon clampio) yr aed iddynt ar fusnes swyddogol.

Yn unol â hynny, er ei bod yn bosibl i daliadau gael eu gwneud yn ystod y deng mlynedd diwethaf mewn achosion eithriadol, nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn mynd ati'n benodol i gasglu'r wybodaeth am wariant yr aed iddo, ar dir preifat neu ar dir sy'n eiddo gyhoeddus, i dalu dirwyon clampio cerbydau a hysbysiadau cosb benodedig am barcio.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Faint o gyllid y mae ei hadran wedi’i ddyrannu ar gyfer bonysau a) diwedd y flwyddyn a b) yn ystod y flwyddyn yn 2009-10. (WAQ55350)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Mae hwn yn fater i'r Ysgrifennydd Parhaol a byddaf yn gofyn iddi ysgrifennu atoch yn uniongyrchol ar y mater hwn.

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Faint o gyllid y mae ei hadran wedi’i ddyrannu ar gyfer bonysau a) diwedd y flwyddyn a b) yn ystod y flwyddyn yn 2009-10. (WAQ55357) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb (Jane Hutt): Mae hwn yn fater i'r Ysgrifennydd Parhaol a byddaf yn gofyn iddi ysgrifennu atoch yn uniongyrchol ar y mater hwn.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pryd fydd y Gweinidog yn gwneud penderfyniad am adeiladu ysgol newydd ar Dir Hamdden Tredelerch. (WAQ55360)

Rhoddwyd ateb ar 26 Ionawr 2010

Fe'ch cyfeiriaf at ymateb y cyn-Weinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ar 8 Rhagfyr. Mae dyletswydd arnaf i benderfynu p'un a ddylid cymeradwyo cynnig Caerdydd, a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, i ddod ag Ysgolion Uwchradd Rhymni a Llanrhymni i ben ac agor ysgol uwchradd newydd ar safle caeau chwarae Rhymni.

Mae nifer fawr iawn y gwrthwynebiadau a chymhlethdod y cynnig yn golygu nad yw'n bosibl dweud ag unrhyw sicrwydd pryd y caiff penderfyniad ei gyhoeddi. Ar hyn o bryd, rwy'n gobeithio y gwneir hyn yn ystod yr wythnosau nesaf ac erbyn hanner tymor mis Chwefror, ond ni ellir gwarantu hyn.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Wrth ddechrau datblygu ProAct a ReAct, sawl busnes a/neu unigolyn oedd Llywodraeth Cynulliad Cymru’n rhagweld y byddai’n cael eu cynorthwyo gan y cynlluniau. (WAQ55382) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, Arloesi a Gwyddoniaeth

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, Arloesi a Gwyddoniaeth (Lesley Griffiths): ReAct: Ariennir rhaglen ReAct yn rhannol gan ddau brosiect Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) sy'n cwmpasu Cymru gyfan. Sefydlwyd ReAct ym mis Hydref 2008 a bydd ar waith tan fis Medi 2014.  Rhagwelwyd ar y cychwyn y byddai 12,239 o unigolion a 1,103 o gwmnïau yn cael cymorth dros oes y rhaglen. Diwygiwyd hyn i 37,230 o unigolion a 1,464 o gwmnïau yn ystod mis Awst 2009 o ganlyniad i'r dirwasgiad.

Ar ddiwedd mis Rhagfyr 2009 roedd 11,581 o unigolion a 1,605 o gyflogwyr yn cael cymorth.

ProAct:  Mae ProAct hefyd wedi'i ariannu'n rhannol gan ddau brosiect ESF sy'n cwmpasu Cymru gyfan. Sefydlwyd ProAct ym mis Ionawr 2009 a bydd ar waith tan fis Mehefin 2011.  Targed y prosiect yw cynorthwyo 11,977 o unigolion ledled Cymru o fewn o leiaf 239 o fusnesau.

Ar hyn o bryd mae ProAct yn cefnogi dros 8300 o unigolion o fewn 181 o fusnesau.  Mae 67 o fusnesau eraill wrthi'n datblygu cynlluniau hyfforddiant gan ddisgwyl cwmpasu tua 2000 o unigolion.

Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): Pa sylw neu ystyriaeth a roddir i blant gydag anoddefgarwch at lactos fel eu bod yn cael rhywbeth yn hytrach na llaeth am ddim yn yr ysgol. (WAQ55389)

Rhoddwyd ateb ar 04 Chwefror 2010

Mae Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol yr UE yn talu cymhorthdal ar y llaeth a'r iogwrt a gyflenwir i blant ysgol rhwng 5 ac 11 mlwydd oed. Mae'r Cynllun Cyfnod Allweddol 1, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn defnyddio cymhorthdal yr UE a chyllid ychwanegol i  gynnig llaeth am ddim i blant mewn addysg gynradd yn y flwyddyn dderbyn, blwyddyn un a blwyddyn dau.  Mae'r canllawiau a luniwyd gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig ar sut i weithredu'r cynlluniau yn nodi bod llaeth â llai o lactos ynddo yn gymwys i gael cymhorthdal.

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Faint o gyllid y mae ei adran wedi’i ddyrannu ar gyfer bonysau a) diwedd y flwyddyn a b) yn ystod y flwyddyn yn 2009-10. (WAQ55356) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Jane Hutt: Mae hwn yn fater i'r Ysgrifennydd Parhaol a byddaf yn gofyn iddi ysgrifennu atoch yn uniongyrchol ar y mater hwn.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sawl ffatri, warws neu swyddfa sydd wedi cael eu hadeiladu gan ddefnyddio arian Amcan Un neu gyllid cydgyfeirio dros y pum mlynedd diwethaf sydd erioed wedi cael eu meddiannu, ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad fesul blwyddyn a nodi’r gwariant ym mhob achos. (WAQ55365)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Gyda'i gilydd, mae prosiectau a gefnogwyd o dan y rhaglen Amcan 1 (2000-2006) wedi creu neu wella 470,000 metr sgwâr o safleoedd adeiladu ac adeiladau er budd busnesau. Ni chesglir gwybodaeth am ddeiliadaeth ar gyfer y fath brosiectau yn rheolaidd, ond cesglir gwybodaeth drwy astudiaethau gwerthuso ehangach o'r rhaglenni. Yn ôl y Diweddariadau o'r Gwerthusiad Canol Tymor o raglenni 2000-2006, sef astudiaeth werthuso annibynnol a gynhaliwyd yn 2005, aseswyd bod y gyfradd ddeiliadaeth yn 89% yn seiliedig ar astudiaeth sampl o brosiectau a gwblhawyd.

Mae ychydig dros ddwy flynedd wedi mynd heibio ers gweithredu rhaglenni Cydgyfeirio 2007-2013 ac mae sawl prosiect eisoes yn mynd rhagddynt gyda'r nod o greu neu ailwampio bron 36,000 metr sgwâr o safleoedd busnes. Bydd y prosiectau hyn o fudd i fusnesau yn ogystal â sefydliadau eraill yn y gymuned, er enghraifft, bydd prosiect Canolfan Arloesi Glynebwy gwerth £4 miliwn yn darparu 2,050 metr sgwâr o ofod ychwanegol yn cynnwys 41 o swyddfeydd a 12 uned ddatblygu. Gan fod noddwyr prosiect wrthi'n cyflawni'r rhan fwyaf o'r datblygiadau hyn, mae'n rhy gynnar i ni gyflwyno adroddiad ar lefelau deiliadaeth.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am osod cyfyngiad cyflymder is ym mhentref Llansbyddyd ar yr A40. (WAQ55369)

Rhoddwyd ateb ar 21 Ionawr 2010

Lansiais y Ddogfen Gyfarwyddyd - Pennu Terfynau Cyflymder Lleol yng Nghymru ar 5 Tachwedd ac rydym yn bwriadu adolygu pob terfyn cyflymder ar hyd y rhwydwaith cefnffyrdd yng Nghymru erbyn Rhagfyr 2014. Caiff y terfyn cyflymder yn Llanspydydd ei adolygu fel rhan o'r ymarfer hwn.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am nifer y bobl a gafodd eu dal yn goryrru yn y cyfyngiad cyflymder 50mya gan y camerâu cyflymder cyfartalog ar yr M4 rhwng cyffyrdd 24 (Coldra) a 28 (Parc Tredegar) ers iddynt gael eu cyflwyno. (WAQ55372)

Rhoddwyd ateb ar 21 Ionawr 2010

Nid oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru y wybodaeth hon.

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi cyngor i awdurdodau lleol ynghylch lefel yr halen a graean i’w storio, a pha newidiadau sydd wedi’u gwneud i gyngor o’r fath dros y 12 mis diwethaf. (WAQ55373)

Rhoddwyd ateb ar 21 Ionawr 2010

Yn dilyn yr hyn a ddigwyddodd ym mis Chwefror 2009 roedd Llywodraeth y Cynulliad yn rhan o drafodaethau'r DU gyfan i gyhoeddi'r arfer gorau ar gyfer Awdurdodau Priffyrdd o ran gwaith cynnal a chadw yn y gaeaf.  Cynhaliodd Grŵp Cyswllt Ffyrdd y DU (UKRLG) yr adolygiad hwn o dan gyfarwyddyd Gweinidogion yr Adran Drafnidiaeth.   

Drwy gydol 2009, yn sgîl gweithio gydag UKRLG yn ogystal â gwneud ein paratoadau ein hunain, cymerwyd camau gennym i gynllunio ar gyfer cyfnod gaeaf 2009-10 er mwyn sicrhau, pe bai cyfnod hir o dywydd oer a thywydd gaeafol eithriadol, y byddem mewn sefyllfa i fynd i'r afael â'r problemau a'u achosid ganddo.  Roedd hyn yn cynnwys trafod ag awdurdodau lleol i gynyddu eu stociau halen a rhoi trefniadau cymorth ar y cyd ar waith.  

Gwnaethom gynyddu ein cyflenwadau halen ein hunain, i'w ddefnyddio ar y rhwydwaith traffyrdd yn Ne Cymru, yn agos i'r uchafswm cyn y cyfnod gaeaf presennol fel y gellid dosbarthu cyflenwad wrth gefn i awdurdodau lleol ar sail blaenoriaeth, fel y bo angen.

Ochr yn ochr â gwaith yr UKRLG gwnaethom ddiwygio'r Llawlyfr Cynnal a Chadw cefnffyrdd, sy'n nodi'r arfer gorau ar gyfer y rhwydwaith yng Nghymru.  Yn dilyn hyn cyflwynwyd dogfen ddrafft i dair ardal yr Asiantaeth Cefnffyrdd yng Nghymru a oedd yn nodi'r arfer gorau hwn a chyngor ychwanegol pellach.  Gwnaed gofynion penodol i gynnwys gwell gwydnwch/gallu'r Asiantaethau Cefnffyrdd a'u Darparwyr Gwasanaethau (awdurdodau lleol Cymru).

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Beth yw cost cyflwyno’r cyfyngiad cyflymder is a gosod camerâu cyflymder cyfartalog ar yr M4 rhwng cyffyrdd 24 (Coldra) a 28 (Parc Tredgar). (WAQ55375)

Rhoddwyd ateb ar 21 Ionawr 2010

Y gost ar gyfer gosod arwyddion terfyn cyflymder 50mya dros dro ar yr M4 rhwng cyffyrdd 24 a 28 oedd £0.205m.  Y gost ar gyfer gosod camerâu cyflymder cyfartalog rhwng yr un cyffyrdd oedd £1.042m.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r rheswm pam fod Rheilffordd Calon Cymru wedi cael ei dosbarthu fel llwybr o’r dwyrain i’r gorllewin yn hytrach na llwybr o’r gogledd i’r de yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol. (WAQ55378)

Rhoddwyd ateb ar 21 Ionawr 2010

Mae Llinell Calon Cymru yn ateb y galw ar gyfer teithiau rhwng y  dwyrain a'r gorllewin a theithiau rhwng y gogledd a'r de yng Nghymru.  Caiff hyn ei adlewyrchu yn fersiwn terfynol y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, y byddaf yn ei gyhoeddi yn y gwanwyn.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i ymateb i’r ddau adolygiad o Fusnes Rhyngwladol Cymru a gynhaliwyd y llynedd. (WAQ55380)

Rhoddwyd ateb ar 21 Ionawr 2010

Roedd adroddiad Glen Massey yn ffactor a gyfrannodd at fy mhenderfyniad ar 13 Hydref 2009 i lansio fy Rhaglen eang i Adnewyddu'r Economi. Nod y Rhaglen fydd mynd i'r afael â'r materion allweddol a godwyd yn yr adroddiad yn ogystal â nodi dull newydd o ymdrin â'r maes datblygu economaidd yn y dyfodol. Rwyf yn bwriadu lansio'r dull newydd hwn yn ddiweddarach eleni.

Mae canfyddiadau adroddiad KPMG yn faterion i'r Ysgrifennydd Parhaol a'i swyddogion ymdrin â hwy.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa newidiadau y mae’r Gweinidog wedi’u gwneud i strwythur a ffrydiau ariannu Cymorth Hyblyg i Fusnesau yn y flwyddyn diwethaf. (WAQ55381)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Er nad yw'r egwyddorion a'r prosesau cyffredinol sy'n rhan annatod o Cymorth Hyblyg i Fusnes wedi newid dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi parhau i weithio'n agos gyda busnesau a chanolwyr i wella a symleiddio'r model cymorth.

Enghraifft o hyn yw cyflwyno'r gwasanaeth tyfu busnes sy'n darparu 100% o'r cymorth grant i fusnesau bach a chanolig er mwyn iddynt gael eu cymorth cynghorol eu hunain o'r farchnad agored. Hefyd, rydym wedi ehangu cylch gwaith y Gronfa Fuddsoddi Sengl i gynnwys 'SIF Lleol' sy'n darparu rhwng £1,000 a £5,000 ar gyfer offer cyfalaf yn Nwyrain Cymru.

Rydym hefyd wedi cyflwyno deuddeg Canolfan Ranbarthol Cymorth Hyblyg i Fusnes sy'n rhoi cyngor cyffredinol a mwy arbenigol i fusnesau lleol a gwasanaeth gwybodaeth a chyfeirio i bob busnes ledled Cymru gyfan.

Gan edrych ymlaen, byddaf yn ystyried hyn yn rhan o'm Rhaglen Adnewyddu'r Economi a fydd yn arwain at ddull newydd o ddatblygu'r economi ac yn sicrhau bod ein polisïau, blaenoriaethau ac adnoddau yn gyson i roi'r math gorau o gymorth i fusnesau.

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu argymhellion y Pwyllgor Menter a Dysgu ar gyfer adfywio yn y Bari. (WAQ55318) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio

Rhoddwyd ateb ar 04 Chwefror 2010

Y Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio (Jocelyn Davies): Mae trafodaethau yn parhau rhwng fy swyddogion i ac uwch swyddogion Cyngor Bro Morgannwg i ymchwilio i'r rhesymeg dros sefydlu Ardal Adfywio Strategol i gynnwys y Barri.  Mae'n hollbwysig y dylid ystyried y cyfle o gael statws Ardal Adfywio Strategol i'r Barri yn drylwyr, y prosiectau y gellid eu cefnogi, a'r effaith gadarnhaol y gellid ei chyflawni fel rhan o ddull cyfannol o adfywio ar gyfer yr ardal hon.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed o ran adfywio yn y Bari. (WAQ55319) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio

Rhoddwyd ateb ar 04 Chwefror 2010

Jocelyn Davies: Rydym wedi parhau i gefnogi Cyngor Bro Morgannwg fel rhan o ymrwymiad gwerth £1.9m i adfywio'r Barri sy'n cynnwys:

• Cwblhau Pont Droed Stryd Thompson sy'n cysylltu'r dref ac ardal y glannau sydd ar agor i'r cyhoedd bellach.

• Gwelliannau i ffordd fynediad yr Ardal Arloesi a gaiff eu cwblhau yn fuan, gan ei gwneud yn bosibl i'r safle gael ei ddatblygu'n llawn.

• Gwaith i'r Peiriandy a fydd yn dechrau yn gynnar yn 2010 yn unol â'r rhaglen.

Mae trafodaethau yn parhau hefyd rhwng fy Swyddogion i ac uwch swyddogion Cyngor Bro Morgannwg i ystyried y potensial i sefydlu Ardal Adfywio Strategol i gynnwys y Barri.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Beth oedd cyfanswm y gost i Lywodraeth Cynulliad Cymru o anfon pobl i’r Gynhadledd ddiweddar yn Copenhagen. (WAQ55332)

Rhoddwyd ateb ar 21 Ionawr 2010

Cynhaliwyd Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd, Copenhagen (COP15) rhwng 7 a 18 Rhagfyr 2009, ac chaiff adroddiad byr ynglŷn ag ymgysylltiad Llywodraeth y Cynulliad â COP15 ei lunio a'i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth y Cynulliad yn yr adran ar newid yn yr hinsawdd.

Cyhoeddwyd fy natganiad llafar ar COP 15 ar 12 Ionawr.

Roedd grŵp bach o Lywodraeth Cynulliad Cymru yn bresennol gyda mi drwy gydol y Confensiwn,  sef Pennaeth Datblygu Cynaliadwy Rhyngwladol; Pennaeth y Gangen Polisi Newid yn yr Hinsawdd; ac Ysgrifennydd Cyffredinol Dros Dro nrg4SD. Roedd Hyrwyddwr Newid Hinsawdd o Gymru yn bresennol hefyd. Roedd ei Ysgrifennydd Preifat ac un o Swyddogion y Wasg yn bresennol gyda'r Prif Weinidog.

Nid oedd y grŵp o Gymru yn cymryd rhan mewn unrhyw bleidleisiau.

Siaradodd y Prif Weinidog a minnau mewn digwyddiadau ymylol yn y ganolfan gynadledda a oedd yn rhan o raglen swyddogol y Confensiwn.  Gwneuthum gadeirio ac annerch digwyddiad ymylol a drefnwyd gan nrg4SD a'r Grŵp Newid yn yr Hinsawdd ddydd Sadwrn 12 Rhagfyr ac anerchodd y Prif Weinidog ddigwyddiad ymylol a drefnwyd gan UN Habitat a Rhaglen Datblygu'r Cenhedloedd Unedig ddydd Llun 14 Rhagfyr.

Cyfrifwyd i Lywodraeth y Cynulliad fynd i gostau o £14,578.38:

• Teithio: £5,117.06

• Llety: £6,844.53

• Bwyd: £505.82

• Digwyddiadau: £1,810.60

• Amrywiol (argraffu): £14.10

• Taliadau Cynhaliaeth: £286.27

Y gost ar gyfer anfon yr Hyrwyddwr Newid Hinsawdd a'i warcheidwad i'r Gynhadledd oedd £4,126.75:

• Teithio: £1,228.08

• Llety: £1,958.00

• Lwfansau Dyddiol: £840.00

• Amrywiol (gan gynnwys credyd ffôn symudol ac yswiriant): £100.67

Amcangyfrifwyd mai £18,705.13 yw cyfanswm y gost.  Mae swyddogion wrthi'n crynhoi costau o hyd ac yn disgwyl anfonebau eraill nad ydynt wedi eu derbyn eto.  

Byddaf yn ysgrifennu atoch maes o law i gadarnhau'r costau terfynol.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad llawn o gyfanswm y costau i Lywodraeth Cynulliad Cymru yn gysylltiedig â’r Gynhadledd ddiweddar yn Copenhagen. (WAQ55333)

Rhoddwyd ateb ar 21 Ionawr 2010

Cynhaliwyd Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd, Copenhagen (COP15) rhwng 7 a 18 Rhagfyr 2009, ac chaiff adroddiad byr ynglŷn ag ymgysylltiad Llywodraeth y Cynulliad â COP15 ei lunio a'i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth y Cynulliad yn yr adran ar newid yn yr hinsawdd.

Cyhoeddwyd fy natganiad llafar ar COP 15 ar 12 Ionawr.

Roedd grŵp bach o Lywodraeth Cynulliad Cymru yn bresennol gyda mi drwy gydol y Confensiwn,  sef Pennaeth Datblygu Cynaliadwy Rhyngwladol; Pennaeth y Gangen Polisi Newid yn yr Hinsawdd; ac Ysgrifennydd Cyffredinol Dros Dro nrg4SD. Roedd Hyrwyddwr Newid Hinsawdd o Gymru yn bresennol hefyd. Roedd ei Ysgrifennydd Preifat ac un o Swyddogion y Wasg yn bresennol gyda'r Prif Weinidog.

Nid oedd y grŵp o Gymru yn cymryd rhan mewn unrhyw bleidleisiau.

Siaradodd y Prif Weinidog a minnau mewn digwyddiadau ymylol yn y ganolfan gynadledda a oedd yn rhan o raglen swyddogol y Confensiwn.  Gwneuthum gadeirio ac annerch digwyddiad ymylol a drefnwyd gan nrg4SD a'r Grŵp Newid yn yr Hinsawdd ddydd Sadwrn 12 Rhagfyr ac anerchodd y Prif Weinidog ddigwyddiad ymylol a drefnwyd gan UN Habitat a Rhaglen Datblygu'r Cenhedloedd Unedig ddydd Llun 14 Rhagfyr.

Cyfrifwyd i Lywodraeth y Cynulliad fynd i gostau o £14,578.38:

• Teithio: £5,117.06

• Llety: £6,844.53

• Bwyd: £505.82

• Digwyddiadau: £1,810.60

• Amrywiol (argraffu): £14.10

• Taliadau Cynhaliaeth: £286.27

Y gost ar gyfer anfon yr Hyrwyddwr Newid Hinsawdd a'i warcheidwad i'r Gynhadledd oedd £4,126.75:

• Teithio: £1,228.08

• Llety: £1,958.00

• Lwfansau Dyddiol: £840.00

• Amrywiol (gan gynnwys credyd ffôn symudol ac yswiriant): £100.67

Amcangyfrifwyd mai £18,705.13 yw cyfanswm y gost.  Mae swyddogion wrthi'n crynhoi costau o hyd ac yn disgwyl anfonebau eraill nad ydynt wedi eu derbyn eto.  

Byddaf yn ysgrifennu atoch maes o law i gadarnhau'r costau terfynol.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am nifer y bobl a gyd-deithiodd gyda hi a’r Prif Weinidog i’r Gynhadledd ddiweddar yn Copenhagen, yn ogystal â manylion eu swyddogaethau. (WAQ55377)

Rhoddwyd ateb ar 21 Ionawr 2010

Cynhaliwyd Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd, Copenhagen (COP15) rhwng 7 a 18 Rhagfyr 2009, ac chaiff adroddiad byr ynglŷn ag ymgysylltiad Llywodraeth y Cynulliad â COP15 ei lunio a'i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth y Cynulliad yn yr adran ar newid yn yr hinsawdd.

Cyhoeddwyd fy natganiad llafar ar COP 15 ar 12 Ionawr.

Roedd grŵp bach o Lywodraeth Cynulliad Cymru yn bresennol gyda mi drwy gydol y Confensiwn,  sef Pennaeth Datblygu Cynaliadwy Rhyngwladol; Pennaeth y Gangen Polisi Newid yn yr Hinsawdd; ac Ysgrifennydd Cyffredinol Dros Dro nrg4SD. Roedd Hyrwyddwr Newid Hinsawdd o Gymru yn bresennol hefyd. Roedd ei Ysgrifennydd Preifat ac un o Swyddogion y Wasg yn bresennol gyda'r Prif Weinidog.

Nid oedd y grŵp o Gymru yn cymryd rhan mewn unrhyw bleidleisiau.

Siaradodd y Prif Weinidog a minnau mewn digwyddiadau ymylol yn y ganolfan gynadledda a oedd yn rhan o raglen swyddogol y Confensiwn.  Gwneuthum gadeirio ac annerch digwyddiad ymylol a drefnwyd gan nrg4SD a'r Grŵp Newid yn yr Hinsawdd ddydd Sadwrn 12 Rhagfyr ac anerchodd y Prif Weinidog ddigwyddiad ymylol a drefnwyd gan UN Habitat a Rhaglen Datblygu'r Cenhedloedd Unedig ddydd Llun 14 Rhagfyr.

Cyfrifwyd i Lywodraeth y Cynulliad fynd i gostau o £14,578.38:

• Teithio: £5,117.06

• Llety: £6,844.53

• Bwyd: £505.82

• Digwyddiadau: £1,810.60

• Amrywiol (argraffu): £14.10

• Taliadau Cynhaliaeth: £286.27

Y gost ar gyfer anfon yr Hyrwyddwr Newid Hinsawdd a'i warcheidwad i'r Gynhadledd oedd £4,126.75:

• Teithio: £1,228.08

• Llety: £1,958.00

• Lwfansau Dyddiol: £840.00

• Amrywiol (gan gynnwys credyd ffôn symudol ac yswiriant): £100.67

Amcangyfrifwyd mai £18,705.13 yw cyfanswm y gost.  Mae swyddogion wrthi'n crynhoi costau o hyd ac yn disgwyl anfonebau eraill nad ydynt wedi eu derbyn eto.  

Byddaf yn ysgrifennu atoch maes o law i gadarnhau'r costau terfynol.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Faint o gyllid y mae ei hadran wedi’i ddyrannu ar gyfer bonysau a) diwedd y flwyddyn a b) yn ystod y flwyddyn yn 2009-10. (WAQ55355) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Jane Hutt: Mae hwn yn fater i'r Ysgrifennydd Parhaol a byddaf yn gofyn iddi ysgrifennu atoch yn uniongyrchol ar y mater hwn.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am sawl a) cwyn, b) achos llys ac c) dirwy a fu yn erbyn safleoedd tirlenwi am broblemau’n ymwneud ag i) arogleuon; ii) llygredd dŵr; iii) llygredd aer a iv) effaith ar iechyd pobl ym mhob un o’r 10 mlynedd diwethaf; ble oedd lleoliad y safleoedd a gafodd pob dirwy; a beth oedd y ddirwy ym mhob achos. (WAQ55363)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Cafwyd 690 o ddigwyddiadau cwyno a gadarnhawyd yn erbyn tirlenwi ers 1/4/2001 pan sefydlwyd cronfa ddata digwyddiadau Asiantaeth yr Amgylchedd, er efallai bod mwy nag un achwynydd cysylltiedig i bob digwyddiad.

Roedd 123 yn ymwneud â llygredd aer, 415 yn ymwneud â drewdod a 69 yn ymwneud â llygredd dŵr.

Gall Asiantaeth yr Amgylchedd weithredu amrywiaeth o gamau gorfodi a bydd yn rhoi ymateb gorfodi cymesur i gyflawni canlyniadau gwell i fusnesau, pobl a'r amgylchedd i ymdrin â rhai achosion o ddiffyg cydymffurfiaeth heb fynd i'r llysoedd troseddol. Cymerwyd camau gorfodi mewn 254 o'r achosion hyn. Cafwyd 11 o achosion yn erbyn gweithredwyr tirlenwi, gan arwain at gamau yn y llys a dirwyon o £69,000.

Ni fu'n bosibl cofnodi camau yn y llys a throseddau amgylcheddol yn uniongyrchol i'r categorïau fel y disgrifiwyd gennych, ond gallwch gael gwybodaeth fanylach gan fy swyddogion o Asiantaeth yr Amgylchedd yn ôl yr angen.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion ynghylch beth oedd y gwariant disgwyliedig adeg cymeradwyo’r cynllun ar gyfer pob prosiect amddiffyn llifogydd yn cynnwys a) gwariant cyfalaf a b) gwariant adnoddau sydd i) ar y gweill a ii) wedi’i gwblhau yn y ddwy flynedd diwethaf. (WAQ55364)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Llywodraeth Cynulliad Cymru yw prif ariannwr gweithgareddau i reoli perygl llifogydd ac arfordiroedd ledled Cymru.  Clustnodir y rhan fwyaf o'r arian hwn i Asiantaeth yr Amgylchedd i gefnogi rhaglen o brosiectau, ac i awdurdodau lleol i gefnogi'r gwaith o wella ein rhwydwaith amddiffyn rhag llifogydd ac amddiffyn yr arfordir.

Mae Tabl 1 isod yn cynnwys cost amcangyfrifedig prosiectau a hyrwyddir gan awdurdodau lleol.  Maent yn cynnwys prosiectau sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd neu brosiectau a gwblhawyd yn ystod y ddwy flynedd diwethaf ac mae'r costau amcangyfrifedig yn ymwneud â chostau ar adeg eu cymeradwyo.

Mae Tabl 2 yn cynnwys rhestr debyg o brosiectau o raglen blaengyfalaf Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae'r prosiectau hyn naill ai'n mynd rhagddynt neu'n brosiectau a gwblhawyd yn ystod y ddwy flynedd diwethaf ac mae'r costau amcangyfrifedig yn ymwneud â'r costau ar yr adeg y'u cymeradwywyd.

Tabl 1

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 18 Ionawr 2010

Cynlluniau Lliniaru Llifogydd

Cost a Gymeradwywyd

Afon Bach, Llanrwst, Conwy

£2.0m

Heol yr Orsaf, Y Fenni, Sir Fynwy

£532,000

Stryd y Neuadd, Llangollen, Sir Ddinbych

£658,000

Segrwyd, Nantglyn, Sir Ddinbych

£328,000

Saron/Tre Gof, Bethel, Gwynedd

£156,000

Cynllun FRM, Dinbych

£4.1m

FAS Crynant, CNPT

£322,000

Llanfair PG, FAS Ynys Môn

£1.9m

Afonwen, FAS, Sir y Fflint

£746,000

Staggers Hill, Stepaside, Sir Benfro

£213,000

Merrion Vill, Castell Martin, Sir Benfro

£197,000

Felinfach, Aberhonddu, Powys

£366,000

Nant Arlais, Llandrindod, Powys

£167,000

Upper Gro, Trehelig, Powys

£74,000

The Grange, Llandrinio, Powys

£59,000

Nant Dolforgan, Ceri, Powys

£64,000

Nant Manthrig, Caersws, Powys

£101,000

Clatter Brook, Presteigne, Powys

£189,000

Tylcha G, Tonyrefail, Rhondda CT

£487,000

Llys Corrwg, Rhydfelen, RhCT

£75,000

Rhydfelen RhCT

£151,000

Llys Deri, Ynysddu, Caerffili

£80,000

Lôn Groeswen, Caerffili

£82,000

Yst Garth, Abertridwr, Caerffili

£57,000

Nant Trosnant, Pont-y-pŵl

£1m

Bae Trearddur, Ynys Môn

£1.4m

Amddiffynfa Arfordir Tywyn, Gwynedd

£6.4m

Canol a Dwyrain Amroth, Sir Benfro

£165,000

SMP Bae Aberteifi ac Ynys Enlli

£442,000

Mur Morol Cei Brunel, Sir Benfro

£377,000

Traeth y Gogledd, Aberaeron

£5.3m

Cam 1 D&D Borth, Ceredigion

£305,000

SMP Bae Abertawe a Chaerfyrddin

£155,000

SMP Aber Hafren

£74,000

Tabl 2

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 18 Ionawr 2010

Asiantaeth yr Amgylchedd - Cynlluniau Lliniaru Llifogydd

Cost

Afon Adda

£8.3m

Maes Y Felin

£105,000

Dyffryn Conwy

£5.75m

Tregaron

£2.6M

Tredegar Newydd

£5.16m

Drysau Llanw'r Cymoedd

£1.19.

Talacharn

£100

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A fydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyhoeddi adroddiad am lwyddiant neu fethiant y gynrychiolaeth a fynychodd Cynhadledd Copenhagen; ac os felly, pryd gaiff ei gyhoeddi. (WAQ55370)

Rhoddwyd ateb ar 21 Ionawr 2010

Cynhaliwyd Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd, Copenhagen (COP15) rhwng 7 a 18 Rhagfyr 2009, ac chaiff adroddiad byr ynglŷn ag ymgysylltiad Llywodraeth y Cynulliad â COP15 ei lunio a'i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth y Cynulliad yn yr adran ar newid yn yr hinsawdd.

Cyhoeddwyd fy natganiad llafar ar COP 15 ar 12 Ionawr.

Roedd grŵp bach o Lywodraeth Cynulliad Cymru yn bresennol gyda mi drwy gydol y Confensiwn,  sef Pennaeth Datblygu Cynaliadwy Rhyngwladol; Pennaeth y Gangen Polisi Newid yn yr Hinsawdd; ac Ysgrifennydd Cyffredinol Dros Dro nrg4SD. Roedd Hyrwyddwr Newid Hinsawdd o Gymru yn bresennol hefyd. Roedd ei Ysgrifennydd Preifat ac un o Swyddogion y Wasg yn bresennol gyda'r Prif Weinidog.

Nid oedd y grŵp o Gymru yn cymryd rhan mewn unrhyw bleidleisiau.

Siaradodd y Prif Weinidog a minnau mewn digwyddiadau ymylol yn y ganolfan gynadledda a oedd yn rhan o raglen swyddogol y Confensiwn.  Gwneuthum gadeirio ac annerch digwyddiad ymylol a drefnwyd gan nrg4SD a'r Grŵp Newid yn yr Hinsawdd ddydd Sadwrn 12 Rhagfyr ac anerchodd y Prif Weinidog ddigwyddiad ymylol a drefnwyd gan UN Habitat a Rhaglen Datblygu'r Cenhedloedd Unedig ddydd Llun 14 Rhagfyr.

Cyfrifwyd i Lywodraeth y Cynulliad fynd i gostau o £14,578.38:

• Teithio: £5,117.06

• Llety: £6,844.53

• Bwyd: £505.82

• Digwyddiadau: £1,810.60

• Amrywiol (argraffu): £14.10

• Taliadau Cynhaliaeth: £286.27

Y gost ar gyfer anfon yr Hyrwyddwr Newid Hinsawdd a'i warcheidwad i'r Gynhadledd oedd £4,126.75:

• Teithio: £1,228.08

• Llety: £1,958.00

• Lwfansau Dyddiol: £840.00

• Amrywiol (gan gynnwys credyd ffôn symudol ac yswiriant): £100.67

Amcangyfrifwyd mai £18,705.13 yw cyfanswm y gost.  Mae swyddogion wrthi'n crynhoi costau o hyd ac yn disgwyl anfonebau eraill nad ydynt wedi eu derbyn eto.  

Byddaf yn ysgrifennu atoch maes o law i gadarnhau'r costau terfynol.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru’r cynrychiolwyr hynny o Gymru a bleidleisiodd yn y Gynhadledd a sut y gwnaethant bleidleisio. (WAQ55371)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru cynrychiolwyr Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Copenhagen a siaradodd yn y Gynhadledd, ac ar ba lefel a llwyfan yn y Gynhadledd y bu cynrychiolwyr Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cymryd rhan. (WAQ55376)

Rhoddwyd ateb ar 21 Ionawr 2010

Cynhaliwyd Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd, Copenhagen (COP15) rhwng 7 a 18 Rhagfyr 2009, ac chaiff adroddiad byr ynglŷn ag ymgysylltiad Llywodraeth y Cynulliad â COP15 ei lunio a'i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth y Cynulliad yn yr adran ar newid yn yr hinsawdd.

Cyhoeddwyd fy natganiad llafar ar COP 15 ar 12 Ionawr.

Roedd grŵp bach o Lywodraeth Cynulliad Cymru yn bresennol gyda mi drwy gydol y Confensiwn,  sef Pennaeth Datblygu Cynaliadwy Rhyngwladol; Pennaeth y Gangen Polisi Newid yn yr Hinsawdd; ac Ysgrifennydd Cyffredinol Dros Dro nrg4SD. Roedd Hyrwyddwr Newid Hinsawdd o Gymru yn bresennol hefyd. Roedd ei Ysgrifennydd Preifat ac un o Swyddogion y Wasg yn bresennol gyda'r Prif Weinidog.

Nid oedd y grŵp o Gymru yn cymryd rhan mewn unrhyw bleidleisiau.

Siaradodd y Prif Weinidog a minnau mewn digwyddiadau ymylol yn y ganolfan gynadledda a oedd yn rhan o raglen swyddogol y Confensiwn.  Gwneuthum gadeirio ac annerch digwyddiad ymylol a drefnwyd gan nrg4SD a'r Grŵp Newid yn yr Hinsawdd ddydd Sadwrn 12 Rhagfyr ac anerchodd y Prif Weinidog ddigwyddiad ymylol a drefnwyd gan UN Habitat a Rhaglen Datblygu'r Cenhedloedd Unedig ddydd Llun 14 Rhagfyr.

Cyfrifwyd i Lywodraeth y Cynulliad fynd i gostau o £14,578.38:

• Teithio: £5,117.06

• Llety: £6,844.53

• Bwyd: £505.82

• Digwyddiadau: £1,810.60

• Amrywiol (argraffu): £14.10

• Taliadau Cynhaliaeth: £286.27

Y gost ar gyfer anfon yr Hyrwyddwr Newid Hinsawdd a'i warcheidwad i'r Gynhadledd oedd £4,126.75:

• Teithio: £1,228.08

• Llety: £1,958.00

• Lwfansau Dyddiol: £840.00

• Amrywiol (gan gynnwys credyd ffôn symudol ac yswiriant): £100.67

Amcangyfrifwyd mai £18,705.13 yw cyfanswm y gost.  Mae swyddogion wrthi'n crynhoi costau o hyd ac yn disgwyl anfonebau eraill nad ydynt wedi eu derbyn eto.  

Byddaf yn ysgrifennu atoch maes o law i gadarnhau'r costau terfynol.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Gweithredu Bio-ynni i Gymru. (WAQ55379)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Yn dilyn Trywydd Ynni Adnewyddadwy 2008, cynhaliwyd ymgynghoriad ar Gynllun Gweithredu Bio-ynni i Gymru a ddangosodd yn fanwl sut y gallem sicrhau bod Cymru yn cynhyrchu o leiaf 5 awr-terawatt o drydan y flwyddyn a 2.5 awr-terawatt o ynni gwres defnyddiadwy y flwyddyn o fiomas adnewyddadwy erbyn 2020.

Cafwyd cyfanswm o 57 o ymatebion, o amrywiaeth o grwpiau cyhoeddus, busnes a chymunedol, yn ogystal â gan unigolion.  Cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion ar-lein ym mis Rhagfyr y llynedd a gellir ei lawrlwytho o'n gwefan drwy ddefnyddio'r ddolen isod:

http://wales.gov.uk/consultations/environmentandcountryside/bioenergyactionplan/?lang=cy

Mae'r ymgynghoriad wedi helpu i lywio'r broses o ddrafftio'r Datganiad Ynni Carbon Isel yr wyf yn bwriadu ei gyhoeddi yn fuan eleni.  Caiff Datganiad Polisi Gweinidogol ar Fio-ynni hefyd ei gynhyrchu yn seiliedig ar y Cynllun Gweithredu a'r materion a godir yn yr ymgynghoriad yn ddiweddarach eleni.

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Beth yw cyfanswm yr arian a ymrwymwyd i dalu cwmni ymgynghori McKinsey & Co. am arbedion effeithlonrwydd yn GIG Cymru. (WAQ55316)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Llywodraeth y Cynulliad a'r saith BILl fydd yn talu cost y contract ar y cyd.  Gan fod y gost yn wybodaeth gyfrinachol byddai'n amhriodol i mi roi'r ffigurau i chi.  

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Faint o arian sydd wedi’i wario hyd yn hyn ar ddatblygu’r seilwaith TG ar gyfer agweddau anfeddygol y Strategaeth Iechyd Cymunedol. (WAQ55317)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Mae'r Strategaeth Gwasanaethau Sylfaenol a Chymunedol a ddatblygwyd gennym yn ddiweddar ar gam cynnar, ac felly nid oes arian wedi'i glustnodi eto i ddatblygu'r seilwaith TG.  Mae fy swyddogion wrthi'n gweithio ar roi trefniadau ar waith i gefnogi'r rhaglen hon a phenderfynu ar y camau nesaf, a fydd yn cynnwys TG.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i godi ymwybyddiaeth o ganser ceg y groth yng Nghymru a sut y mae’r Gweinidog yn blaenoriaethu ymchwil mewn canser ceg y groth o’i gymharu ag ymchwil ar ganserau eraill. (WAQ55320)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Drwy'r ymgyrch Her Iechyd Cymru barhaus, rhoddwyd cyngor ar yr hyn y gall pobl ei wneud i leihau'r risg y byddant yn datblygu canser yn gyffredinol.  Mae'r cyngor ar gael ar ffurf taflen wybodaeth (Canser: lleihau'r risg) ac ar wefan Her Iechyd Cymru o dan yr adran 'Cyflyrau' (www.cymru.gov.uk/heriechyd).

Yn yr un modd, nid yw'r Cynllun Cyllido Ymchwil a redir gan Swyddfa Cymru ar gyfer Ymchwil a Datblygu Iechyd a Gofal Cymdeithasol (WORD) yn blaenoriaethu unrhyw fath o ganser i'w ariannu.  Gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno achos ar sail angen a dangos rhagoriaeth wyddonol eu cynigion.  Ar hyn o bryd mae WORD yn ariannu pedair astudiaeth i ganser drwy'r Cynllun Cyllido Ymchwil ond nid yw'r un o'r rhain yn ymwneud â chanser yr ofari.

Yn ogystal â hynny, drwy gymorth WORD i'r seilwaith ymchwil i ganser yng Nghymru, mae cleifion yn cael eu recriwtio i 79 o astudiaethau mewn 17 o gategorïau.  O'r rhain, mae pedair yn astudiaethau canser yr ofari.  Bydd pedair astudiaeth canser yr ofari arall yn dilyn y rhain. Yn ogystal â hyn mae Banc Canser Cymru, a gefnogir hefyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn casglu meinweoedd yr ofari ac ar hyn o bryd mae un prosiect ymchwil gweithredol yn defnyddio'r feinwe hon.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i wella safonau gofal clinigol ym maes rheoli canser ceg y groth. (WAQ55321)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Mae'r Safonau Canser Cenedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2005, yn cynnwys safonau ar gyfer gwasanaethau canser gynaecolegol, megis canser yr ofari.  Mae'r safonau hyn, sy'n cymeradwyo canllawiau NICE, yn cynrychioli strategaeth Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer cyflawni gwasanaethau o safon uchel ar gyfer asesu, gwneud diagnosis a thrin canserau gynaecolegol gan gynnwys canser yr ofari.  

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i wella safonau gofal sylfaenol wrth bennu ffactorau risg cleifion yng Nghymru. (WAQ55322)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Datblygwyd Dull Rhagfynegi Risg (PRISM) i helpu meddygon teulu i nodi cleifion y gallai fod angen iddynt fynd i'r ysbyty ar frys.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth yw’r broses sgrinio bresennol ar gyfer canser ceg y groth ymhlith merched yng Nghymru. (WAQ55323)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Mae'r Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol, sy'n gyfrifol am roi cyngor i bedair gweinyddiaeth iechyd y DU ar bob agwedd ar raglenni sgrinio newydd a chyfredol, yn cynghori na ddylid cynnig sgrinio ar gyfer canser yr ofari. Os bydd cyngor y Pwyllgor yn newid byddaf yn ei ystyried.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i wella gwasanaethau gofal lliniarol ar gyfer teuluoedd y rheini sy’n dioddef salwch angheuol. (WAQ55324)

Rhoddwyd ateb ar 21 Ionawr 2010

Er mwyn gwella gofal lliniarol a diwedd oes i bob claf y mae ei angen arno,  rydym wedi cynyddu ein cyllid rheolaidd canolog i £4 miliwn yn 2009/10.

Mae'r Bwrdd Gweithredu Gofal Lliniarol, a gadeirir gan y Farwnes Ilora Finlay, wedi nodi blaenoriaethau allweddol i ddatblygu gwasanaethau gofal lliniarol a diwedd oes sy'n diwallu anghenion cleifion. O'r £4m, cyfeirir £2.1m at hosbisau ledled Cymru i gefnogi eu gofal clinigol a arweinir gan feddygon ymgynghorol. Mae ein dull gweithredu yn defnyddio arian cyhoeddus yn effeithlon ac yn gost-effeithiol ac mae anghenion cleifion wrth ei wraidd.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i wella’r drefn diagnosio ar gyfer y rheini sy’n dangos arwyddion canser ceg y groth. (WAQ55325)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Mae'r Safonau Canser Cenedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2005, yn cynnwys safonau ar gyfer gwasanaethau canser gynaecolegol, megis canser yr ofari. Mae'r safonau hyn, sy'n cymeradwyo canllawiau NICE, yn cynrychioli strategaeth Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer cyflawni gwasanaethau o safon uchel ar gyfer asesu, gwneud diagnosis a thrin canserau gynaecolegol gan gynnwys canser yr ofari.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau swm yr arian sy’n cael ei ryddhau yn dilyn ei chyhoeddiad diweddar am ail gylch o driniaeth IVF yng Nghymru. (WAQ55326)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Cyfanswm yr arian a fydd ar gael ar gyfer ail gylch o driniaethau IVF yng Nghymru o 2010-11 yw £800,000 ar hyn o bryd.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod digon o gapasiti yn GIG Cymru i gwrdd â’r galw yn sgil cynnig ail gylch o IVF i gleifion yng Nghymru. (WAQ55327)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Ar hyn o bryd mae Comisiwn Iechyd Cymru (CIC) yn trafod â'r unedau ffrwythlondeb arbenigol sydd ar hyn o bryd yn darparu'r gwasanaeth hwn i gytuno ar sut i weithredu'r polisi ariannu newydd, gan gynnwys yma mha drefn y caiff cleifion cymwys eu hailasesu a'u trin a'r amser aros hwyaf. Daw'r trafodaethau hyn i ben yn fuan iawn a bydd CIC yn rhoi gwybod i mi a oes unrhyw bryderon am allu ac adnoddau.

Irene James (Islwyn): Yn dilyn yr ateb i WAQ54106, a wnaiff y Gweinidog ddarparu rhagor o fanylion am sut y gwariwyd y £2.550 miliwn o gyllid rheolaidd ychwanegol i drin cleifion gyda arhythmia. (WAQ55329)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Buddsoddwyd y £2.55 miliwn mewn gwasanaethau lleol a darparwyr trydyddol i wella gallu cleifion i fanteisio ar ddyfeisiau cymhleth (diffibrilwyr cardiaidd y gellir eu mewnosod a rheolwyr calon deufentriglaidd) a rheolwyr calon syml.

Irene James (Islwyn): Yn dilyn yr ateb i WAQ54105, a wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ba gynlluniau sydd ganddi i gynyddu lefelau defnyddio Diffribiliwyr Cardiaidd Mewnblanadwy a rheolwyr calon yng Nghymru. (WAQ55330)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Cytunwyd ar gynllun datblygu strategol ar gyfer gwasanaethau afreoleidd-dra'r galon sy'n cynnwys cynlluniau i gynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio diffibrilwyr cardiaidd y gellir eu mewnosod. Caiff y £2.550m o gyllid canolog a ddarparwyd gennyf i ategu'r cynllun datblygu strategol ei glustnodi i'r saith BILl o 2010-11.

Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r camau sy’n cael eu cymryd i sicrhau bod plant rhwng 0 a 5 oed yn cael eu pigiadau ffliw moch dros gyfnod y gaeaf. (WAQ55331)

Rhoddwyd ateb ar 21 Ionawr 2010

Mae'r Byrddau Iechyd yn gweithio gyda phractisau meddygon teulu lleol i sicrhau y caiff plant rhwng 6 mis oed a 5 mlwydd oed eu brechu rhag ffliw moch. Mae'r cymorth a roddir gan feddygon teulu i gyflawni'r ail gam hwn o'r rhaglen frechu yn cael ei gydnabod a'i groesawi.  Yn achos y nifer fach o bractisau meddygon teulu sydd wedi dewis peidio â chymryd rhan yn y cam hwn o'r rhaglen frechu, mae'r Byrddau Iechyd yn gwneud trefniadau amgen drwy wasanaethau ymwelwyr iechyd.

Dosbarthwyd poster sy'n nodi bod y brechlyn ar gael i blant ifanc i bob practis meddyg teulu a fferyllfa yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys taflen ddwyieithog sy'n targedu rhieni plant rhwng 6 mis oed a 5 mlwydd oed, ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.  Cefnogir y rhaglen frechu gan weithgareddau cyswllt â'r cyfryngau hefyd.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pryd fydd y cynllun 'Fy Iechyd Ar-lein’ yn dechrau cael ei roi ar waith. (WAQ55334)

Rhoddwyd ateb ar 21 Ionawr 2010

Caiff cynlluniau gweithredu eu rhoi ar waith fel rhan o'r gwaith manwl i ddatblygu'r wefan. Y nod yw cyflwyno'r gwasanaeth ddiwedd 2010 - dechrau 2011.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sawl practis Meddyg Teulu yng Nghymru a) sy’n cynnig apwyntiadau ar y penwythnos b) sy’n cynnig apwyntiadau fin nos c) sy’n cynnig gwasanaeth archebu o flaen llaw a d) sydd ar agor drwy gydol y diwrnod gwaith heb agor am hanner diwrnod yn unig. (WAQ55335)

Rhoddwyd ateb ar 21 Ionawr 2010

Nid yw'r wybodaeth hon ar gael yn ganolog.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth yw’r goblygiadau posibl i’r GIG yn sgil yr ad-daliadau am hawliadau gofal parhaus o fis Rhagfyr 2009. (WAQ55336)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Ar hyn o bryd, nid oes gennym ddigon o wybodaeth ategol am achosion o ddatgan buddiannau i asesu eu hatebolrwydd posibl.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am sefydlu arolwg i olrhain agweddau’r cyhoedd tuag at bobl gyda phroblemau iechyd meddwl. (WAQ55337)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Ystyrir mesur agweddau'r cyhoedd at bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl fel rhan o'r Cynllun Gweithredu Hybu Iechyd Meddwl.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o gleifion a wrthododd triniaeth dan y targed amser disgwyl Mynediad 09 ac a wnaiff y Gweinidog roi rheswm am bob achos. (WAQ55338)

Rhoddwyd ateb ar 21 Ionawr 2010

Nid yw'r wybodaeth hon ar gael yn ganolog.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am sefydlu Cynllun Gweithredu ar gyfer Hybu Iechyd Meddwl. (WAQ55339)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Fel y cynigir yn Ein Dyfodol Iach: papur gwaith technegol, caiff y Cynllun Gweithredu Hybu Iechyd Meddwl ei lansio yn ystod Hydref 2010.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o log sydd wedi’i dalu hyd yn hyn gan y GIG ar yr 800 o hawliadau am ofal parhaus sydd wedi’u setlo. (WAQ55340)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Hyd yn hyn, talwyd £2.658m mewn llog mewn perthynas â cheisiadau cyn mis Ebrill 2003. Nid oes gennym unrhyw wybodaeth yn ganolog mewn perthynas â llog a dalwyd ar achosion ar ôl mis Ebrill 2003.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A yw’r cynllun 'Fy Iechyd Ar-lein’ yn cael ei gyflwyno’n genedlaethol neu fesul rhanbarth. (WAQ55341)

Rhoddwyd ateb ar 21 Ionawr 2010

Unwaith y bydd Fy Iechyd Ar-lein ar gael bydd y broses o'i gyflwyno'n ehangach yn dibynnu ar ba mor gyflym y bydd pob practis meddyg teulu am gynnig y gwasanaeth i'w gleifion. Disgwyliwn y bydd Fy Iechyd Ar-lein yn cael ei ddefnyddio'n helaeth erbyn diwedd 2011 gyda'r mwyafrif o bractisau yn cynnig y gwasanaeth i'w cleifion.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o’r £16 miliwn a ddyrannwyd i wella mynediad at feddygfeydd Meddygon Teulu sydd wedi’i wario a sut y mae hyn wedi gwella gwasanaethau. (WAQ55342)

Rhoddwyd ateb ar 04 Chwefror 2010

Cyhoeddwyd pecyn ariannu gwerth £16miliwn ym mis Medi 2008 i  wella gofal iechyd sylfaenol ledled Cymru.  

Fodd bynnag, nid oedd hyn yn cynnwys arian i wella mynediad i feddygfeydd. Dyrannwyd £3.9m drwy'r Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau yn 2008/9 i wella mynediad. Mae'r arian hwn yn rhoi cymhelliant i gynnig gwell mynediad i gleifion gael apwyntiadau brys a rhai wedi'u trefnu ymlaen llaw. Defnyddiwyd Arolwg Cleifion Meddygon Teulu Cymru i fesur cyflawniad a thalwyd £2.1m i feddygfeydd o ganlyniad.  

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A yw’r £1.7 miliwn a ryddhawyd ar gyfer y cynllun 'Fy Iechyd Ar-lein’ yn ddigonol fel bo pob claf yng Nghymru’n gallu ymuno â’r cynllun. (WAQ55343)

Rhoddwyd ateb ar 21 Ionawr 2010

Rydym yn cydweithio â'r holl gyflenwyr systemau meddygon teulu a gymeradwywyd gan GIG Cymru i ddatblygu gwefan GIG Cymru bwrpasol fel y gall cleifion ddefnyddio'r rhyngrwyd i drefnu apwyntiadau gyda meddyg teulu, archebu amlbresgripsiynau, neu gysylltu â'u meddygfa. Y nod yw galluogi pob claf i ddefnyddio Fy Iechyd Ar-Lein.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa filiau cyfreithiol sydd wedi cael eu talu hyd yn hyn gan y GIG yn ymwneud â hawliadau am ad-daliad ar gyfer costau gofal parhaus. (WAQ55344)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Nid yw hon yn broses gyfreithiol fel y cyfryw, ac ymdrinnir â hi drwy banel cwynion, felly nid yw'r GIG yn ad-dalu costau cyfreithiol a godir ar geiswyr.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa fesurau sydd ar waith i gyflymu’r broses gwneud penderfyniadau ar gyfer hawliadau a gofnodwyd gan y GIG mewn cysylltiad â hawliadau gofal parhaus. (WAQ55345)

Rhoddwyd ateb ar 21 Ionawr 2010

Mae'r GIG yn datblygu cynlluniau manwl ar hyn o bryd. Y nod yw sicrhau y caiff ymholiadau a gofnodwyd cyn y dyddiad cau fis diwethaf a ddaw'n hawliadau dilys eu prosesu cyn gynted â phosibl.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod y targedau amser disgwyl 26 wythnos dan y prosiect Mynediad 09 wedi’u cyflawni ac a wnaiff ddarparu dadansoddiad fesul Bwrdd Iechyd Lleol. (WAQ55346)

Rhoddwyd ateb ar 21 Ionawr 2010

Caiff y ffigurau eu cyhoeddi ar 11 Chwefror 2010.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn cael eu cefnogi wrth roi cyngor i ferched am yr amrediad llawn o ddewisiadau atal cenhedlu. (WAQ55347)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Cyfrifoldeb BILlau yw cynllunio a darparu gwasanaethau cynhwysfawr ar gyfer atal cenhedlu a chynllunio teuluol. Mae gweithredu Canllawiau NICE 2006 ar gyfer dulliau atal cenhedlu gwrthdroadwy hirdymor (LARC) yn fater y penderfynir arno'n lleol yn seiliedig ar angen lleol. Mae Iechyd a Lles Rhywiol ar gyfer Cymru, 2009-2014: Papur Gwaith Drafft, yn cynnig adolygu pa mor hawdd ydyw cael gafael ar ddulliau atal cenhedlu gan gynnwys LARC ar gyfer haf 2010.

Mae hygyrchedd ac ystod y dulliau atal cenhedlu, gan gynnwys LARC a sterileiddio a ariennir gan y GIG, yn amrywio'n fawr. Dangoswyd bod dulliau LARC yn gost-effeithiol a bydd rhagor o ddefnydd ohonynt yn lleihau nifer yr achosion o feichiogrwydd anfwriadol. Dylid cynnig yr ystod lawn o ddulliau atal cenhedlu yn ôl angen.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Faint o gyllid y mae ei hadran wedi’i ddyrannu ar gyfer bonysau a) diwedd y flwyddyn a b) yn ystod y flwyddyn yn 2009-10. (WAQ55354) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Jane Hutt: Mae hwn yn fater i'r Ysgrifennydd Parhaol a byddaf yn gofyn iddi ysgrifennu atoch yn uniongyrchol ar y mater hwn.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am ba ganran o gyrff y GIG yng Nghymru y mae ei hadran yn amcangyfrif sy’n rhwystro mynediad at ddulliau atal cenhedlu sy’n gweithio am gyfnodau hir y gellir eu dadwneud drwy a) capio cyllideb b) rhoi cyfyngiadau ar oedran ac c) dulliau eraill. (WAQ55358)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Nid yw'r wybodaeth hon ar gael yn ganolog.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am ba asesiad y mae ei hadran wedi’i wneud o nifer y gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd a) sylfaenol a b) eilaidd sydd wedi hyfforddi i osod yr holl ddulliau atal cenhedlu sy’n gweithio am gyfnodau hir y gellir eu dadwneud (LARC); a pha gamau y mae’n eu cymryd i gynyddu nifer y gweithwyr gofal proffesiynol sydd wedi hyfforddi i osod dulliau LARC. (WAQ55359)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Cyfrifoldeb pob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru yw asesuw'r gofyniad i gael gweithwyr iechyd proffesiynol sydd wedi'u hyfforddi i osod dulliau LARC.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu ffigurau ar gyfer cleifion sydd ar hyn o bryd yn disgwyl mwy na 26 wythnos ar gyfer apwyntiadau dan y targedau Mynediad 09. (WAQ55361)

Rhoddwyd ateb ar 21 Ionawr 2010

Mae'r data diweddaraf ar berfformiad o ran yr amser rhwng atgyfeiriad gan feddyg a thriniaeth ar gael ar wefan Stats Cymru, yn http://www.statscymru.cymru.gov.uk/TableViewer/tableView.aspx?ReportId=9817

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu ffigurau ar gyfer nifer y cleifion sydd wedi gwrthod apwyntiadau dan y targedau Mynediad 09. (WAQ55362)

Rhoddwyd ateb ar 21 Ionawr 2010

Nid yw'r wybodaeth hon ar gael yn ganolog.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o staff GIG Cymru, gan roi ffigurau ar gyfer staff meddygol a staff anfeddygol ym mhob blwyddyn er 2004. (WAQ55368)

Rhoddwyd ateb ar 21 Ionawr 2010

Gellir darllen gwybodaeth am y niferoedd o staff yn GIG Cymru fesul blwyddyn ar wefan StatsCymru yn: www.statscymru.cymru.gov.uk/.

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa ganran o gleifion a gafodd eu derbyn mewn ysbyty mewn cysylltiad ag alcohol nad oedd yn cael eu derbyn am y tro cyntaf yn 2008-09. (WAQ55383)

Rhoddwyd ateb ar 04 Chwefror 2010

O blith y cleifion hynny a dderbyniwyd i'r ysbyty yn 2008-09 â diagnosis a oedd yn gysylltiedig ag alcohol, roedd 45.7 y cant wedi eu derbyn i'r ysbyty cyn hyn â diagnosis a oedd yn gysylltiedig ag alcohol yn ystod y 12 mis blaenorol.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth yw blaenoriaethau’r Gweinidog ar gyfer ymchwil feddygol ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol. (WAQ55387)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Ymhlith fy mlaenoriaethau o ran ymchwil iechyd ar gyfer y flwyddyn ariannol hon mae:

• datblygu'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, sef un o ymrwymiadau Cymru'n Un, i helpu i sicrhau y cawn y buddiannau mwyaf posibl o waith ymchwil ar iechyd a gofal cymdeithasol drwy ddarparu rhaglenni newydd, strwythurau cynghori newydd a chynnwys rhanddeiliaid yn fwy ym maes Ymchwil a Datblygu yng Nghymru.

• cwblhau'r gwaith o ailgomisiynu'r seilwaith Ymchwil a Datblygu i Gymru i gymell gwaith ymchwil ar iechyd a gofal cymdeithasol a sicrhau grantiau allanol;

• sicrhau bod y GIG wrth wraidd mentrau Ymchwil a Datblygu i sicrhau'r buddiannau mwyaf posibl i gleifion.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o gostau a niferoedd yr ymgynghorwyr allanol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn cysylltiad ag ad-drefnu’r GIG. (WAQ55388)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Capgemini Consultants oedd yr unig gwmni ymgynghori allanol a gomisiynwyd i gefnogi'r Rhaglen Diwygio Gofal Iechyd. Mae'r wybodaeth am gost yn gyfrinachol ac felly byddai'n amhriodol i mi ei rhoi i chi.

Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Faint o gyllid y mae ei adran wedi’i ddyrannu ar gyfer bonysau a) diwedd y flwyddyn a b) yn ystod y flwyddyn yn 2009-10. (WAQ55353) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Jane Hutt: Mae hwn yn fater i'r Ysgrifennydd Parhaol a byddaf yn gofyn iddi ysgrifennu atoch yn uniongyrchol ar y mater hwn.

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth yw cost gyfartalog prosesu cais Taliad Sengl yng Nghymru ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad ar gyfer pob blwyddyn er 2004. (WAQ55328)

Rhoddwyd ateb ar 04 Chwefror 2010

Mae cyfartaledd y gost o brosesu un cais PAC dros y pum mlynedd ddiwethaf ar gael ac fel a ganlyn:

2009 - £304

2008 - £298

2007 - £303

2006 - £336

2005 - £343

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf, faint o wartheg sydd wedi cael eu lladd ar ôl profi’n bositif am TB buchol ac o’r rheini a gafodd eu lladd, a) sawl un ohonynt na ddangosodd arwyddion o TB yn yr archwiliad post mortem a b) sawl un gafodd feithriniadau yn yr archwiliad post mortem ac ni chadarnhawyd presenoldeb TB ar ôl gwneud hynny. (WAQ55348)

Rhoddwyd ateb ar 04 Chwefror 2010

Nid yw'r holl wybodaeth a geisir gennych ar gael yn hawdd. Fodd bynnag, ceir gwybodaeth yn y tabl isod am y pedair blynedd ddiwethaf o ran nifer y gwartheg a oedd yn adweithyddion a laddwyd (colofn 1), a nifer yr adweithyddion TB a ddangosai briwiau amlwg a/neu feithriniad cadarnhaol (h.y. achosion yr ystyriwyd eu bod wedi'u cadarnhau (colofn 2)):

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 18 Ionawr 2010

Blwyddyn

(1)

Cyfanswm yr adweithyddion a laddwyd

(2)

Nifer yr adweithwyr â briwiau amlwg a neu feithriniad cadarnhaol

2005

5,520

1,416

2006

5,241

1,598

2007

7,171

1,955

2008

10,542

3,278

DS Os methwyd â chanfod briwiau twbercwlosis drwy archwiliad post-mortem yn y lladd-dy, neu feithrin M. bovis o samplau yn y labordy yn y gwartheg a laddwyd fel adweithyddion (fel y dangosir yng ngholofn 2 uchod), nid yw'n awgrymu nad oedd adweithyddion wedi eu heintio â TB buchol. Yn wir, nid yw bob amser yn bosibl i weld briwiau yn ystod archwiliad post-mortem y lladd-dy ar gamau cynnar y clefyd hwn, ac oherwydd natur anhyfodd yr organeb, mae'n anodd iawn i'w wahanu oddi wrth samplau o feinwe nad oes ganddi friwiau amlwg.

Mae gan y prawf croen twbercwlin cymharol a ddefnyddir yn y DU i gadw golwg ar y clefyd benodolrwydd sy'n uwch na 99.9%. Golyga hyn y disgwylir i ddim ond 1 o bob 1000 (neu fwy) o wartheg nad oeddent wedi eu heintio, a brofwyd yn ôl y dehongliad safonol, gael  eu dosbarthu'n anghywir fel adweithyddion (h.y. dod yn ganlyniadau cadarnhaol anghywir). Gallai'r canlyniadau cadarnhaol anghywir gwirioneddol hyn gael eu hachosi gan adweithiau twbercwlin amhenodol i'r mycobacteria yn yr amgylchedd y mae gwartheg yn dod i gysylltiad â hwy weithiau.  Caiff y penodolrwydd ei leihau fymryn, er mwyn cynyddu sensitifrwydd (cyfran yr anifeiliaid a oedd wedi'u heintio a nodwyd yn gywir) drwy ddefnyddio dehongliad llym o'r prawf croen a'r prawf gama interfferon (gIFN).

Mae pob un bron, ond nid 100% o'r gwartheg yn cael archwiliad post-mortem. Fodd bynnag, unwaith y cadarnhawyd M. bovis mewn buches ni chesglir meithrinaidau pellach yn rheolaidd o'r fuches honno.

Yn ôl adroddiad cofnodi TB Blynyddol 2008 yr Asiantaeth Labordai Milfeddygol, mae cyfran yr adweithyddion â briwiau amlwg a feithrinodd M. bovis wedi parhau'n sefydlog ers 2003, tua 94.5% yn 2008 ar gyfartaledd. Mae cyfran yr adweithyddion heb friwiau amlwg a feithrinodd M. bovis yn parhau yn 4.4%. Cododd y gyfradd meithriniadau cadarnhaol ar ddechrau 2004 a 2006 ond dechreuodd sefydlogi i tua 35% yn 2007 a 2008. Mae cyfran y carcasau adweithyddion ag iddynt friwiau amlwg wedi parhau'n sefydlog, gan amrywio o 39.3% yn 2007 i 39.8% yn 2008.

Mae'r ystadegau TB buchol diweddaraf ar gael ar wefan Defra: http://www.defra.gov.uk/foodfarm/farmanimal/diseases/atoz/tb/stats/index.htm

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Faint o gyllid y mae ei hadran wedi’i ddyrannu ar gyfer bonysau a) diwedd y flwyddyn a b) yn ystod y flwyddyn yn 2009-10. (WAQ55352) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Jane Hutt: Mae hwn yn fater i'r Ysgrifennydd Parhaol a byddaf yn gofyn iddi ysgrifennu atoch yn uniongyrchol ar y mater hwn.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth yw cost prosesu taliadau cymorth a reolir gan yr adran, ac eithrio’r Taliad Sengl, ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad fesul cynllun ac ar gyfer pob blwyddyn er 2004. (WAQ55366)

Rhoddwyd ateb ar 04 Chwefror 2010

Fel y nodwyd yn WAQ 55328 mae costau Taliadau Gwledig Cymru yn cwmpasu gwaith gweinyddu ar gyfer yr holl gynlluniau Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC).  Amcangyfrifir cyfanswm y gost o brosesu'r holl geisiadau PAC bob blwyddyn dros y pum mlynedd ddiwethaf fel a ganlyn:

2009 - £17.726miliwn

2008 - £17.743miliwn

2007 - £18.659miliwn

2006 - £18.745miliwn

2005 - £20miliwn

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Faint o gyllid y mae ei adran wedi’i ddyrannu ar gyfer bonysau a) diwedd y flwyddyn a b) yn ystod y flwyddyn yn 2009-10. (WAQ55351) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Jane Hutt: Mae hwn yn fater i'r Ysgrifennydd Parhaol a byddaf yn gofyn iddi ysgrifennu atoch yn uniongyrchol ar y mater hwn.

Gofyn i Gynrychiolydd Comisiwn y Cynulliad

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae Comisiwn y Cynulliad wedi’i wneud o gost yr adolygiad o wasanaethau cyfieithu yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. (WAQ55367)

Rhoddwyd ateb ar 26 Ionawr 2010

Comisiynydd Adnoddau’r Cynulliad, William Graham AC: Amcangyfrifir cost yr adolygiad i fod yn £12,000. Mae hyn yn cynnwys 10 niwrnod o waith i bob un o’r pedwar aelod annibynnol, teithio a chynhaliaeth ar yr un raddfa â staff y Cynulliad a rhywfaint o fân dreuliau.

Mae aelodau’r panel yn cynnwys Arwel Ellis Owen, Cadeirydd Cyngor Gofal Cymru (cadeirydd y panel); y wraig fusnes, Susan Balsom; y cyfarwyddwr cwmni, Geraint Evans, a’r Athro Colin Baker, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor.

Mae cylch gorchwyl y panel fel a ganlyn:

Bydd yr adolygwyr yn gwneud y canlynol:

a) ystyried sut y caiff yr holl wasanaethau dwyieithog presennol eu darparu gan Gomisiwn y Cynulliad, gan gynnwys datblygiadau mewn gwasanaethau dwyieithog ers sefydlu’r Comisiwn yn 2007, a’r cynigion a nodwyd yn natganiad ysgrifenedig Comisiwn y Cynulliad ar 30 Medi 2009;

b) ystyried barn ein prif gwsmeriaid am ein gwasanaethau dwyieithog ar hyn o bryd ac yn y dyfodol;

c) ystyried yr angen i sicrhau gwerth am arian, gan fanteisio ar yr arferion rhyngwladol gorau, i wneud argymhellion i'w hystyried gan Gomisiwn y Cynulliad ar ddarparu gwasanaethau dwyieithog y Cynulliad yn y dyfodol, gan gynnwys:

• cynnig opsiynau ar gyfer diffinio a chyflawni uchelgais y Cynulliad i fod yn "sefydliad gwirioneddol ddwyieithog”;

• sefydlu egwyddorion a ddylai fod yn sail i’r agwedd at wasanaethau dwyieithog;

• ystyried pob math o wasanaethau, gan gynnwys er enghraifft, cyfryngau newydd a deunydd archif.

ch) argymell ffordd ymlaen i’r Pedwerydd Cynulliad a thu hwnt (bydd cyfnod y Cynllun Iaith Presennol wedi dod i ben erbyn hynny).

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Faint o refeniw y mae Comisiwn y Cynulliad yn ei gynhyrchu bob blwyddyn drwy logi adeiladau’r Cynulliad i sefydliadau o’r tu allan. (WAQ55374)

Rhoddwyd ateb ar 25 Ionawr 2010

Comisiynydd Adnoddau’r Cynulliad, William Graham AC: Yn 2008/09, cyfanswm yr incwm a gynhyrchwyd gan Gomisiwn y Cynulliad oedd £107,000. Roedd £75,000 o’r cyfanswm yn incwm o rentu swyddfeydd drwy drefniadau is-osod gyda’r BBC ac ITV.

Nid yw Comisiwn y Cynulliad yn codi tâl am ddefnyddio’i ystâd yn achlysurol, gan gynnwys pan fo’r wasg neu’r cyfryngau yn gwneud hynny. Rhaid i ddigwyddiadau neu gyfarfodydd ar ystâd y Cynulliad gael eu noddi gan Aelod Cynulliad a rhaid iddynt fod yn berthnasol i fusnes y Cynulliad mewn rhyw ffordd. O bryd i’w gilydd, mae digwyddiadau yn achosi gwariant y tu hwnt i gostau rhedeg arferol yr ystâd, er enghraifft drwy agor yn hwyr sy’n golygu bod staff yn gweithio goramser. Bryd hynny, caiff y costau ychwanegol hyn eu codi ar drefnwyr y digwyddiad. Mae trefnwyr y digwyddiad yn talu am gostau arlwyo yn uniongyrchol. Mae’r Cynulliad hefyd yn sicrhau indemniad gan drefnwyr am ddifrod ac unrhyw rwymedigaethau eraill.