Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 12 Chwefror 2013 i’w hateb ar 19 Chwefror 2013
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W
– Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir
rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi manylion dosbarthiad daearyddol yr holl fusnesau sydd wedi cael cyllid o dan y Gronfa Fenthyciadau i Ficrofusnesau, wedi’u rhestru yn ôl rhanbarthau etholiadol y Cynulliad Cenedlaethol. (WAQ62249)
Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi manylion dosbarthiad daearyddol yr holl fusnesau sydd wedi cael cyllid o dan y Gronfa Fuddsoddi ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig, wedi’u rhestru yn ôl rhanbarthau etholiadol y Cynulliad Cenedlaethol. (WAQ62250)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi’r Dangosydd Cryno o Farwolaethau ar lefel Ysbyty ar gyfer pob ysbyty cyffredinol dosbarth yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf (neu ers cyflwyno’r dangosydd). (WAQ62246)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o roddwyr ychwanegol y mae’r Gweinidog yn eu disgwyl bob blwyddyn o ganlyniad i’r Bil Trawsblannu Dynol (Cymru). (WAQ62251)
Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Aled Roberts (Gogledd Cymru): Beth yw amserlenni'r Gweinidog ar gyfer yr adolygiad a gynhelir cyn bo hir o gyllid ar gyfer Partneriaethau Diogelwch Cymunedol a Chynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig. (WAQ62247)
Aled Roberts (Gogledd Cymru): Yn dilyn y cwestiynau i'r Gweinidog ar 30 Ionawr 2013, pa feini prawf y bydd y Gweinidog yn eu defnyddio yng nghyswllt yr adolygiad a gynhelir cyn bo hir o gyllid ar gyfer Partneriaethau Diogelwch Cymunedol a Chynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig, i sicrhau'r ‘canlyniadau cywir’ a’r ‘dull cywir’. (WAQ62248)