Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 11 Rhagfyr 2007 i’w hateb ar 18 Rhagfyr 2007
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A yw’r Gweinidog wedi cyflwyno sylw i’w swyddog cyfatebol yn San Steffan am y Papur Gwyn Cynllunio ac os felly, beth oedd hwnnw ac a fydd copi ar gael. (WAQ50812)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A gynhaliwyd unrhyw Asesiadau Amgylcheddol Strategol, yn unol â Chyfarwyddeb yr UE 2001/42/EC, ynghylch Tir y Comisiwn Coedwigaeth y gellir ei ddefnyddio ar gyfer ffermydd gwynt mawr, os felly, a allai copi fod ar gael, ac os nad, pryd y cynhelir yr asesiadau hyn. (WAQ50813) Trosglwyddwyd i’w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog dros yr Faterion Gwledig
Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog nodi pa gymalau o Fesur Tai ac Adfywio Llywodraeth San Steffan fydd yn berthnasol i Gymru a pha sylwadau a wnaeth ynghylch y cymalau hynny. (WAQ50814)
Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A all y Gweinidog gadarnhau a yw’r tendrau a gyflwynwyd gan DEFRA ar gyfer prynu brechlyn tafod glas yn cynnwys darparu’r brechlyn ar gyfer ei ddefnyddio ar dda byw Cymru. (WAQ50811)