18/09/2013 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 18 Medi 2013

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi cyfanswm lefelau staffio Llywodraeth Cymru, wedi’i fynegi fel cyfwerth ag amser llawn, ar 1 Ebrill ym mhob un o’r tair blynedd ariannol diwethaf gan gynnwys y ffigur cyfredol hyd yma? (WAQ65465)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog egluro ei rôl ef a rôl Gweinidog yr Economi o ran rhedeg Maes Awyr Caerdydd a’r swyddogaeth y byddwch eich dau, a Thasglu’r Maes Awyr, yn ei chwarae yn y dyfodol? (WAQ65490)

Gofyn i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cynnal yn ddiweddar gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ynghylch Clwb Pêl-droed Barry Town United ac a yw’n bwriadu cwrdd â Chymdeithas Bêl-droed Cymru i drafod materion llywodraethu mewnol yn dilyn canlyniad yr achos cyfreithiol diweddar? (WAQ65464)

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog nodi faint o gwmnïau gyda pherchnogion tramor sydd yng Nghymru, gan roi dadansoddiad o nifer y cwmnïau am y pum mlynedd ariannol diwethaf?  (WAQ65466)

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi manylion nifer y prosiectau Buddsoddi Uniongyrchol Tramor a ddenwyd i Gymru a gafodd eu cydnabod fel ffrwyth llafur Awdurdod Datblygu Cymru ym mhob blwyddyn rhwng 1995 a 2006? (WAQ65467)

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad o gyllid Twf Swyddi Cymru ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yn ogystal â dadansoddiad o nifer y bobl ifanc sy’n rhan o’r cynllun ym mhob ardal awdurdod lleol? (WAQ65476)

Eluned Parrott (Canol De Cymru): Yn y Rhaglen Cyfleoedd Masnach Ryngwladol, sawl Briff Prosiect sydd wedi cael ei anfon at gontractwyr fesul mis, ers dechrau’r rhaglen, er mwyn iddynt lunio Cynlluniau Prosiect, ar gyfer pob un o’r rhanbarthau canlynol:

• Gorllewin Ewrop 1 (Iwerddon, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, Lwcsembwrg, Denmarc, Sweden, Norwy, y Ffindir, Gwlad yr Iâ)

• Gorllewin Ewrop 2 (Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Sbaen, Portiwgal, Awstria, y Swistir, Groeg)

• Canol a Dwyrain Ewrop (y Weriniaeth Tsiec, Gwlad Pwyl, Rwmania, Twrci, Hwngari, Slofacia, Slofenia, Bwlgaria, Lithwania, Latfia, Estonia)

• Rwsia a’r Wcráin

• Y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica (Sawdi Arabia, Bahrain, Qatar, Kuwait, yr Aifft, Oman, yr Emiraethau Arabaidd Unedig, Libya)

• Gogledd America (UDA, Canada, Mecsico)

• De America (Brasil, yr Ariannin, Chile)

• Ynysoedd y De (Awstralia, Seland Newydd)

• India

• Tsieina, Hong Kong a Taiwan

• Gogledd Asia (Japan, De Corea)

• De Asia (Gwlad Thai, Fietnam, Pilipinas, Malaysia, Singapôr)? (WAQ65477)

Eluned Parrott (Canol De Cymru): Yn y Rhaglen Cyfleoedd Masnach Ryngwladol, faint o brosiectau sydd wedi cael eu cymeradwyo ac sydd wedi cael eu rhoi ar waith ar gyfer pob un o’r rhanbarthau a restrir isod,:

• Gorllewin Ewrop 1 (Iwerddon, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, Lwcsembwrg, Denmarc, Sweden, Norwy, y Ffindir, Gwlad yr Iâ)

• Gorllewin Ewrop 2 (Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Sbaen, Portiwgal, Awstria, y Swistir, Groeg)

• Canol a Dwyrain Ewrop (y Weriniaeth Tsiec, Gwlad Pwyl, Rwmania, Twrci, Hwngari, Slofacia, Slofenia, Bwlgaria, Lithwania, Latfia, Estonia)

• Rwsia a’r Wcráin

• Y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica (Sawdi Arabia, Bahrain, Qatar, Kuwait, yr Aifft, Oman, yr Emiraethau Arabaidd Unedig, Libya)

• Gogledd America (UDA, Canada, Mecsico)

• De America (Brasil, yr Ariannin, Chile)

• Ynysoedd y De (Awstralia, Seland Newydd)

• India

• Tsieina, Hong Kong a Taiwan

• Gogledd Asia (Japan, De Corea)

• De Asia (Gwlad Thai, Fietnam, Pilipinas, Malaysia, Singapôr)? (WAQ65478)

Eluned Parrott (Canol De Cymru): Wrth sefydlu’r Rhaglen Cyfleoedd Masnach Ryngwladol, sawl rhaglen oedd y Gweinidog yn rhagweld y byddai’n cael ei chymeradwyo, o ran cyfanswm ac ym mhob un o’r rhanbarthau isod, yn ystod blwyddyn ariannol 2012-13 ac yn ystod blwyddyn ariannol 2013-14:

• Gorllewin Ewrop 1 (Iwerddon, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, Lwcsembwrg, Denmarc, Sweden, Norwy, y Ffindir, Gwlad yr Iâ)

• Gorllewin Ewrop 2 (Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Sbaen, Portiwgal, Awstria, y Swistir, Groeg)

• Canol a Dwyrain Ewrop (y Weriniaeth Tsiec, Gwlad Pwyl, Rwmania, Twrci, Hwngari, Slofacia, Slofenia, Bwlgaria, Lithwania, Latfia, Estonia)

• Rwsia a’r Wcráin

• Y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica (Sawdi Arabia, Bahrain, Qatar, Kuwait, yr Aifft, Oman, yr Emiraethau Arabaidd Unedig, Libya)

• Gogledd America (UDA, Canada, Mecsico)

• De America (Brasil, yr Ariannin, Chile)

• Ynysoedd y De (Awstralia, Seland Newydd)

• India

• Tsieina, Hong Kong a Taiwan

• Gogledd Asia (Japan, De Corea)

• De Asia (Gwlad Thai, Fietnam, Pilipinas, Malaysia, Singapôr)? (WAQ65481)

Eluned Parrott (Canol De Cymru): Mewn ymateb i WAQ65396, dywedodd y Gweinidog, mewn cysylltiad â’r Rhaglen Cyfleoedd Masnach Ryngwladol, fod cynlluniau prosiect wedi’u cyflwyno ar gyfer 78 prosiect, fodd bynnag, mewn ymateb i WAQ65397 dywedodd y Gweinidog fod 43 prosiect wedi cael ei gymeradwyo ac wedi cael eu rhoi ar waith tra bod 18 prosiect ar y pryd yn disgwyl i gael eu cymeradwyo – a all y Gweinidog felly wneud datganiad yn rhoi rhesymau pam nad yw’r 17 prosiect arall wedi cael eu rhoi ar waith nac yn aros i gael eu cymeradwyo? (WAQ65479)

Eluned Parrott (Canol De Cymru): Yn dilyn yr ymateb i WAQ65397 lle dywedodd y Gweinidog, mewn cysylltiad â’r Rhaglen Cyfleoedd Masnach Ryngwladol, fod 18 prosiect ar y pryd yn disgwyl i gael eu cymeradwyo, a all y Gweinidog gadarnhau pryd y cyflwynwyd y Cynllun Prosiect diwethaf ar gyfer pob un o’r rhain, ac os yw enw pob busnes/prosiect yn fasnachol sensitif, a ellir darparu'r enwau ar ffurf generig (h.y. prosiect A, prosiect B, ac ati)? (WAQ65480)

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa ddarpariaethau a chymorth ariannol sydd ar gael i helpu Busnesau Bach a Chanolig sy’n profi effaith andwyol mewn masnach o ganlyniad i brosiectau adfywio trefi a dinasoedd a gyllidir gan Lywodraeth Cymru? (WAQ65488)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa ystadegau y mae / y bydd  Llywodraeth Cymru yn eu casglu ynghylch niferoedd y teithwyr a’r refeniw ar y gwasanaeth bysiau T9 a gyllidir gan Lywodraeth Cymru yn ôl ac ymlaen i Faes Awyr Caerdydd? (WAQ65491)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff Llywodraeth Cymru annog y rheolwyr ym Maes Awyr Caerdydd i gyflwyno cysylltiad di-wifr am ddim, fel ym Maes Awyr Môn, er mwyn gwella profiad teithwyr ym Maes Awyr Caerdydd? (WAQ65492)

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Erbyn pa ddyddiad y mae’r Gweinidog yn gobeithio gweld system docynnau ar-lein ar waith ar gyfer gwasanaeth Bysiau T9 Maes Awyr Caerdydd ac a fydd y system docynnau ar-lein yn parhau ar ôl i gerdyn Hawliau Teithio Cymru gael ei gyflwyno maes o law? (WAQ65494)

Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi ddadansoddiad ynglyn â faint sydd wedi’i wario hyd yma a faint y bwriedir ei wario ar arddangosfa Sioe Arddangos Cymru a’r gweithgareddau cysylltiedig ym Maes Awyr Caerdydd? (WAQ65495)

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa ymchwil i’r farchnad y bydd Maes Awyr Caerdydd yn ei chynnal i geisio barn teithwyr presennol a darpar deithwyr ledled de Cymru am y gwasanaethau y mae’n eu cynnig? (WAQ65496)

Gofyn i'r Gweinidog Cyllid

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Yn dilyn yr ateb i WAQ65355, a wnaiff y Gweinidog a) nodi sawl contract hysbysebu y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gael yn ystod y Pedwerydd Cynulliad y tu allan i’r contractau prynu canolog, a b) datgan faint o arian y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wario ar bob un o’r contractau hyn? (WAQ65469)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Yn dilyn yr ateb i WAQ65355, a wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad o a) y costau yn fframwaith Hysbysebu Gwasanaeth Caffael y Llywodraeth gyda’r cyflenwr Mediacom International, a b) y costau yn y fframwaith Hysbysebu Cyfryngau Cymru Gyfan gyda’r cyflenwr Euro Riley? (WAQ65470)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Yn dilyn yr ateb i WAQ65356, a wnaiff y Gweinidog nodi a) pob sioe, ffair neu ddigwyddiad tebyg y cafodd Llywodraeth Cymru stondin ynddynt yn ystod y Pedwerydd Cynulliad na chafodd ei gaffael a’i reoli gan yr is-adran Cyfathrebu Canolog, a b) cost ariannol y cyfryw stondinau ym mhob un o’r digwyddiadau a nodwyd? (WAQ65472)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Yn dilyn yr ateb i WAQ65356, a wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad o’r costau blynyddol ar gyfer pob un o'r digwyddiadau a ganlyn; Eisteddfod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen? (WAQ65473)

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa ddarpariaethau a chymorth ariannol sydd ar gael i helpu Busnesau Bach a Chanolig sy’n profi effaith andwyol mewn masnach o ganlyniad i brosiectau adfywio trefi a dinasoedd a gyllidir gan Gronfeydd Strwythurol yr UE? (WAQ65489)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn yr adroddiad diweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru, a dynnodd sylw at nifer o bryderon difrifol am y Gwasanaeth Iechyd, a yw’r Gweinidog yn bwriadu ailystyried sefydlu ymchwiliad annibynnol tebyg i Keogh i’r GIG yng Nghymru? (WAQ65463)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Sawl seminar arloesi y mae Llywodraeth Cymru wedi’i chynnal fel rhan o’i hymgyrch Gweithio i Gymru? (WAQ65482)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau sawl meddyg sydd wedi cael cynnig neu wedi derbyn llety am ddim drwy’r ymgyrch Gweithio i Gymru? (WAQ65483)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Sawl hysbyseb sydd wedi’i roi yn y wasg feddygol a’r wasg arbenigol fel rhan o’r ymgyrch Gweithio i Gymru? (WAQ65484)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Sawl meddyg sydd wedi cael ei recriwtio drwy ymgyrch Gweithio i Gymru Llywodraeth Cymru ers iddi gael ei chyflwyno? (WAQ65485)

Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): Pryd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno rhaglen cyflenwi gwasanaethau ar gyfer rheoli poen cronig? (WAQ65486)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion nifer y swyddi gwag mewn meddygfeydd ledled Cymru gan roi dadansoddiad fesul bwrdd iechyd neu awdurdod lleol, yn ôl yr hyn sydd ar gael, gan roi manylion unrhyw asesiad y mae wedi’i gynnal o ran y prinder dywededig o feddygon teulu yng nghefn gwlad Cymru a pha gamau sydd wedi’u cymryd i fynd i’r afael â’r diffyg hwn? (WAQ65475)

Mick Antoniw (Pontypridd): A allwch roi dadansoddiad blynyddol o nifer y bobl â Ffibrosis Systig yng Nghymru sydd wedi derbyn y gronfa byw’n annibynnol, rhwng 2007 a 2012? (WAQ65487)

Gofyn i’r Gweinidog Tai ac Adfywio

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Beth yw’r amser disgwyl cyfartalog, fesul pob awdurdod lleol, i gael mynediad at dai cymdeithasol yng Nghymru? (WAQ65459)

Nick Ramsay (Mynwy): Yn dilyn yr ateb i WAQ65378, a wnaiff y Gweinidog roi manylion am faint o geisiadau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gan bob Awdurdod Lleol, gan roi dadansoddiad ynglyn â sawl cais sydd wedi’i wrthod, sawl un a fu’n llwyddiannus, a sawl un sy’n disgwyl penderfyniad terfynol? (WAQ65468)

Nick Ramsay (Mynwy): Yn dilyn datganiad y Gweinidog am Ganlyniad Proses Asesu Cam Un y fframwaith adfywio Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid ar 10 Medi 2013, ac yn dilyn WAQ64887, a wnaiff y Gweinidog roi manylion ynglyn â pha bryd y caiff yr ymgyrch ‘Cefnogi’r Stryd Fawr’ ei lansio? (WAQ65493)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Gan gyfeirio at y cais cynllunio 2012/00933/OUT ym Mro Morgannwg, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau ar ba sail y galwodd y cais hwn i mewn ac a yw'n rhagweld unrhyw newid i'r dyddiad apêl gwreiddiol? (WAQ65474)

Gofyn i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynlluniau sydd ar waith i gymryd lle gwobrau ‘Gwir Flas Cymru’ fel ffordd o gydnabod cynhyrchwyr llai yng Nghymru? (WAQ65460)

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru ar farchnadoedd ffermwyr? (WAQ65461)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r niwsans a achosir gan wylanod ac i reoli poblogaethau gwylanod mewn ardaloedd preswyl ledled Cymru? (WAQ65462)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Yn dilyn yr ateb i WAQ64996, a wnaiff y Gweinidog a) darparu dyddiadau y digwyddodd y troseddau pysgodfeydd honedig yn y 12 mis diwethaf, a b) datgan sawl un o’r rhain sy’n cael eu herlyn? (WAQ65471)