Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 18 Chwefror 2010
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W]
yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Gofyn
i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu ffigurau ar gyfer nifer y plant a gafodd eu dal yn twyllo mewn arholiadau TGAU a Safon Uwch dros y pum mlynedd diwethaf. (WAQ55629)
Rhoddwyd
ateb ar 2 Mawrth 2010
Caiff data ar gamymddwyn mewn arholiadau TGAU a TAG ei gasglu a'i gyhoeddi ar draws tair gwlad gan y rheoleiddwyr cymwysterau. Nid yw'n bosibl rhoi data ar gyfer Cymru, Lloegr na Gogledd Iwerddon ar wahân. Mae'r ffigurau a gesglir yn nodi'r nifer o gosbau y mae sefydliadau dyfarnu'n eu rhoi nid nifer yr ymgeiswyr sy'n camymddwyn. Gall ymgeisydd unigol gael ei gosbi fwy nag unwaith a chan fwy nag un sefydliad dyfarnu.
Data ar gamymddwyn 2005 - 2009 ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Blwyddyn |
Cosbau a roddwyd |
2005 |
4,828* |
2006 |
5,048* |
2007 |
4,841* |
2008 |
4,156 |
2009 |
4,415 |
* Nid yw ffigurau 2005, 2006 yn cynnwys data ar gyfer corff dyfarnu CCEA (Gogledd Iwerddon). Yn draddodiadol nid oes gan CCEA lawer o ymgeiswyr y tu allan i Ogledd Iwerddon ac mae eu ffigurau camymddwyn yn isel o gymharu â'r cyrff dyfarnu eraill e.e. Rhoddwyd 47 o gosbau yn 2008 a 74 yn 2009.
Mae achosion o gamymddwyn gan ymgeiswyr yn anghyffredin iawn o hyd. Rhoddwyd 4,415 o gosbau ar draws y tair gwlad yn arholiadau 2009, ar ôl i 14 miliwn o arholiadau gael eu sefyll. Mae hyn yn 0.03 y cant o gyfanswm yr ymgeiswyr: sef 3 ym mhob 10,000.
Mae'n bwysig cofio hefyd nad yw pob achos o gamymddwyn a gynhwysir yn y data hwn yn achos o 'dwyllo' o reidrwydd, hynny yw achos lle mae'r ymgeisydd yn camymddwyn yn fwriadol i geisio sicrhau mantais. Mae'r data yn cynnwys er enghraifft, ymddygiad aflonyddgar neu amhriodol mewn arholiad, na fyddai'n achos o dwyllo o reidrwydd, ond yr ymdrinnid ag ef drwy'r broses gamymddwyn.
Mae adroddiad y rheoleiddwyr ar gamymddwyn yn arholiadau 2009 ar gael ar wefan APADGOS http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/publications/reports/malpracticeinexams09/?skip=1&lang=cy
Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a gyflwynwyd cynnig gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ai peidio i gau ei holl ddosbarthiadau chwech mewn ysgolion ac agor tri choleg trydyddol ac, os felly, pryd y penderfynir ar hynny. (WAQ55630)
Rhoddwyd
ateb ar 5 Mawrth 2010
Mewn ymateb i bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru, Trawsnewid y Ddarpariaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Choleg Morgannwg wedi gweithio mewn partneriaeth i lunio cynnig ar gyfer ailstrwythuro dysgu ôl-16 yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r cynnig yn ystyried nifer o opsiynau, yn cynnwys cyflwyno tri chanolfan drydyddol, i ddisodli'r ddarpariaeth sydd ar gael ar hyn o bryd mewn chweched dosbarth ysgolion ar draws yr Awdurdod. Ni chaiff penderfyniad ei wneud tan fod y cynnig hwn wedi'i fireinio drwy ddatblygu Achos Busnes Amlinellol wedi'i ddilyn gan Achos Busnes Llawn. Os bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn penderfynu datblygu unrhyw newid a fyddai'n cael gwared ag addysg chweched dosbarth o ysgolion, byddai'n ofynnol iddo gyhoeddi hysbysiadau statudol a rhoi cyfnod o ddau fis i unrhyw un sy'n dymuno gwrthwynebu i wneud hynny. Os ceir gwrthwynebiadau, caiff y mater ei gyfeirio at Weinidogion Cymru er mwyn iddynt ddod i benderfyniad.
Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gam y mae'r trafodaethau rhwng ei adran a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi cyrraedd ynghylch eu cynlluniau ar gyfer addysg ôl un ar bymtheg oed. (WAQ55631)
Rhoddwyd
ateb ar 5 Mawrth 2010
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf mewn partneriaeth â Choleg Morgannwg wedi datblygu achos ar gyfer ailstrwythuro dysgu ôl-16 yn Rhondda Cynon Taf. Gwerthuswyd y cynnig gan APADGOS, a rhoddwyd cymeradwyaeth i'r bartneriaeth ddysgu symud ymlaen i'r cam datblygu nesaf, sef yr Achos Busnes Amlinellol. Bydd hyn yn ystyried ac yn profi nifer o opsiynau yn erbyn meini prawf sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Unwaith y caiff ei gwblhau, anfonir yr Achos Busnes Amlinellol i APADGOS i'w werthuso ac er mwyn iddynt wneud sylwadau. Ar hyn o bryd ni wnaed unrhyw benderfyniad ar y ffordd ymlaen.
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Sawl cais am gyllid ar gyfer cyrsiau preswyl arbenigol mewn addysg bellach ar gyfer myfyrwyr ag awtistiaeth ddifrifol a wrthodwyd yn 2006, 2007, 2008 a 2009. (WAQ55637)
Rhoddwyd
ateb ar 5 Mawrth 2010
Mae'r wybodaeth y gwnaed cais amdani o ran gwrthod ceisiadau ar gyfer addysg bellach breswyl arbenigol ar gyfer dysgwyr sydd ag Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig rhwng y blynyddoedd academaidd 2006/2007 a 2009/2010 fel a ganlyn:
2006/2007 |
2007/2008 |
2008/2009 |
2009/2010 |
|
Ceisiadau a wrthodwyd |
3 |
2 |
4 |
0 |
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Mick
Bates (Sir Drefaldwyn): Beth fydd safon adeiladwaith y tai a ddatblygir drwy ddefnyddio'r £42 miliwn a ddyrannwyd i ddarparu 400+ o dai fforddiadwy dan Gyfran 2 proses y Fframwaith Buddsoddi Cyfalaf Strategol. (WAQ55634) Trosglwyddwyd i’w
ateb gan y Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio
Rhoddwyd
ateb ar 5 Mawrth 2010
Y Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio (Jocelyn Davies): Roedd y £42 miliwn a ddyrannwyd i ddarparu 400+ o dai fforddiadwy ar gael o Gyfran 1 o'r Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol. Mae'n ofynnol i dai a adeiladwyd ar dir a brynwyd o dan y rhaglen hon gydymffurfio â "Gofynion Ansawdd Dylunio" Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'n ofynnol i dai a brynir o'r sector preifat (naill ai wedi'u cwblhau neu'n cael eu hadeiladu) fodloni "Canllaw Caffael Parod" Llywodraeth Cynulliad Cymru sy'n nodi'r meini prawf i gynorthwyo Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i wneud dyfarniadau am ymarferoldeb a gwerth am arian eiddo a gynigir gan adeiladwyr tai preifat.
Peter
Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion (a) beth fu'r cynnydd yn nifer y cartrefi fforddiadwy yng Nghymru er mis Mai 2007, (b) a yw'r ffigur hwn yn cynnwys y nifer o gollwyd drwy werthu (megis yr hawl i brynu) a chwalu, ac (c) y fethodoleg
a ddefnyddiwyd i gyfrifo'r ffigur hwn. (WAQ55639) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio
Rhoddwyd
ateb ar 5 Mawrth 2010
Jocelyn Davies: a)Dros y ddwy flynedd, 2007-08 a 2008-09, nododd awdurdodau lleol y darparwyd cyfanswm o 4,235 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol o bob math o ddaliadaeth ledled Cymru. Amcangyfrifodd Awdurdodau Lleol y cynllunnir 2,700 o unedau tai fforddiadwy pellach i'w darparu yn ystod 2009-10, er mai amcangyfrifon yw'r ffigurau hyn a gellir eu newid. Cynhelir ymarfer casglu data pellach o fis Mawrth 2010 a fydd yn nodi'r nifer gwirioneddol a ddarparwyd yn ystod 2009-10.
b) Cynlluniwyd yr ymarfer casglu data tai fforddiadwy i fonitro cynnydd yn erbyn targed Cymru'n Un i ddarparu 6,500 o dai fforddiadwy ychwanegol rhwng 2007 a 2011. Mae'r data a gasglwyd yn ymwneud ag unedau tai fforddiadwy ychwanegol yn unig. Mae gwybodaeth am anheddau sydd ar werth neu'n cael eu dymchwel ar gael ar wahân.
c)Casglwyd data o 22 o Awdurdodau Lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol. Mae'r gwaith casglu yn seiliedig ar ddiffiniad llawn Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 2 o dai fforddiadwy, ac mae'n cynnwys pob uned tai fforddiadwy ychwanegol (yn cynnwys anghenion cyffredinol, tai â chymorth, llety gwarchod ac unedau gofal ychwanegol), p'un ai drwy adeiladu tai newydd, prynu, caffael, prydlesu neu addasu anheddau sy'n bodoli eisoes.
Mae'r diffiniad TAN 2 ar gael yn
http://wales.gov.uk/topics/planning/policy/tans/tan2?skip=1&lang=cy
Dangosir rhagor o wybodaeth yn y Datganiad Ystadegol "Y Ddarpariaeth o Dai Fforddiadwy yng Nghymru 2007-08 i 2010-11" (SDR196/2009) sydd ar gael drwy'r ddolen ganlynol:
http://wales.gov.uk/topics/statistics/headlines/housing2009/hdw20091214/?lang=cy
Peter
Black (Gorllewin De Cymru): Faint o (a) eiddo sy'n berchen i'r awdurdod lleol ac (b) eiddo rhent sy'n berchen i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sydd wedi cael eu gwerthu neu eu chwalu er mis Mai 2007. (WAQ55640) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y
Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio
Rhoddwyd
ateb ar 5 Mawrth 2010
Jocelyn Davies:
Dangosir gwybodaeth
ar nifer yr eiddo rhent dan berchenogaeth yr Awdurdod Lleol neu landlord cymdeithasol cofrestredig a ddymchwelwyd neu a werthwyd yn ystod 2007-08 a 2008-09 yn y tablau canlynol.
Dwellings demolished by local authorities in Wales under the Housing Health and Safety Rating System (HHSRS) by tenure |
||||
Local Authority |
Registered Social landlord |
Private Sector |
Total |
|
2007-08 |
28 |
39 |
6 |
73 |
2008-09 |
0 |
6 |
4 |
10 |
Peter Black (Gorllewin De Cymru): Sawl eiddo fforddiadwy sydd wedi cael ei adeiladu yng Nghymru er mis Mai 2007. (WAQ55641) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio
Rhoddwyd
ateb ar 5 Mawrth 2010
Jocelyn Davies: Dros y ddwy flynedd, 2007-08 a 2008-09, nododd awdurdodau lleol y darparwyd cyfanswm o 4,235 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol o bob math o ddaliadaeth ledled Cymru. Mae'r ffigur hwn yn cynnwys pob uned tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd p'un ai drwy adeiladu tai newydd, prynu, caffael, prydlesu neu addasu anheddau sy'n bodoli eisoes.
Nid yw'r wybodaeth a ddarparwyd yn nodi nifer yr eiddo newydd a adeiladwyd ar wahân.
Gofyn
i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Peter Black (Gorllewin De Cymru): A yw'r Gweinidog yn bwriadu cyhoeddi cynnwys cofnodion cyfarfodydd ac adroddiad cynnydd grŵp gweithredu adroddiad Routledge, dan arweiniad yr Athro Mike Harmer. (WAQ55632)
Rhoddwyd
ateb ar 5 Mawrth 2010
Nid wyf wedi cael yr adroddiad terfynol eto. Unwaith i mi ei gael, byddaf yn ei ystyried yn briodol ac yn cymryd cyngor gan fy swyddogion mewn perthynas â gweithredu ar yr adroddiad, a byddaf yn cynghori aelodau yn unol â hynny.
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa arweiniad a gyhoeddir yng nghyswllt a yw'r amserlenni statudol ar gyfer Asesiadau Craidd yn cynnwys asesiadau craidd a wneir ar gyfer plant wedi'u mabwysiadu fel eu hasesiad cefnogi ar ôl mabwysiadu. (WAQ55633)
Rhoddwyd
ateb ar 2 Mawrth 2010
Fe'ch cyfeiriaf at fy ateb i (WAQ 55573). Caiff prosesau ac amserlenni ar gyfer cynnal asesiadau craidd, yn cynnwys y rhai ar gyfer cymorth ar ôl mabwysiadu, eu nodi yn y Fframwaith ar gyfer Asesu Plant mewn Angen a'u Teuluoedd.
Gofyn
i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion (a) nifer y ceisiadau grant llwyddiannus dan y Cynllun Coetiroedd Gwell i Gymru ac (b) y cyfanswm a dalwyd ar gyfer pob cais ym mhob mis ers cyflwyno'r cynllun. (WAQ55635)
Rhoddwyd
ateb ar 5 Mawrth 2010
Mae'r ateb fel a ganlyn:
(a). Ar 31ain Ionawr 2010, cymeradwywyd 670 o geisiadau o dan gynllun Coetiroedd Gwell i Gymru.
(b). Nid wyf yn gallu rhoi gwybodaeth am daliadau sy'n ei gwneud yn bosibl i weld pwy sydd wedi gwneud ceisiadau unigol, ond mae'r tabl isod yn dangos y swm a broseswyd drwy'r system daliadau ar-lein ers dechrau'r cynllun.
Mis Taliad Swm a Dalwyd (£)
Ebr-07 £3,097.70
Mai-07 £433.25
Hyd-07 £2,372.86
Tach-07 £69,152.23
Rhag-07 £44,353.35
Ion-08 £64,828.71
Chwe-08 £267,162.50
Maw-08 £649,499.50
Ebr-08 £370,266.59
Mai-08 £201,770.23
Meh-06 £138,765.72
Gorff-08 £63,813.48
Awst-08 £82,906.58
Medi-08 £66,797.54
Hyd-08 £57,795.27
Tach-08 £39,105.11
Rhag-08 £66,074.65
Ion-09 £131,021.88
Chwe-09 £414,939.96
Maw-09 £1,009,473.69
Ebr-09 £115,127.97
Mai-09 £44,540.10
Meh-09 £107,097.36
Gorff-09 £122,773.57
Awst-09 £131,681.98
Medi-09 £156,893.64
Hyd-09 £105,927.69
Tach-09 £139,779.21
Rhag-09 £214,655.94
Ion-10 £262,798.43
Cyfanswm £5,144,906.69
Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau yng nghyswllt datblygu Coedwig Genedlaethol Gymreig. (WAQ55636)
Rhoddwyd
ateb ar 5 Mawrth 2010
Mae strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer coed a choetiroedd, Coetiroedd i Gymru, a lansiwyd gennyf ym mis Mawrth y llynedd yn nodi fy mlaenoriaethau ar gyfer datblygu Coedwig Genedlaethol Gymreig, yn ogystal ag amlygu'r manteision amrywiol y gall coed a choetiroedd eu darparu.
Fy mwriad yw y dylai holl goetiroedd Cymru weithredu ar y cyd fel Coedwig Genedlaethol Gymreig, ac rwyf am i Gymru fod yn adnabyddus am ei choetiroedd o ansawdd uchel sy'n gwella'r dirwedd, sy'n briodol i amgylchiadau lleol ac sydd â chymysgedd amrywiol o rywogaethau a chynefinoedd.
Mae'r Goedwig Genedlaethol yn cynnwys yr ystad coetir cyhoeddus a reolir mewn modd cynaliadwy gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru, yn ogystal â choetir arall waeth beth yw ei faint, lleoliad neu berchenogaeth, ynghyd â choed y tu allan i flociau coetir, mewn ardaloedd gwledig a threfol fel ei gilydd.
Mae'r blaenoriaethau allweddol o ran cyflawni'r nod hwn yn cynnwys y gwaith a wneir gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru i wneud coetiroedd yn fwy amrywiol gan sefydlu ystod ehangach o rywogaethau coed, yn cynnwys coed brodorol, a lleihau faint o goed a gaiff eu torri i lawr gan hyrwyddo'r defnydd o systemau rheoli effaith isel.
Blaenoriaeth arall yw chwilio am ffordd o gynyddu cyfraniad y cyhoedd at y gwaith o reoli coetiroedd drwy ddatblygu mentrau fel y prosiect Braenaru, a hyrwyddo dull cynaliadwy o reoli coetir sy'n eiddo preifat drwy'r cynlluniau grant Coedwigoedd Bychain a Chamau Cyntaf.
Er mwyn hyrwyddo nifer y coetiroedd cynhenid rydym hefyd wedi datblygu'r cynllun Plant! lle plennir coeden ar gyfer babanod newydd a phlant a fabwysiedir yng Nghymru. Erbyn diwedd eleni bydd y cynllun wedi golygu bod 113,000 o goed brodorol wedi cael eu plannu mewn sawl safle ledled Cymru.
Yn olaf, yn fuan bydd Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn cyhoeddi ei gynllun gweithredu yn nodi sut y bydd yn cyflawni nodau Coetiroedd i Gymru ac fe'ch anogaf i ddarllen y ddogfen hon er mwyn cael dealltwriaeth fanwl o'r cyfraniad y bydd ein coetiroedd yn ei wneud i ddyfodol Cymru.
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd gweithredu Rhan 1 Deddf Tir Comin 2006 gan roi manylion pryd y mae'n disgwyl i awdurdodau lleol gael y pŵer i gywiro gwallau sydd wedi cael eu gwneud yn y gorffennol ar gofrestri Tir Comin. (WAQ55638)
Rhoddwyd
ateb ar 5 Mawrth 2010
Mae fy swyddogion wrthi'n llunio fersiwn terfynol amserlen sy'n diffinio gweithrediad Rhan 1 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 yng Nghymru. Gweithredir Rhan 1 yn raddol fesul cam, gyda'r nod o weithredu Rhan 1 yn llawn ar ddechrau 2012.