18/05/2009 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 18 Mai 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 18 Mai 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu manylion am weithredoedd o fandaliaeth a gyflawnwyd ar eiddo Llywodraeth y Cynulliad a Chyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf? (WAQ54164)

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Mân fandaliaeth a welwyd ar ystad weinyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru dros y pum mlynedd diwethaf, sef graffiti a ffenestri wedi’u torri yn bennaf.

Ar y cyfan, mae hyn yn adlewyrchu’r lefelau o ddiogelwch ffisegol sydd i’w gweld ledled ystad weinyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru, a’r pwysigrwydd a roddir ar leihau difrod troseddol i asedau eiddo Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Ni chedwir gwybodaeth yn ganolog ar gyfer Cyrff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r amcangyfrif o gost atgyweirio gweithredoedd o fandaliaeth ar eiddo Llywodraeth y Cynulliad a Chyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf? (WAQ54165)

Y Prif Weinidog: Mân fandaliaeth a welwyd ar ystad weinyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Cost amcangyfrifedig atgyweirio ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf oedd:

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 18 Mai 2009

2008-09

£3,400

2007-08

£3,500

2006-07

£6,500

2005-06

£6,100

2004-05

£1,700

Ni chedwir gwybodaeth yn ganolog ar gyfer Cyrff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad.

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Andrew R.T. Davies (South Wales Central): How many miles of road have been resurfaced in each Local Authority in Wales since 1999 and what was the average cost per mile for each year? (WAQ54081)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Nid ydym yn cadw cofnodion o’r fath ar gyfer ffyrdd lleol am fod pob Awdurdod Lleol yn gyfrifol am gynnal a chadw ffyrdd y mae’n Awdurdod Priffyrdd ar eu cyfer.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau penodol a gafodd Llywodraeth y Cynulliad ag International Motor Sport Cyf yng nghyswllt cyllid ar gyfer Rali Cymru Prydain Fawr yn 2009? (WAQ54131)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Fe’ch cyfeirir at y datganiad a gyhoeddwyd gennyf ar 24 Ebrill yn nodi sefyllfa Llywodraeth Cynulliad Cymru. Byddwch yn nodi o baragraff olaf y datganiad hwnnw ein bod wedi cynnig cynnal trafodaethau heb unrhyw ragfarn â threfnwyr y rali. Mae hyn bellach yn cael ei drafod gan swyddogion.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am bob taith fasnach ryngwladol a gefnogwyd gan Lywodraeth y Cynulliad yn 2008? (WAQ54134)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Isod ceir manylion teithiau masnach a gefnogwyd gan Lywodraeth y Cynulliad, gan gynnwys teithiau masnach ategol mewn arddangosfeydd a gynhaliwyd yn ystod blwyddyn ariannol 2008/09:

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 18 Mai 2009

Dyddiad

Y Cyrchfan

Hyd

(diwrnod)

Sector

Mawrth 08

Canada, Vancouver, Globe Environmental

5

Nwyddau a Gwasanaethau Amgylcheddol

Ebrill 08

India, Mumbai a Delhi

6

Amrywiol

Ebrill 08

Singapôr, Food & Hotel Asia

7

Bwyd a Diod

Mai 08

Canada, Quebec, Futuralia

5

Amrywiol

Mai 08

Saudi Arabia a Bahrain

12

Amrywiol

Mai 08

Yr Almaen, Munich, Arddangosfa IFAT

6

Nwyddau a Gwasanaethau Amgylcheddol

Mai 08

Yr UDA, Las Vegas, HD Expo

8

Diwydiannau Creadigol

Mai 08

Israel, Tel Aviv

5

Amrywiol

Mai 08

Yr Iseldiroedd, Amsterdam, PLMA

5

Bwyd a Diod

Mai/

Mehefin 08

Tsieina, Hong Kong a Delta Pearl River

7

Amrywiol

Mehefin 08

De Affrica

7

Amrywiol

Mehefin 08

Yr UDA, San Diego, AUSVI

4

Awyrofod (UAV)

Mehefin 08

Yr UDA, San Diego, Bio 2008

5

Biowyddoniaeth

Mehefin 08

Yr UDA, Efrog Newydd, Summer Fancy Food

5

Bwyd a Diod

Medi 08

Malaysia

7

Amrywiol

Medi 08

Canada, Halifax, DEFSEC

5

Awyrofod / Amddiffyn

Medi 08

Canada, Toronto a Halifax, TIFF a SP

7

Diwydiannau Creadigol (Ffilm/Teledu)

Medi/

Hyd 08

Japan, Sioe Awyr Yokohama

7

Awyrofod

Hyd 08

Norwy a Sweden

5

Amrywiol

Hyd 08

Yr Almaen, Frankfurt, Ffair Lyfrau

6

Diwydiannau Creadigol

Hyd 08

Yr UDA, Washington DC, AUSA

3

Awyrofod / Amddiffyn

Hyd 08

Serbia, Belgrade

5

Amrywiol

Hyd 08

Ffrainc, Cannes, MIPCOM

5

Diwydiannau Creadigol (Cynnwys Adloniant)

Hyd 08

Ffrainc, Paris, SIAL

6

Bwyd a Diod

Hyd/

Tach 08

Sbaen, Seville, WOMEX

5

Diwydiannau Creadigol (Cerddoriaeth)

Tach 08

Tsieina, Shanghai

7

Amrywiol

Tach 08

UAE, Dubai, Arddangosfa Big 5

7

Adeiladu

Tach 08

Yr Almaen, Dusseldorf, Arddangosfa Medica

5

Gofal Iechyd / Meddygol

Tach 08

UAE, Abu Dhabi, Arddangosfa ADIPEC

6

Olew a Nwy

Tach 08

Yr UDA, Atlanta, AAPS

5

Biowyddoniaeth

Tach 08

Gwlad Pwyl, Warsaw

3

Bwyd a Diod (ar y cyd â Masnach a Buddsoddi’r DU)

Ion 09

UAE, Dubai, Arddangosfa Arab Health

6

Gofal Iechyd / Meddygol

Ion 09

Ffrainc, Cannes, MIDEM

4

Diwydiannau Creadigol (Cerddoriaeth)

Ion 09

Ffrainc, Lyon, SIRHA

6

Bwyd a Diod

Chwe 09

India, Bangalore

5

Awyrofod

Chwe 09

UAE, Dubai, Arddangosfa Gulf Food

7

Bwyd a Diod

Chwe/

Mawrth 09

Japan, Tokyo

7

Amrywiol

Mawrth 09

Twrci

5

Amrywiol

Mawrth 09

India, Mumbai a Delhi

7

Amrywiol

Mawrth 09

Norwy, Oslo

3

Bwyd a Diod (ar y cyd â Masnach a Buddsoddi’r DU)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r amcangyfrif o gost cynnal y teithiau masnach rhyngwladol a gefnogwyd gan Lywodraeth y Cynulliad ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf? (WAQ54135)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r amcangyfrif o faint o archebion a gafwyd o ganlyniad i deithiau masnach rhyngwladol a gefnogwyd gan Lywodraeth y Cynulliad ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf? (WAQ54136)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Nodaf isod y costau a’r enillion sy’n gysylltiedig â theithiau masnach rhyngwladol a gefnogwyd gan Lywodraeth y Cynulliad dros y pum blwyddyn ariannol diwethaf:

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 18 Mai 2009

BLWYDDYN

COSTAU

GWERTH YR ARCHEBION A SICRHAWYD

2008/09

£1.709m

£18.109m

2007/08

£2.297m

£15.926m

2006/07

£2.118m

£31.287m

2005/06

£2.712m

£20.111m

2004/05

£2.231m

£9.236m

Cyfanswm

£11.066m

£80.891m

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Chyngor Casnewydd ynghylch ffordd liniaru arfaethedig yr M4? (WAQ54138)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Nid wyf wedi cynnal unrhyw drafodaethau ffurfiol â Chyngor Casnewydd yn ymwneud â’r M4 Newydd.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am gyfraniad Llywodraeth y Cynulliad o ran gwella mynediad ffyrdd i Faes Awyr Caerdydd? (WAQ54139)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Rydym yn dod at ddiwedd astudiaeth o drafnidiaeth sydd wedi edrych ar wella Croes Cwrlwys a gwella mynediad i’r Barri, Bro Morgannwg a Maes Awyr Caerdydd. Mae’r astudiaeth yn amlfoddol ac mae’r opsiynau’n cynnwys trafnidiaeth gyhoeddus ar y ffyrdd, rheilffyrdd a ffyrdd. Rydym yn defnyddio WelTAG i werthuso’r opsiynau.

Byddaf yn ystyried y canfyddiadau’n fuan ac rwy’n bwriadu gwneud cyhoeddiad yn ystod yr haf.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael â Network Rail a’r Adran Drafnidiaeth ynghylch moderneiddio’r gwasanaethau rheilffyrdd rhwng Llundain a De Cymru? (WAQ54140)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Rwyf wedi dweud wrth y naill barti a’r llall y byddwn yn disgwyl trydaneiddio ac i reilffordd cyflym Prif Lwybr Great Western i gyrraedd Abertawe o leiaf.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau penodol y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Network Rail a’r Adran Drafnidiaeth ynghylch trydaneiddio’r rheilffordd rhwng Llundain a De Cymru? (WAQ54141)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Rwyf wedi dweud wrth y naill barti a’r llall y byddwn yn disgwyl trydaneiddio Prif Lwybr Great Western hyd at Abertawe o leiaf.

Cyfarfûm â’r Arglwydd Adonis, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Drafnidiaeth, am hyn ar 13 Mai 2009. Mae’r trafodaethau, sy’n gadarnhaol, yn mynd rhagddynt.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau penodol y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda gweithredwyr pont Hafren ynghylch talu’r tollau gyda cherdyn credyd? (WAQ54143)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Nid wyf wedi cynnal unrhyw drafodaethau â gweithredwyr mannau croesi’r Afon Hafren o ran talu tollau â cherdyn credyd.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar daliadau ffyrdd a thaliadau tagfeydd? (WAQ54144)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Nid yw Llywodraeth y Cynulliad wedi penderfynu pa rôl, os o gwbl, y bydd prisio ffyrdd yn ei chwarae o ran mynd i’r afael â heriau sy’n ymwneud â thrafnidiaeth nawr ac yn y dyfodol. Rwyf wedi egluro y byddem yn ystyried prisio ffyrdd ar y rhwydwaith strategol yng nghyd-destun datblygiadau ffyrdd newydd yn unig. Byddai unrhyw gynigion ar gyfer cynlluniau prisio ffyrdd lleol y mae awdurdodau lleol am eu trafod i fynd i’r afael â thagfeydd traffig yn eu hardaloedd yn cael eu hystyried gan Lywodraeth y Cynulliad fel sy’n ofynnol yn statudol.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda llywodraeth y DU ynghylch yr hyn a elwir yn Dreth Porthladdoedd a’i effaith ar borthladdoedd yn y DU? (WAQ54145)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Rwyf i a’m swyddogion yn cynnal trafodaethau rheolaidd â Llywodraeth y DU ar faterion sy’n ymwneud â phorthladdoedd. Mae hyn yn cynnwys ymgynghoriad presennol Llywodraeth y DU ar dollau ysgafn ynghyd â’r sefyllfa sy’n ymwneud ag ardrethi mewn porthladdoedd a’u gweithredwyr.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pryd ddaeth Cyllid Cymru’n ymwybodol y byddai arian o Fanc Buddsoddi Ewrop ar gael ar gyfer y Cynllun JEREMIE? (WAQ54169)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Mae’r cyfle i gael benthyciad Banc Buddsoddi Ewrop yn un o brif fanteision menter JEREMIE y Comisiwn Ewropeaidd. Daeth Cyllid Cymru yn ymwybodol o’r cyfle hwn am y tro cyntaf yn 2007 pan ddechreuodd Cymru gynnal trafodaethau anffurfiol â Chyllid Buddsoddi Ewrop ynghylch y posibilrwydd o gael cronfa JEREMIE i Gymru. Dechreuodd Cyllid Cymru gynnal trafodaethau ffurfiol â Banc Buddsoddi Ewrop yn 2008 a chwblhawyd y benthyciad yn gytundebol ar Ebrill 9ed 2009.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pwy wnaeth y penderfyniad ynghylch amseriad y cyhoeddiad bod cyllid JEREMIE ar gael? (WAQ54170)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Cafodd dyddiad cyhoeddi lansiad JEREMIE ei gynnig gan Fanc Buddsoddi Ewrop a’i dderbyn gan Weinidogion. Hwn oedd y dyddiad cynharaf a oedd ar gael ar ôl cwblhau’r trafodyn.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am statws Cyllid Cymru o ran ei allu i weithredu’n annibynnol ar Lywodraeth Cynulliad Cymru? (WAQ54171)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Un o is-gwmnïau Llywodraeth Cynulliad Cymru yw Cyllid Cymru ccc, ac mae’n gweithredu ar sail fasnachol annibynnol ac yn gwneud pob penderfyniad sy’n ymwneud â buddsoddi yn erbyn meini prawf masnachol.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faterion yn ymwneud â llywodraethu o fewn Cyllid Cymru? (WAQ54172)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Fel cwmni ccc, mae Cyllid Cymru’n cael ei lywodraethu gan Fwrdd Cyfarwyddwyr ac mae’n ddarostyngedig i’r Ddeddf Cwmnïau.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru, fesul un, cost pob astudiaeth ddichonoldeb, ymgynghoriad, gwaith tir a ffi ymgynghori er 1999 yng nghyswllt ffyrdd mynediad Maes Awyr Caerdydd a dewisiadau ar gyfer gwneud yr A48 yn gefnffordd? (WAQ54182)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Mae cyfanswm cost y gwaith sy’n ymwneud â’r 'Astudiaeth o Welliannau i Fynediad i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd a Chroes Cwrlwys’, yn cynnwys y gwaith arolygu sef arddangosfeydd, ymgynghoriadau, dylunio a datblygu a materion amgylcheddol yn £1.9m. Cyfanswm costau’r opsiynau a oedd yn cynnwys y cynnig i wneud yr A48 yn gefnffordd oedd £369k. Roedd hyn yn cynnwys y ddwy ddogfen, 'A48 / A4232 Culverhouse Cross and Airport Access Road’ a’r adroddiad atodol 'The A48 / A4232 Culverhouse Cross and Airport Access Road—The Way Forward’. Nid yw’n bosibl dadansoddi costau yn unigol.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Janet Ryder (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi diffiniad o’r gair 'prin’ fel y caiff ei ddefnyddio yn y Cytundeb Llwyth Gwaith Athrawon, (h.y. beth sy’n cael ei ystyried fel adegau 'prin’ pan fydd Pennaeth yn gofyn i aelodau o’i staff gyflenwi ar ran eraill)? (WAQ54118)

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Mae Grŵp Monitro Cytundeb y Gweithlu, y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn aelod ohono, wedi cyhoeddi canllawiau ar y diffiniad o 'brin gyflenwi’ sy’n nodi’n glir y bydd athrawon, o fis Medi 2009, yn amodol ar ymgynghoriad ar y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol, yn gallu prin gyflenwi yn achlysurol mewn amgylchiadau na ellir eu rhagweld.

Yn y ddogfen hon, nodir y dylai ysgolion sicrhau

'...bod polisi clir a system rymus ar waith nad yw’n gofyn i athrawon na’r pennaeth gyflenwi heblaw bod hynny’n brin. Byddai system rymus yn ymdrin â phob digwyddiad hyd y gellir rhagweld a dylai ystyried patrymau absenoldeb hanesyddol yr ysgol. Ni fyddai disgwyl i system rymus ymdrin â digwyddiadau na ellir eu rhagweld.

Mae 'amgylchiadau y gellir eu rhagweld’ yn cynnwys digwyddiadau y gellir eu rhagweld ar sail profiad hanesyddol yr ysgol; digwyddiadau y gellir eu rhagweld ar sail profiad lleol arferol; a digwyddiadau y gellid eu disgwyl fel rhan o ddatblygiad y ddarpariaeth.

Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r targedau a osodwyd i Golegau Abertawe a Gorseinon ym mhob un o’r tair blynedd diwethaf a pha gynnydd a wnaed gan bob coleg o ran eu cyflawni? (WAQ54121)

Jane Hutt: Caiff Targedau Unedau Credyd Cyfwerth a Bwysolwyd eu rhoi i Sefydliadau Addysg Bellach (AB) unigol yn flynyddol, sy’n seiliedig ar y cyllid a ddyrennir iddynt sy’n seiliedig ar berfformiad hanesyddol. Mae pob uned yn 10 awr o amser dysgu...

Yna bydd APADGOS yn gosod targedau uned ar gyfer y sefydliad yn seiliedig ar y cyllid hwn. Mae’n ofynnol i sefydliadau gytuno ar y defnydd a wneir o Unedau Credyd Cyfwerth a Bwysolwyd fesul pwnc sector â’u Cyfarwyddwr Ardal APADGOS, ac mae angen iddynt sicrhau bod cynigion o’r fath yn ystyried Blaenoriaethau ar gyfer Newid APADGOS o ran dysgu ac addysg ôl-16 yn ogystal â’r bwriad i ddatblygu darpariaeth fel y nodir yn ei Chynllun Datblygu Darpariaeth.

Mae’r tabl canlynol yn dangos y targedau ar gyfer y tair blynedd diwethaf

Coleg Gorseinon - Targedau

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 18 Mai 2009

Blwyddyn Academaidd

Targed Uned

2006/07

253,663

2007/08

261,916

2008/09

289,591

Coleg Abertawe - Targedau

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 18 Mai 2009

Blwyddyn Academaidd

Targed Uned

2006/07

427,638

2007/08

449,510

2008/09

520,909

Cafodd y targedau eu cyflawni gan y ddau goleg yn 2006/07 ac yn 2007/08. Mae targedau 2008/09 yn cael eu monitro o hyd.

O ran ansawdd yr addysg a ddarperir, ni osodir targedau ar gyfer colegau AB unigol, heblaw am y targed cyffredinol a nodir yn Y Wlad sy’n Dysgu: Gweledigaeth ar Waith, sef erbyn 2010, dylai ansawdd y rhaglenni AB y mae Estyn wedi eu hasesu gyrraedd safon gradd 3 neu well mewn 95% o’r rhaglenni, a gradd 2 neu well mewn 65% o’r rhaglenni. Ni chaiff hyn ei gynnwys yng nghytundebau cyllido colegau unigol.

Mae’r ddau goleg yn rhagori ar y targedau hyn yn barod.

Coleg Gorseinon

Arolwg AB Estyn - Mawrth 2007

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 18 Mai 2009

Cwestiwn Allweddol

1

2

3

4

5

6

7

Gradd

1

1

1

1

1

1

1

O’r tri maes dysgu a arolygwyd, dyfarnodd Estyn safon 'gradd 1’ deirgwaith.

Arolwg Dysgu Seiliedig ar Waith Estyn - Mawrth 2009

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 18 Mai 2009

Cwestiwn Allweddol

1

2

3

4

5

6

7

Gradd

1

1

1

1

1

1

2

O’r pedwar maes dysgu a arolygwyd, dyfarnodd Estyn safon 'gradd 1’ deirgwaith, a safon 'gradd 2’ unwaith.

Coleg Abertawe

Arolwg AB Estyn - Mawrth 2006

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 18 Mai 2009

Cwestiwn Allweddol

1

2

3

4

5

6

7

Gradd

1

2

2

1

2

3

1

O’r wyth maes dysgu a arolygwyd, dyfarnodd Estyn safon 'gradd 1’ deirgwaith, safon 'gradd 2’ ddwywaith a safon 'gradd 3’ deirgwaith.

Arolwg Dysgu Seiliedig ar Waith Estyn - Rhagfyr 2008

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 18 Mai 2009

Cwestiwn Allweddol

1

2

3

4

5

6

7

Gradd

1

1

1

2

2

2

2

O’r tri maes dysgu a arolygwyd, dyfarnodd Estyn safon 'gradd 1’ ddwywaith a safon 'gradd 2’ unwaith.

Mae gofyn i sefydliadau AB bennu eu targedau eu hunain ar gyfer gwella ansawdd, fel rhan o broses hunanasesu sefydledig a ddilysir drwy broses sicrhau ansawdd APADGOS ac arolygiadau Estyn.

Cafodd targed cytundebol o 50% o lwyddiant ei osod gan APADGOS ar gyfer fframwaith Dysgu Seiliedig ar Waith. Mae’r ddau sefydliad wedi cyflawni’r targed hwn.

Caiff cymaryddion cenedlaethol 2007/08 ar gyfer AB a Dysgu Seiliedig ar Waith eu cyhoeddi gan y Gyfarwyddiaeth Ystadegol ar 21 Mai.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa amcangyfrif y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o gyfran yr aelwydydd a) gwledig a b) trefol yng Nghymru sydd mewn tlodi tanwydd? (WAQ54149)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Cyhoeddwyd y ffigurau diweddaraf sydd ar gael ar nifer y bobl sy’n profi tlodi tanwydd yn Arolwg Eiddo Byw yng Nghymru 2004. Nododd yr arolwg fod tua 134,000 o gartrefi yng Nghymru yn profi tlodi tanwydd, sef tua 11% o holl gartrefi Cymru.  

Nododd yr arolwg fod 17% o’r cartrefi mewn ardaloedd gwledig ac 8% o’r cartrefi mewn ardaloedd trefol yn profi tlodi tanwydd. Mae hyn yn rhannol o ganlyniad i’r ffaith bod cartrefi mewn ardaloedd gwledig yn fwy tebygol o fod oddi ar y rhwydwaith nwy o gymharu â chartrefi mewn ardaloedd trefol.

Cynhaliwyd Arolwg Eiddo Byw yng Nghymru pellach yn 2008 ac mae’n darparu ffigurau mwy diweddar ar nifer y cartrefi yng Nghymru sy’n profi tlodi tanwydd. Disgwylir i’r arolwg gael ei gyhoeddi ar ddechrau’r flwyddyn nesaf.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau penodol y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynigion ar gyfer gorsaf bŵer niwclear newydd yn Wylfa ar Ynys Môn? (WAQ54156)

Jane Davidson: Mae’r broses o ganiatáu gorsafoedd ynni niwclear newydd yn fater a gedwir yn ôl ar hyn o bryd.

Diben fy nghyswllt â Llywodraeth y DU ar y mater hwn oedd i fynegi ein pryderon penodol am ddiogelwch iechyd, gwastraff ymbelydrol a gweddillion tanwydd, ac agweddau sy’n ymwneud â diogelwch o ran unrhyw ddatblygiadau ynni niwclear newydd yng Nghymru neu’n agos ati.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa amcangyfrif y mae a) ei hadran a b) Asiantaeth yr Amgylchedd wedi’i wneud o ran cyfran a swmp y sbwriel cartref sy’n cael ei losgi gan aelwydydd yn eu gerddi? (WAQ54157)

Jane Davidson: Nid yw’n bosibl llunio amcangyfrif realistig o ganran a chyfaint y gwastraff cartref sy’n cael ei losgi yng ngerddi cartrefi.

Polisi Llywodraeth y Cynulliad yw annog pobl i beidio â llosgi gwastraff cartrefi mewn gerddi. Heblaw am lygryddion posibl a gwastraffu adnoddau y gellir eu hailgylchu neu gompostio, gall hyn achosi niwsans statudol o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd neu fod yn drosedd o dan y Ddeddf Aer Glân. Mae gorfodi’r ddeddfwriaeth hon yn fater i awdurdodau lleol.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael a) ag awdurdodau lleol a b) â sefydliadau eraill ynghylch codi’n uniongyrchol ac yn amrywiol ar gyfer gwastraff gweddilliol o gartrefi? (WAQ54160)

Jane Davidson: Nid wyf wedi cynnal unrhyw drafodaethau ag awdurdodau lleol nac unrhyw sefydliadau eraill yn ymwneud â chodi tâl uniongyrchol ac amrywiol am wastraff gweddillion gan ddeiliaid tai.

Aeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ati i bennu cwmpas cyflwyno taliadau am gasglu gwastraff gweddillion yn y Strategaeth Amgylcheddol. Fel rhan o’r sail dystiolaeth ar gyfer ymgynghoriad ar strategaeth wastraff ddiwygiedig, Tuag at Ddyfodol Diwastraff, a lansiwyd ar 29 Ebrill, comisiynwyd Fehily Timoney & Company gan Lywodraeth y Cynulliad i bennu cwmpas codi tâl uniongyrchol ac amrywiol, ac mae eu hadroddiad ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Fel y mae’r strategaeth yn esbonio, nid oes unrhyw gynlluniau i gyflwyno proses o godi tâl uniongyrchol ac amrywiol ar hyn o bryd.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am nifer y cyfleusterau ailgylchu a gwastraff domestig yng Nghymru, gan gynnwys eu lleoliadau ac wedi’u dadansoddi fesul ardal awdurdod lleol unigol? (WAQ54161)

Jane Davidson: Mae cyfanswm o 22 o gyfleusterau ailgylchu â thrwydded yng Nghymru, ac mae pedwar ohonynt yn gyfleusterau compostio. Mae cyfanswm o 159 o gyfleusterau domestig â thrwydded yng Nghymru.

Gweler y tabl atodedig am fanylion cyfleusterau fesul awdurdod lleol.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ganran o wastraff gweddilliol cartrefi a gludir allan o Gymru i’w waredu mewn safleoedd tirlenwi? (WAQ54162)

Jane Davidson: Mae’r data ar gyfer Ebrill 2007—Mawrth 2008 yn nodi bod 6.48% o wastraff trefol Cymru’n cael ei drosglwyddo i safleoedd tirlenwi yn Lloegr. Cymerwyd y data hwn o WasteDataFlow ar gyfer gwastraff trefol a gludwyd yn uniongyrchol i safle tirlenwi.

Yn gyffredinol caiff gwastraff ei gasglu a’i reoli gan gwmnïau gwastraff preifat sy’n gweithredu ar eu liwt eu hunain ledled y DU. Felly, mater masnachol yw pa gyfleusterau gwastraff a ddefnyddir gan y cwmnïau hynny. Caiff peth gwastraff o Gymru ei gludo i safleoedd tirlenwi yn Lloegr, ac fel arall.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ganran o wastraff gweddilliol cartrefi a gludir allan o Gymru i’w ailgylchu, ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion ynghylch ble fydd y gwastraff yn cael ei gludo? (WAQ54163)

Jane Davidson: Mae’r data ar gyfer Ebrill 2007—Mawrth 2008 a gymerwyd o WasteDataFlow (WDF) yn nodi bod 22% o’r deunyddiau a gasglwyd i’w hailgylchu yng Nghymru wedi’u hanfon i Loegr.

Mae’r tabl atodedig yn crynhoi i ble yr aiff deunyddiau ailgylchu.

Nid yw’n cynnwys deunyddiau a gymerwyd i’w hailddefnyddio ac nid yw’r data o reidrwydd yn dangos y lleoliad trin terfynol. Gall y lleoliadau a restrir gan WDF fod yn Brif Swyddfa yn Lloegr ar gyfer deunydd ailgylchu sydd wedi’i drin yng Nghymru.

Ni chynhwysir data 'arall/eithriedig’ yn y cyfansymiau hyn. Caiff hyn ei gofnodi pan na fydd gan yr awdurdodau fanylion am y cyfleuster. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd canllawiau newydd gan Asiantaeth yr Amgylchedd i bob awdurdod lleol yng Nghymru ar y broses o gyflwyno adroddiadau 'arall/eithriedig’ i sicrhau ansawdd data gwell.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi gwybod sut y defnyddiwyd y £5m a ddyrannwyd y llynedd i gefnogi trin dirywiad macwlaidd gwlyb sy’n gysylltiedig â henaint? (WAQ54173)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Defnyddiwyd yr arian i gefnogi’r broses o sefydlu gwasanaethau AMD Gwlyb yn y canolfannau canlynol:

Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd;

Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd;

Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant;

Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr;

Ysbyty Singleton, Abertawe;

Ysbyty Dyffryn Aman, Glanaman;

Ysbyty Llwyn Helyg, Hwlffordd;

Clinig Ffordd y Gogledd, Ysbyty Bronglais, Aberystwyth;

Ysbyty Gwynedd: Ysbyty Stanley EM, Llanelwy;

Ac Ysbyty Maelor Wrecsam.

At hynny, mae gwaith datblygu gwasanaethau yn mynd rhagddo yn Ysbyty Neuadd Nevill, y Fenni.

Mae’r arian hefyd wedi darparu’r ystafelloedd 'glân’ angenrheidiol fel y gall y cleifion hyn gael triniaeth heb ddefnyddio amser theatr ac ar gyfer Tomograffau Cydlyniaeth Llygadol, i sicrhau bod ansawdd y driniaeth o safon uchel.

Y nod oedd darparu gwasanaeth Cymru Gyfan, a chafodd hyn ei gyflawni mewn cyfnod cymharol fyr.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut mae capasiti’n cael ei gynyddu mewn adrannau Offthalmoleg i ddarparu triniaeth ar gyfer dirywiad macwlaidd gwlyb sy’n gysylltiedig â henaint wrth i nifer y bobl y mae angen y driniaeth hon arnynt gynyddu’n gyflym? (WAQ54174)

Edwina Hart: Roedd yr arian yn cynnwys hyd at ddwy sesiwn glinigol ychwanegol ar gyfer triniaeth AMD 'gwlyb’ ym mhob un o’r canolfannau.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi gwybod am lefel y cyfeiriadau i glinigau dirywiad macwlaidd gwlyb sy’n gysylltiedig â henaint a rhoi gwybod am effaith y cynnydd mewn cyfeiriadau ar wasanaethau Offthalmoleg eraill, yn enwedig triniaethau dilynol ar gyfer cyflyrau megis glawcoma? (WAQ54176)

Edwina Hart: Ni welwyd unrhyw gynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau i ofal eilaidd ond bu cynnydd yn nifer y cleifion sy’n gymwys ar gyfer triniaeth.

Mae ariannu triniaeth AMD Gwlyb wedi arwain at leihau rhestrau aros i lai nag wyth wythnos ac mae’r ffigur hwn yn lleihau ymhellach.

Ni ddylai fod unrhyw effaith ar wasanaethau offthalmoleg eraill am fod sesiynau ychwanegol wedi’u hariannu i ragweld y sefyllfa hon.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y prosiect i ddatblygu Ysbyty Cyffredinol Lleol yn Ne Powys? (WAQ54177)

Edwina Hart: Mae’r cynlluniau ar gyfer y cynnig i adeiladu Ysbyty Cyffredinol lleol i Dde Powys ar gam cynnar. Mae fy Adran yn darparu cymorth ariannol, drwy Raglen Gyfalaf Cymru gyfan, i BILl Powys ddefnyddio cymorth allanol er mwyn helpu i baratoi Achos Amlinellol Strategol ar gyfer y datblygiad. Bydd hyn yn sicrhau y caiff y model gwasanaeth a chynnwys swyddogaethol priodol eu nodi ar gyfer y cyfleusterau hyn.

Rhagwelaf y bydd yr Achos Amlinellol Strategol yn cael ei gyflwyno i’w werthuso ac i graffu arno yn hwyrach yn 2009.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Faint o arian y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wario ar ymgynghorwyr yn y portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ54179)

Edwina Hart: Ni chedwir y wybodaeth hon yn ganolog.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dargedau Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynyddu a) nifer y plant a b) nifer yr oedolion sy’n mynychu safleoedd amgylchedd hanesyddol dynodedig? (WAQ54122)

Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Alun Ffred Jones): Un o brif amcanion Cadw, Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth y Cynulliad, yw cynyddu pob lefel o fynediad cyhoeddus i’r amgylchedd hanesyddol ynghyd â lefelau cyfranogi a’r gwerthfawrogiad ohono.

Mae Cadw wedi gosod targed i ddenu 1.3 miliwn o ymwelwyr i’w safleoedd yn ystod 2009/10, gan gynnwys 90,000 o ymweliadau dysgu gydol oes.

Yn ystod hydref 2007 penodwyd Rheolwr Datblygu Dysgu Gydol Oes gan Cadw i weithio gydag amrywiaeth o sefydliadau, athrawon a gweithwyr addysg proffesiynol i ddatblygu a chyflwyno amrywiaeth o raglenni ac adnoddau addysgol o safon ar safleoedd henebion Cadw.

Ymhlith yr enghreifftiau o brosiectau a mentrau sy’n cael eu datblygu gan Cadw i gynyddu nifer y plant ac oedolion sy’n ymweld â’i henebion mae:

Yn ystod yr wythnos Addysg Oedolion ym mis Mai 2008, ymwelodd dros 550 o oedolion lleol sy’n ddysgwyr â safleoedd Cadw a gwnaethant fwynhau amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu yng Nghestyll Caernarfon a Chaerffili. Yn 2009, ehangwyd y digwyddiad i gynnwys Abaty Tyndyrn a Llys yr Esgob Tyddewi yn ogystal â Chestyll Caernarfon a Chaerffili. Roedd 65 o weithgareddau dysgu amrywiol ar gael rhwng 9fed a 17eg Mai.

Mae Cadw’n datblygu rhaglenni addysgol Diwrnod Darganfod sy’n anelu at wella dealltwriaeth disgyblion Cyfnod Allweddol 2 o fywyd mewn gwahanol gyfnodau hanesyddol. Yng Nghastell Coch, mae disgyblion yn cymryd rhan mewn Ysgol Farchog a grwpiau Adrodd Stori, yng Nghastell Caerffili maent yn paratoi byrddau ar gyfer gwledd ganoloesol yn y Neuadd Fawr, yn Llys yr Esgob Tyddewi mae disgyblion yn dysgu am benwisg canoloesol ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau celf, ac yng Ngwaith Haearn Blaenafon maent yn cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau a luniwyd i wella eu dealltwriaeth o sawl agwedd ar fywyd yn y 19eg ganrif.

Mae Cadw hefyd yn gweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu rhaglen o weithgareddau creadigol rhwng 2009 a 2012 fel rhan o’r prosiect Olympiad Diwylliannol yng Nghymru. Nod un o elfennau’r fenter, 'Crochanau a Ffwrneisi’, yw cynnwys pobl ifanc, drwy grwpiau ysgolion a chymunedau, yn y gwaith o ddatblygu a chyflwyno cynnyrch artistig ar wyth o safleoedd Cadw ledled Cymru: Fflint, Dinbych, Caernarfon, Harlech, Tyddewi, Talacharn, Caerffili, Blaenafon.

Caiff 'animeiddydd creadigol’ ei gyflwyno yn y gymuned o amgylch pob safle, i weithio mewn ysgolion a chyda grwpiau cymunedol i ganfod sut yr hoffai’r bobl ifanc weld y prosiect yn datblygu ar eu safle 'nhw’. Y nod yw creu wyth perfformiad aml-gyfrwng erbyn 2012, fel y gellir cyflwyno un perfformiad cyd-gysylltiedig ysblennydd ar noswyl Gemau Olympaidd 2012.

Dylai rhwng 400 a 500 o bobl ifanc gymryd rhan yn y gweithdai a/neu’r perfformiadau ar bob un o’r safleoedd, bob blwyddyn (tan 2012). Yn ogystal, bydd o leiaf 48 o artistiaid/animeiddwyr wedi cymryd rhan yn ystod chwe mis cyntaf y broses o roi’r prosiect ar waith.

Roedd Caneuon o’r Cerrig yn brosiect celfyddydol arbrofol ac unigryw a ariannwyd gan Cadw. Cafodd ei lunio a’i ddatblygu gan Sean Harris, a chafodd ei gefnogi gan Amgueddfa Cymru, Amgueddfa ac Oriel Gelf Gwynedd, Oriel Ynys Môn ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd. Nod y prosiect oedd ennyn diddordeb yng ngorffennol cyn-hanesyddol cyfoethog Ynys Môn a chael pobl i gymryd rhan. Lluniwyd map a chanllaw darluniadol ar gyfer pump o henebion cynhanesyddol Ynys Môn er mwyn tynnu sylw ac ennyn diddordeb pobl a oedd yn ymweld â Biwmares.

Roedd y prosiect yn cynnwys rhaglen amrywiol o weithgareddau archeolegol, gwneud modelau, adrodd straeon, digwyddiadau cerddorol a barddonol, a gwelwyd cannoedd o bobl yn cymryd rhan - cymysgedd o ymwelwyr a thrigolion yr ynys. Cafodd y gweithdai animeiddio eu cynnal mewn stiwdio mewn seilo grawn a gafodd ei addasu a’i adleoli dros dro mewn tŵr yng Nghastell Biwmares, a bu’n bosibl i nifer o egin-animeiddwyr ifanc ddatblygu ac ymarfer eu sgiliau.

Mae gan Cadw raglen o ddigwyddiadau amrywiol sy’n cael ei chynnal yn flynyddol ar safleoedd nifer o’i henebion er mwyn ceisio annog pobl o bob oed i ymweld â’r amgylchedd hanesyddol. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys ail-greu digwyddiadau, perfformiadau theatr mewn amgylchedd dramatig, adrodd straeon, trafodaethau a theithiau. Mae rhestr lawn o’r digwyddiadau sydd i’w cynnal ar safleoedd Cadw yn ystod 2009, pan fydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 25 oed, yn www.cadw.wales.gov.uk

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r amcangyfrif o nifer y twristiaid a) o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig, b) o Ewrop, ac c) o Ogledd America sydd wedi ymweld â Chymru ar wyliau golff ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ54125)

Alun Ffred Jones: Nid oes ystadegau ar gael ar gyfer nifer yr ymwelwyr a ddaeth ar wyliau golff cyn 2004, sef yr adeg y cyhoeddwyd y cynllun Monitro Twristiaeth Golff am y tro cyntaf. Felly, mae’r tabl canlynol yn nodi amcangyfrif o gyfanswm yr ymwelwyr ym mhob categori penodol rhwng 2004 a 2008.

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 18 Mai 2009
 

2004

2005

2006

2007

2008

Rhannau eraill o’r DU

Ddim yn cynnwys Cymru

37,100

42,900

43,300

49,500

52,200

Ewrop

4,100

3,700

3,400

5,700

3,200

G. America

800

2,000

1,200

1,600

900

Ffynhonnell: Visit Britain a Monitro Twristiaeth Golff Cenedlaethol Cymru (a gyflawnwyd gan Sports Marketing Surveys)

Mae’r ffigurau yn cyfeirio at ymwelwyr a wnaeth aros, wedi’u talgrynnu i’r 100 agosaf. Dylid nodi hefyd y gallai’r amrywiadau yn y ffigurau ar gyfer Gogledd a De America fod o ganlyniad i samplau bach ar gyfer y marchnadoedd hyn.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint o byllau nofio a oedd yn cael eu rhedeg gan yr awdurdod lleol sydd wedi cau yng Nghymru ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ54127)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint o byllau ganolfannau hamdden a oedd yn cael eu rhedeg gan yr awdurdod lleol sydd wedi cau yng Nghymru ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ54128)

Alun Ffred Jones: Mae’r tablau isod a ddarparwyd gan Gyngor Chwaraeon Cymru yn dangos y ffigurau diweddaraf mewn ymateb i’r cwestiynau a godwyd gennych.

Canolfannau hamdden awdurdodau lleol Cymru sydd wedi cau ers 1999:

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 18 Mai 2009

1999

2000

2001

2002

2003

2004

2005

2006

2007

2008

2009

0

0

0

1

1

2

1

1

0

2

0

Pyllau nofio awdurdodau lleol Cymru sydd wedi cau ers 1999:

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 18 Mai 2009

1999

2000

2001

2002

2003

2004

2005

2006

2007

2008

2009

0

1

0

1

3

1

2

0

1

4

1

Mae pyllau newydd â chyfleusterau gwell wedi cymryd lle wyth o’r pyllau hyn. Yn ogystal, mae chwe phwll nofio awdurdod lleol newydd wedi agor yn yr un cyfnod.