19/02/2013 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 12 Chwefror 2013 i’w hateb ar 19 Chwefror 2013

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi manylion dosbarthiad daearyddol yr holl fusnesau sydd wedi cael cyllid o dan y Gronfa Fenthyciadau i Ficrofusnesau, wedi’u rhestru yn ôl rhanbarthau etholiadol y Cynulliad Cenedlaethol.  (WAQ62249)

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi manylion dosbarthiad daearyddol yr holl fusnesau sydd wedi cael cyllid o dan y Gronfa Fuddsoddi ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig, wedi’u rhestru yn ôl rhanbarthau etholiadol y Cynulliad Cenedlaethol.  (WAQ62250)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi’r Dangosydd Cryno o Farwolaethau ar lefel Ysbyty ar gyfer pob ysbyty cyffredinol dosbarth yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf (neu ers cyflwyno’r dangosydd). (WAQ62246)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o roddwyr ychwanegol y mae’r Gweinidog yn eu disgwyl bob blwyddyn o ganlyniad i’r Bil Trawsblannu Dynol (Cymru). (WAQ62251)

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Aled Roberts (Gogledd Cymru): Beth yw amserlenni'r Gweinidog ar gyfer yr adolygiad a gynhelir cyn bo hir o gyllid ar gyfer Partneriaethau Diogelwch Cymunedol a Chynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig. (WAQ62247)

Aled Roberts (Gogledd Cymru): Yn dilyn y cwestiynau i'r Gweinidog ar 30 Ionawr 2013, pa feini prawf y bydd y Gweinidog yn eu defnyddio yng nghyswllt yr adolygiad a gynhelir cyn bo hir o gyllid ar gyfer Partneriaethau Diogelwch Cymunedol a Chynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig, i sicrhau'r ‘canlyniadau cywir’ a’r ‘dull cywir’. (WAQ62248)